Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mehefin 2012
Digwyddiad gwych!
Cyfarfu Hyrwyddwyr Academaidd Menter o gonsortiwm prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 18 a 19 Mai i rwydweithio, rhannu syniadau a chynllunio’r agenda menter i’r dyfodol. Roedd diwrnod cyntaf y digwyddiad yn cynnwys sesiwn hyfforddi i bawb gan Bio-TRIZ, cwmni ymgynghori o ddinas Bath sydd wedi datblygu dulliau unigryw o ddyfeisio a datrys problemau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2012
Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwobrwyo grant Cyfalaf y Loteri i Pontio – canolfan arloesedd a chelfyddydol newydd Prifysgol Bangor
Mae canolfan arloesedd a chelfyddydol gwerth miliynau o bunnoedd yng nghanol Bangor wedi derbyn hwb ariannol sylweddol gwerth £3,250,000 gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd Pontio a fydd yn agor yn 2014 yn bwerdy diwylliannol ac economaidd i'r ddinas a llwyfan addas i'r goreuon o'r cwmnïau lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2012
Safle Ymchwil yn cynnig y Cyfleusterau Diweddaraf i helpu’r diwydiant 'Gwyrdd’.
Mae safle diwydiannol £1M, dan ofal y Ganolfan Biogyfansoddion (Prifysgol Bangor) ar Ystâd Ddiwydiannol Llangefni ym Mona, wedi bod yn helpu cwmnïau lleol i brofi dewisiadau ecogyfeillgar eraill yn lle cynhyrchion presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2012
Ysgoloriaethau Astudio Dramor
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy Gorffennaf 12fed. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2012
Prifysgol Bangor yn Dathlu Dwyieithrwydd
Mae Canolfan sydd wedi dylanwadu ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddwyieithrwydd a ffurfio polisi iaith ac addysg, nid yn unig yng Nghymru ond trwy’r byd i gyd, yn dathlu pum mlynedd o ymchwil a chyfraniad.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2012
Digwyddiad Gwobrwyo Gweinidogol yn Nodi Llwyddiant Rhaglen STEM AU
Enillodd myfyriwr o Brifysgol Bangor ail wobr mewn cystadleuaeth poster ymchwil flaengar ym maes STEM AU, yn ystod Digwyddiad Dathlu Cymru ar gyfer y Rhaglen STEM AU Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd yn ddiweddar. Cafodd Huw Walters, o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor ei longyfarch am ei boster yn esbonio’i ymchwil ar ‘Polymerau ac oligomerau ar gyfer argraffu’r genhedlaeth nesaf o gelloedd solar’ gan Edwina Hart AC, Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2012
Ysgol y Gyfraith Bangor yn rhoi Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r Athro Malcolm Evans
Mae’r Athro Malcolm Evans o Brifysgol Bryste i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Bangor am ei gyfraniad i fyd y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2012
Prifysgol Bangor yn ymuno ag Amnest Rhyngwladol i gynnal gweithdy ar wrthdaro arfog
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn ymuno ag Amnest Rhyngwladol i gynnig hyfforddiant arbenigol ar amddiffyn merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2012
Prifysgol Bangor yn ymuno ag Amnest Rhyngwladol i gynnal gweithdy ar wrthdaro arfog
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor yn ymuno ag Amnest Rhyngwladol i gynnig hyfforddiant arbenigol ar amddiffyn merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2012
Dymuniadau Gorau i Steve sy’n cario’r Fflam Olympaidd heddiw
Mae Steve Barnard, myfyriwr MSc o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn rhedeg efo’r Ffagl Olympaidd Llundain 2012 yn Morecambe ar Orffennaf 22.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2012
Buddsoddi mewn Mawndiroedd - Arddangos Lllwyddiant
Mae mawndiroedd y DU yn dal dros 3 biliwn tunnell o garbon ond, oni bai ein bod yn cymryd camau rhag blaen i drwsio difrod a wnaed yn y gorffennol, gallai’r storfeydd hyn ryddhau symiau enfawr o garbon i’r atmosffer. Yn y DU ceir rhai o enghreifftiau gorau’r byd o adfer mawndiroedd, sydd nid yn unig yn helpu i atal rhyddhau carbon, ond hefyd yn gwarchod bioamrywiaeth bwysig ac adnoddau dŵr gwerthfawr.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2012
Achredu Gradd Daearyddiaeth BSc
Mae’n bleser gan ADNODD gyhoeddi bod ei gradd BSc Daearyddiaeth wedi ei hachredu gan Bwyllgor Penaethiaid Gwyddorau Amgylcheddol, sy’n rhan o’r Sefydliad Gwyddorau Amgylcheddol (IES).
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2012
Gall datblygu ‘Gwytnwch Meddwl’ helpu pêl-droedwyr i ddelio â phwysau’r gic gosb sy’n penderfynu pwy sy’n ennill gêm
Mae’n bosibl mai cymryd y gic gosb sy’n pennu tynged y tîm mewn gêm Gynghrair yw’r sefyllfa fwyaf straenus y mae’n rhaid i bêl-droedwyr ei hwynebu. Mae angen iddynt ganolbwyntio’n llwyr ar y dasg, fel na fydd y twrw nac unrhyw aflonyddwch arall o’r eisteddle yn effeithio arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2012
Haf o berfformiadau byd-eang
Bydd darlithydd o Brifysgol Bangor wrthi’n brysur yn perfformio ym mhedwar ban byd yr haf hwn. Bydd Dr Ed Wright, sy’n dysgu cyfansoddi a thechnoleg cerddoriaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth, yn perfformio ei gyfansoddiadau electroacwstig ei hun mewn amryw o leoliadau.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2012
Ysbrydoli ar gyfer Perfformiad Brig
Tu ôl i bob athletwr Olympaidd llwyddiannus, bydd ganddo ef neu hi hyfforddwr sy'n eu cefnogi bob cam o'r ffordd i gyflawni eu nod o ddod â medal Olympaidd adref gyda nhw. Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP) ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn cynnal ymchwil i’r effaith ysgogol a gaiff hyfforddi ac arweiniad mewn gwahanol leoliadau er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o’r ffactorau sydd wrth wraidd hyfforddiant ac arweiniad effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2012
Llwyddiant myfyriwr mewn gwobrau ffilm
Mae gwaith y fyfyrwraig PhD Jenni Steele, "1.1 miles of daffodils" wedi ei ddewis ar gyfer gwobrau Hansel of Film 2012. Mae'r adolygwr ffilm Mark Kermode yn trafod arwyddocâd y gwobrau mewn erthygl yn y Guardian .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2012
Ymchwil o Fangor yn cynorthwyo llyfr newydd gan yr Amgueddfa Victoria ac Albert
Mae myfyrwraig ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi cadarnhau amheuon fod cynllun patrwm gan Morris a’r Cwmni, mewn gwirionedd, yn hŷn nag a dybiwyd o’r blaen.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2012
Ai’r hyn rydych yn ei weld fyddwch chi’n ei gael? Academyddion Bangor yn ymchwilio i reoli argraffiadau gan sefydliadau busnes
Bydd ‘rheoli argraffiadau’, neu sut mae sefydliadau yn rheoli’r ffordd cânt eu gweld gan y cyhoedd, yn ganolbwynt ymchwil blaengar gan ganolfan newydd ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2012
Tîm Pêl-droed Ffrainc yn y newyddion
Gyda Pencampwriaeth Ewrop nawr wedi cychwyn yng Ngwlad Pwyl ac Ukrain, mae'r darlithydd mewn Ffrangeg Dr. Jonathan Ervine yn archwilio'r berthynas rhwng tîm pêl-droed Ffrainc a'r cyfryngau mewn erthygl ar y wefan French Football Weekly.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2012
Y Gymraeg yn y Brifysgol yn ennill Gwobr Ysbrydoli Cymru
Mae gwaith arloesol Prifysgol Bangor yn hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle wedi dod i’r brig mewn noson wobrwyo uchel ei bri. Mewn seremoni fawreddog yn Neuadd y Ddinas Caerdydd o dan nawdd y Sefydliad Materion Cymreig a’r Western Mail, derbyniodd y Brifysgol wobr Ysbrydoli Cymru yn y categori ‘Gweithleoedd Dwyieithog’.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2012
Yr anifeiliaid mwyaf hirhoedlog yn datgelu cyfrinachau newid hinsawdd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi defnyddio rhai o’r anifeiliaid mwyaf hirhoedlog yn y byd i edrych ar sut mae Gogledd Môr yr Iwerydd wedi effeithio ar ein hinsawdd dros y 1,000 o flynyddoedd diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2012
Food Dudes yn ennill bri rhyngwladol
Mae Athro Fergus Lowe a Dr Pauline Horne, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, wedi derbyn gwobr am eu gwaith arloesol ar ordewdra ymysg plant o flaen cynulleidfa o 4,000 o academyddion o sawl gwlad mewn cynhadledd yn Seattle yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2012
Mae pob Athro’n Athro Iaith
Bu'r pwnc amserol cyflwyno’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm o dan y chwyddwydr mewn sesiwn drafod arbennig wedi ei threfnu gan Brifysgol Bangor stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod yr Urdd Ddydd Gwener 8 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2012
Apusrwydd yw... Ap Termiadur Addysg ar eich ffôn a’ch tabled!
Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, oedd y cyntaf i gael ap newydd Y Termiadur Addysg wedi’i lwytho ar ei ffôn symudol yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2012
Prifysgol Bangor yn esbonio i wylwyr Coast pam ein bod yn cael dau lanw
Bydd Dr Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau Eigion enwog Prifysgol Bangor yn ymddangos y gyfres newydd o’r rhaglen hynod o boblogaidd Coast ar BBC 2 ddydd Sul 10 Mehefin am 9pm.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2012
Gwirfoddolwyr yn derbyn anrhydedd gan Yr Urdd
Heno, (nos Iau, 7 Mehefin) ym Mhafiliwn Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon, bydd Bryn Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ynghyd â’i wraig, Marian Tomos, yn derbyn Tlws John a Ceridwen Hughes 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2012
Medal Ddrama i Llŷr
Llongyfarchiadau i Llŷr Titus Hughes o Ysgol y Gymraeg ar ennill Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2012
Food Dudes yn troi’n gwmni
Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf mae’r rhaglen Food Dudes yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi mynd o nerth i nerth, gan ennill grantiau, canmoliaeth a gwobrau ledled y byd. Wrth wneud hynny, mae wedi gwella arferion bwyta ac iechyd cannoedd o filoedd o blant. Ac yn ddiweddar, gan arwain ymgyrch yr ysgol tuag at fasnacheiddio, mae’r rhaglen wedi dod yn gwmni deillio - Food Dudes Health Ltd (FDH).
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2012
Wythnos lawn o weithgareddau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd
Mr Urdd o flaen ei well - ymysg wythnos lawn o weithgareddau ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod yr Urdd. Bydd Mr Urdd o flaen ei well mewn achos llys ffug ar stondin Prifysgol Bangor ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Gwener 8 Mehefin. Bydd yr 'achos' yn cael ei chynnal gan staff a myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith y Brifysgol, a bydd Mr Urdd yn chwarae rhan y sawl a gyhuddir.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2012
Staff ADNODD ar restr fer y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Yn dilyn pleidlais gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor, rhoddwyd dau o ddarlithwyr ADNODD ar restr fer y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn ddiweddar. Datblygwyd y gwobrau gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor gyda nawdd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a’r Academi Addysg Uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2012