Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Rhagfyr 2015
Chwarae rhan o bwys yng Ngwarchodfa Fôr fwyaf y byd
Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan bwysig wrth reoli Gwarchodfa Fôr fwyaf y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015
Mae "pwll bach Darwin" yn dangos sut y gall rhywogaethau newydd ymddangos heb wahanu daearyddol
Mae pysgod cichlid o grater folcanig wedi eu dal yn y weithred o ffurfio rhywogaeth newydd yn yr un ardal ddaearyddol Ydy'n wir y gall rhywogaeth newydd esblygu os nad oes ffin ffisegol i ysgogi gwahanu genetig? Ymddengys bod tystiolaeth ffisegol a genomig o grater folcanig Llyn Massoko sy'n 700 medr ar draws wedi cofnodi'r broses wrth iddi ddigwydd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015
Math newydd o reis, Ashoka, yn dod â diogelwch bwyd i filiynau
Mae rhyw filiwn o dyddynwyr a’u teuluoedd yn nwyrain a gorllewin India yn mwynhau gwell sicrwydd bwyd, diolch i ymchwilwyr Prifysgol Bangor yng Nghymru. Mae sicrwydd bwyd yn rhywbeth sy’n cael ei drafod yn aml. Y gwir yw y gall sicrwydd bwyd gael effaith sylweddol ar fywydau pobl, a gellir ei wireddu drwy wahanol ffyrdd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2015
Seremoni Raddio y Gaeaf Prifysgol Bangor
Dyfarnwyd dros gant ac ugain gradd ôl-raddedig i fyfyrwyr yn y seremoni raddio gyntaf i’w chynnal yn y gaeaf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015
How noise pollution is changing animal behaviour
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Graeme Shannon o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015
Myfyriwr doethuriaeth yn mynychu lansiad adroddiad seneddol ar newyn
Mae myfyriwr doethuriaeth a gyfrannodd dystiolaeth at adroddiad seneddol pwysig ar newyn yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn Llundain yn lansio'r ddogfen ddilynol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015
Dyfodol pryd y gallai lensys cyffwrdd ‘deallus’ ddarogan eich risg o gael annwyd cyffredin: Gwrthgyrff hylif dagrau a’r annwyd cyffredin
Pam y gall rhai pobl fynd trwy gydol y gaeaf heb yr arwyddion lleiaf o annwyd, tra bo eraill fel pe baent yn cael pob annwyd sy’n mynd o gwmpas? Yn ôl astudiaeth newydd gan Grŵp Ymchwil Prifysgol Bangor i Eithafion yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer , gallai fod modd rhagweld y tebygolrwydd i gyfranogwyr gael annwyd cyffredin trwy ddadansoddi lefel y gwrthgyrff mewn hylif dagrau.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2015
We need to make digital navigation tools more human – here's how
Dyma erthygl yn Saesneg gan Thora Tenbrink o’r Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2015
Partneriaeth Hyfforddi Ddoethurol Envision a gyllidir gan NERC
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o Bartneriaeth Hyfforddi Ddoethurol Envision a gyllidir gan NERC ( http://www.envision-dtp.org/ ), ynghyd â Phrifysgolion Lancaster a Nottingham, a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, Arolwg Daearegol Prydain a Rothamsted Research .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2015
Llwyddiant yn Noson Wobrwyo MediWales am ail flwyddyn yn olynol
Mae tîm a arweiniwyd gan Dr Chris Subbe, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor, sydd hefyd yn ymarferwr clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi ennill Gwobr MediWales am "Partneriaeth GIG gyda Diwydiant yn y DU ac yn rhyngwladol". Noddwyd y wobr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Roche.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2015
Pontio yn galw ar artistiaid a gwyddonwyr i gydweithio
Mae Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol Bangor, sy’n agor ei drysau’n swyddogol heddiw (1af Rhagfyr 2015) yn galw ar berfformwyr a gwyddonwyr i gyflwyno syniadau cyffrous fel rhan o gynllun SYNTHESIS.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015
Project ymchwil ac arloesi bioburo gwerth £12m gyda chefnogaeth yr UE yn cael y golau ‘gwyrdd’
Mae buddsoddiad newydd gwerth £12 miliwn ar gyfer economi 'gwyrdd' Cymru wedi ei gyhoeddi gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015
Gall paciau cefn bychan i wenyn roi gwybodaeth hanfodol
Mae project newydd cyffrous ar y gweill ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd i ddefnyddio ynni trydanol y gwenyn ei hun wrth greu teclyn ysgafn sy'n gweithredu dros gryn bellter i ddilyn hynt gwenyn. Mae poblogaethau gwenyn, sy'n hanfodol i beillio planhigion a choed, yn dirywio'n gyflym ar hyn o bryd o ganlyniad i sawl peth, yn bla-leiddiaid a gwiddon varroa i enwi ond dau.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2015
Marchnad Nadolig y Myfyrwyr yn denu’r niferoedd mwyaf erioed
Cymerodd myfyrwyr o bob rhan o Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn y gwaith o gynnal 65 o stondinau ym Marchnad Nadolig y Myfyrwyr a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, gan ddenu mwy na 1,600 o ymwelwyr. Pleser o’r mwyaf oedd gweld cymysgedd mor wych o nwyddau o gynnyrch lleol ar gynnig eleni. Roedd yno amrywiaeth drawiadol o fwydydd rhyngwladol yn ogystal â chelf a chrefft – o ddarluniau gwreiddiol hyd at gynhyrchion wedi’u gweu ac o frethyn cartref, ffigurynnau weiar, yn ogystal â’r nwyddau cartref Nadoligaidd arferol o bob math.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2015
Hwb gwerth £3.9m gyda chymorth yr UE i arwain llwyddiant busnes
Mae menter newydd gwerth £3.9m gyda chymorth yr UE i helpu perchnogion a rheolwyr busnes i ennill sgiliau arwain a rheoli wedi ei chyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt heddiw (11 Rhagfyr 2015). Mae’r prosiect ION Leadership, dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, yn cael £2.7m o gymorth drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop i gynyddu sgiliau ac ysgogi cynhyrchiant a throsiant mewn mentrau bach a chanolig, yn ogystal â sefydliadau mwy.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2015
Bath poeth wedi ymarfer corff yn gwella perfformiad mewn gwres
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor yn dangos bod cael bath poeth wedi ymarfer corff am chwe diwrnod yn olynol yn gostwng tymheredd y corff wrth orffwys ac wrth ymarfer ac yn gwella perfformiad wrth redeg mewn gwres. Meddai’r Athro Walsh, sy’n arwain y tîm a arweiniodd y gwaith: “I berfformwyr athletaidd sy’n cystadlu mewn gwres, mae strategaeth ‘ymarfer claer, ymdrochi poeth’ yn cynnig ffordd i ymdopi â gwres.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2015
Taking a hot bath after exercise improves performance in the heat
Dyma erthygl yn Saesneg Yr Athro Neil Walsh, Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2015
Cyn-fyfyriwr yn rhedeg busnes ei hun diolch i gefnogaeth y Gwasanaeth Gyrfaeodd
Mae Alumnus o Brifysgol Bangor wedi sefydlu menter gymdeithasol er mwyn annog pobl i fynd allan i’r awyr agored. Mae gan Tom Cockbill, sy’n wreiddiol o Walsall, Gorllewin Canolbarth Lloegr, radd mewn Sŵoleg a Chadwraeth o Brifysgol Bangor. Mae wedi sefydlu Wild Elements, menter gymdeithasol sydd wedi'i lleoli ym Mangor, ar ôl derbyn cefnogaeth gan Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2015
Saith Rheswm dros Siopa'n Lleol y Nadolig hwn
Gall y sêls Nadolig gynrychioli rhwng traean a dwy ran o dair o drosiant blynyddol rhai mân-werthwyr, felly does dim syndod bod mân-werthwyr cenedlaethol yn cynnal ymgyrchoedd hysbysebu enfawr i ddenu siopwyr. Mae'r cynnydd mewn siopa ar-lein ac ar gyrion trefi'n golygu nad yw pobl yn sylweddoli’n aml fod yna eisoes amrywiaeth fawr o nwyddau a gwasanaethau ar gael yn eu stryd fawr leol. I fynd i'r afael â hyn, mae Bangor wedi creu Ardal Gwella Busnes yn ddiweddar, sy'n dod â busnesau ynghyd i greu ardal siopa fwy bywiog a dengar ar hyd y Stryd Fawr.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2015
When languages die, we lose a part of who we are
This article by Anouschka Foltz , Lecturer in Psycholinguistics, at the School of Lingusitics & English Language was originally published on The Conversation . Read the original article . The 2015 Paris Climate Conference (COP21) is in full gear and climate change is again on everyone’s mind. It conjures up images of melting glaciers, rising sea levels, droughts, flooding, threatened habitats, endangered species, and displaced people. We know it threatens biodiversity, but what about linguistic diversity?
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2015
Graddedigion Prifysgol Bangor yn uchel eu parch ymysg prif gyflogwyr
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos ymysg y 40 prifysgol orau yn y DU o ran cynhyrchu’r graddedigion gorau yn ôl arolwg rhyngwladol a gyhoeddwyd gan gylchgrawn y Times Higher. Datgelodd yr arolwg, a ganolbwyntiodd yn bennaf ar fusnesau a chwmnïau technoleg gwybodaeth a pheirianneg, pa brifysgolion yw’r rhai mwyaf poblogaidd ac uchel eu parch o ran darparu myfyrwyr o safon uchel i’w recriwtio.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015
Datrys y cyswllt rhwng iaith ac ystyr
Mae ysgolhaig o Brifysgol Bangor yn trafod y cyswllt rhwng iaith ac ystyr mewn llyfr newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan Cambridge University Press. Yn The Crucible of Language , mae’r Athro Vyv Evans yn cyflwyno’r canfyddiadau diweddaraf i esbonio’r hyn yr ydym yn ei wybod, a’r hyn yr ydym yn ei wneud, wrth gyfathrebu gan ddefnyddio iaith. Mae’n dangos sut y mae ystyr ieithyddol yn codi, o ble y daw, a’r modd y mae iaith yn ein galluogi i gyfleu ystyriaethau a all ein cyffwrdd hyd ddagrau, ein blino hyd syrffed, neu ein gwirioni’n lân.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015
Prifysgol Bangor yn gwobrwyo effaith eithriadol ei gweithgareddau ymchwil a menter
Dyfarnwyd gwobrau i brojectau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi rhoi budd i gymunedau yn lleol ac yn fyd-eang, wrth i Brifysgol Bangor gynnal ei thrydedd Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi ar 3 Rhagfyr.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2015
Agor Canolfan Iaith Newydd yn Yr Wyddgrug
Yn sgil cynnydd yn y niferoedd sydd yn dysgu Cymraeg yn yr ardal, mae Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor, agorwyd Canolfan Iaith newydd yn Yr Wyddgrug heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2015
We want to build tiny backpacks for bees – here’s why
This article by Paul Cross , Senior Lecturer in the Environment, at the School of Environment, Natural Resources and Geography and Cristiano Palego , Senior Lecturer in Smart Sensors and Instrumentation at the School of Electronic Engineering , was originally published on The Conversation. Read the original article .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2015
Prifysgol Bangor yn Cynnal Seminar i drafod Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch
Mae Bangor yn falch o gyhoeddi mai hi yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnal seminar technegol ar yr Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch - y dechnoleg a fydd yn cael ei defnyddio gan Horizon Nuclear Power yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2015
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2015