Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mawrth 2015
Dathlu Astudiaethau Arthuraidd ym Mangor
Mae Prifysgol Bangor yn dathlu Astudiaethau Arthuraidd yn y Brifysgol drwy gynnal darlith gyhoeddus ac arddangosfa o lyfrau prin yn canolbwyntio ar y maes astudio hwn. Bydd y ddau ddigwyddiad yn dathlu rhodd o gasgliad sylweddol o lyfrau Arthuraidd i Lyfrgell Prifysgol Bangor gan Gyngor Sir y Fflint.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2015
Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau WhatUni Student Choice
Mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 6 allan o 9 categori yng Ngwobrau WhatUni Student Choice gan gynnwys categori Prifysgol y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015
Mawrth yw mis menter
Mae wedi bod yn fis gwych i fyfyrwyr Bangor a fu’n cymryd rhan mewn cystadlaethau a digwyddiadau menter:
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015
Llwyddiant y Siop Bwydydd Hyll
Mae'r 'Siop Bwydydd Hyll' sydd wedi cael ei rheoli a'i rhedeg gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor am y pedair wythnos ddiwethaf wedi bod yn llwyddiant mawr.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015
Myfyrwyr bodlon yn rhoi Prifysgol Bangor ar y rhestr fer ar gyfer chwe gwobr
Mae Prifysgol Bangor ar y rhestr fer ar gyfer chwech o’r naw gwobr yng Ngwobrau mawreddog WhatUni Student Choice . Mae hyn yn dilyn blwyddyn ryfeddol i Fangor, pryd y daeth y Brifysgol yn gyntaf yng Nghymru ac yn 7 fed yn y DU am foddhad myfyrwyr, pryd y daeth yn un o’r 100 Prifysgol orau yn y byd am ei hagwedd ryngwladol, ac y daeth yn un o’r 20 uchaf yn y DU o ran profiad myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015
Ar frig y dosbarth: Cydnabod Annabelle yn un o’r myfyrwyr gorau yn y gyfraith yn y DU
Mae myfyrwraig yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth genedlaethol i ganfod y myfyriwr israddedig gorau yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015
Lucy Owen yn cyflwyno Gwobrau Caffael Cenedlaethol Cymru
Cymerodd le yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ar Fawrth 20, 2015. Wedi ei drefnu gan Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffel, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cafodd y Gwobrau eu cyflwyno gan Lucy Owen, BBC, gydag anerchiad gan Weinidog Cyllid & Busnes Llywodraeth, Jane Hutt AC. Yn cadeirio y Panel Beirniaid Rhyngwladol roedd yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2015
Golwg newydd i ASTUDIAETHAU AGORED@Dysgu Gydol Oes
Rhaglen ASTUDIAETHAU AGORED newydd yn DYSGU GYDOL OES ar gyfer 2015-16
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2015
Bangor i gynnal y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol Gymreig
Bydd Prifysgol Bangor yn croesawu myfyrwyr y gyfraith o ledled Cymru dros y penwythnos wrth iddi gynnal y Gystadleuaeth Ffug Lys Barn Genedlaethol Gymreig. Bydd timau o Aberystwyth, Caerdydd, Abertawe, Prifysgol De Cymru a’r Brifysgol Agored yn teithio i Fangor i frwydro am y wobr fawreddog ar Ddydd Sul, 29 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015
Rhaglen ymchwil £7m i ddarpariaeth dŵr, bwyd ac ynni
Bydd y pum project ymchwil cyntaf i'w hariannu drwy Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd Llywodraeth Cymru, sy'n werth £7 miliwn, yn cael eu cyhoeddi yng Nghaerdydd Heddiw (ddydd Iau, 26 Mawrth).
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015
Cash remains king in Chile but its days could be numbered
Dyma erthygl yn Saesneg gan Bernardo Batiz-Lazo o Ysgol Busnes y Brifysgol a Juan Felipe Espinosa , Pontificia Universidad Catolica de Valparaiso sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015
'Cyflwr natur' yn bwysig wrth benderfynu effaith newid hinsawdd
Nid yw modelau presennol ar sut y bydd llystyfiant yn ymateb i newid hinsawdd yn ystyried cyflwr y llystyfiant - p'un a yw'n aeddfed a sefydlog, neu eisoes yn ymateb i ddigwyddiadau sy'n tarfu arno. Heddiw, yn Nature Communications (24 Mawrth 2015), cyhoeddwyd ymchwil newydd o un o'r arbrofion hiraf yn y byd ym maes newid hinsawdd. Cyllidir y gwaith hwn gan y Comisiwn Ewropeaidd ac fe'i harweinir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, ynghyd â phartneriaid Ewropeaidd, yn cynnwys Prifysgol Bangor. Yn achos Prysgdiroedd mae'r ymchwil yn awgrymu bod yr amser ers y tarfu diwethaf ar yr ecosystem yn effeithio ar eu hymateb i hinsoddau yn y dyfodol, ac y dylid ystyried hynny wrth ddarogan ymatebion ecosystem i newid hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2015
Darlithiwr yn defnyddio trydar i helpu disgyblion astudio
Yn dilyn llwyddiant a phoblogrwydd cyfrif trydar Adolygu Cymdeithaseg , a lansiwyd y flwyddyn ddiwethaf, bydd darlithydd o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor yn ail gychwyn trydar negeseuon adolygu Cymdeithaseg yn y Gymraeg i ddisgyblion Lefel A Cymru yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2015
Erthygl gan Dr Mike Hale ar safle the Conversation
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Mike Hale o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation <http://theconversation.com> ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2015
Rhestr Fer Gwobr Student Nursing Times
Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn hynod falch bod un o'n myfyrwyr bydwreigiaeth, Jonathan Cliffe, wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times 2015. Mae Jonathan yn un o saith myfyriwr bydwreigiaeth o bob cwr o’r Deyrnas Unedig sydd yng nghategori Myfyriwr Bydwreigiaeth y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2015
Entrepreneuriaid Santander Bangor
Bydd Carley Williams, myfyrwraig sy’n astudio Dylunio Cynnyrch, gyda statws Athro cymwysedig yn cynrychioli Prifysgol Bangor yn rownd y DU gwobrau Entrepreneuriaeth Santander, wedi iddi ennill cystadleuaeth yn y Brifysgol. Yn ymuno a hi hefyd fydd Hernan Diazgranados, myfyriwr ôl-radd, yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015
Grŵp o Brifysgol Bangor i ymchwilio i salwch pen mynydd mewn taith i Fynyddoedd yr Himalaia
Yr wythnos hon, bydd academyddion o Brifysgol Bangor yn arwain taith i Fynyddoedd yr Himalaia fel rhan o broject ymchwil fydd yn edrych ar salwch cysylltiedig â bod ar ben mynyddoedd uchel. Bydd yr ymchwilwyr Dr Samuel Oliver a Dr Jamie Macdonald, Gabriella Rossetti sy'n fyfyriwr PhD, a James Pollard sy'n fyfyriwr israddedig Gwyddorau Chwaraeon - i gyd o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor - yn rhan o dîm o 55 o bobl a fydd yn cynnwys meddygon, gwyddonwyr ac achubwyr mynydd. Bydd y tîm yn dechrau'r daith ar 20 Mawrth ac yn dychwelyd ar 25 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2015
Ffair Swyddi Cymraeg
Dydd Iau, 19 Mawrth am y tro cyntaf bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Ffair Swyddi Cymraeg. Fel y prif ddarparwr Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn paratoi ei myfyrwyr ar gyfer ystod o swyddi sydd yn gofyn am y gallu i weithio yn y Gymraeg. Bydd tua 30 o gyflogwyr yn mynychu’r Ffair - yn sefydliadau cyhoeddus a busnesau preifat, yn gwmnïau lleol a rhyngwladol - a bydd eu cynrychiolwyr yn trafod gyda’r myfyrwyr sut mae eu sgiliau nhw fel siaradwyr Cymraeg yn berthnasol i’r byd gwaith.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2015
Cymdeithas newydd i fyfyrwyr yn cystadlu am Wobr y DU
Mae Cymdeithas myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, sydd ond wedi bod mewn bodolaeth am bum mis, ar y rhestr fer i dderbyn Gwobr genedlaethol o bwys.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2015
Cyhoeddiad Busnes Mawr yng Nghynhadledd Caffael Ysgol y Gyfraith
Heddiw, cafwyd cyfres o gyhoeddiadau economaidd enfawr gan Alun Cairns AS, Is-Weinidog Seneddol Swyddfa Cymru, a draddododd anerchiad bwysig yn “Wythnos Caffael”, cynhadledd fawr flynyddol sydd yn cael ei threfnu yng Nghaerdydd gan Sefydliad ar gyfer Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael, Prifysgol Bangor (SCAC, Ysgol y Gyfraith Bangor).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2015
Astudiaeth i ddiogelu adnoddau genetig tilapia gwyllt ar gyfer dyfodol ffermio pysgod
Gyda stociau pysgod y byd yn prinhau, mae ffermio tilapia yn llwyddiant byd-eang, gyda chynhyrchu wedi treblu yn ystod y mileniwm hwn. Mae hwn yn awr yn ddiwydiant gwerth $7.6bn, gan gynhyrchu 4.5 miliwn tunnell o bysgod fforddiadwy o ansawdd uchel bob blwyddyn. Yn ogystal, mae'n gynaliadwy, oherwydd yn wahanol i'r eogiaid a'r draenogiaid y môr rydym yn eu magu yn Ewrop, nid oes angen bwydo tilapia gyda llawer o bysgod eraill wedi'u dal o'r cefnforoedd, ond maent at ei gilydd yn bwyta deunydd llysieuol a gwastraff o ffermydd. Er eu bod yn cael eu meithrin yn awr drwy'r byd, o Affrica y daw tilapia yn wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015
Dyfarnu Cyfrif Cynyddu Effaith - gwobr o fri a fydd yn arwain at fwy o gyfnewid ymchwil economaidd a chymdeithasol
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr o fri a fydd yn cynyddu gallu'r Brifysgol i rannu ymchwil ym meysydd gwyddorau economaidd a chymdeithasol â’r gymdeithas ehangach. Dyfarnwyd dros £670,000 i Brifysgol Bangor gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) - un o brif gyrff dyfarnu arian ymchwil y DU. Mae'r Brifysgol ymhlith 24 o sefydliadau ymchwil o bwys i dderbyn Cyfrif Cynyddu Effaith (IAA) yr ESRC, a fydd yn rhedeg tan 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2015
Caffael dinasoedd y dyfodol, heddiw: paratoadau terfynol yn cael eu gwneud at Wythnos Gaffael Prifysgol Bangor
Disgwylir i gynadleddwyr o dros 30 o wledydd ddod i gynhadledd ryngwladol fawr a drefnir gan Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael (ICPS) Prifysgol Bangor y mis hwn. Bydd Wythnos Gaffael 2015, a drefnir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn dod ag ymarferwyr, rheoleiddwyr ac academyddion ym maes caffael cyhoeddus at ei gilydd am wythnos o drafod bywiog ac ysgogol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015
Galar Ffrainc yn adlewyrchu parch at fath arbennig o athletwr/wraig
France is in mourning after 10 people – including three of the country’s most celebrated sporting icons – died in a helicopter crash in Argentina. Swimmer Camille Muffat, boxer Alexis Vastine and yachtswoman Florence Arthaud were participants in a television survival show. Since their deaths were confirmed, there has been an outpouring of grief in France. Muffat, Vastine and Arthaud all captured the imagination of the French public. Their fame shows that France celebrates its athletes a little differently to some of its neighbours. Where in the UK or Italy footballers rule the roost, in France, it is sometimes a different kind of athlete in the spotlight.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015
Mynediad agored i arddangosfa Bydoedd Cudd 2015
Mae’r arddangosfa ‘Bydoedd Cudd', sef prif ddigwyddiad Gŵyl Wyddoniaeth Bangor , a gynhelir rhwng 13 - 22 Mawrth 2015, yn cynnig mwy o weithgareddau ac arddangosiadau nag erioed eleni. Hon fydd y bumed gwaith i’r ŵyl boblogaidd gael ei chynnal.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015
Cyn bo hir bydd oriorau clyfar yn gwrando ar eich corf i weithio allan sut yr ydych yn teimlo
Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew McStay , o'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2015
Myfyrwyr Bangor yn fuddugol mewn Pencampwriaethau Codi Pwysau yn Lloegr
Enillodd dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor fedalau aur ac arian yn y Pencampwriaethau Lloegr 2015 ar gyfer Codi Pwysau, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Castleford, Gorllewin Swydd Efrog.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2015
Prifysgol Bangor yn dyfarnu ei chylch cyntaf o Gymrodoriaethau’r Academi Addysg Uwch
Llongyfarchiadau i’r chwe aelod o staff academaidd Bangor sydd wedi ennill Cymrodoriaethau’r Academi Addysg Uwch yn y cylch cyntaf o geisiadau i Gynllun Aberystwyth-Bangor i Gydnabod Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn Addysgu a Chefnogi Dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2015
F1 mewn ysgolion - Rownd Derfynol Ranbarthol 2015
Yn ddiweddar, bu i’r adran Dylunio Cynnyrch a Thechnoleg yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor gynnal rownd Derfynol Ranbarthol F1 Gogledd Cymru. Yn y gystadleuaeth Fformiwla 1 boblogaidd hon daeth naw ysgol uwchradd leol at ei gilydd i gystadlu am leoedd yn Rownd Derfynol Genedlaethol y Deyrnas Unedig a gynhelir ym mis Mawrth. Os byddant yn llwyddiannus, byddant wedyn yn cymryd rhan yn Rownd Derfynol y Byd F1 mewn Ysgolion 2015 a gynhelir yn Singapore.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2015
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cwrdd â Dug Caergrawnt
Yr wythnos hon mae myfyrwyr cadwraeth o Brifysgol Bangor wedi bod yn cwrdd â Dug Caergrawnt yn Tsieina. Mae’r myfyrwyr yno fel rhan o broject Gardd y Ddwy Ddraig, a sefydlwyd rhwng Gardd Fotaneg Treborth y Brifysgol a Gerddi Botaneg Trofannol Xishuangbanna (GBTX). Cafodd y myfyrwyr gyfle i gwrdd â’r Dug tra oeddynt yn cymryd rhan mewn cynhadledd o bwysigrwydd rhyngwladol ar fasnach anghyfreithlon mewn bywyd gwyllt.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2015
Rhowch gartref i ‘Fwydydd Hyll’!
Mae cysyniad newydd mewn siopa yn dod i Fangor yr wythnos hon. Ddydd Iau Mawrth 5ed bydd ‘Siop Bwydydd Hyll’ yn agor er mwyn gwerthu’r holl ffrwythau a llysiau a wrthodwyd lle iddynt ar silffoedd yr archfarchnadoedd a siopau mawrion oherwydd nad oeddynt yn ddigon hardd o ran eu golwg ond sydd yn hollol iawn i’w bwyta.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2015
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2015