Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2013
Get better at managing multiple medicine use, warns report
Nid ydym wedi cyfieithu'r datganiad gan ei fod gan gorff allanol ac ar gyfer y wasg Brydeinig Policy, medical training and clinical practice have failed to adapt to a significant increase in the number of patients taking multiple prescription drugs, according to a new report published by The King’s Fund and authored by an Honorary Clinical Senior Lecturer at Bangor University.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2013
Gwyddonwyr Bangor yn cyfrannu at ymdrechion i leihau dinistr amgylcheddol a thlodi ym Madagascar
Mae Prifysgol Bangor yn arwain astudiaeth ymchwil ar sut mae tlodi'n cysylltu'n agos â chyflwr yr amgylchedd mewn gwledydd megis Madagascar. Nod y project ymchwil yw helpu i ddeall y cysylltiadau rhwng tlodi a dinistrio coedwigoedd glaw trofannol ac mae'n dod â gwyddonwyr o Madagascar, y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a'r Iseldiroedd at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2013
Gêm Bêl-droed Elusennol i godi arian at Movember
Bydd staff o Brifysgol Bangor yn cystadlu mewn gêm bêl-droed elusennol i helpu i godi arian tuag at Movember , elusen sy'n codi ymwybyddiaeth ynghylch canser y brostad, canser y ceilliau ac iechyd meddwl, a chodi arian hanfodol at hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013
Yr Arglwydd Coe yn agor y Dôm Chwaraeon newydd
Daeth yr Arglwydd Coe, yr un a wireddodd y freuddwyd o ddod â'r Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012, i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i agor cyfleuster chwaraeon newydd yn swyddogol. Yn ystod ei ymweliad â'r Brifysgol, agorodd Seb Coe gyfleuster tenis a phêl rwyd newydd yn swyddogol yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013
Bydwragedd yn cipio gwobrau
Mae dwy aelod staff Prifysgol Bangor wedi cipio gwobrau yng Ngwobrau Ymddiriedolaeth Bydwreigiaeth Iolanthe 2013 yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2013
Ysgol y Gyfraith Bangor yn cynnal Ffair Gyrfaoedd
Bydd Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor yn cynnal ei ffair gyrfaoedd gyntaf erioed er budd y myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr. Cynhelir y digwyddiad yn Neuadd Reichel ddydd Mercher, 27 Tachwedd, a bydd yn rhoi cyfle prin i fyfyrwyr o ddeuddeg ysgol leol i drafod eu hopsiynau gyrfaol gyda bargyfreithwyr a chyfreithwyr gweithredol a chyfreithwyr mewnol. Y gŵr gwadd fydd Syr Roderick Evans, barnwr yr Uchel Lys sydd wedi ymddeol a chyn Farnwr Llywyddol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2013
Ymddangosiad Ail Rownd i Dîm University Challenge Prifysgol Bangor
Wedi iddynt guro Prifysgol Aberystwyth o 230 o bwyntiau i 110 yn rownd gyntaf y gyfres University Challenge : y cwis teledu mwyaf anodd, mae Tîm Prifysgol Bangor bellach yn yr ail rownd sydd i’w ddarlledu nos Lun 25 Tachwedd am 8.00.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2013
Cynnig dull newydd integredig o wneud ymchwil er mwyn datblygu sychdiroedd y byd
Mae dros 40% o arwynebedd tir y byd yn sychdir. Mae sychdiroedd yn gartref i 2.5 biliwn o bobl - bron i draean o boblogaeth y byd. Mae pobl mewn rhanbarthau sych yn gorfod ymdopi â diraddio amgylcheddol difrifol ac amrywioldeb cynyddol yn yr hinsawdd ac mae cyfraddau twf y boblogaeth sydd ymysg yr uchaf yn y byd yn gwaethygu'r sefyllfa. Mae papur sy'n torri tir newydd trwy gyflwyno dull newydd systemau integredig o wneud ymchwil amaethyddol yn y sychdiroedd wedi cael ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Food Security yn ddiweddar (18.11.13).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2013
Un cam yn nes at yr archfarchnad ar gyfer project i droi glaswellt yn ddeunydd pacio bwyd
Mae treialon prototeip yn mynd rhagddo ar gyfer project sy’n cael ei harwain gan brifysgol a diwydiant i droi rhygwellt Cymreig yn ddeunydd pacio bwyd cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2013
Cragen wedi byw dros 500 o flynyddoedd
Mae ymchwil bellach yn dilyn ymweliad maes a gynhaliwyd gan Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn 2006 wedi ein galluogi i ganfod oedran cragen fylchog yn fwy cywir. Cafodd y gragen fylchog dan sylw ei chodi yn ystod mordaith gasglu data oddi ar arfordir Ynys yr Iâ a oedd yn rhan o broject yn edrych ar newidiadau hinsawdd dros y 1000 o flynyddoedd diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2013
Un o raddedigion Prifysgol Bangor yn cyflwyno rhaglenni i Uned Byd Natur y BBC
Yn ddiweddar fe wnaeth Dr Ross Piper, 37, a fu'n astudio Sŵoleg ac Ecoleg Anifeiliaid ym Mhrifysgol Bangor, ddychwelyd o ymweliad chwe wythnos â Burma, lle bu’n gweithio fel cyflwynydd i Uned Byd Natur y BBC. Caiff y gyfres dair rhan ei darlledu ar Ddydd Gwener, Tachwedd 29ain ar BBC2 am 9pm.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2013
Cyhoeddi'r rhestr fer am Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn
Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer am Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn. Mae Sarah Marie Nason o Ysgol y Gyfraith yn un o chwech o athrawon y gyfraith o sefydliadau ar draws gwledydd Prydain sydd wedi'u rhoi ar y rhestr fer am y wobr bwysig hon.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2013
Gwneud defnydd llawn o blanhigion
Mae eiddew, sy’n tyfu’n helaeth yng Nghymru, yn un o nifer o blanhigion sy’n cael eu harchwilio am y cemegau mân ac echdynion a ffibrau gwerthfawr eraill maent yn eu cynnwys. Mae’r gwaith ymchwil yma’n cael ei gynnal mewn bioburfa ar Ynys Môn a allai gynnig model ar gyfer creu gwaith yng nghefn gwlad yn y dyfodol. Bwriad yr ymchwil yw chwilio am ddeunyddiau amgen i gymryd lle cynnyrch a chynhwysion sy’n deillio o olew crai a ddefnyddir yn y diwydiannau cynhyrchu ac adeiladu. Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor sy’n gyfrifol am y gwaith yma o ddatblygu ffynonellau newydd ar gyfer cemegau mân a deunyddiau eraill. Mae’r Ganolfan yn canolbwyntio ar ganfod defnyddiau newydd ar gyfer adnoddau naturiol gwerthfawr sydd ar hyn o bryd yn cael eu hanwybyddu.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2013
Profi Diwylliannau’r Byd
Local and international students will be getting dressed up to perform or share activities that provide a glimpse of their native cultures at an international festival taking place at Bangor University on Saturday, 30 November.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2013
Llwyddiant dwbl yng nghynhadledd yr "International Society for Pharmacoeconomics and Outcomes Research"
Enillodd Emily Holmes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor y wobr am y cyflwyniad gorau ac enillodd Dr Paul Parham, o'r un ganolfan, y wobr am y cyflwyniad gorau gan ymchwilydd newydd yn 16eg gynhadledd Ewropeaidd flynyddol yr " International Society for Pharmacoeconomics and Outcomes Research " (ISPOR) yn Nulyn ar 6 Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2013
Prif drefnydd y Gemau Olympaidd yn ymweld â Bangor
Bydd un o redwyr pellter canol gorau Prydain, a'r un a wireddodd y freuddwyd o ddod â'r Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012, yn ymweld â Phrifysgol Bangor ym mis Tachwedd mewn digwyddiad arbennig i drafod ei fywyd a'i yrfa. Cynhelir 'Noson yng nghwmni Seb Coe' yn Neuadd Prichard-Jones ym mhrif adeilad y Brifysgol am 7.00pm, ddydd Llun, 25 Tachwedd. Bydd yr Arglwydd Coe mewn sgwrs â Chadeirydd Cyngor y Brifysgol a chyd arglwydd, yr Arglwydd Davies o Abersoch. Bydd mynediad i’r digwyddiad trwy docyn yn unig, ni chodir tâl ond i gael tocyn cysylltwch â Lynne Hughes (l.hughes@bangor.ac.uk). Ceir mynediad i'r neuadd ar sail y cyntaf i’r felin, gyda'r drysau'n agor am 6.20pm.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2013
Ysgol Busnes Bangor yn un o’r 15 uchaf yn y byd am ymchwil i fancio
Mae Ysgol Busnes Bangor nawr ymhlith y 15 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil ym maes Bancio (Hydref 2013).
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2013
Mae Prifysgol Bangor yn gwella ei Effaith Werdd
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gymryd rhan mewn rhaglen gyffrous a arweinir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS). Mae Prifysgolion a Cholegau Effaith Werdd yn gynllun achrediad amgylcheddol sy'n helpu pobl i wella eu hamgylcheddau gwaith a chael effaith gadarnhaol ar fywydau eu myfyrwyr wrth ennill cydnabyddiaeth am eu hymdrechion. Dechreuodd y cynllun yn 2006 , ac mae wedi tyfu'n gyflym i weithio gyda 46 o Brifysgolion a Cholegau, 105 o Undebau Myfyrwyr, a thros 44,000 o aelodau o staff ar draws y wlad - i gyd yn dod at ei gilydd i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013
£4.9 miliwn o bunnoedd i hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol
Mae Prifysgol Bangor ar fin dechrau hyfforddi cenhedlaeth newydd o wyddonwyr amgylcheddol fydd yn cael eu paratoi i fynd i'r afael â sialensiau planed o dan bwysau fel rhan o fenter £4.9m a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013
Arloesi mewn hyfforddi'r lluoedd arfog
Tynnwyd sylw at broject sydd wedi trawsnewid hyfforddi recriwtiaid yn y Fyddin Brydeinig ac wedi arwain at newidiadau yn y ffordd y darperir yr hyfforddiant yn y tri llu arfog, ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar pan enillodd un o wobrau Menter ac Effaith cyntaf y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013
Cymry’n cymryd rhan mewn ymchwil i ddementia
Yn ôl canlyniadau astudiaeth ymchwil ar raddfa fawr a adroddodd yn gynharach eleni, bu lleihad yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf yn nifer y rhai sydd â dementia. Yn ôl y ffigurau yng nghyswllt Lloegr a nodwyd yn adroddiad yr Astudiaeth ar Weithrediad Gwybyddol a Heneiddio, ceir awgrym, o’u cymhwyso at y DU yn ei chrynswth, fod 214,000 yn llai o achosion o ddementia nag a ddaroganwyd. Byddai hyn hefyd yn awgrymu mai rhyw 670,000 o bobl sydd ar hyn o bryd yn byw yn y DU gyda dementia, yn hytrach na’r amcangyfrif o 800,000-900,000. I helpu i ddeall y sefyllfa yng Nghymru, mae Prifysgol Bangor yn arwain y fersiwn Cymreig o’r ymchwil hon. Mae’r ymchwilwyr yn bwriadu cyhoeddi ystadegau penodol yr haf nesaf ar y niferoedd sydd â dementia yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2013
Cyn-fyfyriwr yn ennill gwobr ‘newyddiadurwr y flwyddyn’
Mae cyn-fyfyriwr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi ennill gwobr newyddiaduraeth fawreddog. Fe enillodd Noellin Imoh, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn 2010, y wobr BEFFTA am ei gwaith yn golygu cylchgrawn African Dazzle.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2013
Archif y mis
Arolwg stad Bodorgan a wnaed gan Lewis Morris 1724-1727 Bodorgan 1579
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2013
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2013