Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Awst 2016
Ydi’r duedd i ddefnyddio iau pinc cywion ieir yn ein gwneud yn sâl?
Mae pobl yn cael eu rhybuddio i gymryd y duedd i ddefnyddio iau cyw iâr 'pinc' mewn ryseitiau gyda phinsiad o halen. Darganfu ymchwil o Brifysgolion Bangor, Manceinion a Lerpwl bod o duedd bresennol o ddarparu iau cyw iâr sydd prin wedi’i goginio yn achosi risg o wenwyn bwyd campylobacter i’r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016
Lansio cystadleuaeth ysgrifennu ffuglen ddigidol 'boblogaidd' gyntaf y Deyrnas Unedig
Mae’r gystadleuaeth gyntaf yn y DU i chwilio am yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd wedi ei lansio gan brifysgolion Bangor a Sheffield Hallam.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Awst 2016
Staff a myfyrwyr Dysgu Gydol oes mewn print
Llyfrau newydd yn cynnig mewnwelediad i fywydau merched Cymreig bur wahanol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2016
Mynd am dro'r penwythnos hwn?
Y penwythnos gŵyl y banc hwn, beth am fynd allan i gerdded yn y wlad a thynnu ffotograffau o henebion hynafol? Mae llwybrau gwych ar draws Cymru, a gallwch weld ein treftadaeth hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2016
Sidan pryf cop: Uwchlens Natur Wyllt
Mae gwyddonwyr ym mhrifysgolion Bangor a Rhydychen wedi llwyddo i gyflawni camp nas gwelwyd o'r blaen: defnyddio sidan pryf cop fel uwchlens i gynyddu potensial microsgop.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2016
Lleisiau pêl-droedwyr: gamblo a dibyniaeth mewn pêl-droed
Yn ddiweddar mae adroddiadau ar y cyfryngau wedi rhoi sylw i broblemau gamblo ymysg lleiafrif o bêl-droedwyr proffesiynol. Mae ymchwil newydd a gohoeddir yn Addiction Research wedi dangos sut y gall rhai chwaraewyr fynd i drafferthion gyda'u gamblo a beth y gellir ei wneud i'w helpu i chwilio am driniaeth. Cafodd pêl-droedwyr o wahanol gefndiroedd proffesiynol, sydd wedi wynebu problemau gamblo, eu cyfweld fel rhan o ymchwil gan brifysgolion Bangor, Llundain a Rhydychen. Clywodd yr ymchwilwyr yn uniongyrchol gan y chwaraewyr beth oedd eu profiadau o gamblo a sut a pham y daeth gamblo'n broblem iddynt.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2016
Canolfan Môr Cymru yn agor ei drysau yn ystod Gŵyl Fwyd Môr Menai
Bydd cyfle i unigryw i fynychwyr Gŵyl Bwyd Môr Menai ddydd Sadwrn (20 Awst) ymweld â Chanolfan Môr Cymru ar safle Prifysgol Bangor ym Mhorthaethwy. Dyma yw'r diwrnod agored cyntaf i'r cyhoedd er pan agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan Dywysog Cymru ym mis Gorffennaf eleni. Bydd arddangosfeydd a gweithgareddau rhyngweithiol yn dangos y gwaith arloesol a wneir gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2016
Mae nyrsio ym Mhrifysgol Bangor yn mynd o nerth i nerth, ond bydd nifer cyfyngedig o leoedd ar gael yn ystod y broses glirio.
Mae'r Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn tablau cynghrair prifysgolion yn ddiweddar tra mae'r campws yn Wrecsam yn parhau i elwa o fuddsoddiad pellach. Roedd yr ysgol hefyd yn falch iawn o'r cynnydd sylweddol yn nifer y lleoedd i fyfyrwyr a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, sy'n golygu bod gan ei chyrsiau rhagorol, ar gampws Bangor a Wrecsam, leoedd ychwanegol ar gyfer mynediad ym mis Medi 2016 a mis Ebrill 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2016
Bangor yn arwain y sector fel y prif ddarparwr addysg uwch cyfrwng Cymraeg
Mae’r ystadegau diweddaraf ynglŷn ag astudiaethau cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgolion Cymru wedi datgelu fod Bangor yn parhau i arwain y sector fel y prif ddarparwr gyda mwy yn astudio cyfran helaeth o’u cwrs yn Gymraeg yno nag yn unman arall.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2016
Gweld yr anweledig: defnyddio gleiniau nano i wneud uwchlensys
Mae papur yn Science Advances (12 Awst) yn rhoi prawf o gysyniad newydd, gan ddefnyddio uwchlensys 3D solid newydd i dorri drwy raddfa pethau a oedd ond i'w gweld yn flaenorol drwy ficrosgop. Gan ddangos cryfder yr uwchlensys newydd, mae'r gwyddonwyr yn disgrifio gweld, am y tro cyntaf, y wybodaeth ei hun ar arwyneb DVD Blue Ray. Nid yw'r wyneb sgleiniog hwnnw mor llyfn ag rydym yn ei ddychmygu. Ni all microsgopau presennol weld yr hiciau sy'n cynnwys y data - ond nawr datgelir hyd yn oed y data ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2016
A 400-year-old shark is the latest animal discovery to reveal the secrets of long life
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Paul Butler o'r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2016
Lansio Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2 (KESS 2) gwerth £36m yng Nghymru gyda chefnogaeth yr UE
Ym Mhrifysgol Bangor ar 26 ain Gorffennaf, fe lansiodd Mark Drakeford AC, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, brosiect gwerth £36m gyda chefnogaeth yr UE, sy’n cynnig cyfleoedd Meistr Ymchwil a PhD ar y cyd â chwmnïau lleol drwy’r wyth Brifysgol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Awst 2016
How Pokemon Go turned couch potatoes into fitness fanatics without them even realising it
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro John A Parkinson o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016
Sut ddylai’r athletwyr gorau baratoi i ymdopi â gwres?
Er mwyn cystadlu ar eu gorau mewn hinsawdd gwlad boeth, mae’n ofynnol i athletwyr o’r safon ddod i’r arfer â’r hinsawdd yno. Er mwyn gwneud hyn, mae athletwyr fel rheol yn ymarfer mewn gwres am 10-14 diwrnod er mwyn i’w cyrff gynefino â’r gwres un ai drwy symud i wlad boeth i ymarfer neu, i’r ychydig ffodus, ymarfer yn ddyddiol mewn siambr amgylcheddol sy’n efelychu hinsawdd gwlad boeth. Mae hyn yn galluogi eu cyrff i berfformio i’r eithaf, ond nid yw’r dewisiadau hyn ar gael i bawb. Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dangosodd yr Athro Walsh a’i dîm yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, bod cael bath poeth wedi ymarfer mewn amgylchiadau mwyn am chwe diwrnod ar ôl ei gilydd yn sbarduno newidiadau yn y corff sy’n dynwared sut y mae’r corff yn cynefino â thywydd poeth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2016
Prifysgol Bangor yn y 15 uchaf o ran boddhad myfyrwyr
Bangor University’s students have given the University an overall satisfaction rating of 90%, placing the University among the UK’s top 15 non-specialist universities, the traditional institutions who offer a broad range of subjects. These results come from the annual independent National Student Survey ( NSS ).
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2016
Llwyddiant yn Arolwg NSS i'r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg
Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2016 yn dangos llwyddiant aruthrol i Astudiaethau Saesneg ym Mangor, sydd bellach yn safle rhif 1 yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2016
Cymrodoriaeth er Anrhydedd i'r Athro John Ashton gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig
Mae'r Athro John Ashton wedi cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Sefydliad Bancwyr Siartredig yr Alban.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2016
How the snake got its extra-long body
Dyma erthygl yn Saesneg gan John Mulley, darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorai Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2016
Gwyddonydd blaenllaw i dderbyn Medal Frenhinol
Mae cemegydd Prydeinig blaenllaw a gychwynnodd ar ei yrfa ym Mhrifysgol Bangor yn un o dri sydd i dderbyn Medal Frenhinol eleni. Mae Syr John Meurig Thomas Hon FREng FRS i’w anrhydeddu gyda Medal Frenhinol yn 2016 am ei waith arloesol mewn cemeg catalytig, ac yn arbennig ar waith catalydd heterogenaidd un-lleoliad, sydd wedi gwneud argraff fawr ar gemeg werdd, technoleg lân a chynaliadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2016
Cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng Ngogledd Cymru
Mae'r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynllun gwerth £4.4m dan nawdd yr EU i hybu sgiliau arwain a rheoli yng ngogledd Cymru. Bydd Academi Busnes Gogledd Cymru yn cefnogi twf busnes a chystadleurwydd yn y rhanbarth trwy gyflwyno cymwysterau arwain a rheoli wedi eu hachredu gan brifysgol i dros 1,000 o weithwyr dros y tair blynedd nesaf. Caiff Academi Talent Ifanc hefyd ei sefydlu i ddatblygu a chadw'r genhedlaeth nesaf o reolwyr yng ngogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2016
Dysgu byw yn well gyda dementia trwy dechnoleg: apiau newydd ar brawf heddiw yn cysylltu pobl a effeithir gan ddementia ag ymchwilwyr
Mae project a gefnogir gan Brifysgol Bangor yn un o ddau i'w fabwysiadu mewn menter newydd i gefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2016
Lansio cwrs gradd newydd ar faes yr Eisteddfod
Yng nghanol bwrlwm bore dydd Mawrth ar faes yr Eisteddfod eleni, lansiwyd cynllun gradd newydd gan Ysgol y Gymraeg , sef Cymraeg Proffesiynol . Wedi ei ddatblygu ar y cyd â Chanolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg yBrifysgol, Canolfan Bedwyr , agorwyd y lansiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2016