Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Hydref 2013
Ffilm fideo Prifysgol Bangor ar rhestr fer cystadleuaeth fideo THE World University Rankings
Mae ffilm fideo fer sy'n rhoi sylw i'r tri pheth gorau ynghylch Prifysgol Bangor wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer i'r gystadleuaeth fideo Times Higher Education (THE) World University Rankings.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2013
Astudiaeth yn awgrymu mai graddedigion gwyddorau cymdeithas sydd â’r rhagolygon gorau am yrfa
Mae gan raddedigion gwyddorau cymdeithas well rhagolygon am yrfa na raddedigion yn y celfyddydau neu wyddoniaeth, yn ôl astudiaeth gan yr Ymgyrch am Wyddorau Cymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2013
Prifysgol Bangor yn drech ym Marathon Eryri
Prifysgol Bangor a dra-arglwyddiaethodd ym Marathon Eryri, wrth i fyfyrwraig bresennol ennill categori’r Menywod ac i fyfyriwr graddedig lleol ennill categori’r Dynion.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2013
Archifdy Prifysgol Bangor ar raglen Cerys Matthews
Cofiwch wrando ar Radio 6 Music fore Sul rhwng 10.00 ac 1.00 (3ydd o Dachwedd 2013)
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2013
Llwyddiant Dwbl i Xavier
Wrth i 2013 dynnu at y terfyn, gall un aelod o staff Ysgol y Gyfraith ei hystyried fel blwyddyn arbennig o lwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2013
Diolch i Rhys “Am hybu cerdd a chreu llawenydd…”
Bu cefnogwyr mwyaf yr actor o fry Rhys Ifans, un o gymrodorion er anrhydedd Prifysgol Bangor, yn wahoddedigion arbennig mewn rhagolwg o gynhyrchiad o ‘Pedr a’r Blaidd’ yn yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf, mis yma.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013
Datblygu Dinasyddiaeth Gweithrdol
Cychwyn i'r prosiect CITCOM yn yr Ysgol Dysgu Gydol Oes gyda llu o bartneriaid Ewropeaidd
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013
Cyrsiau Olradd Dysgu Gydol Oes yn cychwyn yn mis Ionawr
Derbyniad ychwanegol ym mis Ionawr ar gyfer rhaglennu olradd rhan amser yn yr Ysgol Dysgu Gydol Oes
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013
A all gogledd Cymru arwain ym maes yr economi werdd?
Gydag un rhan o dair o fusnesau’r DU yn buddsoddi mewn ymchwil a datblygu cynnyrch a gwasanaethau ‘gwyrdd’, a all gogledd Cymru fod yn fodel i’r economi werdd a chael budd ohoni?
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013
Parciau Cenedlaethol - oes yna 'eliffant yn yr ystafell'?
Mae Parciau Cenedlaethol a Chronfeydd Natur wedi bodoli mewn rhyw ffurf ers y 19eg ganrif a bellach maent yn ymestyn dros ryw 13% o diriogaeth y byd, ond nid ydym yn deall yn llawn effaith neilltuo cymaint o dir i gadwraeth bywyd gwyllt ar boblogaethau dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2013
Prifysgol Bangor yn derbyn ceisiadau ar gyfer rhai cyrsiau Meistr yn cychwyn Ionawr 2014
Oherwydd galw am lefydd, mae’r Brifysgol yn cynnig mynediad mis Ionawr ar gyfer rhai cyrsiau ôl-radd yn 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2013
Project Arloesol “Catching the light with the Rainbow Nation”
Yn ystod mis Medi fe wnaeth tîm o wyddonwyr o Brifysgolion Bangor ac Abertawe a Phrifysgol KwaZulu-Natal (UKZN) gynnal gweithdai gwyddonol i blant o bob oed yn Durban a Mafikeng, De Affrica.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2013
Cynhadledd Seicoleg gyntaf i’w gynnal yn y Gymraeg
Cynhelir y gynhadledd Seicoleg gyntaf i’w chynnal yn gyfan gwbl yn Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun, 4 Tachwedd 2013. Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor fydd yn cyflwyno’r digwyddiad. Mae’r ysgol hon yn fyd- enwog ac wedi bod yn datblygu ei darpariaeth seicoleg cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar. Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim ond rhaid cofrestru ymlaen llaw. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r cynadleddwyr di-Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2013
Myfyriwr yn cael ei ddewis ar gyfer Pencampwriaeth Nofio Genedlaethol
Mae Leo Johnson, myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Bioleg y Môr wedi ennill lle i gystadlu yn y ras 100m Arddull Rydd ym Mhencampwriaeth Genedlaethol Cwrs Byr Agored Nofio gydag Anabledd 2013, sydd i’w chynnal ym Mhwll Nofio Ryngwladol Ponds Forge yn Sheffield ar 23-24 Tachwedd 2013. Bydd y goreuon o blith nofwyr para ar draws Prydain Fawr yn cystadlu yn y digwyddiad hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2013
Profi rhaglen wrth-fwlio effeithiol i Gymru
Mae canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi chwarae rhan allweddol mewn ymchwilio i wasanaethau newydd ac arloesol i blant a'u teuluoedd a'u sefydlu ar hyd a lled Cymru, yn awr yn troi ei sylw at broblem bwlio mewn ysgolion.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2013
Galwad am Bapurau - Adopting the Cultural Other: Western Participatory Borrowings
Mae gennym ddiddordeb mewn papurau sy'n adrodd am ymchwil neu'n damcaniaethu am ymchwil i ffenomenau o'r fath o feysydd cerddoriaeth, dawns, iaith, crefydd, celf a ffurfiau diwylliannol eraill. Bydd y gynhadledd yn un amlddisgyblaethol a chroesawir cyfraniadau o feysydd ethnogerddoleg, anthropoleg, cymdeithaseg, daearyddiaeth ddiwylliannol a disgyblaethau eraill. Saesneg fydd iaith y gynhadledd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2013
Wedi ei hailsefydlu, Cymdeithas Ddrama Gymraeg yn cynnig dau gynhyrchiad
Yn dilyn ailsefydlu Cymdeithas y Ddrama Gymraeg , hen gymdeithas fyfyrwyr a sefydlwyd ym Mhrifysgol Bangor ym 1923, dan lywyddiaeth neb llai na’r bardd R. Williams Parry, mae’r Gymdeithas bellach yn barod i gyflwyno ei chynyrchiadau cyntaf. Bydd y Gymdeithas yn perfformio 'Siwan' gan Saunders Lewis ar 6 Tachwedd a 'Bobi a Sami' gan Wil Sam ar 29 Tachwedd. Bydd y ddau berfformiad yn digwydd yn Neuadd John Philips y Brifysgol ar Ffordd y Coleg am 7.00 o’r gloch. Pris y tocynnau fydd £5 a byddant ar gael wrth y drws.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2013
Seicolegydd o Brifysgol Bangor i dderbyn Gwobr gan Hollywood
Mae seicolegydd o Brifysgol Bangor wedi cael gwahoddiad i Hollywood i dderbyn gwobr gan y diwydiant teledu a ffilm.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2013
Staff a Myfyrwyr Hanes yn trafod Cynllun Gweithredu’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)
Ar ddydd Mercher, 9 Hydref cyfarfu staff a myfyrwyr o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg i drafod canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2013 (NSS). Roedd hyn yn rhan o gynhadledd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau i ystyried yr NSS, ac i annog Ysgolion i ddatblygu cynllun gweithredu ar y cyd â myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2013
Llefydd ar gael ar rai graddau Meistr ar gyfer Ionawr 2014
Oherwydd galw am lefydd, bydd Ysgol Busnes Bangor yn cynnig mynediad mis Ionawr ar gyfer rhai cyrsiau ôl-radd, yn cychwyn yn 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2013
Rheoli ecosystemau er budd pobol, natur a’r economi
Rydym yn defnyddio ‘cyfalaf naturiol’ y ddaear yn gynt nag y gall y ddaear ei adnewyddu. Mae’n haws gweld sut yr ydym yn defnyddio adnoddau anadnewyddadwy fel glo ac olew, ond rydym hefyd yn gor-ddefnyddio adnoddau a ‘gwasanaethau’ eraill sy’n llai gweladwy, ond nid yn llai pwysig i’n goroesiad - pethau fel peillio ein cnydau bwyd, gallu’r ddaear i storio carbon mewn mawndir a phuro’r awyr trwy blanhigion. Mae dull gweithredu newydd yn cael ei ddatblygu sy’n rhoi ystyriaeth i’r ‘gwasanaethau’ naturiol hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2013
Myfyrwyr yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth ffotograffiaeth Erasmus
Mae Hanjie Chow, myfyriwr ieithoedd modern yn ei flwyddyn olaf, yn un o ddeg cystadleuydd i gyrraedd rownd derfynol adran ffotograffiaeth 'Fy Stori Erasmus - Byw fel Brodor', cystadleuaeth a drefnir gan Raglen Dysgu Gydol Oes y Comisiwn Ewropeaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2013
Cofiwch ddweud Su'mae?
Mae’r Brifysgol yn annog staff a myfyrwyr i groesawu ei gilydd yn Gymraeg ar dydd Mawrth Hydref 15: Diwrnod Shwmae Su’mae!
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2013
Tîm Cymru o dan 21 yn Hyfforddi ym Maes Glas
Ar ôl y llwyddiant o groesawu tîm Dan 21 y Ffindir yma cyn eu gêm yn erbyn Cymru ym mis Awst, bydd tîm Dan 21 Cymru yn defnyddio Prifysgol Bangor fel safle ymarfer cyn dwy gêm mis yma.Bydd y sgwad yn chwarae yn erbyn Lithuania a San Marino yn stadiwm BookPeople Bangor ac yn defnyddio caeau Treborth Prif Ysgol Bangor i baratoi cyn y gemau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2013
Penodi Dirprwy Is-Ganghellor newydd dros faterion Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiadau â’r Gymuned
Mae’r Athro Jerry Hunter wedi ei benodi yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfrifoldeb dros faterion Cyfrwng Cymraeg a Chysylltiadau â’r Gymuned.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2013
'Theatr Bryn Terfel' yn Pontio
The theatre in Bangor University’s new Pontio building is to be named ‘Theatr Bryn Terfel’ in honour of the Gwynedd-born and internationally renowned opera star.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2013
Llongyfarchiadau i Dîm University Challenge Prifysgol Bangor
Llongyfarchiadau i dîm Prifysgol Bangor ar guro Prifysgol Aberystwyth yn rownd gyntaf i’w darlledu o’r gyfres newydd o University Challenge : y cwis teledu mwyaf anodd, yn y rhaglen a ddarlledwyd neithiwr (BBC 2 Llun 14 Hydref).
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013
Mae darlithydd o Brifysgol Bangor yn rhyddhau dau CD
Mae Dr Xenia Pestova, o’r Ysgol Cerddoriaeth, yn rhyddhau dau CD ym mis Hydref a mis Tachwedd. Bydd “John Cage: works for two keyboards, volume 1” ar gael ar Naxos Records a “Shadow Piano”, ei halbwm unawdol cyntaf, i’w ryddhau ar Innova Records.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013
INTER/actions: Symposiwm ar Gerddoriaeth Electronig Ryngweithiol
Mae INTER/actions yn symposiwm a gwyl fach yn canolbwyntio ar berfformio a rhyngweithio ym maes cerddoriaeth electronig.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013
Daw hydref a’i thrysorau yn ei sgîl
Mae bonyn coeden yng Nghoedwig Gardd Botaneg Treborth , sy’n rhan o Brifysgol Bangor, wedi blaguro’n flith o ffwng mêl.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013
Darryl yn llwyddo i amddiffyn ei Deitl Pencampwriaethau’r Byd
Mae myfyriwr sydd wedi ennill teitlau Pencampwriaethau Cic-Focsio ers 2009 yn cymryd amser o’i astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor i amddiffyn ei Deitl Pencampwr Cic-Focsio’r Byd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2013
Gweithdai ar Adeiladu Cymuned wedi'u cynnal ym Mangor
Cynhaliwyd dau weithdy llwyddiannus ar Adeiladu Cymuned ym Mhrifysgol Bangor yn ystod May 2013, a threfnwyd y ddau ar y cyd gan Dr Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, a Dr Dinah Evans, Darlithydd mewn Hanes Modern.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013
Darlith Flynyddol- Brian Wyvill (Prifysgol Caerfaddon)
Despite great advances in computer graphics, it still takes many hours to build detailed computer models. The manufacturing industry is entrenched in parametric models, and the triangle mesh still dominates, both as the subject of most modeling research, and as a medium for content creation for games and the movies. GPU hardware for processing and scanning hardware for capture, support the mesh modelling methodology over all else.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013
Myfyrwyr yn cystadlu am Wobr Flynyddol KESS 2013
Mae Prosiect Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) a ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) wedi cynnal ei Noson Wobrwyo Flynyddol yn Techniquest ym Mae Caerdydd ar y 12fed o Fedi, gan wahodd myfyrwyr, academyddion a chwmnïau ledled Cymru i gymryd rhan mewn her cyflwyno ymchwil. Mae’r prosiect KESS Cymru-gyfan yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, academyddion a chwmnïau gydweithio ar brosiect ymchwil sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion y cwmni.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013
Hwb i Brifysgol Bangor ar ddechrau tymor newydd
Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor wedi derbyn hwb sylweddol yn sgil buddsoddiad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol . Mae’r brifysgol wedi penodi pum darlithydd trwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg i weithio ym meysydd Seicoleg , y Gyfraith , Cyfrifiadureg , Nyrsio a Gofal Iechyd a Chyfrifeg .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2013
Archif y mis
Archif y mis: Coch Bach y Bala
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2013
Tyfu’r economi werdd
Bydd chwe busnes o Gymru’n teithio i Iwerddon yr wythnos hon (3 Hydref) i rannu’r neges ynghylch sut y mae eu naws a’u ffordd o weithredu gwyrdd wedi bod o fudd i’w busnesau. Mae’r cwmnïau, i gyd o Wynedd, wedi bod yn cymryd rhan mewn project economi werdd efo Prifysgol Bangor. Mae Project Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd (Green Innovation Future Technologies Project ( GIFT )) yn gweithio i ddatblygu’r economi werdd o fewn rhanbarthau Interreg Gorllewin Cymru ac Iwerddon. Mae’r project yn elwa ar yr arbenigedd berthnasol sydd i’w chael yn Ysgolion Busnes ac Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth , Prifysgol Bangor ynghyd ag Ysgol Busnes ac Ysgol Gwyddoniaeth y Waterford Institute of Technology ac Ysgol Bioleg a Gwyddor Amgylcheddol University College Dublin.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2013
Myfyriwr yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cystadlu i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni. Bydd Dion Davies, 19, sy’n fyfyriwr ail flwyddyn o ardal Castell Newydd Emlyn, i’w weld yn cystadlu Nos Sul, Hydref 6ed ar S4C. Bydd yna hefyd raglen hanner awr yn cyflwyno’r holl gystadleuwyr am 9.30pm Nos Fercher, Hydref 2il ar S4C.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2013