Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Rhagfyr 2014
REF 2014: Cydnabod dylanwad ysgolheictod Ysgol y Gymraeg
Ar hyd y blynyddoedd y mae ysgolheigion Cymraeg Prifysgol Bangor wedi cyfrannu’n helaeth i ddiwylliant Cymru. Bu galw cyson am eu gwasanaeth ym myd yr Eisteddfod, ar radio a theledu, ac ymhlith cymdeithasau llenyddol ar hyd a lled Cymru. Drwy gyfrwng eu cyhoeddiadau, ym maes geiriaduraeth ac ysgrifennu creadigol yn enwedig, y mae eu dylanwad ar fywyd Cymru wedi bod yn bellgyrhaeddol. Ategir hynny hefyd ym Mangor gan Ganolfan Bedwyr a’r Uned Technolegau Iaith sydd wedi cyfrannu’n helaeth at hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac ym myd addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Rhagfyr 2014
REF 2014: cadarnhau ansawdd gyda'r orau yn y byd.
Mae Pennaeth yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi croesawu canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Rhagfyr 2014
REF 2014: canlyniadau'n cadarnhau effaith ymchwil Ysgol y Gyfraith
Roedd Pennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn croesawu canlyniadau REF yr ysgol, yn dilyn y cyflwyniad cyntaf gan Ysgol y Gyfraith, sy'n ddeg oed, i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Rhagfyr 2014
REF yn cadarnhau twf yn ansawdd ymchwil
Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn dangos bod yr Ysgol Cyfrifiadureg wedi gwella ansawdd proffil ei chynnyrch ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2014
Athro o Brifysgol Bangor yn siarad â Grŵp Diddordeb Senedd Ewrop ar Iechyd Meddwl, Lles ac Anhwylderau Ymenyddol
Rhoddodd yr Athro Peter Huxley o'r Gaolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas ym Mhrifysgol Bangor arweiniad arbenigol i'r gwaith o ddatblygu mynegai cynhwysiant cymdeithasol iechyd meddwl (gan yr "Economist Intelligence Unit") sy'n cymharu'r polisïau a'r arferion cynhwysiant iechyd meddwl mewn 38 o wledydd yn Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Rhagfyr 2014
Llawer yn dod i Farchnad Nadolig y Myfyrwyr
Agorodd Neuadd PJ ei drysau i dros 1,000 o gwsmeriaid o bob rhan o’r Brifysgol, yn ogystal â’r gymuned ehangach, ar gyfer ei phumed Ffair Nadolig flynyddol i’w chynnal gan y Myfyrwyr. Manteisiodd ymwelwyr ar y cyfle i brynu cynhyrchion unigryw o waith llaw, yn ogystal ag anrhegion munud olaf ac eitemau i lenwi’r hosan Nadolig. Roedd llawer o’r eitemau ar thema Gymreig neu ryngwladol, ac roedd nifer o stondinau wedi gwerthu eu holl stoc o fewn ychydig oriau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
Cyrsiau AM DDIM i staff y Brifysgol
Cyrsiau AM DDIM i staff y Brifysgol
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
“The Creativity of Commercial Law”: Darlith gyhoeddus gan Syr Roy Goode
I ddathlu ei dengmlwyddiant, bydd Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn cynnal darlith gyhoeddus o bwys gan yr Athro Syr Roy Goode QC ar y pwnc creadigrwydd cyfraith fasnachol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
Mae Penaethiaid Gwyddorau Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol ill dau wedi croesawu canlyniadau REF 2014
Mae Penaethiaid Gwyddorau Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol ill dau wedi croesawu canlyniadau REF 2014, lle barnwyd bod 95% o ymchwil ym maes iechyd ym Mhrifysgol Bangor o safon gyda’r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol .
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
Gwell sgôr i’r Ysgol Busnes o ran cynnyrch ei hymchwil
Mae Pennaeth Ysgol Busnes Bangor wedi croesawu canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
REF 2014: Safon eithriadol ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Mae Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd wedi croesawu canlyniadau REF 2014, lle barnwyd bod 95% o ymchwil yn ymwneud ag iechyd ym Mhrifysgol Bangor o safon gyda'r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
REF 2014: Ymchwil Cerddoriaeth yn yr 20 Uchaf
Mae canlyniadau REF 2014 wedi sicrhau safle Prifysgol Bangor fel un o'r 20 uchaf ymhlith sefydliadau Prydain ar gyfer ymchwil gerddorol .
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn un o'r deg adran uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae dadansoddiad pellach o ganlyniadau diweddar Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 wedi dod â mwy o newyddion da i'r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
REF 2014: Ysgol Gwyddorau'r Eigion ar ben ei digon ar ôl y canlyniadau REF diweddar
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor i'r uned asesu REF "Systemau'r Ddaear a'r Amgylchedd" wedi cael ei gosod yn y 15ed safle allan o 43 yn Sector y Deyrnas Unedig am ei hansawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
REF 2014: Cyfraddau uchel i ymchwil Hanes
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Prifysgol Bangor wedi cael ei chydnabod fel gwaith sydd yn yr hanner uchaf yn ei sector ym Mhrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
REF 2014: Ymchwil yr Ysgol yn Ail yn y DU o ran Effaith
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi cyfrannu’n gadarnhaol at lwyddiant y Brifysgol yn Fframwaith Asesu Ymchwil 2014, o ran yr Uned Asesu ar Ieithoedd Modern ac Ieithyddiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
Yr Athro John Witcombe o Brifysgol Bangor yn ennill gwobr o fri
Nos Fawrth, derbyniodd yr Athro John Witcombe, Cymrawd-Athro yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, wobr Amaethwr Datblygu y Flwyddyn ar gyfer 2014 gan y Gymdeithas Amaeth Drofannol .
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
Yr Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad yn Rhagori yn REF 2014
Yn yr ymarfer a gynhaliwyd yn 2014 gan Lywodraeth y DU i arfarnu ymchwil, mae cyfartaledd pwyntiau gradd yr Ysgol hon, o 3.27 ar draws y tair uned asesu, yn golygu ein bod ar y 6 ed safle yn y DU wrth ochr cyfartaledd pwyntiau gradd sefydliadau’n gyffredinol. Mae hyn yn ardystiad gwych i’r ymchwil o ansawdd uchel a wneir ar draws y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, ac i amgylchedd ymchwil sy’n cael effaith ystyrlon. Mae Prifysgol Bangor yn ei chrynswth wedi perfformio’n gryf yn y REF, a’r canlyniadau’n gosod Bangor ymysg 40 uchaf y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2014
REF 2014 yn cadarnhau twf yn ansawdd ymchwil Cemeg
Mae Pennaeth yr Ysgol Cemeg wedi croesawu canlyniadau REF 2014, lle roedd ymchwil o'r Ysgol yn un o 14 o gyflwyniadau a wnaed gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
REF 2014: Ymchwil gyda'r orau yn y byd yn y Gwyddorau Biolegol
Mae Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Biolegol wedi croesawu canlyniadau REF2014, sy'n rhoi'r Ysgol yn yr 20 uchaf yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
Perfformiad cryf gan Beirianneg Electronig yn y REF
Mae Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig wedi croesawu canlyniadau REF 2014 lle'r oedd ymchwil o'r ysgol yn un o'r 14 o gyflwyniadau a wnaed gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
REF 2014 yn cadarnhau enw da Ysgol Seicoleg Bangor drwy'r byd
Mae Ysgol Seicoleg Bangor wedi gwneud yn eithriadol o dda yn y canlyniadau ymchwil diweddaraf, gyda 89% o'i hymchwil yn cael ei hystyried 'gyda'r orau yn y byd' neu 'yn rhagorol yn rhyngwladol' ac yn y 17eg safle yn gyffredinol (allan o 82 o brifysgolion).
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
REF 2014: Ymchwil Coleg yn cael ei hystyried gyda'r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol
Mae dros 80% o'r ymchwil a gyflwynwyd gan Goleg y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei barnu gyda'r orau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol . Mae hyn yn gosod y Coleg yn yr 20 uchaf ymysg prifysgolion y DU mewn tri maes pwnc: Gwyddor yr Amgylchedd, Amaethyddiaeth ac Iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
Prifysgol Bangor yn cael ei chydnabod am ei hymchwil sydd gyda'r orau yn y byd
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn cael effaith o bwys ledled y byd yn ôl asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil ( REF ) a gyhoeddwyd heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
REF 2014: ADNODD yn codi i’r 20 uchaf yn y DU
Mae ymchwil a gyflwynwyd gan yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei chydnabod fel gwaith sydd ymysg yr 20 uchaf yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
Ymchwil Ieithoedd Modern o Fangor ymysg y gorau yn y DU
Mae ymchwil a gynhyrchwyd gan yr Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern wedi cael ei rhoi yn drydydd ar ddeg yn y DU yn ei maes pwnc.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
REF 2014: Llwyddiant ar lefel uchel ac effaith ymchwil
Mae ymchwil gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor wedi cael sgôr uchel ar draws nifer o ddisgyblaethau a'i rhoi yn yr 20 uchaf yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
Gofal Iechyd Darbodus - Bangor yn ymchwilio i ffyrdd o gynorthwyo Llywodraeth Cymru
Ymwelodd dirprwyaeth o Lywodraeth Cymru â Phrifysgol Bangor i ymweld â Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC) a thrafod agenda Gofal Iechyd Darbodus y llywodraeth. Mae Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ar hyn o bryd yn ysgrifennu pennod ar gyfer yr e-lyfr Gofal Iechyd Darbodus ( prudenthealthcare.org.uk ) er mwyn cynorthwyo i ledaenu gwybodaeth am wyddor newid ymddygiad ym maes gofal iechyd darbodus.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2014
Y Gymdeithas Ecolegol Brydeinig yn gwobrwyo darlithydd o Brifysgol Bangor
A lecturer at Bangor University’s School of Environment, Natural Resources and Geography has been awarded the prestigious British Ecological Society ’s Founders’ Prize for 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014
Cyn fyfyriwr Gwyddorau Biolegol yn ysgrifennu llyfr poblogaidd
Hanes dychrynllyd bod ar fwrdd cwch bysgota a suddodd yn nyfroedd yr Antartica a geir gan gyn fyfyriwr Prifysgol Bangor yn ei lyfr poblogaidd, Last Man Off.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014
Tyfu tomatos blasus iawn yn yr awyr agored yng Nghymru a'r DU
O’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd garddwyr Prydain yn medru tyfu tomatos sy’n medru gwrthsefyll malltod, yn dilyn gwaith ar y cyd gyda Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014
Gallai dealltwriaeth newydd o wenwyn nadredd esgor ar feddyginiaethau gwrthwenwyn mwy effeithiol
Gallai ymchwil newydd, sydd yn gwrthbrofi'r ddamcaniaeth bod gwenwyn wedi esblygu unwaith yn unig mewn ymlusgiaid, arwain hefyd at driniaethau meddygol newydd i wrthweithio effaith brathiadau gan nadredd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2014
Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld i glywed am 25 mlynedd o ymchwil
Bu Dr Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i gyflwyno darlith ar y cyfleoedd ar gyfer rheolaeth integredig ar ein hadnoddau naturiol i gynulleidfa wadd o staff a myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2014
Mae treillio’n gwneud lledod yn denau
Nid yn unig y mae treillio gwely’r môr yn codi rhai o’r pysgod sy’n byw yno; mae hefyd yn gwneud rhai o’r rheiny sy’n goroesi yn deneuach ac yn llai iach trwy eu gorfodi i ddefnyddio mwy o egni i gael hyd i fwyd llai maethlon. Dyma gasgliad papur a gyhoeddwyd mewn papur newydd a gyhoeddwyd yn y Proceedings of the Royal Society of London B , ar sail gwaith a gyflawnwyd gan Dr Andrew Frederick Johnson tra oedd yn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor. “Roeddem eisoes yn gwybod bod rhai rhywogaethau o bysgod gwely’r môr yn deneuach mewn mannau a dreillir nag mewn mannau eraill, ar sail gwaith cynharach gan Dr Jan Geert Hiddink (2011, Journal of Applied Ecology ), ond hyd yma, cymerwyd mai’r rheswm oedd eu bod yn methu â chael hyd i ddigon o fwyd ac yn newynu trwy hynny.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2014
Prifysgol Bangor yn dod â chyllid ymchwil Ewropeaidd sylweddol i ogledd Cymru
Codwyd cyllid ymchwil gwerth bron i £10 miliwn gan ymchwilwyr Prifysgol Bangor o raglen cyllid ymchwil yr Undeb Ewropeaidd gan Brifysgol Bangor, ac mae'r brifysgol yn disgwyl gwella'r canlyniadau hyn yn rhaglen ymchwil ac arloesi newydd Ewrop. Llwyddwyd i ariannu pedwar deg dau o brif brojectau ymchwil Ewrop-gyfan dan arweiniad academyddion Prifysgol Bangor, yn wyneb cystadleuaeth gref yn FP7, sef seithfed Raglen Fframwaith Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd a gynhaliwyd o 2007 tan 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014
Arddangosfa Celf Gain In and Out of the Citadel
Mae Andrew Smith, Cyfarwyddwr Rhaglen Celf Gain yr Ysgol Dysgu Gydol Oes, yn arddangos ei waith yn Academi Celf Gain Strzemiński, Łódź Gwlad Pwyl. Mae ei waith yn rhan o arddangosfa ryngwladol, In and Out of the Citadel
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014
Nodweddion gwrywaidd yn cefnogi theori "ymennydd gwrywaidd eithafol" anhwylder sbectrwm awtistaidd
Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Bangor wedi datgelu agwedd newydd ar theori hirsefydlog ym maes anhwylder sbectrwm awtistaidd (ASA). Mae'r theori "ymennydd gwrywaidd eithafol" a gynigiwyd gan Simon Baron-Cohen, yn damcaniaethu bod ASA yn ganlyniad i lefelau testosteron dyrchafedig cyn-geni. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn Clinical Psychological Science , ymchwiliodd Naomi Scott a chydweithwyr yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor i oblygiadau posib hynny ar ymddangosiad corfforol a gysylltir ag ASA.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014
Y deyrnas unedig ar drothwy cynnydd sylweddol mewn lefelau clefyd yr ysgyfaint ymysg oedolion ifanc - oherwydd ysmygu spliff trwm?
Mae’r DU angen bod yn barod am gynnydd sylweddol yn y nifer o oedolion ifanc sy’n cael eu heffeithio gan ffurf ddifrifol o glefyd yr ysgyfaint oherwydd eu defnydd rheolaidd o ganabis a thybaco – dyma fydd arbenigwyr yr ysgyfaint yn ei ddweud wrth Gyfarfod y Gaeaf y Gymdeithas Thorasig Brydeinig dydd Mercher 3 Rhagfyr.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014
Dull ‘Plane Easy’ yn gwneud golff yn hawdd
Er gwaethaf manteision ymarfer corff ysgafn i gymedrol a rheolaidd i iechyd, mae lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru’n dal i fod yn isel. Mae’n bosib i golff lenwi’r bwlch hwnnw ac arwain at nifer o fanteision; fodd bynnag, mae’r niferoedd sy’n chwarae golff wedi bod yn gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r hyfforddwr golff, Matthew Wharton (o The Golf Performance Studio ym Mangor), un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ceisio mynd i’r afael â hyn gyda’i ddull chwarae golff “Plane Easy”.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2014
Draenogod y môr o’r Antartig yn dangos eu bod yn gallu ymaddasu i asideiddio’r cefnfor
Mae astudiaeth o ddraenogod môr o Benrhyn yr Antartig wedi dangos eu bod yn gallu ymaddasu i newidiadau mewn amodau, fel cynnydd yn nhymheredd y môr ac asideiddio. Gan ysgrifennu yn y cyfnodolyn Journal of Animal Ecology , mae'r awduron yn mynd ati i ateb cwestiynau pwysig a sylfaenol ynghylch sut y bydd bywyd yn y cefnfor yn ymateb i newidiadau a ragwelir yn ystod y degawdau i ddod. Er gwaethaf tystiolaeth o asideiddio cynyddol yng nghefnforoedd y byd, mae cwestiynau'n parhau ynghylch a fydd rhywogaethau môr yn gallu addasu i'r newidiadau hyn mewn amodau. Mae'r astudiaeth hon, dan arweiniad gwyddonwyr o'r British Antarctic Survey a Phrifysgol Bangor, yn un o'r rhai hiraf a gynhaliwyd erioed.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2014
Dwyieithrwydd a heneiddio
Mae llawer o bobl hŷn yn cadw'n heini'n feddyliol ac yn mwynhau gwneud croeseiriau a gemau i 'hyfforddi'r ymennydd' yn ystod eu hamser hamdden. Ond hyd yma, mae'r wyddoniaeth am eu heffeithiolrwydd yn rhannol ac amhendant. Maes arall nad ydym yn ei ddeall yn iawn ac sydd hefyd wedi arwain at wahanol ganlyniadau, yw'r cwestiwn a yw bod yn ddwyieithog yn ffactor amddiffynnol mewn cyflyrau cysylltiedig ag oed fel clefyd Alzheimer. Arweiniwyd astudiaeth ar raddfa fechan am siaradwyr Cymraeg/Saesneg gan y Cyngor Economaidd ac Ymchwil Gymdeithasol, dan arweiniad yr Athro Linda Clare yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Ar ddechrau'r astudiaeth hon nid oedd unrhyw dystiolaeth ar gael am effeithiau dwyieithrwydd mewn siaradwyr Cymraeg hŷn. Mae'r astudiaeth wedi ei chwblhau erbyn hyn ac ni chafwyd tystiolaeth bod Clefyd Alzheimer yn datblygu'n hwyrach mewn siaradwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg i'r hyn a welwyd ym Montreal, Canada sef nad oedd bod yn ddwyieithog yn fantais mewn pobl ddwyieithog nad ydynt yn fewnfudwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2014
Diwrnod Gwenwyn yn mynd o nerth i nerth
Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymdeithas Herpetolegol Prifysgol Bangor ei phedwerydd Diwrnod Gwenwyn blynyddol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, lle rhoddodd sawl arbenigwr sgyrsiau ar nifer o bynciau yn y maes a lle cafodd y cyfranogwyr gyfle i weld arddangosiad byw o ymlusgiaid gwenwynig, yn cynnwys Cobra, Anghenfil Gila ac amrywiaeth o wiberod. Noddir y digwyddiad yn rhannol gan Gymdeithas Herpetolegol Prydain a’r Gymdeithas Herpetolegol Ryngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2014
A ydych yn cael digon o ymarfer corff i fynd yn sâl?
A ddylech ymarfer yn galetach neu am fwy o amser? Mae rasys Marathon a rasys dygnwch yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac felly hefyd yr awch am ymarfer yn ddwys, megis mewn dulliau a dosbarthiadau hyfforddi dwys ‘ spike ’ neu ‘ buzz ’. Ond p’un sydd orau i chi? Neu, fel arall, p’un fydd yn achosi’r niwed lleiaf i’ch system imiwnedd? Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor yn herio’r meddylfryd cyfredol fod ymarferion hwy, llai straenus yn llai niweidiol i’r system imiwnedd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2014
Gwobr Syr Geraint Evans yn cydnabod cyfraniad darlithydd a chyfansoddwr
Cyflwynwyd Gwobr Syr Geraint Evans 2013 Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru i Dr Guto Pryderi Puw, o Brifysgol Bangor, i gydnabod ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru, fel cyfansoddwr, darlithydd a Chyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Newydd Bangor yn ddiweddar (30 Tachwedd 2014) yng Nghlwb Caerdydd a’r Sir.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014
Archif y mis
Ffotograff o Stryd Fawr Bangor, tua 1910. Fe ymddengys iddo gael ei dynnu o gyfeiriad y cloc. Daw’r llun yma o gasgliad R.T. Pritchard, Ffordd y Gogarth, Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014
Darlithydd yn y Gyfraith o Fangor yn cael ei phenodi'n Gymrawd Academaidd yn yr Inner Temple
Mae Dr Yvonne McDermott Rees, Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, wedi cael ei phenodi i swydd dair blynedd bwysig fel Cymrawd Academaidd Cymdeithas Anrhydeddus yr Inner Temple . Mae Dr McDermott Rees yn un o ddim ond pedwar o academyddion blaenllaw a ddewiswyd gan Gymdeithas Anrhydeddus yr Inner Temple, un o bedwar Ysbyty'r Brawdlys yng Nghymru a Lloegr. Ysbytai'r Brawdlys yn unig sydd â'r hawl i alw ymgeiswyr i weithredu wrth Far Cymru a Lloegr. Mae Cynllun Cymrodyr Academaidd yr Inner Temple yn cydnabod cyfraniad nodedig academyddion ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa ym maes dysgu ac ymchwil yn y gyfraith. Ei nod hefyd yw cefnogi eu hymchwil a meithrin cysylltiad cryfach rhwng y Bar, y farnwriaeth a'r gyfraith yn y byd academaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2014
Mae dysgu rhythmau iaith yn fodd i ddod yn siaradwyr rhugl
As Wales faces a decline in the number of Welsh speakers, it’s even more important that Welsh learners make the transition from second language learners to become fluent Welsh speakers. One identified obstacle to ‘fluency’ is Welsh learner’s difficulty in replicating the sound of Welsh- not only the ‘ll’ ‘ch’ and other sounds unfamiliar to the English ear, but also the stress and rhythm of the language, which is different to that of English, and other languages.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014
Sut y mae prifysgolion Cymru'n datblygu'r byd o'n cwmpas?
Mae heddiw'n nodi lansiad porth newydd – www.researchwales.ac.uk – a fydd yn tynnu sylw at rai o'r enghreifftiau gwych o sut y mae prifysgolion Cymru'n datblygu'r byd o'n cwmpas. Ymhlith yr ymchwil sy'n cael ei arddangos mae enghreifftiau gwych o waith ymchwil gan academyddion Prifysgol Bangor. Mae'r rhain yn cynnwys yr enghreifftiau canlynol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014
Straeon rhyngweithiol Food Dudes i helpu plant bach i fod yn egnïol drwy gydol eu hoes.
Mae ymchwil y diweddar Athro Fergus Lowe a’r Athro Pauline Horne ar newid ymddygiad wedi arwain at ddatblygiad Sustem Newid Ymddygiad Food Dudes llwyddiannus iawn er mwyn gwella iechyd a lles plant, ac sydd wedi eu mabwysiadu mewn sawl gwlad. Mae’r rhaglenni hyn sydd wedi ennill gwobrau, yn defnyddio egwyddorion ymddygiad pwysig, sef efelychu, gwobrwyo a blasu sawl gwaith i helpu plant rhwng 2-11 oed i fwynhau bwyta ffrwythau a llysiau a newid y bwydydd y byddant yn eu dewis am weddill eu bywydau. Mae’r Sustem wedi eu treialu yn rhyngwladol ac yn 2012, arweiniodd eu llwyddiant at greu cwmni menter gymdeithasol; Food Dudes Health.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014
Cymysgu dyfroedd yng Nghefnfor y De
Mae Cefnfor y De yn amgylchynu Antartica ac mae'n chwarae rhan allweddol mewn rheoli'r hinsawdd byd-eang. Yma y mae ceryntau'r cefnfor yn dychwelyd i'r wyneb o'r dyfnderoedd, gan gau'r cefnfor byd-eang a gwyrdroi cylchrediad. Mae'r cylchrediad hwn yn gyrru gwres i gyfeiriad y pegwn, sy'n allweddol i'r tywydd cymharol fwyn a gawn yma ym Mhrydain. Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor a'r National Oceanography Centre yn Lerpwl wedi nodi am y tro cyntaf broses newydd sy'n cyfrannu at y dŵr hwn sy'n codi i fyny o'r dyfnder.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2014