Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Hydref 2015
Bronze for Ben in Hill Climb Championship
Ddydd Sadwrn, 24 Hydref, fe wnaeth Ben Butler, myfyriwr PhD blwyddyn olaf yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, ennill medal efydd yn y British Universities Hill Climb Championship. Daeth bron i 200 o feicwyr o brifysgolion ar draws Prydain i roi cynnig ar y ddringfa hynod galed i fyny'r Curbar Gap yn ardal y Peak. Mae graddiant o 11% dros 1 filltir ar y ffordd hon, sy'n golygu ei bod yn brawf caled iawn ar yr holl ymgeiswyr. Roedd y beicwyr yn cychwyn yn unigol gyda munud rhwng pob un gyda'u hamser gorau ar y ddringfa yn cael ei nodi.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2015
Myfyrwyr yn creu cysylltiadau hollbwysig â chyflogwyr yn Ffair Yrfaoedd y Gyfraith
A chanran syfrdanol o 90% o’i graddedigion mewn gwaith chwe mis ar ôl graddio, a chydag ymrwymiad i wella rhagolygon gyrfaol ei myfyrwyr, mae’n hawdd gweld pam y mae Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor ar frig Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf o bapur y Guardian . Un o’r ffyrdd y mae’r Ysgol yn anelu at wella cyflogadwyedd ei myfyrwyr yw ei Ffair Gyfraith flynyddol, lle caiff darpar-gyfreithwyr ifainc gyfle amhrisiadwy i gyfarfod a rhwydweithio â rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth, yn cynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr, yn ogystal â rhai o du allan i’r sector gyfreithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2015
Rhoi amlygrwydd i weithiau celf Brenhinol
Cynhelir Darlith Gyhoeddus flynyddol T. Rowland Hughes ym Mhrifysgol Bangor 'The Royal Collection on Show' nos Iau 12 Tachwedd am 7.00pm ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2015
Prifysgol Bangor yn dod â chyflogwyr a myfyrwyr ynghyd mewn ffair yrfaoedd y gyfraith unigryw
 chanran syfrdanol o 91% o’i graddedigion gradd cyntaf mewn gwaith neu astudiaethau chwe mis ar ôl graddio , a chydag ymrwymiad i wella rhagolygon gyrfaol ei myfyrwyr, mae’n hawdd gweld pam fod Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor ar frig Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf o bapur y Guardian . Un o’r ffyrdd y mae’r Ysgol yn anelu at wella cyflogadwyedd ei myfyrwyr yw ei Ffair Gyfraith flynyddol, lle caiff darpar gyfreithwyr ifainc gyfle amhrisiadwy i gyfarfod a rhwydweithio â rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth, yn cynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr ac aelodau o sectorau ar wahân i'r gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2015
Rhaglen gelfyddydol agoriadol Pontio yn edrych tua’r dyfodol wrth gydnabod y gorffennol
Bydd Pontio , Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol Bangor, sydd ar drothwy agor ei drysau, yn cyhoeddi ei rhaglen artistig lawn heddiw, 28 Hydref 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2015
Dadorchuddio dyluniadau Parc Gwyddoniaeth Menai gydag ymweliad y Gweinidog i’r safle
Cymerodd datblygiad Parc Gwyddoniaeth Menai ( M-SParc ) gam arall ymlaen heddiw gyda dadorchuddio'r dyluniadau pensaernïol ar gyfer yr adeilad cyntaf arfaethedig ar y safle yng Ngaerwen yn ystod ymweliad gan y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2015
The African lion: what faster decline of apex predator means for ecosystems
Dyma erthygl yn Saesneg ganMatt Hayward o Goleg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol ac erthyglau eraill ganddo.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2015
Yn ôl tîm o wyddonwyr, cafodd heidiau o anifeiliaid ffyrnig effaith ar ecosystem y cyfnod Pleistosen
Roedd Dr Matt Hayward, Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth yn y Coleg Gwyddorau Naturiol , Prifysgol Bangor yn rhan o dîm sydd wedi nodi’r rôl hollbwysig a chwaraewyd gan ysglyfaethwyr mawrion wrth reoli niferoedd llysysyddion ( herbivores ) mewn ecosystemau.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2015
Deunydd adeiladu solar rhychiog yn dangos ei botensial
Mae ymchwil gan Dr Noel Bristow (PhD mewn peirianneg electronig) a Dr Jeff Kettle o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor a gyhoeddwyd yn The Royal Society of Chemistry (Energy & Environmental Science, DOI:10.1039/C5EE02162F) yn awgrymu bod gosod paneli ffotofoltaig organig (OPVs) ar swbstradau tri dimensiwn (o'u cyferbynnu â swbstradau gwastad) yn fodd o'u gwneud yn llawer mwy effeithlon a defnyddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2015
Gwen Elin yn cipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2015
Nos Sul, Hydref 25, 2015 fe gipiodd y gantores Gwen Elin o Benllech, Ynys Môn Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2015 mewn noson wefreiddiol a gynhaliwyd yn Sefydliad y Glowyr y Coed Duon. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, gwerth £4,000 i Gwen yn y noson oedd yn fyw ar S4C ac yn benllanw ar weithgareddau’r Eisteddfod eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2015
Dehongli 'Tystiolaeth'
Bu’r Athro Andrew Pullin, o Ganolfan Cadwraeth Seiliedig ar Dystiolaeth Ysgol Gwyddorau’r Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, yn bresennol mewn cyfarfod bord gron yn San Steffan i drafod y diffiniad o dystiolaeth yn y Senedd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015
Ymchwil mewn Addysg: Cynhadledd i Athrawon
Eleni, bydd yr Ysgol Addysg yn cynnal cynhadledd undydd fydd yn trafod ymchwil sydd wedi ei chynnal gan staff, myfyrwyr ac athrawon ar faterion cyfoes yn y byd addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015
Anrhydeddu darlithydd o Brifysgol Bangor am ei chyfraniad i addysg mewn gerddi botanegol
Mae Dr Sophie Williams, darlithydd mewn cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn y Marsh Christian Award for Education in Botanic Gardens .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015
Eich cadw yn y ddolen gyfreithiol: graddedigion yn y gyfraith yn lansio gwefan newyddion
Mae dau gyn-fyfyriwr a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio gwefan newyddion cyfreithiol a chymorth i astudio’r gyfraith sydd yn targedu'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr. Lansiwyd Legal Loop ar 1 Hydref, ac fe'i disgrifiwyd fel adnodd ar-lein cynhwysfawr sy'n rhoi gwybodaeth am y datblygiadau cyfreithiol diweddaraf yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015
Boddhad eithriadol i'w weld ymysg ôl-raddedigion ADNODD
Mae rhyddhau canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Profiad Ôl-raddedigion Hyfforddedig (PTES) 2015 yn tystio i flwyddyn arall o lwyddiant eithriadol i Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD). Cafodd yr Ysgol sgôr anhygoel o 99% o ran boddhad drwodd a thro.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015
£30 million investment in Combined Food and Power facilities in Wales announced
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2015
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cyrraedd copa Kilimanjaro
Ar ôl chwe diwrnod o waed, chwys a dagrau bu grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu cyrraedd copa Mynydd Kilimanjaro i godi pres ar gyfer elusen.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2015
Hwb £10 miliwn gan yr UE i’r Parc Gwyddoniaeth newydd ar y Fenai
Mae hwb gwerth £10 miliwn ar gyfer datblygu Parc Gwyddoniaeth Menai wedi’i gyhoeddi gan y Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2015
Dathlu Canlyniadau Gwych yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr
Mewn blwyddyn pan ddaeth Prifysgol Bangor i’r brig yng Nghymru a chyrraedd y 10 uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr, mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas wrthi’n dathlu ei chanlyniadau gwych ei hun yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2015
Meddyliwch ddwywaith pwy ydych yn ei ddewis yn arweinydd: mae narsisiaid yn ddeniadol ar yr olwg gyntaf ond ychydig sy’n arweinwyr da yn y tymor hir
O ddigwyddiadau fel Cwpan Rygbi'r Byd i wleidyddiaeth bleidiol, mae hyfforddwyr, capteiniaid ac arweinwyr pleidiau'n cael eu pwyso a'u mesur drwy'r adeg. Mae arweinyddiaeth yn agwedd bwysig ar fywyd bob dydd hefyd, ac rydym i gyd yn dewis arweinwyr, neu fan leiaf yn gweithio gydag arweinwyr. Er enghraifft, rydym yn gwybod pwy ydi 'bos' yn y gwaith, pwy ydi'r 'capten' mewn gêm bêl-droed ar b'nawn Sul, a phwy 'sy'n rheoli' adref.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2015
Ymchwil Newydd yn Anelu at Weddnewid Dulliau o Ragweld Lefelau Paill
Mae tîm o ymchwilwyr wrthi'n datblygu cenhedlaeth newydd o ddulliau o fonitro paill ac maent yn gobeithio y byddant yn arwain at ddulliau mwy dibynadwy o ragweld lefelau paill i filoedd o boblogaeth yn y DU sy'n dioddef o alergeddau haf.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015
Astudiaeth yn dangos fod effaith economaidd prifysgolion Cymru yn tanio’r economi ym mhob rhan o’r wlad
Mae’r astudiaeth ddiweddaraf gan arbenigwyr addysg yn dangos fod prifysgolion yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn tanio economi Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015
Dymuno’n dda i Gwen ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni, wedi iddi gael ei dewis gan y beirniaid ar gyfer y rhestr fer. Dymuna’r Brifysgol yn dda i Gwen Elin, sydd yn astudio Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfryngau yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2015
Tri yn ennill bwrsariaethau Ehangu Mynediad
Mae cwrs academaidd tri myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael dechrau da wrth iddynt ennill bwrsariaeth Ehangu Mynediad gwerth £5,000 yr un tuag at eu hastudiaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2015
Gosod arwyddion newydd yn stadiwm Prifysgol Bangor
Heddiw (16 Hydref), dadorchuddiwyd arwyddion newydd Stadiwm Prifysgol Bangor, sef cartref Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2015
Gall egwyddorion seicolegol egluro methiannau o bwys mewn gofal iechyd
Mae papur yn Journal of Medical Ethics y BMJ yn torri tir newydd drwy ddefnyddio dulliau gweithredu seicolegol i adolygu argyfyngau iechyd mawr o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Er gwaethaf nifer o ymholiadau cymhleth ac amlwg i fethiannau o bwys mewn gofal iechyd yn y GIG, mae'r un camgymeriadau'n codi eu pennau'n gyson a methiannau mewn sicrhau diogelwch cleifion yn parhau. Tra bo ymchwiliadau'n disgrifio'r hyn a aeth o'i le ym mhob achos, mae cwestiynau ynghylch sut a pham y digwyddodd methiannau o'r fath yn aros heb eu hateb. Yn y papur ymchwil, mae Dr Michelle Rydon-Grange, sydd newydd gymhwyso fel Seicolegydd Clinigol yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol, yn defnyddio theori seicolegol i ganfod dealltwriaethau newydd o'r achosion sy'n arwain at fethiannau enbydus mewn lleoliadau gofal iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2015
Need for speed finally trumps demands of ad trackers to offer a sleeker mobile web
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Andrew MacStay o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2015
£1.8m ar gyfer yr adnodd ar-lein i roi sylw i Gymraeg cyfoes ar raddfa fawr
Fel awdurdod blaenllaw ar dechnolegau iaith Gymraeg, bydd Prifysgol Bangor y cymryd rhan mewn prosiect aml-sefydliad i ddatblygu'r corpws torfol cyntaf erioed i gofnodi a hysbysu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yr iaith Gymraeg .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2015
Spain marks its national day – but not everyone is celebrating
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Helena Miguélez-Caballiera o’r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2015
Rhyfeddwch yn Amgueddfa Hanes Natur, Adeilad Brambell, Prifysgol Bangor
Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn paratoi i ddathlu a hyrwyddo digwyddiad diwylliannol nodedig yng Nghymru, sef ail Ŵyl Amgueddfeydd Cymru rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd. Fe fydd dros 100 o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ar gael i’r teulu oll, o hwylnosau, sgyrsiau, teithiau cerdded, helfeydd a sesiynau trin a thrafod i gloddio archeolegol, ailactio, gwisgo gwahanol ddillad, te parti a gweithgareddau yn seiliedig ar Nos Galan.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2015
Defnyddio’r Gymraeg yn y Gymuned
Fel rhan o werthusiad o Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, cynhaliwyd astudiaeth ymchwil gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas , Prifysgol Bangor i’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn chwe chymuned yng Nghymru. Canfuwyd bod sefyllfa’r Gymraeg yn parhau i fod yn fregus o fewn cymunedau’r astudiaeth sef Aberteifi, Aberystwyth, Bangor, Llanrwst, Porthmadog a Rhydaman. Er hynny, gwelwyd tystiolaeth o ddefnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau yn ogystal ag awydd i gael mwy o gyfleoedd amrywiol i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn bywyd bob dydd (e.e. wrth siopa neu dderbyn gwasanaethau cyhoeddus).
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015
Tri phroject o Fangor ymysg yr 20 uchaf sy’n cyfrannu at ddatblygiad
Mae dim llai na 3 phroject o Brifysgol Bangor wedi‘u dewis o blith bron i 7,000 o gyflwyniadau i’w ddefnyddio fel enghreifftiau o’r 20 project ymchwil orau sy’n cyfrannu at ddatblygiad rhyngwladol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015
Tri arall yn dilyn gradd doethur ym Mangor o dan nawdd y Coleg Cymraeg
Three new Bangor University students are among the nine to receive funding from the Coleg Cymraeg Cenedlaethol to enable them to follow a doctorate degree through the medium of Welsh over the next few years. The three are among nine Scholarship winners announced and join another nine students at Bangor University, who are already studying under the scheme.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2015
MA Datblygu Cymuned Cyfrwng Cymraeg
Bydd rhaglen MA datblygu Cymuned yn cael ei chynnal yn gyfan gwbl trwy'r Gymraeg eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2015
Siemens Healthcare Diagnostics yn ymweld â’r Brifysgol ar gyfer hyfforddiant
Yn ystod mis Ebrill 2015 llofnododd Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol yn ymrwymo’r ddau sefydliad i gydweithio'n agosach yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2015
Cyfle gwych i fyfyrwyr Safon Uwch Cymraeg
Cwrs Preswyl Cymraeg Ail Iaith (16-18/11/2015) ac Iaith Gyntaf (18-20/11/2015)
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2015
Cynhadledd Arddangos Ymchwil Iechyd a Meddygol
Ochr yn ochr â'r rhaglen wyddonol, cyflwynodd Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hap-dreialon Iechyd raglen yn canolbwyntio ar yr isadeiledd ymchwil sydd ar gael eisoes yn y rhanbarth. Mae hwn yn cynnig cefnogaeth sylweddol a phwysig i ymchwil iechyd a meddygol, o gefnogaeth i ddatblygu treialon i gyfleusterau ymchwil craidd yn y prifysgolion a chyfleoedd masnachol drwy gyfleusterau newydd, megis Parc Gwyddoniaeth Menai.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2015
Rhoi cymorth i gyflogwyr lleol i lenwi swyddi
Mae gwefan newydd yn galluogi cyflogwyr a chyrff sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ar draws gogledd Cymru a thu hwnt, i lenwi swyddi a chyfleoedd yn eu sefydliadau. Mae Rhagolygon Bangor yn hybu llefydd gweigion i filoedd o fyfyrwyr a graddedigion sy’n chwilio am waith rhan amser neu achlysurol, cyfleoedd graddedigion, lleoliadau efo tâl, interniaethau a chyfleoedd i wirfoddoli. Gyda nifer o gyflogwyr yn yr ardal eisoes wedi manteisio ar y gwasanaeth ar-lein rhad ac am ddim gan Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor, mae’r staff yno’n awyddus i gael mwy o gyflogwyr i fanteisio ar y gwasanaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2015
Drama myfyriwr yn derbyn croeso ar ei thaith
Myfyriwr yn Ysgol y Gymraeg , Prifysgol Bangor sy’n gyfrifol am ysgrifennu drama sydd ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd, ac yn denu adolygiadau ac ymateb ffafriol tu hwnt. Disgrifir Llŷr Titus fel ‘un o ddramodwyr mwyaf cyffrous Cymru’, ac mae ei ddrama diweddaraf, ‘ Drych ’, yn gynhyrchiad Cwmni’r Frân Wen o dan gyfarwyddiaeth Ffion Haf, hithau’n ddarlithydd Theatr a Pherfformio yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ’r Brifysgol yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Cyswllt Cwmni'r Fran Wen.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2015
Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn dychwelyd o Daith Ddringo yng Nghanada
Mae mynyddwr proffesiynol profiadol sy’n gyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor wedi dychwelyd yn ddiweddar o daith ddringo heriol ym mynyddoedd y Rockies yng Nghanada.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2015