Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Gorffennaf 2017
Sophie'n cyflwyno mewn cynhadledd
Ddwy flynedd yn ôl, cafodd Dr Sophie Williams, darlithydd mewn cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor, ei tharo'n wael gyda Llid yr Ymennydd Japaneaidd tra oedd ar daith ymchwil a dysgu yn Tsieina. Cafodd anaf difrifol i'r ymennydd, bu mewn coma am chwe wythnos ac mae'n dal i ddibynnu ar gadair olwyn ac awyru artiffisial. Ond mae Sophie wedi bod yn benderfynol i ailafael yn ei diddordebau: gwyddoniaeth a chadwraeth planhigion. Yr wythnos hon, mae hi wedi mynd y tu hwnt i bob disgwyl ac wedi dychwelyd i lwyfan cadwraeth ryngwladol a chyflwyno ei hymchwil yn yr "International Congress of Conservation Biology".
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2017
Ysgol Gwyddorau Eigion i fwynhau cyswllt newydd efo eigionegwyr yn Tsieina
Croesawodd yr Is-ganghellor, Yr Athro John G Hughes, ddirprwyaeth o wyddonwyr ffiseg y môr o Brifysgol Sun Yat-sen, Guangzhou, Tsieina, yn ystod eu hymweliad â Chanolfan Morol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017
Wythnos brysur Ysgol y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yw awdur prif arlwy theatrig Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni. Ysgrifennwyd y ddrama air-am-air Hollti gan Dr Manon Wyn Wiliams , darlithydd Drama a Sgriptio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac fe'i perfformir gan Theatr Genedlaethol Cymru rhwng nos Fawrth a nos Wener, 8-11 Awst, yn Ysgol Uwchradd Bodedern a leolir dafliad carreg o faes y brifwyl.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017
New Training body to support £20BN UK Agri-food industry
Datganiad gan gorff allanol nad yw ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017
Alumnus y Flwyddyn 2017
Bob blwyddyn, mae Bwrdd Ymgynghorol Alumni Prifysgol Bangor yn ystyried ceisiadau ac yn cynghori'r brifysgol ar ddyfarnu’r wobr Alumnus y Flwyddyn. Mae'r wobr yn cydnabod llwyddiant eithriadol gan un o raddedigion Bangor yn ei maes dewisol, yn enwedig y rhai sy'n cadw cysylltiad gweithredol â'r brifysgol ar ôl iddynt raddio. Roedd Prifysgol Bangor yn falch o enwi Ray Footman yn Alumnus y Flwyddyn 2017 yn ystod yr wythnos raddio
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017
Prifysgol Bangor yn croesawu cyfle i weithio gyda darparwyr hyfforddiant niwclear
Croesawodd Prifysgol Bangor gyhoeddiad diweddaraf Horizon Nuclear Power o bartneriaeth gyda Tecnatom , darparwr gwasanaethau hyfforddiant niwclear byd-eang, wrth iddo feddwl am gynyddu nifer y gweithwyr gweithredol yn y dyfodol ar gyfer ei broject adeilad newydd Wylfa Newydd ar Ynys Môn, gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017
Estyn allan i leihau hunan-niwed a hunanladdiad
Tra bo llawer o ymchwil wedi cael ei gwneud i hunan-niwed a hunanladdiad ymhlith pobl Ewrop ac America, ac mae dealltwriaeth o'r ffactorau risg, rydym yn gwybod llawer iawn llai am yr ymddygiadau hyn yn ne Asia, lle mae'r cyfraddau'n uchel iawn. Mae Canolfan Iechyd Meddwl a Chymdeithas Prifysgol Bangor wedi derbyn grant clodwiw o gronfa ymchwil heriau byd-eang Cyngor Ymchwil y Deyrnas Unedig i weithio gyda chydweithwyr yn India a Phacistan i ymdrin â'r materion hyn. Bydd y project yn rhoi'r sgiliau i ymchwilwyr lleol y mae arnynt eu hangen i ddatblygu rhaglenni hir dymor i leihau marwolaeth, anabledd a thrallod. Mae'r Grant Galluogi yn elfen allweddol yn strategaeth cymorth y DU i dyfu'r sylfaen ymchwil yn y DU a chryfhau gallu dramor. Y nod yw mynd i'r afael â sialensiau ymchwil sy'n ymateb i anghenion a fynegwyd mewn gwledydd sy'n datblygu.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2017
Want to develop 'grit'? Take up surfing
Dyma erthygl yn Saesneg gan Rhi Willmot , myfyrwraig PhD yn yr Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2017
Rhoi prawf ar waith arwyddocaol yn fyd-eang gan fyfyriwr a raddiodd o Fangor
Bydd polisi byd-eang newydd, a gychwynnwyd gan fyfyriwr a raddiodd ym Mhrifysgol Bangor, yn cael ei brofi am y tro cyntaf, yn awr bod mynydd iâ anferthol, yr amcangyfrifir iddo fod yn fwy na chwarter maint Cymru, wedi torri'n rhydd o Antarctica. Mae'r gŵr a raddiodd o Fangor, Dr Philip Trathan, yn arwain Bioleg Gadwraethol yn yr Arolwg Antarctig Prydeinig ( British Antarctic Survey - BAS) byd-enwog. Un o'i lwyddiannau diweddar oedd gweld polisi yr oedd wedi ei gychwyn a'i wthio drwy nifer o gyfarfodydd rhyngwladol, o'r diwedd, yn cael sêl bendith y Comisiwn Cadwraeth Adnoddau Bywyd Môr yr Antarctig (CAMLEOLIR).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Mae awr o gymdeithasu pob wythnos mewn gofal dementia yn gwella bywydau ac yn arbed arian
Gall cyfuniad o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a dim ond awr yr wythnos o ryngweithio cymdeithasol wella ansawdd bywyd a lleihau aniddigrwydd pobl â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal, ac arbed arian hefyd. Cyflwynwyd canfyddiadau treial ar raddfa fawr yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 yn ddiweddar. Cafodd yr ymchwil ei arwain gan Brifysgol Caerwysg, King’s College, Llundain a'r Oxford Health NHS Foundation Trust, gyda chyfranogiad Prifysgol Bangor, ac ariannwyd yr ymchwil gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2017
Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod
Mae naw deg o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o bob cwr o ogledd Cymru, wedi cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil newydd sydd wedi dangos bod therapi adferiad gwybyddol personol yn gallu helpu pobl â dementia cynnar i wella'n sylweddol eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bob dydd pwysig. Roedd y treial ar raddfa fawr, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, wedi canfod bod adferiad gwybyddol yn arwain at bobl yn gweld cynnydd boddhaol mewn meysydd fel y gallant barhau i weithredu a chadw eu hannibyniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017
Meintioli cost amgylcheddol pysgota ar wely'r môr
Mae treillio yn cyfrannu 20% at y cyfanswm o bysgod a gânt eu dal yn y môr yn fyd-eang, felly mae'n ddull hanfodol o ddarparu bwyd i filiynau o bobl. Defnyddir treillio gwely'r môr i ddal pysgod a physgod cregyn sy'n byw yng ngwely'r môr neu'n agos ato. Er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae treillio gwely'r môr yn achosi newid ffisegol a biolegol amrywiol i gynefinoedd gwely'r môr a gall arwain at newidiadau strwythurol a gweithredol yng nghymunedau gwely'r môr. Mae deall y canlyniadau o dreillio yn bwysig er mwyn i ni allu lleihau effeithiau negyddol ar wely'r môr drwy fesurau rheoli priodol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017
Dr Clair Doloriert yn derbyn Cymrodoriaeth i gydnabod rhagoriaeth addysgu
Llongyfarchiadau i Dr Clair Doloriert, Darlithydd mewn Rheolaeth a Threfn, y dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ddysgu iddi gan Brifysgol Bangor i gydnabod ei rhagoriaeth addysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor
Uchafbwyntiau Wythnos Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor 17-21 Gorffennaf Bydd Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wrth iddo dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol, gan nodi llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd rowndiau cyn-derfynol cystadleuaeth Ewro 2016 yn dilyn ymgyrch hanesyddol fythgofiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Wythnos o ddathlu llwyddiannau graddio myfyrwyr Prifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017
Cynllun arloesol i greu adnodd addysgiadol am ynni cymunedol yng Nghymru
Cafodd adnodd addysgiadol newydd am ynni cymunedol ei dreialu ymysg myfyrwyr Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda Dydd Mercher y 12fed o Orffennaf. Datblygwyd y nofel graffig ‘Tic-Toc: Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned’ gan Sioned Hâf ac Angharad Penrhyn Jones, yn rhan o broject i godi ymwybyddiaeth am y sector ynni cymunedol yng Nghymru. Mae’r nofel graffig ar-lein yma yn dilyn trywydd Gwenno, y prif gymeriad, wrth iddi gwestiynu’r system ynni presennol a darganfod potensial ynni cymunedol i gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy hirdymor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017
Prifysgol Bangor yn croesawu Llysgennad Iwerddon
Croesawodd Prifysgol Bangor Lysgennad Iwerddon i'r Deyrnas Unedig yn ddiweddar gan ddangos iddo beth o'r gwaith ymchwil y mae Bangor yn cydweithio arno gyda sefydliadau partner yn Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017
Syr Bryn Terfel a Hannah Stone i berfformio yn Pontio, Bangor
Mae’n braf iawn gennym gyhoeddi y bydd Syr Bryn Terfel yn canu am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, Pontio i lansio Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru IV (Ebrill 1-7 2018) ar yr union ddiwrnod y bydd Llywydd yr Ŵyl, Dr Osian Ellis CBE, yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed ar nos Iau, Chwefror 8fed 2018, am 7.30pm.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017
Mwy o ddefnydd o wasanaethau gofal iechyd yn ystod bywyd oedolyn yn gysylltiedig â phlentyndod trawmatig
Gall profi cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol fel plentyn, neu straen arall fel byw mewn cartref a effeithir gan drais yn y cartref, cam-drin sylweddau neu salwch meddwl, arwain at ddefnydd uwch o'r gwasanaethau iechyd fel oedolyn. Mae papur ymchwil yn y Journal of Health Service Research & Policy (doi) yn cynnig, am y tro cyntaf, dystiolaeth ystadegol sy'n dangos beth bynnag fo dosbarth cymdeithasol-economaidd neu ddemograffeg arall, mae pobl sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn defnyddio mwy o wasanaethau iechyd a meddygol yn ystod eu bywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017
Artists and architects think differently to everyone else – you only have to hear them talk
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Thora Tenbrink o’r Y sgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017
Cloddfa archeolegol yn agor i'r cyhoedd ar gyfer Gŵyl Archaeoleg Prydain
Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i ymweld â chloddfa archeolegol sy'n unigryw i ogledd orllewin Cymru, ger Rhiw ym Mhen Llŷn y penwythnos hwn (15-16 Gorffennaf). Mae archeolegwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn cloddio ‘Project Meillionydd’ ( http://meillionydd.bangor.ac.uk/index.php.cy er 2010, dan arweiniad yr Athro Raimund Karl, Dr Kate Waddington a Katharina Möller o Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Bangor, ac maent yn cymryd rhan yng Ngŵyl Archaeoleg Cyngor Archaeoleg Prydain ( www.archaeologyfestival.org.uk ).
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017
Arbenigwyr Cymysgu Moroedd yn dod i Fangor
Mae arbenigwyr cymysgu moroedd o bob cwr o'r byd yn dod i Ganolfan Môr Cymru ym Mhrifysgol Bangor i weithdy rhyngwladol ar gymysgu moroedd (11-13 Gorffennaf). Bydd gwyddonwyr o mor bell i ffwrdd â'r Unol Daleithiau, Tsieina a Rwsia, yn ogystal â chyfandir Ewrop a Gwledydd Prydain, yn trafod ymdrechion byd-eang i wella ein dealltwriaeth o'r prosesau sy'n ysgogi'r cefnforoedd a sut y dylid cynrychioli'r prosesau hynny mewn modelau rhagolygon tywydd a hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2017
How we're using ancient DNA to solve the mystery of the missing last great auk skins
Dyma erthygl yn Saesneg gan myfyrwraig PhD, Jessica Emma Thomas o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2017
Dylid canfod ‘edau aur’ i gefnogi economi’r rhanbarth
Mae un o brif ganfyddiadau adroddiad cwmpasu ar economi gogledd Cymru yn awgrymu bod rhan-ddeiliaid mewn economi’r rhanbarth yn ceisio sicrhau bod ‘edau aur’ yn rhedeg drwy’r gadwyn gyflenwi er mwyn galluogi i gwmnïau bach lleol gael budd o gyfleoedd economaidd sy’n dod mewn i’r rhanbarth. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru gyfle, drwy’r potensial i gael pwerau datganoledig ar reolau caffael, i sicrhau swyddi o ansawdd a thelerau ac amodau gwaith o ansawdd i weithwyr ar brojectau mewnfuddsoddiadau
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2017
Bangor yn ymuno â threial Microsoft byd-eang
Mae dull addysgu’r brifysgol, sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn eu hannog i ddangos menter, wedi arwain at ddyfarnu safon Aur i’r brifysgol am addysgu. Caiff y dull hwnnw ei adlewyrchu mewn project newydd. Mae’r Ysgol Addysg yn cydweithio gyda Microsoft i alluogi athrawon dan hyfforddiant i ddod yn ddinasyddion digidol yr unfed ganrif ar hugain. Bangor yw’r unig brifysgol yng Nghymru, ac un o ddim ond tair prifysgol yn y Deyrnas Unedig, i beilota defnyddio deunyddiau Microsoft Education yn un o’n cyrsiau.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2017
Brexit's impact on farming policy will take Britain back to the 1920s – but that's not necessarily a bad thing
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dave Arrnott, Myfyriwr PhD o’r Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2017
Chefs and home cooks are rolling the dice on food safety
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Paul Cross o'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaetho a'r Athro dan Rigby o Brifysgol Manceinion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2017
Penodi Athro i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg
Mae’ r Athro Enlli Thomas, Pennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei phenodi yn aelod newydd o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd y Cyngor gan Adran 149 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a’i brif bwrpas yw rhoi cyngor ac arweiniad i Weinidogion Cymru mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r Gymraeg. Daeth cyfnod y Cyngor Partneriaeth cyntaf i ben ar 31 Mawrth
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2017