Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ionawr 2015
Dr. Marco Tamburelli i roi darlith wadd ym Mhrifysgol Caint
Mae Dirprwy Bennaeth yr Ysgol, Dr Marco Tamburelli, wedi cael gwahoddiad i roi darlith wadd yn y Centre for Language and Linguistics Studies ym Mhrifysgol Caint ar 4 Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2015
Prifysgol Bangor yn 90fed ar restr y Times Higher Education o’r 100 prifysgol mwyaf rhyngwladol yn y byd.
Mae Prifysgol Bangor 90 fed ar y rhestr eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2015
Prifysgol Bangor yng Nghynghrair y Byd
Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei rhoi ymysg y 100 uchaf o brifysgolion yn y byd mewn tabl newydd , a gyhoeddwyd gan y cylchgrawn Times Higher , yn rhestru'r prifysgolion mwyaf rhyngwladol eu golygon yn fyd-eang. Mae'r tabl yn rhestru prifysgolion rhyngwladol sydd fwyaf byd-eang yn eu ffordd o feddwl a gweithredu. Gosodwyd Prifysgol Bangor yn safle 90 yn y byd yn y tabl hwn. Hi yw'r unig brifysgol Gymreig i ddod i'r 100 uchaf.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2015
Straeon rhyngweithiol Food Dudes i helpu plant bach i fod yn egniol drwy gydol eu hoes
Mae ymchwil y diweddar Athro Fergus Lowe a’r Athro Pauline Horne ar newid ymddygiad wedi arwain at ddatblygiad Sustem Newid Ymddygiad Food Dudes llwyddiannus iawn er mwyn gwella iechyd a lles plant, ac sydd wedi eu mabwysiadu mewn sawl gwlad. Mae’r rhaglenni hyn sydd wedi ennill gwobrau, yn defnyddio egwyddorion ymddygiad pwysig, sef efelychu, gwobrwyo a blasu sawl gwaith i helpu plant rhwng 2-11 oed i fwynhau bwyta ffrwythau a llysiau a newid y bwydydd y byddant yn eu dewis am weddill eu bywydau. Mae’r Sustem wedi eu treialu yn rhyngwladol ac yn 2012, arweiniodd eu llwyddiant at greu cwmni menter gymdeithasol; Food Dudes Health.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2015
O ble y daw microbau sy’n ymwrthol i antibiotig?
Mae’r bygythiad cynyddol gan ficrobau sy’n ymwrthol i antibiotig mewn perygl o’n dychwelyd i ‘oesoedd tywyll meddyginiaeth’. Dyna a ddywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, wrth lansio ymchwiliad y llynedd. Amcangyfrifir bod straeniau o facteria sy’n ymwrthol i gyffuriau yn gyfrifol am 5,000 o farwolaethau'r flwyddyn yn y DU a chymaint â 25,000 o farwolaethau yn Ewrop. Mae un academydd o Brifysgol Bangor yn cyfrannu at y frwydr yn erbyn ymwrthedd antibiotig, ac yn ymchwilio ar sawl ‘ffrynt’, gan gynnwys ceisio datblygu prawf cyflym ac effeithiol a fyddai’n canfod straeniau o facteria a oedd yn cario genynnau ymwrthol i antibiotig.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2015
Ymddangosiad naturiol yn llawer pwysicach na cholur wrth bwyso a mesur dengarwch
Mae’r syniad bod colur yn eich gwneud yn fwy deniadol i’w weld ym mhob man o’n cwmpas. Ar y rhyngrwyd ceir miloedd o diwtorialau ar sut i roi colur, mae cylchgronau ffasiwn yn llawn erthyglau ar hoff goluron enwogion, ac mae llawer o ferched yn teimlo na allant fynd allan o’r tŷ hebddo. Mae’r ymddygiad beunyddiol yma wedi bod yn bwnc ymchwiliadau gwyddonol hefyd, gyda llawer o astudiaethau’n darganfod bod merched nid yn unig yn cael eu hystyried yn fwy deniadol gyda cholur, ond eu bod hefyd yn iachach, yn fwy medrus ac yn fwy hoffus.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2015
Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon yn llofnodi memorandwm i gydweithio
Mae Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon, sy'n eiddo i un o brif gwmnïau electroneg y byd Hitachi, wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithredu a chydweithio'n agosach mewn blynyddoedd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2015
Beth mae prifysgolion Cymru wedi ei wneud i ni?
Mae addysg uwch yn effeithio’n gadarnhaol ar gydlyniant cymdeithasol, cyfraddau troseddu, symudedd cymdeithasol, ymgysylltiad dinesig, iechyd a disgwyliad oes, twf economaidd, enillion personol a chyflogaeth. Mae hefyd yn cynhyrchu incwm i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2015
Cymdeithas yn Anrhydeddu Sylfaenydd
Mae’r Athro Michael Rees o Brifysgol Bangor wedi cael ei wneud yn Aelod Er Anrhydedd o Gymdeithas y bu’n cynorthwyo i’w sefydlu.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2015
Hediadau amrywiol gwyddau ymfudol yn rhoi golwg unigryw ar ffisioleg a biomecaneg adar ar uchderau mawr
Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr sy'n astudio bioleg ymfudol, wrth iddynt hedfan yn uchel iawn dros ucheldir Tibet a mynyddoedd yr Himalaya, wedi datgelu sut mae'r adar hyn yn ymdopi â hedfan mewn aer cymharol denau o ddwysedd isel dros y mynyddoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ionawr 2015
Myfyriwr o Brifysgol Bangor i arwain taith i lawr afon nad yw ar fap
Mae myfyriwr gwyddor chwaraeon o Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis i arwain caiacwyr dŵr gwyn gorau Prydain mewn taith estynedig i ddarganfod rhannau newydd o'r dyfroedd gorau yn y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2015
Cenedl ofalgar ymwybodol?
Mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor wedi chwarae rhan allweddol mewn cyflwyno Ymwybyddiaeth Ofalgar i'r Deyrnas Unedig, mewn ymchwilio i’w heffeithiolrwydd mewn lleoliadau gwahanol ac mewn hyfforddi ymarferwyr. Mae Grŵp Seneddol Hollbleidiol, sydd wedi bod yn ystyried Ymwybyddiaeth Ofalgar, bellach wedi lansio adroddiad interim The Mindful Nation UK, sy’n annog pob plaid yn yr etholiad nesaf i ystyried y ffordd orau o gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar yn y ffordd y mae eu plaid yn mynd i'r afael â’r argyfwng iechyd meddwl.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2015
Dyfarnu Cymrodoriaeth Ymchwil o fri i Archaeolegydd o Fangor
Mae cronfa cymrodoriaeth tair mlynedd Ymchwil Leverhulme wedi-i ddyfarnu i'r Athro Nancy Edwards, Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2015
Lansio cyfrol arloesol ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg
7 pm, nos Fercher yr 21 ain Ionawr yng Nghanolfan Bedwyr, y Ganolfan Rheolaeth Busnes, Ffordd y Coleg, Bangor Bydd cyfrol o ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg yn cael ei lansio gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar yr 21ain o Ionawr ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r gyfrol yn cynnwys saith ysgrif gan y Dr Bruce Griffiths o Fangor, y Dr David Willis o Brifysgol Caergrawnt, y Dr Elena Parina o Rwsia, sydd ar hyn o bryd ym mhrifysgol Marburg yn yr Almaen, Bob Morris Jones o Aberystwyth, y Dr Gwen Awbery o Gaerdydd, Andrew Hawke o Eiriadur Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a Robat Trefor o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2015
Archif y mis
Llun o Bont Britannia cyn Mai 1970. Adeiladwyd y bont gan y peiriannydd Robert Stephenson, ac fe’i hagorwyd ar y 5ed o Fawrth 1850.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2015
Penodi Athro’n Gadeirydd Gweithgor Rhyngwladol
Mae’r Athro Gary Carvalho o Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol yn Gadeirydd ar weithgor ar gyfer Cyngor Rhyngwladol Ar Archwilio’r Moroedd ( The International Council for the Exploration of the Sea – ICES ). Mae i gadeirio’r gweithgor ar Gymhwyso Geneteg mewn Pysgodfeydd a Bywyd Môr ( Working Group on Application of Genetics in Fisheries and Mariculture – WGAGFM ) am dair blynedd o 1 Ionawr 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2015
Cynhadledd yn ystyried Chwyldro ym mywydau oddeutu hanner miliwn o bobl Cymru
During 2015 around 500,000 households across Wales will start to feel the effects of the new Universal Credit. What effects, will this huge change have on the disabled and unemployed; landlords and tenants or paying for child care? A Conference at Bangor University will discuss this momentous change. It is organised by Bangor University with the cooperation of the Coleg Cymraeg Cenedlaethol and will be held at Reichel Hall on Friday 23 January 2015. It is the only open event in Wales, as far as organisers are aware, which will discuss the new changes.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2015
Gêm newydd i helpu pobl i yfed llai
Mae'r flwyddyn newydd yn adeg pan fyddwn yn ystyried gwneud newidiadau i'n ffordd o fyw. Ar ôl mwynhau gormodedd dros yr ŵyl, mae yfed llai o alcohol yn aml yn uchel ar y rhestr hon, ond gall grym ein hewyllys elwa o gael hwb bach i'n helpu i wneud y newidiadau hyn. Dengys ymchwil bod gêm newydd ar ffôn symudol gan is-gwmni Prifysgol Bangor Attention Retraining Technologies (ART) yn gallu gwneud hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2015