Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ionawr 2018
Prosiect i roi llais i siaradwyr Cymraeg sy'n dioddef o ganser y llwnc
Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru i helpu siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais i barhau i gyfathrebu drwy eu mamiaith wedi derbyn ymweliad gan Weinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018
Llwybr newydd yn arwain at yrfa mewn nyrsio
Rhaglen Diploma Ôl-radd mewn Nyrsio Oedolion gan Brifysgol Bangor yw'r cwrs cyntaf o'i fath yng ngogledd Cymru. Mae'n cynnig llwybr carlam dwy flynedd i raddedigion diweddar ym maes gwyddor bywyd a gwyddorau cymdeithas allu cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2018
We opened up all our data on coral reefs – more scientists should do the same to protect habitats
Dyma erthygl yn Saesneg gan Adele Heenan o’r Ysgol Gwyddorau Eigion ac Ivor D Williams o'r National Oceanographic and Atmospheric Administration yr UDA sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ionawr 2018
Astudiaeth yn datgelu bod gwyntyll môr a rhywogaethau eraill yn cymryd amser hir i ddod dros darfu arnynt
Mae tîm o wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn darogan y gall gwyntyll môr pinc, cwrelau Ross a chwistrellau môr gwyn gymryd hyd at 20 mlynedd i ddod atynt eu hunain ar ôl i dreillio am gregyn bylchog gael ei atal ar ran o wely'r môr.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2018
Cymhwyso GRADE-CERQual i ganfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol - Cyfres newydd o bapurau
Mae cyfres o bapurau a gyhoeddwyd yn Implementation Science yr wythnos hon yn rhoi canllawiau ar sut i gymhwyso'r dull GRADE-CERQual. Mae CERQual yn helpu i asesu faint o hyder y dylid ei roi yng nghanfyddiadau synthesis tystiolaeth ansoddol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ionawr 2018
Darlith yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar yng ngofal plant
Bydd Graham Allen, ymgyrchydd blaenllaw dros sefydlu’r Early Intervention Foundation , yn traddodi darlith dan y teitl “ Early Intervention - why leave it so late? ” nos Fawrth 6 Chwefror 2018 am 6pm yn Narlithfa Eric Sunderland (Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau), Prifysgol Bangor. Hon yw Darlith Goffa Flynyddol Anne Marie Jones 2018 a drefnir eleni gan Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant, a leolir ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n ddarlith gyhoeddus sy’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018
Tystiolaeth newydd o newid hinsawdd yng ngogledd ddwyrain Affrica yn cefnogi dyddiad cynnar ymwasgariad cyntaf bodau dynol allan o’r cyfandir
Mae tarddiad gwreiddiol bodau dynol, homo sapiens, a'i ymfudiadau dilynol, yn ffynhonnell gyson o drafod ymysg ymchwilwyr y maes. Y consensws a sefydlwyd eisoes yw ein bod wedi tarddu o gyfandir Affrica, nepell o Ddyffryn Hollt Dwyrain Affrica, ac yna wedi ymfudo o’r cyfandir o ddeutu 70,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond mae llu o ymchwilwyr yn cynnig yn wahanol; gydag ambell i dystiolaeth enetigol yn cynnig dyddiad llawer yn gynharach – sef tua 120,000 i 130,000 o flynyddoedd yn ôl. Ond o fewn y maes, nid oes fawr o dystiolaeth uniongyrchol o’r hinsawdd yn y rhan yma o’r byd dros y cyfnodau hyn; ond mae cydnabyddiaeth eang fod hinsawdd yn effeithio ar batrymau ymfudo bodau dynol. Mae ymchwil newydd wedi cael ei gyhoeddi yn Scientific Reports sydd a’i nod o ddatrys y diffyg gwybodaeth hinsoddol yma.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2018
Project ymchwil i archwilio effeithiau ystadau ar gymunedau Dyffryn Ogwen
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn grant o £10,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i weithio gyda chymunedau yn Nyffryn Ogwen yng Ngwynedd i edrych ar fywydau a phrofiadau'r cenedlaethau hynny o bobl a fu'n byw a gweithio ar ystâd y Penrhyn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018
Mae datblygiadau diweddar mewn deall gallu cwrel i wrthsefyll tymheredd yn wyneb y môr yn elfen hanfodol o ymdrechion byd-eang i ddiogelu riffiau cwrel.
Mae adolygiad o’r llenyddiaeth yn pwyntio tuag at bwysigrwydd lleihau allyriadau carbon deuocsid byd-eang, yn ogystal â gwarchod neu gynyddu dulliau gwrthsefyll yn wyneb achosion cynyddol o effeithiau newid hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018
Penodi Llysgenhadon newydd i’r Coleg Cymraeg
Mae’r Coleg Cymraeg wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2018 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018
Manon Wyn Williams wedi ei henwebu fel y Dramodydd Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru
Nos Sadwrn, 27 Ionawr, cynhelir Seremoni Gwobrau Theatr Cymru 2018 yng Nghanolfan Glan yr Afon, Casnewydd. Mae Gwobrau Theatr Cymru yn ‘adnabod rhagoriaeth yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru a rôl beirniadaeth gelfyddydol’.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018
Hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE i Brifysgol Bangor
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, heddiw [18.01.18] y bydd cyfleuster gwyddonol heb ei ail yn cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor yn sgil hwb ariannol gwerth £5 miliwn gan yr UE. Bydd y cyllid yn helpu i greu'r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a fydd yn golygu bod y Brifysgol ar flaen y gad ym maes ymchwil ynghylch sut y mae modd defnyddio deunyddiau naturiol o fewn cynhyrchion a phrosesau diwydiannol. Bydd y buddsoddiad yn galluogi'r Brifysgol i weithio ar brosiectau ymchwil a datblygu ar raddfa fawr gyda busnesau byd eang mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, fferylliaeth, ynni a gweithgynhyrchu.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cynyddu'r risg o salwch meddwl, ond gall cymorth cymunedol gynnig diogelwch
Mae pobl sydd wedi dioddef cam-drin, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod (ACEs) fel byw gyda thrais domestig yn ystod eu plentyndod yn wynebu risg uwch o lawer o salwch meddwl drwy gydol eu hoes. Cafodd canfyddiadau o astudiaeth genedlaethol newydd ledled Cymru fod oedolion a oedd wedi dioddef pedwar neu fwy o fathau o ACE bron 10 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi teimlo eu bod eisiau lladd eu hunain neu wedi hunan-niweidio o gymharu â'r rhai nad oedd wedi cael unrhyw brofiadau ACE.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2018
Trafod cydweithio rhwng Prifysgol a’r diwydiannau creadigol
Bydd unigolion sydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol ledled Gogledd Cymru yn dod ynghyd ag arbenigwyr o Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau Prifysgol Bangor ddydd Gwener 19 Ionawr ar gyfer Tu Hwnt i’r Ffiniau, sy’n weithdy newydd ar gyfer y ddwy garfan. Bydd y digwyddiad rhwydweithio cyntaf hwn rhwng y darlithwyr, yr ymchwilwyr ac aelodau Gogledd Creadigol, yn gyfle i’r Ysgol gydweithio’n agosach gyda chwmnïau ac ymarferwyr yn y meysydd creadigol, ac i drafod cyfleoedd i gyd-weithio yn y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018
Ffrindiau’n casglu degau o filoedd i gynorthwyo Dr Sophie Williams i ddychwel adref
Gŵyl jin, taith noddedig i fyny’r Wyddfa, cardiau Nadolig wedi’u dylunio’n arbennig a digwyddiad eillio gwallt: dim ond rhai o’r digwyddiadau codi arian sydd wedi eu cynnal gan gyfeillion a theulu Sophie Williams yn ystod y misoedd diwethaf. Mae angen yr arian er mwyn addasu cartref Sophie i’w galluogi i symud o gwmpas y tŷ mewn cadair olwyn ac i roi lle i’r gofalwyr sydd eu hangen arni 24 awr y dydd. Dioddefodd Sophie, a oedd yn ddarlithwraig ym Mhrifysgol Bangor, niwed i’w hymennydd tra ar waith maes yn Tsieina yn 2015. Mae ganddi gyfyngiad ar ei symudiadau o’i gwddf i lawr ac mae hi’n ddibynnol ar beiriant anadlu. Mae disgwyl i’r gwaith i’w chartref yn Sling, ger Tregarth, gostio oddeutu £60,000.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018
‘Cwffio achos’ y Celfyddydau
Mae gwaith Sioned Young yn dalcen caled ond yn un sy’n dod â “phleser mawr” iddi hefyd. Mae’r ferch o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ynghanol interniaeth deng mis gyda chwmni Celfyddydau a Busnes Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau ac Arloesi Pontio , ym Mhrifysgol Bangor, yn chwilio am ffyrdd newydd o godi arian i’r celfyddydau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2018
Beyond Borders
Mewn cydweithrediad â Gogledd Creadigol, mae’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad rhwydweithio yn Pontio ar Ionawr 19eg o'r enw Tu Hwnt i’r Ffiniau .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2018
What supplements do scientists use, and why?
Dyma erthygl yn Saesneg gyda chyfraniad gan Simon Bishop o’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2018
HEFCW Annual General Public Meeting
Mae'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn eich gwahodd i’w Cyfarfod Cyhoeddus Blynyddol 2017-18 Dydd Iau, 25 Ionawr 2018 ym Mhrifysgol Bangor o 12:30 tan 13:30 (tê a choffi o 12:00).
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2018
You are more likely to deny the truth in your second language
Dyma erthygl yn Saesneg gan Manon Jones O'r Ysgol Seicoleg a Ceri Ellis o Brifysgol Manceinion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018
'Cyfnewid' anffurfiol rhwng Cymru a Ghana
Fe gafodd Iola Mair Morris brofiad i’w gofio, diolch i’w chwrs ym Mangor. Fe fu’r ferch o’r Bala, sydd ar ei thrydedd flwyddyn ar y cwrs nyrsio anabledd dysgu, ar ymweliad pythefnos â Ghana yng ngorllewin Affrica. Hyd yn oed ym Mangor, mae Iola Morris yn gallu trafod Ghana ... mae un o fyfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn nyrs gofrestredig o’r wlad.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018
Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Pob blwyddyn, bydd Prifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr sydd yn ddawnus mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd mewn unrhyw bwnc. Dyfernir yr Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a llwyddiant mewn chwaraeon.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018
Is fishing with electricity less destructive than digging up the seabed with beam trawlers?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Michel Kaiser o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ionawr 2018
Y darlledwr Miranda Krestovnikoff yn cyflwyno 'A whistle-stop tour around the coast'
Bydd y cyflwynydd teledu Miranda Krestovnikoff yn rhoi ‘A whistle-stop tour around the coast’ mewn darlith gyhoeddus arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 31 Ionawr am 5.30pm yn Ystafell Ddarlithio 5 Pontio. Mae’r ddarlith am ddim ac mae croeso i bawb, ond mae angen tocynnau. Gellir archebu'r rhain drwy wefan Pontio neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01248 382828.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2018
2018 must be the year that we reimagine judicial diversity
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2018
Gwyddonwyr yn galw am weithredu i fynd i'r afael â bygythiad rhywogaeth coed ymledol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang
n ôl ymchwil newydd ar y cyd rhwng Landcare Research yn Seland Newydd, Prifysgolion Caergrawnt a Denver, a Phrifysgol Bangor, mae coeden ymwthiol sy'n frodorol i Awstralia yn awr yn achosi bygythiad difrifol i fan pwysig mewn bioamrywiaeth byd-eang. Plannwyd y rhywogaeth hon, Pittosporum undulatum , a elwir yn oren ffug yn lleol, mewn gardd fotaneg yn y Blue Mountains yn Jamaica yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel mae'r enw lleol yn ei awgrymu, mae gan y goeden hon, sy'n tyfu'n gyflym a chyda dail sgleiniog, ffrwyth oren llachar yn cynnwys llawer o hadau bychain wedi'u gorchuddio â haen ludiog siwgwraidd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2018