Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ebrill 2020
Bydd byd gwaith yn newid am byth oherwydd yr argyfwng coronafirws
Cyngor busnes Dr Edward Jones i oroesi'r pandemig
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2020
Cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor yn ystod cyfyngiadau symud cyfredol COVID-19
Mae cyfyngiadau symud cyfredol COVID-19 wedi rhoi terfyn ar ddysgu wyneb yn wyneb mewn Prifysgolion. Mae cyrsiau dylunio wedi canslo digwyddiadau fel Sioeau Gradd Dylunio, ac mae Prifysgol Bangor hefyd wedi canslo Cynhadledd Ddylunio flynyddol hynod Bangor i fyfyrwyr y graddau BSc Dylunio Cynnyrch a'r MSc Dylunio ac Arloesi, sy'n dod ag arbenigwyr o'r diwydiant a myfyrwyr ynghyd. Golygai hynny fod y myfyrwyr yn colli allan ar elfen allweddol o brofiad y myfyrwyr a'r dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2020
Academyddion Prifysgol Bangor yn cael eu hanrhydeddu gan Academi Cymru
Mae tri o academyddion Prifysgol Bangor ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Maen nhw’n ymuno â 40 o Gymrodyr newydd eraill, sydd oll yn rhannu cyswllt â Chymru, ei phrifysgolion neu ei bywyd deallusol, gan gynrychioli pob arbenigedd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2020
Rhwyfwr yn ennill ysgoloriaeth ryngwladol a gwobr gan y brifysgol
Bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor sydd wedi ennill ysgoloriaeth rwyfo mewn cystadleuaeth fyd-eang i astudio yn UDA hefyd yn derbyn prif wobr chwaraeon y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2020
Syr John Houghton
Rydym ni ym Mhrifysgol Bangor wedi ein tristau o glywed am farwolaeth y gwyddonydd hinsawdd byd-enwog Syr John Houghton. Chwaraeodd Syr John ran allweddol yn sefydlu Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (IPCC) a bu’n gyd-gadeirydd gweithgor asesu gwyddonol y sefydliad rhwng 1988-2002.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2020
Diwrnod Cenedlaethol DNA 2020
Mae Diwrnod Cenedlaethol DNA (25/4/20) yn codi ymwybyddiaeth ynghylch darganfod helics dwbl DNA gan James Watson a Francis Crick ym 1953 a chwblhau’r Prosiect Genom Dynol yn llwyddiannus yn 2003. Nod Diwrnod Cenedlaethol DNA yw cynnig cyfle i fyfyrwyr, athrawon a'r cyhoedd ddysgu am y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil genomig a'u dathlu ac archwilio sut mae'r datblygiadau hynny'n effeithio ar eu bywydau.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2020
Primatolegwyr Bangor yn trydar yn fyw am gyfres arloesol y BBC “Primates"
Mae primatolegwyr Prifysgol Bangor yn disgwyl yn eiddgar am lansiad cyfres nodedig y BBC, gan y byddant yn trydar yn fyw o'u cartrefi yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud. Cafodd y rhaglenni bywyd gwyllt newydd eu ffilmio dros 2 flynedd gan uned astudiaethau natur y BBC a'r nod yw bwrw goleuni newydd ar fywydau ein perthnasau agosaf o bob cwr o'r byd, yn ogystal ag ar yr heriau cadwraeth sy'n eu hwynebu. I ddathlu'r gyfres newydd hon a rhannu eu hangerdd am brimatiaid, bydd tri phrimatolegydd o Ysgol Gwyddorau Naturiol yn trydar yn fyw am y gyfres wrth iddi gael ei darlledu ar BBC One dros y tair wythnos nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2020
Y brifysgol wedi ei rhestru ymhlith 70 o sefydliadau ledled y byd sy'n gweithio tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig
Heddiw (22 Ebrill 2020) mae Prifysgol Bangor wedi'i rhestru ymhlith 70 o brifysgolion ledled y byd sy'n gweithio tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o bwys i'r sefydliad o Ogledd Cymru sy'n gweithio tuag at fod yn 'Brifysgol Gynaliadwy'. Y brifysgol yw'r unig sefydliad o Gymru ar y rhestr, ac mae ymhlith 15 o brifysgolion eraill o'r Deyrnas Unedig sydd yn y 70 uchaf. Y Brifysgol yw’r unig sefydliad o Gymru i'w chynnwys o blith y 15 o’r DU yn 70 sydd ymysg y 70 uchaf yn y byd, sef categori’r Cynghrair effaith ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2020
'Earth Day' 2020
Mae ‘Earth Day’ yn dathlu ei phen blwydd yn 50 heddiw. Bydd unigolion a sefydliadau o bob rhan o'r byd yn dathlu ‘Earth Day’ yn flynyddol ar 22 Ebrill, gan gymryd rhan mewn digwyddiadau i greu amgylchedd iachach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2020
Rownd derfynol UBC Global Masters 2019-20
Llongyfarchiadau i Raja Asad a ddaeth yn chweched yn rownd derfynol y gystadleuaeth UBC Global Masters 2019-20 a gynhaliwyd fel digwyddiad rhithwir ddydd Iau 2 Ebrill 2020.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2020
Monkey teeth fossils hint several extinct species crossed the Atlantic
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2020
Chwe ffilm allweddol i wylio dros y Pasg
Caiff dwy ŵyl grefyddol, Pasg yr Iddewon a gŵyl Gristnogol y Pasg eu dathlu dros yr wythnos nesaf, felly dyma chwe ffilm allweddol (tair wedi’u hysbrydoli gan yr Hen Destament a thair gan y Testament Newydd) y mae Nathan Abrams, Athro Ffilm yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau, yn eu hargymell fel ffilmiau i'w gwylio dros gyfnod y gwyliau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2020
Ailenwi ysbytai dros dro Gogledd Cymru ar ôl y symbol o obaith sydd wedi diffinio argyfwng COVID-19
Datganiad gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Mae'r tri ysbyty dros dro yng Ngogledd Cymru wedi'u hailenwi ar ôl y symbol o obaith ar ffurf enfys sydd wedi dod yn gyfystyr ag ymateb y rhanbarth i achosion COVID-19. Mae'r ysbytai dros dro yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Venue Cymru Llandudno, a Phrifysgol Bangor wedi'u hailenwi'n Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, Ysbyty Enfys Llandudno, ac Ysbyty Enfys Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ebrill 2020
Wyth ffilm i’w gwylio am garcharu a dianc.
A ninnau’n cadw pellter cymdeithasol ac yn aros yn ein cartrefi, dyma restr o wyth ffilm i'ch hysbrydoli, yn eich caethiwed! Gofynnon ni i Nathan Abrams, Athro Ffilm yn yr Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau awgrymu ffilmiau am garchar a chaethiwed… a braf yw cael dweud bod diweddglo hapus i bob un!
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2020
Prifysgol Bangor yn cyfrannu at ymchwil fyd-eang i COVID-19
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â'r frwydr fyd-eang yn erbyn y pandemig COVID-19. Bydd grŵp o academyddion blaenllaw yn rhannu eu harbenigedd i ddatblygu ffyrdd newydd o fonitro'n dorfol lefelau SARS-Cov-2, y firws sy'n achosi'r afiechyd a elwir yn COVID-19.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2020
Taith maes rhithiol i fyfyrwyr gwlyptir Bangor
Er gwaethaf y cyfyngiadau symud ar draws y wlad, llwyddodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor fynd ar daith maes o amgylch Ynys Môn yn ddiweddar. Ni thorrwyd unrhyw reolau ar bellhau cymdeithasol serch hynny am i'r daith maes gael ei chynnal yn rhithiol fel rhan o gamau'r brifysgol i symud at addysgu ar-lein dros gyfnod y coronafirws. Roedd y 'daith maes rhithiol' yn rhan o fodiwl trydedd flwyddyn yn Ysgol y Gwyddorau Naturio l, a drefnwyd gan yr Uwch Ddarlithydd Dr Christian Dunn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2020
Prifysgol Bangor i gynnig 250 o welyau ysbytai dros dro i gleifion COVID-19
Caiff cyfleusterau chwaraeon a hamdden Prifysgol Bangor eu troi'n ysbyty dros dro er mwyn darparu gwelyau ar gyfer cleifion sydd â symptomau COVID-19. Bydd rhyw 250 o welyau ychwanegol ar gael i'r GIG yng Nghanolfan Brailsford fel rhan o'r bartneriaeth rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2020
Prifysgol Bangor yn ymateb i'r her
Mae Prifysgol Bangor yn gwneud nifer o wahanol bethau i helpu’r Gwasanaeth Iechyd a’r gymuned leol ymateb i'r argyfwng Coronafeirws ar hyn o bryd. Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Iwan Davies: “Mae hyn yn gyfnod anodd dros ben, ac yn ogystal â pharhau i addysgu myfyrwyr dros y wê, rydym wedi bod yn ymateb yn uniongyrchol i gefnogi’r rheng flaen wth iddynt ddelio â’r argyfwng.”
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2020
Pwer Pobl ar gyfer PPE
Mae'r gymuned, y sector gyhoeddus a busnesau wedi dod at ei gilydd yng Ngogledd Cymru er mwyn creu a dosbarthu tariannau fisor am ddim i staff meddygol a gofalwyr. Ddydd Gwener (27ain o Fawrth 2020) penderfynodd grŵp bach gychwyn ar brosiect i ddylunio, argraffu, cydosod a darparu Fisors Diogelwch i'r GIG, gan drafod gyda uwch staff meddygol. Cafodd dyluniad ei greu, ei gymeradwyo gan feddygon, a'i ddosbarthu i'r gymuned dechnoleg i’w gynhyrchu o fewn diwrnod a dechreuodd pobl argraffu.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2020