Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ebrill 2014
Llwyddiant Myfyrwyr Mentrus Bangor yng Nghystadleuaeth FLUX
Daeth tîm o Brifysgol Bangor yn ail drwy Brydain yn y Gystadleuaeth FLUX bwysig a gynhaliwyd yn ddiweddar. Hon yw'r gystadleuaeth entrepreneuriaeth fwyaf yn y sector addysg uwch. Gosodwyd eu her iddynt gan Costain, grŵp adeiladu a pheirianneg rhyngwladol, gyda'r bwriad o roi prawf ar eu sgiliau busnes a masnachol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014
Troi caeau gwartheg yn goedwigoedd
Yn ôl papur sydd newydd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, Nature Climate Change , mae troi caeau gwartheg yn goedwigoedd yn ffordd rad o fynd i'r afael â newid hinsawdd ac arbed rhywogaethau sy'n wynebu difodiant. Fe wnaeth ymchwilwyr wneud arolwg o stociau carbon, bioamrywiaeth a gwerthoedd economaidd o un o'r ecosystemau sydd dan fwyaf o fygythiad yn y byd, sef gorllewin yr Andes yn Colombia.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Ebrill 2014
Barcutiaid Tsieineaidd dros Dreborth
Ddydd Sul, 4 Mai, cynhelir ail Ŵyl Barcutiaid Tsieineaidd Bangor yng Ngardd Fotaneg Treborth. Bydd yn brynhawn lliwgar o hwyl i'r teulu yng ngerddi hyfryd Treborth a threfnir yr achlysur gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor. Mae'r Ŵyl Farcutiaid eleni'n ddilyniant i'r digwyddiad hynod lwyddiannus a drefnwyd gan Sefydliad Confucius fis Medi diwethaf, pan gymerodd cannoedd o bobl o Ogledd Cymru ran mewn gweithdai paentio barcutiaid Tsieineaidd ac yna rhoi cynnig ar eu hedfan mewn gwahanol fannau ar draws y rhanbarth.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2014
Yn ddiweddar bu i'r myfyriwr a'r aelod staff roi cyflwyniad yn y gynhadledd ryngwladol, City Margins, City Memories
Yn ddiweddar bu i'r myfyriwr, Dan Phillips, a'r aelod staff, Lucy Huskinson, roi cyflwyniad yn y gynhadledd ryngwladol, City Margins, City Memories.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2014
Noson gyda'r ddwy Ddraig
Bydd Cymru’n cwrdd â Tsieina am noson lawn ysbrydoliaeth o berfformio traws-ddiwylliannol wrth i gerddorion o Shanghai a Gwynedd baratoi ar gyfer cyngerdd arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Iau 1 Mai.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2014
Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mangor yn cyfrannu at adfer a thrawsnewid tir wedi ei ddiraddio yn Indonesia
Mewn partneriaeth rhwng prifysgolion a sefydliadau masnachol yn Indonesia a'r Deyrnas Unedig, mae Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill grant o £10,000 gan y Cyngor Prydeinig yn Indonesia i gyllido projectau ymchwil newydd fydd yn helpu i droi hen byllau mwyngloddio yn ôl yn dir cynhyrchiol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2014
Adnodd newydd ym Mhrifysgol Bangor i bawb sy’n ymchwilio i hanes eu teulu
Gall unrhyw un sy’n ymchwilio i hanes eu teulu gael mynediad at gronfa ddata helaeth o gofnodion yn Archifau Prifysgol Bangor Diolch i roddion hael gan gyn-fyfyrwyr y brifysgol, mae Cronfa Bangor wedi rhoi arian i Lyfrgell ac Archifau’r Brifysgol brynu mynediad at gronfa ddata ar-lein sy’n rhoi mynediad am ddim i dros 1.5 biliwn o gofnodion am hanes teuluoedd. Mae’r cofnodion yn cynnwys manylion am enedigaethau, marwolaethau a phriodasau, llyfrau cofnodion plwyf, cofnodion milwrol a rhestrau teithwyr ar longau.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2014
Leah yn ennill gwobr
Pan darodd Leah Jones o’r Rhyl ar draws wefan Llyfrgell Farddoniaeth y DU, sylweddolodd ei bod yn cynnig y cyfle perffaith i gyflwyno cerdd yr oedd hi’n arbennig o falch ohoni.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2014
Trydedd Ddarlith Gymreig Flynyddol Cymdeithas Astudiaethau'r Dadeni
Mae Ysgol y Saesneg yn falch iawn o gael croesawu Trydedd Ddarlith Gymreig Flynyddol Cymdeithas Astudiaethau'r Dadeni ddydd Iau 24 Ebrill 2014 am 5.15 pm ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Fe'i traddodir gan yr Athro Jennifer Richards (Prifysgol Newcastle) a’r Athro Richard Wistreich (Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd) ar destun 'Lleisiau'r Dadeni'.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2014
Darlithwyr yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae dau ddarlithydd o Brifysgol Bangor yn cael eu hethol yn Gymrodyr o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Yr wythnos yma cyhoeddodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ganlyniadau Etholiad 2014 am Gymrodyr newydd. O’r pedwar deg a thri o Gymrodyr newydd eleni, roedd dau o Brifysgol Bangor - Yr Athro James Scourse o’r Ysgol Gwyddorau Eigion a’r Athro Nigel John o’r Ysgol Gyfrifiadureg.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2014
‘Yr UE a Chyfraith Ryngwladol’: Bangor yn croesawu'r Athro James Crawford i Ddarlith Flynyddol y Gyfraith 2014
Eleni, trefnwyd Darlith Flynyddol Ysgolion y Gyfraith Cymru 2014 gan yr Athro Suzannah Linton yn Ysgol y Gyfraith Bangor. Roedd yn fraint fawr i Fangor groesawu'r Athro James Crawford, A.C., S.C., F.B.A. Mae'r Athro Crawford wedi bod yn Athro Cyfraith Ryngwladol Whewell ym Mhrifysgol Caergrawnt ers 1992, ac mae'n un o gyfreithwyr rhyngwladol mwyaf nodedig y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014
Darlithydd yn trydar i helpu disgyblion astudio
Mae darlithydd o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor yn paratoi i ddefnyddio Twitter fel adnodd adolygu ar gyfer disgyblion chweched dosbarth. Fel rhan o raglen o waith er mwyn pontio'r bwlch rhwng ysgolion ac astudio Cymdeithaseg yn y Brifysgol, bydd Cynog Prys, Cymdeithasegydd sy’n arbenigo yn y defnydd o Gymraeg ar lein, yn cyflwyno cyngor adolygu o’r cyfrif Twitter @CymdeithasegUG yn ystod y tair wythnos cyn arholiadau lefel A yr haf yma.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014
Tîm Pêl-Rwyd Iau Maes Glas yn mynd i’r Pencampwriaethau Cenedlaethol
Yn dilyn agoriad dôm pêl-rwyd Prifysgol Bangor ym Medi 2013, bu Swyddog Datblygu Pêl-Rwyd Gogledd Orllewin Cymru, Lucy Murray-Williams, yn gweithio’n galed i sefydlu clwb pêl-rwyd iau ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7/8 a 9.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2014
Gwaith Celf un o Fyfyrwyr Celfyddyd Gain Dysgu Gydol Oes yw "Ffefryn y Cyhoedd"
Yn arddangosfa ddiweddar y Printmakers Council, ‘Freshly Pressed’, yn Craft Central, St John Smith’s Square, Llundain, y print mwyaf poblogaidd gan y cyhoedd oedd 'Aleppo' (torlun leino) o waith Jess Bugler, myfyriwr BA Anrhydedd Celfyddyd Gain yn Dysgu Gydol Oes.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2014
Gweddnewid canolfan chwaraeon Prifysgol Bangor
Yn dilyn gwaith uwchraddio gwerth £2.5m bydd canolfan chwaraeon Prifysgol Bangor yn cael ei hailenwi'n Ganolfan Brailsford i anrhydeddu'r hyfforddwr beicio, Syr Dave Brailsford, a fagwyd ym mhentref Deiniolen gerllaw.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2014
Coroni Bangor yn bencampwyr Cymru mewn Cystadleuaeth Llys Barn Ffug
Am y tro cyntaf mae tîm o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi ennill y Gystadleuaeth Llys Barn Ffug flynyddol Gymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2014
Ymgeisydd PhD yn Ysgol Busnes Bangor wedi ei ddewis i wneud interniaeth ym Manc Lloegr
Dewiswyd Piotr Jan Danisewicz, myfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Bangor , i ddilyn rhaglen interniaeth boblogaidd ym Manc Lloegr. Bydd Piotr, sydd yn nhrydedd flwyddyn ei astudiaethau PhD, yn dechrau ei interniaeth ar ddechrau'r haf am gyfnod o dri mis. Bydd cymryd rhan yn y rhaglen interniaeth gystadleuol iawn hon yn golygu y gall cydweithio gydag economegwyr ymchwil ym Manc Lloegr yn eu Cyfarwyddiaeth Sefydlogrwydd Ariannol ar broject am yr effeithiau rhyngwladol a gaiff ymddygiad benthyca banciau.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ebrill 2014
Angen tystiolaeth gadarn - gwyddonwyr yn mynnu bod angen mwy o wybodaeth cyn gwneud rhagor o benderfyniadau cadwraethol yn Awstralia
Dadleuwyd a ddylid mynd ati'n fwriadol i ddifa dingos, ac i ba raddau y maent yn ddefnyddiol wrth ddiogelu anifeiliaid llai sydd o dan fygythiad trwy hela cathod mawr a llwynogod. Tra bod gwasanaethau bywyd gwyllt Awstralia yn gwario miloedd ar ffyrdd eraill o reoli rhywogaethau anfrodorol, heb gael canlyniadau boddhaol, ceir tystiolaeth bod cynnal niferoedd y dingo o fudd i famaliaid llai. Mae gan y wlad bolisi difa a gwenwyno sy'n gwneud i gynllun difa moch daear y DU edrych yn ddigon diniwed. Mae papur yn y Journal of Applied Ecology yn annog pawb sydd wedi bod yn rhan o'r ddadl hon, sydd wedi bod yn boeth iawn ar brydiau, i roi eu gwahaniaethau barn o'r neilltu a mynd allan i'r maes eto i gasglu'r data cadarn sydd eu hangen i greu sylfaen gadarn ar gyfer camau rheoli.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2014
Mae gwyddau'n rhedeg yn ein helpu i ddeall sut mae goddef lefelau ocsigen isel.
Bu tîm o wyddonwyr rhyngwladol, dan arweiniad Prifysgol Bangor a dan nawdd y BBSRC, wrthi'n ddiweddar yn olrhain llwybr yr aderyn sydd yn hedfan uchaf yn y byd, sef yr ŵydd benrhesog, wrth iddi fudo ar draws mynyddoedd yr Himalaya. Erbyn hyn maent wedi dangos sut y gall yr adar hyn oddef rhedeg yn gyflym iawn tra'n anadlu aer sy'n cynnwys dim ond 7% o ocsigen.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014
Myfyrwyr yn trefnu Cynhadledd Cymru a Rhyfel 1914 - 2014
Heddiw (8 Ebrill 2014) mae tri myfyriwr ôl-radd o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd a fydd yn rhoi golwg newydd ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Gymru ar y pryd ac ar ôl hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014
Gwe-Sgyrsiau gydag Aelodau'r Cynulliad
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr a phrentisiaid i gymryd rhan mewn gwe-sgwrs gydag Aelodau’r Cynulliad ynglyn â Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru. Rydym am glywed eich barn ynglyn ag a ydych yn credu bod digon yn cael ei wneud i annog pobl ifanc i ddilyn cyrsiau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Hoffem hefyd glywed eich barn ynglyn ag a yw’r cyrsiau hyn yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau gofynnol ar gyfer gyrfa yn y meysydd hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Ebrill 2014
Codwr pwysau ifanc yn cipio’r gwobrau
Gwta flwyddyn ers iddi ddechrau ar godi pwysau, mae merch leol wedi bod yn ennill cystadlaethau cenedlaethol. Bu Catrin Jones yn fuddugol yn ddiweddar yng Nghystadleuaeth Pencampwriaethau Codi Pwysau Ysgolion Cymru yn Hwlffordd, gan ennill categori disgyblion Blwyddyn 10, yn y dosbarth o dan 44kg. Yn dilyn hyn, aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth Ysgolion ac Ieuenctid Prydain yng nghategori disgyblion blwyddyn 10, yn y dosbarth o dan 40kg. Nid yn unig yr enillodd Catrin, ond llwydodd hefyd i dorri record Cymru ar gyfer y dosbarth hwn o 38kg yn y broses, gyda chyfanswm codi o 90kg.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2014
Cynghrair Meddalwedd Cymru'n cyflwyno EXPO Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor
Bu Cynghrair Meddalwedd Cymru a Phrifysgol Bangor yn cyflwyno EXPO Cyfrifiadureg yn ddiweddar. Yn ystod y digwyddiad roedd 50 o israddedigion cyfrifiadureg gorau Bangor yn cyflwyno prosiectau eu blwyddon derfynol i SMEs lleol a allai fod yn bwriadu recriwtio graddedigion TG ar gyfer eu busnesau.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014
Dathlu llwyddiant yn wyneb anawsterau lu
Fe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Bangor, a gafodd help llaw gan yr Helena Kennedy Foundation, gymryd rhan mewn dathliad arbennig yn Nhŷ'r Arglwyddi'n ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014
Cymru ar flaen y gad mewn Ymchwilio i Gymdeithas Sifil - Sefydliad ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael £7 miliwn ar gyfer ymchwil gwyddorau cymdeithasol
Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael dros £7 miliwn yn dilyn cais llwyddiannus i’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014
Bangor yn arwain prosiect arloesol i drawsnewid addysg cyfraith cyfrwng Cymraeg
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill grant strategol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i arwain prosiect traws-sefydliad cyffrous. Y bwriad yw paratoi cyfres o werslyfrau pynciol Cymraeg eu hiaith ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio’r Gyfraith ym mhrifysgolion Cymru, a hynny gan arbenigwyr cydnabyddedig yn y meysydd perthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2014
Cynlluniau Prifysgol Bangor i fuddsoddi yn y campws ac ehangu yn cael cefnogaeth o £45M gan yr European Investment Bank
Mae cynlluniau gan Brifysgol Bangor i uwchraddio cyfleusterau dysgu ac ymchwil ymysg y datblygiadau niferus sydd wedi cael cefnogaeth gan yr European Investment Bank. Mae sefydliad benthyca hir-dymor Ewrop wedi cytuno i ddarparu £45 miliwn ar gyfer cynlluniau ehangu a moderneiddio'r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2014
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn gwneud y rhyngrwyd yn lle diogelach
Mewn hacathon a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Southampton fe wnaeth myfyriwr o Brifysgol Bangor ennill y dosbarth 'Hac Gorau'.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2014
Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn bwriadu creu nofel wedi ei darlunio
Mae cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn gobeithio bydd y gymuned leol yn cefnogi ei ymdrechion i gyhoeddi nofel wedi ei darlunio fer cyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2014
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2014