Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mawrth 2014
Santander yn gwobrwyo syniadau busnes myfyrwyr
Cynhaliodd Prifysgol Bangor rowndiau terfynol cam cyntaf Cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Santander yn ddiweddar. Ar y diwrnod, cyflwynodd pump o fyfyrwyr israddedig a phum myfyriwr ôl-radd eu syniadau i banel o feirniaid, a oedd yn cynnwys Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes, gan obeithio mynd ymlaen i gynrychioli Bangor yn rowndiau terfynol cystadleuaeth genedlaethol Santander ym mis Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2014
BEACON yn ennill gwobr fawreddog RegioStars y Comisiwn Ewropeaidd
Dyfarnwyd gwobr fawreddog RegioStars y Comisiwn Ewropeaidd 2014 i Ganolfan Ragoriaeth Bioburo BEACON , partneriaeth ymchwil arloesol o Gymru sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch diwydiannol o blanhigion er mwyn lleihau dibyniaeth ar adnoddau ffosil megis glo a nwy.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2014
'Dydw i ddim yn gwisgo gemwaith': Sut mae disgyblion byddar yn cael eu gwthio i'r ymylon yn ein hysgolion
Ar ddechrau mis Ebrill, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal cynhadledd undydd ar gyfer unigolion sydd â nam ar eu clyw a'u teuluoedd. Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn, 5 Ebrill o 10.00 a.m. hyd 3.30 p.m. yn Neuadd Powis, Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2014
Myfyrwyr Bangor yn ennill gwobrau UCM Cymru
Nid yn unig fod Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ennill categorïau Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn ac Aelod Staff y Flwyddyn yn Noson Wobrwyo flynyddol UCM Cymru eleni ond fe wnaethant hefyd ennill Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2014
Llysieufa unigryw i hyfforddi cadwraethwyr planhigion y dyfodol
Un o'r adnoddau sydd i'w darparu i fyfyrwyr yn astudio cwrs newydd mewn cadwraeth planhigion ym Mhrifysgol Bangor yw 'llysieufa' unigryw, sef llyfrgell gyfeiriadol o blanhigion, yn cynnwys rhai samplau a gasglwyd mor bell yn ôl a'r ddeunawfed ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2014
Enwi darlithydd o Fangor yn un o’r goreuon ym Mhrydain
Llongyfarchiadau i Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith, am gyrraedd rownd derfynol yng nghystadleuaeth OUP ar gyfer Athro Cyfraith y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2014
Project ymchwil newydd yn rhoi sylw i flaenoriaethau cenedlaethol wrth ymladd bygythiad clefydau coed
Mae clefydau newydd yn risg arwyddocaol i iechyd coed a bioddiogelwch planhigion. Mae Cynghorau Ymchwil Llywodraeth y DU, DEFRA, y Comisiwn Coedwigaeth a Llywodraeth yr Alban wrthi’n buddsoddi £7M ar y cyd i gyllido saith project newydd mewn ymgais i ymdrin â’r bygythiadau a ddaw i goedwigoedd, coedlannau a choed yn y DU. Mae Prifysgol Bangor yn bartner yn un o’r projectau hyn, gan gydweithredu â Phrifysgolion Stirling a Chaergrawnt a’r Asiantaeth Ymchwil Coedwigaeth. Bydd y project, sy’n dwyn y teitl “ Modelling economic impact and strategies to increase resilience against tree disease outbreaks”, yn rhoi sylw i “the protection and enhancement of public benefits, including biodiversity and ecosystem services (…) building resilience in woodlands, and wider landscapes ”, sef y prif argymhellion sydd newydd gael eu cyflwyno’n benodol gan Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Bydd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at alwad y Pwyllgor am waith ymchwil a datblygu tymor hir sy’n canolbwyntio ar baratoi ar gyfer bygythiadau yn y dyfodol i iechyd planhigion, er mwyn sicrhau ymateb effeithiol yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2014
Athro ymysg 28 o wyddonwyr cymdeithas blaenllaw i dderbyn teitl Academydd
Mae Bob Woods, Athro Seicoleg Glinigol Pobl Hŷn ym Mhrifysgol Bangor, yn un o 28 o wyddonwyr cymdeithas blaenllaw i dderbyn teitl Academydd o fewn yr Academi Gwyddorau Cymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2014
Ffenomen #HunlunDigolur
Mae seicolegydd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gyfareddu gan y ffenomen #nomakeupselfie (#hunlundigolur) a welwyd yn cael cymaint o sylw'r wythnos hon ar gyfryngau cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2014
CITCOM: Dinasyddiaeth a Chymuned
....cynhaliwyd diwrnod o gyfarfodydd bord gron gyda chymunedau gwledig lle buwyd yn egluro ac yn trafod y problemau a wynebir ac yn chwilio am atebion tebygol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014
Y Brifysgol yn cofio’r Cymru a ddyfeisiodd yr anadlennydd
Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ymweliad â Phrifysgol Bangor ddydd Iau, 27 Mawrth, i ddathlu bywyd a gwaith Dr Tom Parry Jones OBE, sef un o wyddonwyr ac entrepreneuriaid Cymru sydd wedi cael cydnabyddiaeth ar raddfa ryngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014
Ymchwil newydd yn dangos sut y gall rheoli maetholion wella proffidioldeb ffermydd ac effeithiau amaethyddiaeth ar yr amgylchedd
Mae cynnydd mawr ym mhris gwrteithiau a phwysau ar y diwydiant amaeth i leihau ei gyfraniad i lygredd dŵr yn golygu nad yw gwneud y defnydd gorau o faetholion erioed wedi bod yn bwysicach. Ar hyn y canolbwyntiodd ymchwil a wnaed ar ffermydd ar draws Conwy gan wyddonwyr o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r darganfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd blaenllaw, " Agriculture, Ecosystems & Environment ".
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014
Pan fydd gwres yn iachau canser
Yn ddiweddar cyhoeddwyd un o'r adolygiadau cynhwysfawr cyntaf o'r pwnc o drin canser gan ddyfnyddio gwres yn Open Biology , cyfnodolyn cyflym mynediad agored y Gymdeithas Frenhinol. Yr awduron yw Thomas Turner, a raddiodd yn ddiweddar mewn Bioleg Canser ym Mhrifysgol Bangor, a Dr Thomas Caspari, ymchwilydd yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mhrifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014
Myfyriwr a enillodd wobr BAFTA Cymru yn cynnal dosbarth meistr
Cynhaliodd myfyriwr ôl-radd Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, a enillodd wobr BAFTA Cymru am y ffilm fer orau yn 2013, ei ddosbarth meistr ei hun i fyfyrwyr a darlithwyr ym Mhrifysgol De Cymru yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014
A allai ynysoedd Orkney arwain y ffordd ar gynhyrchu trydan carbon isel?
Mae arbenigwyr ynni adnewyddadwy morol ym Mhrifysgol Bangor wedi cyhoeddi astudiaeth newydd sy'n edrych ar y posibilrwydd o gynhyrchu trydan carbon isel trwy dyrbinau llanw ar ynysoedd Orkney, yng ngogledd yr Alban.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014
Bardd o Fangor ar restr fer prif wobr
Mae bardd byd-enwog, y mae ei gwaith eisoes wedi ei gyfieithu i 18 o ieithoedd, ar y rhestr fer i brif wobr barddoniaeth. Rhoddwyd ar restr fer y Gymdeithas Farddoniaeth ar gyfer Gwobr Ted Hughes am Farddoniaeth Newydd .
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014
30 Years of Mathematics Master Classes
Mae’r Dosbarthiadau Meistr Mathemateg yn dathlu yn dathlu eu 30 ain flwyddyn. Mae’r rhain yn sesiynau ymarferol a rhyngweithiol cyffrous a arweinir gan arbenigwyr ym myd addysg a diwydiant ar gyfer pobl ifanc frwdfrydig a dawnus ar draws Gogledd-Orllewin Cymru. Mae’r sesiynau unigryw hyn yn mynd y tu hwnt i’r cwricwlwm ysgol ac yn dod â mathemateg, cyfrifiadureg a pheirianneg yn fyw mewn pynciau annisgwyl, megis celfyddyd a cherflunio, cyfrifiadureg, dylunio, meddygaeth a hyd yn oed cryptograffeg, sef y gelfyddyd o warchod gwybodaeth trwy ei hamgryptio ar ffurf annarllenadwy, o’r enw testun seiffr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014
Rhwydweithiau newydd gwerth £21 miliwn yn rhoi hwb i ymchwil gwyddonol yng Nghymru
Heddiw (13 Mawrth), roedd Edwina Hart yn dathlu cwblhau cam cyntaf o raglen £50 miliwn Sêr Cymru y Llywodraeth. Nod y rhaglen yw denu talent gwyddonol i Gymru drwy lansio tair Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2014
Bydoedd Cudd yn cael eu datgelu ym mhedwaredd Ŵyl Wyddoniaeth Bangor
Mae’r 'Arddangosfa Bydoedd Cudd' , sef prif ddigwyddiad Gŵyl Wyddoniaeth Bangor , a gynhelir rhwng 14 - 23 Mawrth 2014, yn cynnig mwy o weithgareddau ac arddangosiadau nag erioed eleni, ym mhedwaredd flwyddyn yr ŵyl boblogaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2014
110 mlynedd o ddysgu Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor
One of the oldest “forestry universities” in the UK – and the first to offer a degree in forestry – is celebrating 110 years of forestry teaching. Over that time Bangor University has awarded forestry degrees to students from more than 100 countries, and today 60 undergraduate and 100 postgraduate MSc students are studying on forestry courses run by its School of Environment, Natural Resources and Geography. Bangor’s international research profile and vibrant research culture in forestry mean that 50% of the School’s research students are working in the areas of forestry, agroforestry and wood science.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2014
Cytundeb newydd rhwng cwrs Gwyddorau Meddygol ym Mangor a chwrs Meddygaeth Ôl-radd yng Nghaerdydd
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2014
Apwyntaid yn rheolwr ac ymgynghorydd allanol
Bu i aelod o staff Ysgol Dysgu gydol Oes cael ei apwyntio yn arholwr allanol ym Mhrifysgol Glasgow ac yn ymgynghorydd allanol ym Mhrifysgol Cymru:Y Drindod Dewi Sant
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2014
28 Mawrth - Cadwraeth Planhigion yn nhiriogaethau dramor y D.U.
Dr Colin Clubbe Gardd Fotaneg brenhinol, Kew. Dydd Gwener 28fed o Fawrth 1yh – 2yh Ystafell Edward-Jones Adeilad Thoday.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2014
30 mlynedd o Ddosbarthiadau Mathemateg
Mae dosbarthiadau Mathemateg Prifysgol Bangor yn dathlu 30 mlynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2014
Archeolegwyr yng Ngŵyl Gwyddoniaeth Bangor
Ymunwch â ni yn yr Arddangosfa Bydoedd Cudd yn ystod Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2014
Diffodd Popeth Prifysgol Bangor
Fel rhan o ymdrechion Prifysgol Bangor i amlygu a lleihau ei ddefnydd o ynni, bydd y Brifysgol yn ymuno â Prifysgolion ar draws Cymru yn “Diffodd Popeth Cymru” mewn ymarferiad mawr ar nos Wener 21 ain o Fawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2014
Ymchwil Food Dudes Prifysgol Bangor i gael mwy o blant i gymryd prydau ysgol iach
Mae rhaglen arloesol i newid ymddygiad, a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Bangor, i ddod yn rhan o gynllun mawr gan Adran Addysg y DU i gael mwy o blant ysgolion cynradd i gymryd prydau ysgol iach.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2014
Cydweithio ar ddeunyddiau i sgriniau hyblyg electronig yn cael dyfarniad 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg
Mae'n bleser gan SmartKem Ltd ., datblygwr arweiniol ym maes deunyddiau lled-ddargludol organig, perfformiad uchel i sgriniau hyblyg ac electronig, A Phrifysgol Bangor gyhoeddi y dyfarnwyd gradd 'Eithriadol' gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ddiweddar rhyngddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2014
Ysgol Seicoleg Bangor i chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwil £1.1.M MRC yn ymwneud â dibyniaeth a mania
Bydd Ysgol Seicoleg , Prifysgol Bangor yn gwneud ymchwil i driniaeth ffarmacolegol newydd ar gyfer afiechydon seiciatrig. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen, a Phrifysgol British Columbia, wedi cael nawdd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i werthuso gallu cyffur newydd i leihau ymddygiadau byrbwyll a gysylltir â dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ogystal â mania.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2014
Gŵyl Gerdd Newydd Bangor 12 – 15 Mawrth 2014
Wrth i Ŵyl Gerdd Newydd Bangor edrych ymlaen at ei phedwaredd gŵyl ar ddeg o gerddoriaeth gyfoes, byddwn yn dathlu 450 mlwyddiant geni William Shakespeare. Gŵyl dros bedwar diwrnod fydd Gŵyl 2014, gyda nifer o ddigwyddiadau amrywiol megis cyngherddau, gweithdai, darlithoedd a chynhadledd INTER/actions.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2014
Gwobrwyo Gwyddonydd am ei waith ar hinsoddau’r gorffennol
Mae'r gymdeithas ddaearegol hynaf yn y byd, sef " The Geological Society of London ", wedi cydnabod cyfraniad gwyddonol Dr Paul Butler o Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor trwy ddyfarnu gwobr y "2014 Lyell Fund" iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2014
Partneriaeth y Brifysgol yn dwyn buddion yn y tymor hir i gwmni arloesol
Gall un o gwmnïau arloesol Cymru sy’n ymwneud â chyflenwadau meddygol briodoli cyfnod o dwf hynod o gyflym, pryd y cafwyd cynnydd o 400% yn nhrosiant y cwmni, ynghyd â chynnydd yn nifer y gweithwyr, o 5 i 65, i bartneriaeth bwysig â Phrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2014
Recordio Cerddoriaeth Gŵyl Gerdd Dandwr Mewn Pwll Nofio!
Mae grwp o blant ysgol cerddorol o Fôn wedi creu symffoni unigryw dandwr yn eu pwll nofio lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2014
Cwrs byr Economeg iechyd ar gyfer ymarfer ac ymchwil i Iechyd Cyhoeddus
Mae'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau o fewn yr Ysgolion Gofal Iechyd a Gwyddorau Meddygol yn cynnig cwrs byr cyntaf Prydain mewn Economeg iechyd ar gyfer ymarfer ac ymchwil i Iechyd Cyhoeddus yn y Ganolfan Rheolaeth. Cynhelir y cwrs rhwng 15-17 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2014
Gweinidog yn clywed am addysg ac ymchwil ym maes iechyd
Bu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar i glywed am y datblygiadau diweddaraf yn ymwneud ag ymchwil y Brifysgol ym maes iechyd, addysg nyrsys a chysylltiadau â'r GIG.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2014
Prifysgol Bangor yn cefnogi’r cais i adleoli pencadlys S4C i Gaernarfon
Mae Prifysgol Bangor wedi datgan eu cefnogaeth i’r cais i adleoli pencadlys S4C i Gaernarfon.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2014
Porth byd-eang ar gyfer ymchwil Cymru yn dechrau gweithredu ar Ddydd Gŵyl Dewi
Mae porth gwe sy’n dod ag ymchwil o Gymru a busnes byd-eang at ei gilydd yn dechrau gweithredu ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth 2014). Mae ED Cymru ( www.walesip.com ) yn gweithredu fel porthol ar gyfer buddsoddwyr posibl, trwy eu helpu i ddod o hyd i gyfleoedd arloesol a ddatblygwyd gan bum prifysgol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2014
Her Ddiwylliannol 2014
Yn ddiweddar bu Prifysgol Bangor yn dathlu cydweithio ac amrywiaeth ddiwylliannol gyda'r Her Ddiwylliannol llawn gweithgareddau a gynhelir bob blwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2014
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2014