Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ebrill 2013
Sut dylem ni yng Nghymru greu cymdeithas lwyddiannus?
A all "cymdeithas fawr" David Cameron drwsio "Prydain doredig"? Yn wir, a fydd yn fwy llwyddiannus na'r rhaglenni adeiladu cymunedol eraill a ddechreuwyd yn yr hanner canrif ddiwethaf? Sut dylem ni yng Nghymru greu cymdeithas lwyddiannus?
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013
Yr Athro Horst Unbehaun i ymweld â’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar Gyfnewid Dysgu Erasmus
Bydd yr Athro Horst Unbehaun yn ymweld â Phrifysgol Bangor ar Gyfnewid Dysgu Erasmus rhwng yr ail a chweched o Fai. Mae’r Athro Unbehaun yn Athro yn Ngwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Gwyddorau Cymhwysol Georg Simon Ohm, Nuremberg.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013
Gŵyl gerddoriaeth o Fangor yn ennill gwobr
Dewiswyd gŵyl gerddoriaeth Prifysgol Bangor ar gyfer New Music Biennial y PRS ac mae’r ŵyl hefyd wedi ennill £20,000 i gomisiynu gwaith newydd gan Arlene Sierra. Cynhelir yr INTER/actions Festival of Interactive Electronic Music ym Mangor y flwyddyn nesaf ac fe’i dewiswyd gan y PRS For Music Foundation i gomisiynu gwaith newydd gan y cyfansoddwr o America, Arlene Sierra.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013
Tri yn ennill ‘Cyfieithydd Gorau’ mewn cystadleuaeth Ewropeaidd
Mae tri o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dod i’r brig mewn Cystadleuaeth ‘Her Prifysgolion’ a gynhelir gan Veritas Language Solutions, ac sydd wedi ennyn cystadlu brwd gan brifysgolion ar draws Ewrop. Mae’r tri, sydd yn astudio yn Ysgol Ieithoedd Modern y Brifysgol i gyd wedi ennill ‘Cyfieithydd Gorau’ yn eu hadran berthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2013
Gŵyl INTER/actions yr Ysgol Cerddoriaeth yn ennill grant sylweddol gan sefydliad New Music Biennial y PRS
Dewiswyd yr INTER/actions Festival of Interactive Electronic Music gan y Sefydliad PRS New Music Biennial i gomisiynu gwaith newydd gan Arlene Sierra . Dyfarnwyd £20,000 i’r Ŵyl.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2013
Y Llwyth Gwaith Tecaf ac ail yng Nghymru am Ofal Myfyrwyr
Mae gan Brifysgol Bangor y llwyth gwaith tecaf ym Mhrydain yn ôl arolwg diweddar o fyfyrwyr, a roddodd Bangor yn gydradd gyntaf am yr elfen honno, ac yn ail yng Nghymru am foddhad cyffredinol myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2013
Gall cyffuriau newydd fod yn well i atal strôc
Mae cyffuriau gwrth-geulo, a gymeradwywyd gan NICE, o leiaf mor effeithiol â'r cyffur poblogaidd warfarin i atal strôc mewn pobl gyda ffibriliad atriaidd, a gallant fod yn fwy effeithiol hyd yn oed. Gall y darganfyddiad hwn, a gyhoeddwyd yn Clinical Pharmacology & Therapeutics (DOI: 10.1038/CLPT.2013.83) helpu i wneud penderfyniadau ynghylch opsiynau triniaeth i wahanol gleifion sydd mewn perygl o gael strôc.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2013
Llwyddiant i staff y Gyfraith yn seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Roedd llwyddiant i staff Ysgol y Gyfraith Bangor yn gynharach mis yma wrth i ddau aelod derbyn gwobr yn seremoni Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2013
Seicolegwyr yn cyfrannu at fwynhad arddangosfa newydd
Mae Ysgol Seicoleg enwog Prifysgol Bangor wedi bod yn cydweithio efo oriel gelf cyfoes MOSTYN yn Stryd Vaughan, Llandudno ar eu harddangosfa newydd, sydd i’w lansio yn fuan. Mae’r Arddangosfa, 'TI' i gyd am y gwyliwr.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2013
Hanes yn agor ei drysau i'r cyhoedd
With manuscripts dating back the twelfth century and a huge range of rare books on display, researchers and historians are in for a treat. Following recent refurbishment work, the Archives and Special Collections Department at Bangor University will open its doors to the public for an open day on 26 th April, between 12 – 4.00 pm.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2013
Sioe Arddangos 2013 yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
Cynhelir Sioe Arddangos yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ar 3 Mai o 7pm ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Hon fydd ail flwyddyn cynnal y sioe arbennig hon. Mae'n ddigwyddiad am ddim sy'n agored i'r cyhoedd ond mae angen tocyn i ddod i mewn, a gall unrhyw un a hoffai archebu tocyn gysylltu â Mikey Murray (m.murray@bangor.ac.uk).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2013
Clwb Sadwrn Darganfod Gwyddoniaeth i Ferched
Nid yw dyfeisio cynhyrchion electronig newydd neu ymchwilio i blanhigion - y tu mewn a'r tu allan - yr hyn y bydd y rhan fwyaf o ferched yn eu harddegau yn ei wneud ar foreau Sadwrn.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2013
Llyfr newydd gan Andrew McStay
Andrew McStay, SCSM lecturer, has a new book out with Routledge titled "Creativity and Advertising: Affect, Events and Process”.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2013
Cynhyrchydd yn herio’r gwleidyddion a’r cyfryngau
Bydd y cynhyrchydd David Puttnam, sydd wedi ennill Gwobrwyon Oscar ac a gynhyrchodd ffilmiau fel Chariots of Fire , The Killing Fields a Memphis Belle , yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher 1 Mai. Mae’n addo sylwadau treiddgar ynddi ar Adroddiad Leveson a chyflwr y cyfryngau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2013
Myfyrwyr yn cyfrannu at fenter gymdeithasol leol
Yn ystod trydedd wythnos y gwyliau Pasg, cynhaliodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) , rhan o Undeb Myfyrwyr Profysgol Bangor, ei ddigwyddiad gwirfoddoli preswyl cyntaf ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Bangor. Daeth deunaw o fyfyrwyr Bangor a dau o Brifysgol Aberystwyth ynghyd i dreulio wythnos yn gweithio yng nghanolfan Felin Uchaf ger Aberdaron ar Benrhyn Llŷn.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2013
Grant hael i adfer pianos
Derbyniodd yr Ysgol Cerddoriaeth grant hael o £26,000 gan Bangor Alumni / Grŵp Rhoddion Prifysgol Bangor tuag at adfer pianos.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2013
Staff Ysgol Seicoleg ar S4C
Rhaglen wyddonol newydd yw Corff Cymru yn edrych ar y corff o safbwynt y Cymry. Yn ail bennod y gyfres byddwn yn edrych ar yr ymennydd. Byddwn yn dysgu am effaith dwyieithrwydd ar yr ymennydd gyda tim yr Athro Debbie Mills o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor a Dr Enlli Thomas o'r Ysgol Addysg. Byddwn hefyd yn dysgu am sut mae'r ymennydd yn gweithio, yn CUBRIC yng Nghaerdydd, a darganfod mwy am ddeallusrwydd. Bydd Corff Cymru yn cael ei ddarlledu ar S4C bob nos Iau am 8.25yh
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2013
Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas: cyflwynwyd gan Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor
Fe wnaeth y Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar, rhan o’r Ysgol Seicoleg, gynnal cynhadledd wyddonol ym mis Mawrth 2013 yng Nghaer, o’r enw ‘Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas’. Roedd yn gynhadledd tridiau gyda 582 o bobl yn dod yno, yn cynnwys cynadleddwyr o nifer o wledydd Ewropeaidd, a rhai o Awstralia ac America.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2013
Uchel Siryf newydd yn gwobrwyo myfyrwyr am eu gwaith gwirfoddol
Cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau’r Uchel Siryf ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Gwobr yr Uchel Siryf yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymdrechion gwirfoddoli gan fyfyrwyr Bangor fel unigolion ac mewn grwpiau.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2013
Myfyrwyr Bangor yn ennill gwobrau cenedlaethol!
Enillodd un o gymdeithasau Undeb Myfyrwyr Bangor ac un o'i Swyddogion Sabothol wobrau'n ddiweddar yn Noson Wobrwyo'r Gymdeithas Nawdd Nos.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2013
Lansiad Hugan Fach Goch Amlieithog
Bu myfyrwyr o Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor yn ymweld ag Ysgol Gyfun Llangefni yn ddiweddar yn cynnal gweithgareddau i ddisgyblion blwyddyn 7.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2013
Llwyddiant Americanaidd arall i Osian
Mae ‘Fy chwaer a fi’ yn ffilm ddogfen a grëwyd yn sgil y gyfres deledu Beautiful Lives am hosbis blant Tŷ Hafan. Mae’r ffilm gan yr efeilliaid Catherine a Kirstie Fields, 18, o Lanelli sy'n dioddef o salwch unigryw sydd wedi' eu gwneud yn fud ac yn gaeth i gadeiriau olwyn. Ar ôl blynyddoedd heb lais, daeth dyfodiad peiriannau siarad electroneg a chyfle i'r merched siarad am eu bywydau a rhannu eu hofnau a'u gobeithion gyda'r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013
Yr Athro Phil Molyneux yn ennill gwobr o fri ym maes Cyfrifeg a Chyllid
Mae’r Athro Phil Molyneux, Athro Bancio a Chyllid, wedi ennill anrhydedd o fri gan Gymdeithas Brydeinig Cyfrifeg a Chyllid (BAFA).
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013
Madagascar Evening
Students and staff in the School of Environment, Natural Resources and Geography are organising a fund-raising evening to support the conservation work of the Malagasy NGO Madagasikara Voakajy ( http://www.madagasikara-voakajy.org/ ) with which the School has a really close relationship.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013
Myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn trefnu digwyddiad codi arian i ddathlu bioamrywiaeth a diwylliant Madagascar
Ydych chi erioed wedi bod eisiau cael cyfle i ddod wyneb yn wyneb â lemyriaid rhyfeddol Madagascar? Ydych chi erioed wedi dyfalu sut beth ydi bwyd Malagasaidd? Ydi rhaglenni byd natur wedi eich ysbrydoli i wneud rhywbeth i gefnogi diogelu bywyd gwyllt unigryw Madagascar? Wel, fe gewch gyfle i wneud pob un o'r tri pheth uchod ar 27 Ebrill, pan gynhelir digwyddiad arbennig yn Sw Genedlaethol Cymru ym Mae Colwyn, wedi'i drefnu gan staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2013
David Evans (1943-2013)
Bu farw Dr David Evans, cyn Uwch Ddarlithydd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, yn 69 oed. Yn gyfaill da i bawb, fe'i cofir gydag anwyldeb gan ei gydweithwyr a channoedd o gyn-fyfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2013
Archif y mis
Darluniau gwerthfawr o'r Oriel Genedlaethol yn cael eu dadlwytho yn Neuadd Prichard-Jones ym 1939.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2013
Cwrs Niwclear yn Llwyddiant Ysgubol
Yn ddiweddar fe ddysgodd hanner cant o ddisgyblion o ogledd Cymru sut i ddatrys rhai o’r sialensiau sy’n wynebu’r diwydiant niwclear.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2013
Prifysgol Bangor yn cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn University Challenge
Mae tîm Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at gystadlu yn rownd gynderfynol ‘University Challenge’, y sioe gwis fwyaf heriol ar y teledu. Byddant yn herio Prifysgol Manceinion yn y rhaglen i’w ddarlledi nos Lun 22 Ebrill am 8.00 ar BBC2
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013
Efrydiaeth Ddoethurol AHRC mewn Cerddoriaeth
Mae’n bleser gan yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gynnig Efrydiaeth dan nawdd AHRC ar gyfer astudiaeth PhD mewn cerddoriaeth, yn cychwyn ym Medi 2013. Mae’r efrydiaeth yn cynnwys ffioedd Cartref/UE yn ogystal â grant cynnal di-dreth ar gyfradd gyfredol Cynghorau Ymchwil y DU, sef £13,590).
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013
Bang Goes the Theory yn dod i Fangor
Yn dilyn yr helbul diweddar ynghylch cig ceffyl a ddarganfuwyd ynghanol cigoedd eraill, mae’r rhaglen wyddoniaeth boblogaidd Bang Goes the Theory (BBC 2 Cymru 18.30 Mawrth 8 Ebrill 2013/ Llun 8 Ebrill 19.30 BBC One ond nid yn y rhanbarthau) yn edrych ar sut y gellir defnyddio technegau genynnol (DNA) newydd i adnabod y pysgodyn ar eich plât.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013
Tîm Bangor yw'r cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Telders
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ffug lys sy'n adnabyddus ledled y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2013