Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Gorffennaf 2012
Ffair Cymru, Ewrop a'r Byd yn cael ei chynnal ym Mangor
Cynhaliwyd ffair Llwybrau at Ieithoedd – Cymru, Ewrop a’r Byd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2012
Her Ddringo ar gyfer Cronfa Goffa Mab
Mae Hazel Frost, Cynorthwy-ydd Clercyddol yn yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor gyda’i ffrind Emma Wynne-Hughes, gweinyddwr yn Ysgol Busnes Bangor yn codi arian tuag at Gronfa Goffa Darren Rhys Frost a Thŷ Gobaith.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2012
Diwrnod Ffilm a Diwylliant Almaeneg
Yn ddiweddar, trefnodd Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Bangor ar y cyd gyda Llwybrau at Ieithoedd, Ddiwrnod Ffilm a Diwylliant Almaeneg.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2012
Bwyta byrbrydau a BMI yn cael eu cysylltu ag effaith ddwbl gweithgaredd yr ymennydd a hunanreolaeth
Mae ymchwil newydd wedi darganfod bod bwyta byrbrydau ac Indecs Mas y Corff (BMI) yn gysylltiedig â gweithgaredd yr ymennydd a hunanreolaeth. Darganfu’r ymchwil, a wnaed gan academyddion o Brifysgolion Caerwysg, Caerdydd, Bryste a Bangor, bod ymateb ‘canolfan wobrwyo’ ymennydd unigolyn i luniau o fwyd yn darogan faint fyddent yn ei fwyta wedyn. Roedd yn ymddangos bod hyn yn cael mwy o effaith ar faint roeddent yn ei fwyta na’u teimladau ymwybodol o fod eisiau bwyd neu faint roedd arnynt eisiau’r bwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2012
Arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yn mynychu sesiwn ‘Labordy’ ym Mhrifysgol Bangor
Bydd deg ar hugain o academyddion a enwyd fel arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yn mynychu sesiwn ‘Labordy’ Crwsibl Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar Orffennaf 26 – 27 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2012
Pwy sy’n Herio Pwy?”
Mae Mencap Cymru wedi ymchwilio a datblygu rhaglen hyfforddiant newydd ar ymddygiad heriol. Mae ‘Pwy sy’n herio Pwy?’ yn bartneriaeth trosglwyddo gwybodaeth 18 mis rhwng Mencap Cymru a Phrifysgol Bangor Mae’n anelu at wella gwasanaethau ymddygiad heriol i bobl ag anabledd dysgu trwy wella agweddau staff a chynyddu empathi
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2012
Ffarwelio â myfyrwyr nodedig o America
Mae Prifysol Bangor wedi ffarwelio ag wyth o fyfyrwyr disgleiriaf UDA a fu’n ymweld â’r Brifysgol wrth iddynt astudio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd Cymru. Dewiswyd y myfyrwyr trwy gystadleuaeth, o Brifysgolion ar draws UDA, o Seattle i Dde Fflorida i fod yn ran o Sefydliad Haf uchel ei bri.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2012
Llwyddiant i broject darlithydd
Mae project a sefydlwyd gan wneuthurwr ffilmiau Joanna Wright darlithydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Ysgol Bro Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, wedi ennill gwobr ym Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2012
Mae yfed diodydd meddal wedi eu melysu â siwgr yn arwain at fagu bloneg
Mae ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos bod yfed diodydd meddal wedi eu melysu â siwgr yn rheolaidd yn gallu arwain at fagu bloneg, atal metabolaeth braster a chodi lefel y glwcos yn y gwaed. Felly os ydych yn sychedig ac yn meddwl am estyn am ddiod feddal llawn siwgr - peidiwch - gall niweidio eich iechyd tymor hir. Estynnwch am ddiod o ddŵr yn lle hynny.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2012
Gynhadledd Astudiaethau Celtaidd
Cynhelir y Gynhadledd Astudiaethau Celtaidd Gyntaf Bangor ym Mhrifysgol Bangor y benwythnos hon, y digwyddiad cyntaf o’i fath ym Mangor. Mae’r gynhadledd ryngwladol sylweddol hon wedi denu ysgolheigion o bedwar ban y byd, gan gynnwys Rwsia, Siapan, Awstria, yr Iseldiroedd, Gwlad Pŵyl, Ffrainc, Gogledd America, Yr Alban, Iwerddon, Lloegr, a Chymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2012
Ysgol y Gyfraith yn ymuno ag Amnesty International i gynnal hyfforddiant ar wrthdaro arfog
Ar Ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf 2012, cynhaliodd Ysgol y Gyfraith Bangor ac Amnesty International (Bae Colwyn) weithdy hyfforddi llwyddiannus ar ddiogelu merched a phlant yn ystod gwrthdaro arfog. Cynhaliwyd y digwyddiad yng nghanolfan gynadledda Reichel ym Mhrifysgol Bangor gan ddenu pobl o gyffiniau Bangor a thu hwnt, yn cynnwys Bae Colwyn, Lerpwl a Sir Gaerhirfryn.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2012
Graddio 2012
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2012
Cynhadledd Hanes a Diwylliant Cymru Cymdeithas Gogledd America yn dod i Gymru
Cynhelir cynhadledd ddwyflynyddol Hanes a Diwylliant Cymru Cymdeithas Gogledd America (NAASWCH) ym Mhrifysgol Bangor, sef dim ond yr ail waith i’r gynhadledd gyfarfod tu allan i Ogledd America. Yn draddodiadol cynhelir y gynhadledd yn yr Unol Daleithiau a Chanada rhwng 26 a 28 Gorffennaf a dim ond unwaith o’r blaen y mae wedi dod i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2012
Straeon Graddio 2012
I ddathlu wythnos graddio Prifysgol Bangor, darllenwch ein straeon llwyddiannau myfyrwyr
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2012
Gyrru cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd yn Amaeth Tir Pori
Nod Partneriaethau Hyfforddiant Uwch y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yw cryfhau sgiliau gwyddonol arbenigol mewn meysydd sy’n strategol bwysig i’r diwydiant bwyd-amaeth yn y DU, drwy hyfforddiant uwchraddedig, hyblyg.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2012
Myfyrwyr Bangor yn mynd i’r afael â phroblemau gwastraff
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Bangor a Cyngor Gwynedd wedi cynnal ymgyrch ddiwedd tymor i leihau problemau gwastraff yn y ddinas.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2012
Wythnos Graddio Prifysgol Bangor 2012: Gorffennaf 14 -20
Bydd dros ddwy fil o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Bangor mewn tair seremoni ar ddeg, i’w gynnal dros chwe diwrnod yr wythnos hon (14-20 Gorffennaf 2012). Bydd teuluoedd a chyfeillion yn ymuno â’r myfyrwyr wrth iddynt ddathlu eu llwyddiant. Hefyd yn ymuno â hwy mewn sawl seremoni bydd unigolion sydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2012
Rhaglen ‘Ancient X Files’ sianel National Geographic yn galw ar arbenigedd Arthuraidd Prifysgol Bangor
Trodd cynhyrchwyr cyfres ‘ Ancient X Files ’ ar sianel National Geographic at Dr Raluca Radulescu, arbenigydd Arthuraidd o Ysgol Saesneg, Prifysgol Bangor, pan oeddynt eisio ymchwilio mytholeg a chwedlau’r Brenin Arthur a Marchogion y Bwrdd Crwn.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2012
Ysgolion Gogledd Cymru’n buddsoddi mewn cystadleuaeth sgiliau busnes a chyllidol
Cafodd myfyrwyr o bob cwr o ogledd Cymru gyfle i brofi cyffro a chynnwrf delio ar lawr masnachu byw diolch i fenter a drefnwyd gan Brifysgol Bangor o'r enw Her y Farchnad Stoc.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012
Dylai safbwyntiau diwylliannol ddylanwadu ar bolisïau cadwraeth
Yn ôl canlyniadau arolwg a gynhaliwyd dan arweiniad Prifysgol Bangor, mae angen i bolisïau ar Gadwraeth roi ystyriaeth i wahanol safbwyntiau diwylliannol ynglŷn â gwerth gwahanol rywogaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2012
Gwyddonwyr lleol ac athrawon yn uno i ddod â’r wyddoniaeth ddiweddaraf i Ysgol Uwchradd Bodedern
Mae Ysgol Uwchradd Bodedern (YUB) ar Ynys Môn wedi cael ei dewis gan Y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth genedlaethol y DU, i dderbyn Grant Partneriaeth. Hon yw ail grant o’i bath yn unig i ddod i Ogledd Cymru a bydd yn galluogi i wyddonwyr lleol o Brifysgol Bangor weithio gydag athrawon o’r ysgol i roi project gwyddonol arloesol ar waith.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2012
Myfyrwyr Bangor yn dysgu am ddechrau busnes!
Cymerodd ddeuddeg o fyfyrwyr Bangor o amryw o Ysgolion academaidd y Brifysgol ran mewn cwrs busnes ar 25 Mehefin. Roedd y cwrs dan arweiniad dau arbenigwr allanol, sef Tim Ashcroft, entrepreneur a mentor busnes profiadol o Loegr sy’n cefnogi nifer o fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf a graddedigion Prifysgol Bangor sy’n dechrau busnes ar hyn o bryd, a Mike Chitty, arweinydd adnabyddus ym maes datblygu entrepreneuriaid a thimau ifanc.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2012
Astudiaeth Fewnfudo WISERD yn y newyddion
Mae astudiaeth a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, fel rhan o WISERD (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru), wedi darparu data newydd ar farn pobl Cymru am fewnfudo a sut mae hyn yn cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2012
Gwrandewch ar ein Seicolegwyr Chwaraeon heno ar Science Cafe
Wrth i ni nesáu at Gemau Olympaidd Llundain 2012 mae’r tîm rhaglen Science Cafe Radio Wales yn ymweld â Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff Phrifysgol Bangor i ddarganfod yr ymchwil a all roi’r athletwyr gorau ar y blaen wrth berfformio o dan straen digwyddiadau chwaraeon blaenllaw.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2012
Mae Dr Eryl W Davies wedi ei benodi'n ddarpar Lywydd y Gymdeithas Brydeinig
Mae Dr Eryl W Davies wedi ei benodi'n ddarpar Lywydd y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Astudio'r Hen Destament. Llongyfarchiadau!
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2012
Bydd Dr Eryl W Davies yn cyflwyno papur i'r Gymdeithas Llenyddiaeth Feiblaidd
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2012