Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Awst 2017
Wystrys yw eu byd- ac maent esio i chwi eu bwyta
Mae arbenigwyr mewn dyframaethu ym Mhrifysgol Bangor yn gobeithio gwneud newid sylfaenol yn y ffordd mae wystrys yn cael eu hystyried a’u bwyta, yn dilyn Symposiwm rhyngwladol ar Wystrys a gynhelir yn y brifysgol (11-14 Medi). Maent yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn annog cynnydd cyflym, ond cynaliadwy, mewn cynhyrchu wystrys, ac i fwy ohonom eu mwynhau gartref ac mewn barrau wystrys yng Nghymru a mannau eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017
Arian i ddatblygu mwy o ymchwilwyr ym maes dementia
Mae oddeutu 45,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod yr afiechyd yn costio £1.4 biliwn y flwyddyn. Y ganran uchaf o’r gost yw’r gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a chyfeillion. Nid yw gwasanaethau dementia ar gael i bawb yn yr un modd, ac mae cael mynediad at y gwasanaethau drwy sectorau iechyd a gofal yn anodd i rai. Mae cludiant cyhoeddus yn wael a’r risg y bydd gofalwyr yn teimlo’n ynysig a heb gefnogaeth hefyd yn heriau arbennig mewn ardaloedd gwledig. Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cael dros hanner miliwn o bunnoedd mewn cyllid i gynnal dwy Gymrodoriaeth Ymchwil mewn Ymchwil ym maes Dementia gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y Cymrodoriaethau hyn, a ariennir drwy Y mchwil Iechyd a Gofal Cymru , yw cynyddu’r gallu mewn ymchwil gofal ac iechyd drwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol a chynnal projectau ymchwil o ansawdd uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017
Datblygu paciau cefn bychain i wenyn
Mae project newydd cyffrous i ddatblygu ffordd newydd i ddilyn gwenyn drwy’r tirlun yn datblygu’n dda yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor. Mae ecolegydd ac arbenigwr mewn microsystemau yn cydweithio i ddatblygu paciau cefn bychain i wenyn a fydd yn galluogi drônau bach i’w dilyn fel yr hedant o blanhigyn i blanhigyn Bydd hyn yn galluogi gwyddonwyr i ddysgu mwy am le mae’r gwenyn yn casglu neithdar a beth all fod yn effeithio ar eu niferoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2017
Forget Jon Snow, watch the young women to find out how Game of Thrones ends
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Raluca Radulescu o'r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol . This article by Raluca Radulescu , Professor of Medieval Literature and English Literature, Bangor University was originally published on The Conversation . Read the original article
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2017
Prifysgol Bangor yng Ngŵyl Rhif 6
Mae Prifysgol Bangor yn falch o gyhoeddi y bydd staff academaidd a myfyrwyr o'r Coleg Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Gŵyl Rhif 6 yn 6 oed eleni. Mae’r ŵyl yn wledd o gerddoriaeth, celfyddydau, diwylliant a gastronomeg a gynhelir dros benwythnos 7-10 Medi ym mhentref hudolus Portmeirion ym Mhenrhyndeudraeth, cartref y gyfres deledu gwlt The Prisoner . Rhai o'r prif berfformwyr yn yr ŵyl eleni fydd Bloc Party, The Flaming Lips, a Mogwai, ynghyd â sgyrsiau arbennig gan Irvine Welsh a Maxine Peake.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017
Safleoedd tirlenwi : llawer mwy na llwyth o sbwriel
Mae safleoedd tirlenwi'n llawer mwy na llwyth o sbwriel - oherwydd dylid eu hystyried yn un o'r prif adnoddau wrth chwilio am ensymau newydd i fiotechnoleg. Yn wir, gallant arwain at gynhyrchu biodanwydd mwy effeithlon. Mewn papur ymchwil newydd yn mSphere ( DOI: 10.1128/mSphere.00300-17) mae biolegwyr o brifysgolion Bangor a Lerpwl wedi adnabod am y tro cyntaf yr ensymau sy'n diraddio deunyddiau naturiol megis papur a dillad mewn safleoedd tirlenwi.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Awst 2017
Dathlu Gwaith Merched mewn Cerddoriaeth
Bydd dau gyngerdd clasurol yng Nghanolfan Pontio Prifysgol Bangor yn uchafbwynt i'r Gynhadledd Ryngwladol Gyntaf ar Waith Merched mewn Cerddoriaeth (4 – 7 Medi) sy'n dathlu cyraeddiadau cerddorion benywaidd. Amserwyd y Gynhadledd i gyd-daro â chofio 40 mlynedd ers marwolaeth y gyfansoddwraig Grace Williams (1906-77), un o gyfansoddwyr proffesiynol cyntaf Cymreig yr ugeinfed ganrif i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol. Bydd y ddau gyngerdd ar ddydd Llun 4 Medi yn Neuadd Powis am 5.45pm a nos Fercher 6 Medi yn Theatr Bryn Terfel Pontio am 7.30pm yn cynnwys cerddoriaeth Grace Williams, yn ogystal â pherfformiadau cyntaf o ddarnau gan y cyfansoddwyr blaenllaw o Brydain, Nicola LeFanu ac Eleanor Alberga.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2017
Independent music labels are creating their own streaming services to give artists a fair deal
Dyma erthygl yn Saesneg gan Steffan THomas o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017
Gwaith gan gemegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gam tuag at ddatblygu technoleg i achub bywydau
Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu canlyniadau project ymchwil a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n dod â diagnosis cyflym a hawdd o'r diciâu (TB) gam yn nes. Mae'r diciâu yn un o glefydau mwyaf marwol y byd. Dim ond dwy flynedd yn ôl, heintiwyd 10.4 miliwn o bobl ledled y byd â'r diciâu a chafwyd 1.8 miliwn o farwolaethau cysylltiedig â'r diciâu. Yn 2015, roedd 35% o'r marwolaethau o ganlyniad i HIV oherwydd cyd-heintiad â'r diciâu. Mae cemegwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn gweithio i ddatblygu citiau diagnosis cyflym a hawdd a all roi canlyniad ar unwaith (ar hyn o bryd anfonir samplau o waed i labordy, sy'n broses lawer rhy hir).
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2017
Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle - Map magnetig telorion cyrs
Bydd pob un ohonom yn rhyfeddu at y mamaliaid, yr adar a'r pryfed sy'n mudo ymhell ac at eu gallu cynhenid i gyrraedd pen eu taith filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Mae gwyddonwyr yn dal i geisio deall yr holl fecanweithiau sydd ynghlwm â hyn. Bellach, mae un grŵp o wyddonwyr yn credu eu bod wedi canfod un system sy'n cael ei defnyddio gan rai adar sy'n mudo, ac mae'n datgelu map diddorol o'r byd y byddai sawl un ohonom yn rhyfeddu ato.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2017
Yr Athro Cross yn ymuno â rhestr ddisglair o enillwyr y wobr Award Lecture
Mae'r Athro Emily S. Cross o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi ei henwi fel un o enillwyr y gwobrau clodwiw Award Lectures a gynhelir gan Gymdeithas Gwyddoniaeth Prydain (BSA) fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Prydain 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2017
Hanner canrif ers Sgt Pepper ac ymweliad y Beatles â Bangor
Mae’n hanner canrif ers i Sgt Pepper ddysgu ei fand i chwarae, gyda rhyddhad albwm, Sgt Pepper’s Lonely Hearts Club Band ; sydd yn aml wedi ei ddisgrifio fel yr ‘albwm cysyniadol’ o bwys cyntaf, ac a ystyrir yn gyffredinol fel un a dorrodd gŵys newydd. Gellir dadlau iddo hefyd cael ei ystyried yn un o’r ‘adegau’ yna a newidiodd ffurf newydd ar gelfyddyd (ac efallai a esgorodd ar hynny). Mae hefyd yn hanner canrif (25-27 Awst 1967) ers i’r Beatles ymweld â Bangor, ymweliad a brofodd i fod yn drobwynt yn hanes y grŵp.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2017
Yr Athro Johnson yn ennill gwobr darlith wobrwyol bwysig
Mae'r Athro Barrie Johnson o Goleg y Gwyddorau Naturiol yn ymuno â rhestr glodwiw o wyddonwyr byd-enwog a wahoddwyd i gyflwyno Darlith Hallimond Cymdeithas Fwynegol y DU. Yr Athro Johnson yw'r unig academydd o Gymru i gyflwyno'r ddarlith yn y 46 mlynedd ers ei sefydlu, a chafod ei enwebu a'i ddewis gan banel ar gyfer yr anrhydedd. Cyhoeddir ei ddarlith yng nghyfnodolyn y gymdeithas maes o law.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2017
Welsh language media could hold the solution to Wales’s democratic deficit
Dyma erthygl yn Saesneg gan Ifan Morgan Jones, Darlithyd mewn Newyddiaduraeth yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2017
Emma Chappell yw Dysgwr y Flwyddyn
Testun llawenydd mawr oedd clywed fod Emma Chappell a fynychodd gyrsiau Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor ac yn gweithio yn y Brifysgol yn Y Ganolfan Rheolaeth, wedi ennill Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2017
Forest conservation approaches must recognise the rights of local people
Dyma erthygl yn Saesneg gan Neal Hockley o'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a daearyddiaeth a Sarobidy Rakotonarivo o Brifysgol Stirling sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017
Myfyriwr Hanes yn ennill gwobr mawreddog
Llongyfarchiadau mawr i Ceiri Coker, myfyriwr yn yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg , ar ennill Gwobr Goffa Dr John Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017. Caiff y wobr ei dyfarnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y traethawd estynedig gorau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Hanes Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017
Myfyrwyr bodlon yn gosod Prifysgol Bangor ymysg prifysgolion gorau'r DU
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dangos eu cefnogaeth i'r brifysgol unwaith eto yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, ac wedi gosod y brifysgol yn wythfed ymysg prifysgolion anarbenigol y DU ac yn ail ymysg prifysgolion Cymru. Daw'r newyddion yn fuan ar ôl i'r brifysgol ennill safon aur yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu newydd llywodraeth y DU, yr unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2017
Deall ein Moroedd
Mae Ysgolion Gwyddorau Eigion , Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg Prifysgol Bangor, ar y cyd â chwmni partner 'Tidal Lagoon Power' yn chwilio am fyfyriwr cyfrifiadureg i'w helpu i adeiladu cerbyd annibynnol a fydd yn ateb cwestiynau sydd wedi bod yn boen i ecolegwyr a gwyddonwyr pysgodfeydd ers blynyddoedd - sut mae pysgod yn nofio, ac i ble? Mae'r project newydd a ddatblygir gan SEACAMS, Prifysgol Bangor, ac a gyllidir gan KESS 2 , yn bwriadu olrhain pysgod bach y môr i ddeall i ble mae pysgod yn nofio, mewn ffordd a ddefnyddiwyd gyda siarcod mawr yn unig yn y gorffennol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017
Llwyddiant cerddorol ‘Bodedern’
Yng nghymanfa ganu Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Modedern eleni, daeth llwyddiant i ran un o gyn-ymchwilwyr yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Dyfarnwyd y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-dôn i’r Dr Godfrey Wyn Williams o Bontcysyllte ger Llangollen, cyn-fyfyriwr doethurol o’r Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor. Brodor o Bentre Broughton, ger Brymbo ydyw, yn un o saith o blant a dreuliodd flynyddoedd lawer yn mireinio’i grefft fel cyfansoddwr tonau cynulleidfaol. Yn dilyn llwyddiant yn Eisteddfodau Llandefgan, Llanrwst, Bancffosfelen, Mynytho, Y Tymbl Treuddyn a Llanbedr Pont Steffan daeth ei osodiad hyfryd o eiriau’r Prifardd Cen Williams, cyn-gyfarwyddwr Canolfan Bedwyr y Brifysgol, i’r brig yn ystod y gwasanaeth a ddarlledwyd nos Sul, Awst 6ed eleni. Enw’r dôn oedd ‘Bodedern’ a’r gobaith yw y caiff ei mabwysiadu’n ddiymdroi gan gynulleidfaoedd led led Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Awst 2017
Lansiad Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned
Ar Ddydd Iau, y 10fed o Awst am 10 o’r gloch yn yr Eisteddfod Genedlaethol lansiwyd y Pecyn Cymorth i Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned ym mhabell Prifysgol Bangor yng nghwmni Alun Davies, Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes. Lluniwyd y pecyn gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, mewn cydweithrediad â Mentrau Iaith Cymru. Mae'r pecyn yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o ddulliau i hybu’r Gymraeg yn y gymuned. Casglwyd yr enghreifftiau hyn fel rhan o broject ymchwil mewn 8 cymuned wahanol yng Nghymru. Cyllidwyd y prosiect gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017
Cynrychiolwyr rhyngwladol yn cael eu denu i Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Prifysgol Bangor
Daeth cynrychiolwyr o gyn belled â Chanada, Qatar, yr Eidal a Denmarc i ysgol haf ymchwil breswyl Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017
Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Fel prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan weithgar yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.Mae manylion a newyddion ynghylch holl weithgareddau Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod i’w gael ar safle gwe: www.bangor.ac.uk/eisteddfod
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2017
"Dwi ddim yn comfortable siarad yn y Gymraeg"
Bydd dau myfyriwr ymchwil o Ysgol Seicoleg Profysgol Bangor yn cyflwyno’u hymchwil mewn digwyddiad ar stondin Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod ddydd Llun, Awst 7, 10-11yb. Dwi ddim yn comfortable siarad yn y Gymraeg"-Deinameg ieithyddol mewn gweithle ac ysgol ddwyieithog.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017
Coffáu canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn coffáu canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn gydag arddangosfa yn dathlu bywyd, gwaith a threftadaeth y bardd a'r milwr o Gymro a fu farw ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917. Gellir gweld yr arddangosfa o 5 Mehefin tan 15 Rhagfyr yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Byddwn hefyd yn hyrwyddo'r arddangosfa ym mhabell Prifysgol Bangor ddydd Gwener 11 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017
Anti Glenda a'i ffrindiau Dementia - Eisteddfod Genedlaethol Mawrth 8 Awst
Mae adnodd aml-gyfrwng a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Pentreuchaf i godi ymwybyddiaeth o ddementia, wedi ei ddangos am y tro cyntaf mewn cyfarfod i drafod project arloesol, Project Anti Glenda, ym Mhabell Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod bore 'ma (ddydd Mawrth 8 Awst). Mae dementia yn broblem iechyd cyhoeddus o bwys yng Nghymru ac mae'r ymchwil a'r dysgu ym Mhrifysgol Bangor wedi ei anelu at wella’r gefnogaeth i’r rhai hynny sy'n byw gyda'r cyflwr. Amcangyfrifir bod rhwng 40,000 a 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Gall y symptomau amrywio yn ôl y math o ddementia ond gall y cyflwr effeithio ar dasgau bob dydd, cyfathrebu, y synhwyrau a'r cof.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2017