Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2015
Newid Ymddygiad yn helpu Menter Gymdeithasol Gynaliadwy'r Flwyddyn
Enillodd menter gymdeithasol leol gwobr genedlaethol gyda chefnogaeth canolfan ymchwil arloesol. Derbyniodd Antur Waunfawr gwobr Cynnal Cymru Menter Gymdeithasol Gynaliadwy 2015 mewn seremoni yng Nghaerdydd. Roedd yr Antur wedi cael hwb i geisio am y wobr yn dilyn prosiect llwyddiannus gyda’r Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ym Mhrifysgol Bangor i greu Adroddiad Effaith.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015
Prifysgol Bangor i wobrwyo effaith eithriadol sy’n deillio o weithgareddau ymchwil a menter
Mae deuddeg project o Brifysgol Bangor wedi eu gosod ar y rhestr fer i ennill gwobr yn nhrydedd Noson flynyddol Gwobrau Effaith ac Arloesedd Prifysgol Bangor, a noddir gan Santander Universities. Mae’r gwobrau pwysig hyn yn cydnabod ac yn dathlu effaith ymchwil, arloesedd a mentergarwch y Brifysgol ar y gymuned a’r economi gyfan. Eleni, mae’r Brifysgol yn cyflwyno categori gwobr newydd, sef, Cyfraniad Eithriadol i Gymru, i gydnabod gweithgareddau sydd wedi cael effaith sylweddol yn genedlaethol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015
Gwaith ymchwil o'r Brifysgol yn cael ei arddangos mewn digwyddiad i ddathlu'r gwyddorau cymdeithasol mewn cymdeithas
Mae esiamlpau o waith ymchwil o Brifysgol Bangor yn cael eu hamlygu mewn cyhoeddiad newydd sy’n dathlu ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru. Cyhoeddir ' Dadlau o Blaid y Gwyddorau Cymdeithasol Rhif 10: Cymru ' gan Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a'i Hymgyrch dros Wyddor Gymdeithasol. Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys 14 o astudiaethau achos o ymchwil a wnaed gan sefydliadau yng Nghymru sydd wedi dylanwadu ar lywodraethau gwladol a rhyngwladol, yn ogystal â thynnu sylw at fanteision gwaith ymchwil i'r gwyddorau cymdeithasol ar gyfer polisi cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015
Adroddiad yn annog llywodraethau i adolygu'r ddyletswydd o addoli ar y cyd mewn ysgolion
Yn ôl y gyfraith mae angen i'r mwyafrif llethol o ysgolion gwladol yn y DU gynnal addoliad ar y cyd dyddiol (Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon) neu ddefod grefyddol (Yr Alban) i'w disgyblion. Rhaid i’r mwyafrif o’r addoliadau hyn yn ystod unrhyw dymor ysgol fod ‘yn gyfan gwbl neu’n bennaf Gristnogol eu natur’, ymwneud â ‘moli neu addoli bod neu rym dwyfol’ a 'rhoi statws arbennig i Iesu Grist'. Mae tîm ymchwil amlddisgyblaethol dan arweiniad Dr Alison Mawhinney (Ysgol y Gyfraith Bangor) wedi edrych ar y ddyletswydd hon ac, mewn cynhadledd ryngwladol a gynhaliwyd y mis hwn, lansiwyd adroddiad sy'n argymell i lywodraethau'r DU edrych drachefn ar y rheidrwydd hwn rhag blaen.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2015
Dathlu rhagoriaeth nyrsio yng ngogledd Cymru
Rhoddwyd cydnabyddiaeth i ragoriaeth nyrsio yng ngogledd Cymru yn ddiweddar yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2015. Roedd tri chynrychiolydd o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri categori.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2015
Signs of our times: why emoji can be even more powerful than words
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Vyv Evans o’r Ysgol Ieithyddiaith a Iaith Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015
Dyma Shân mewn Cwmni Da!
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C. Mae Shân Pritchard sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth KESS i astudio ar gyfer PhD mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da. Diolch i’r ysgoloriaeth arbennig hwn, caiff Shân y cyfle i weithio ar nifer o brosiectau cyffrous, megis ‘Dyma Fi’.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015
Prifysgol Bangor yn cydnabod darlithwyr am eu cyfraniad at addysgu a dysgu
Yn ddiweddar, bu i ddau ddarlithydd o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas dderbyn gwobrau gan Brifysgol Bangor i gydnabod eu cyfraniad at addysgu a dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2015
Plant Cymru’n cyflwyno’r adroddiad cyntaf gan blant i’r Cenhedloedd Unedig
Gwahoddwyd disgyblion o dair ysgol leol (Ysgol Gynradd Biwmares, Ysgol Gynradd Sowthdown, Bwcle ac Ysgol Hiraddug, Dyserth) i ddigwyddiad a drefnwyd gan Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor (17 Tachwedd) er mwyn lansio’n ffurfiol adroddiad “ Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out ”. Dyma’r tro cyntaf erioed i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn dderbyn adroddiad a luniwyd gan blant 7-11 yn seiliedig ar eu hymchwil eu hunain.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015
Argymhellion i gryfhau System Cyfiawnder Gweinyddol Cymru
Lansiwyd adroddiad sy’n codi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at yr heriau a'r cyfleoedd i system cyfiawnder gweinyddol Cymru heddiw (17 Tachwedd). Mae cyfiawnder gweinyddol yn ymdrin â'r berthynas rhwng yr unigolyn a'r wladwriaeth ac mae'n cynnwys egwyddorion gwneud penderfyniadau da i gyrff cyhoeddus, sut mae pobl yn cwyno i'r cyrff hynny, yn ogystal â dulliau allanol o unioni cam fel y llysoedd, tribiwnlysoedd, ombwdsmyn a chomisiynwyr sydd â chyfrifoldebau mewn gwahanol feysydd o fywyd cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015
Canlyniadau cynnar ymchwil yn datgelu barn pobl ifanc am iechyd meddwl
Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc yng Nghymru yn cyrraedd y safonau yn ôl canfyddiadau ymchwil gynnar (17 Tachwedd). Adroddwyd ar y canfyddiadau yn ystod lansiad Arsyllfa@Bangor, cangen gogledd Cymru Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi ei leoli yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015
ACau, ASau ac Arbenigwyr yn Galw ar Bleidiau Cymru i Gefnogi Addysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar ym meysydd Iechyd ac Addysg
Bydd ACau o bob plaid yn ymuno ag arbenigwyr ymwybyddiaeth ofalgar yn Nhy Hywel Cynulliad Cenedlaethol Cymru fory (Mawrth 17 Tachwedd) i alw am wneud mwy ym maes ymwybyddiaeth ofalgar. Mae Cymru yn wynebu argyfwng iechyd meddwl; ceir consensws bod angen gwneud mwy i gefnogi pobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl neu mewn perygl o'u datblygu. Mae Mindful Nation UK, adroddiad newydd gan ASau San Steffan, yn cyflwyno tystiolaeth bod hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar - dysgu technegau gan gynnwys myfyrio sy'n helpu pobl i ymateb yn well i anawsterau - yn gallu chwarae rhan hanfodol mewn gofal iechyd, mewn addysg ac mewn gweithleoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2015
Her Ddiwylliannol ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn gwahodd y cyhoedd i gael blas ar amrywiaeth ddiwylliannol myfyrwyr Bangor a chymryd rhan mewn cwis 'Her Ddiwylliannol'. Ar 2 Rhagfyr, bydd deg tîm o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn cystadlu â'i gilydd am wobrau gwych mewn Her Ddiwylliannol sy'n cynnwys gwobr gyntaf o daith i Beijing.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2015
Disgyblion yn ‘Codi’r To’ wrth ymweld â’r Senedd
Yn ddiweddar, bu disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Maesincla, Caernarfon a disgyblion Blwyddyn 5 Ysgol Glancegin, Bangor yn ‘codi’r to’ yn ninas Caerdydd gyda pherfformiad cerddorol arbennig yng nghyntedd y Senedd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2015
Trefnu bod Data ar Gael ar gyfer Ymchwil
SAIL a NWORTH yn Cytuno ar Gydweithrediad Strategol Mae SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) a NWORTH (Uned Dreialon Cinigol Bangor sydd yn ran o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd ) wedi cytuno i gydweithio mewn partneriaeth. Mae SAIL yn adnodd byd-eang yn canolbwyntio ar wella iechyd, lles a gwasanaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2015
Ymchwil gan Brifysgol Bangor i fynediad i feddyginiaethau at glefydau prin
Yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor, mae cleifion â chlefydau prin yn aml yn cael profiadau llawn her, sy’n creu anawsterau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cafodd ymchwilwyr yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau fod cleifion yn aml yn wynebu anawsterau o ran cael diagnosis i’w cyflwr, mynediad at ofal arbenigol, a bod triniaeth effeithiol ar gael. Er y cynnydd ers 10 mlynedd yn nifer y meddyginiaethau sydd ar gael i drin clefydau prin, mae mynediad at driniaeth yn broblemus, yn bennaf oherwydd eu costau uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2015
Cynhadledd i roi’r Gymraeg ar waith
Bydd Prif Weinidog Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn rhannu llwyfan mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon a fydd yn edrych ar ddulliau o annog defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Ddydd Gwener 13 Tachwedd, disgwylir dros 100 o gynrychiolwyr o wahanol sefydliadau a chwmnïau i gynhadledd ‘ Rhoi’r Iaith yn y Gwaith ’ a fydd yn rhoi sylw i rai o’r arferion gorau ledled Cymru o ran hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015
How trillions of tiny solar panels could power the internet of things
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jeff Kettle o’r Ysgol Peirianneg Electronig sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen T he Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015
Myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor wedi llofnodi cytundeb i ysgrifennu bywgraffiad am fand pync
Mae Joe Shooman, 41 oed o Groesoswallt, newydd lofnodi cytundeb i ysgrifennu bywgraffiad am y band pync-pop 'All Time Low' o'r Unol Daleithiau. Cyhoeddir y llyfr 75,000 o eiriau gan Music Press Limited yn y DU yn ystod gwanwyn/haf 2016. Mae Joe, sy'n wreiddiol o Fangor, yn ei flwyddyn olaf ar hyn o bryd yn astudio PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol Saesneg. Hwn fydd y chweched llyfr i Joe ei gyhoeddi gyda’i lyfrau blaenorol yn cynnwys bywgraffiadau o Blink-182, MySpace, Trivium, Kasabian a chanwr Iron Maiden, Bruce Dickinson.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015
Myfyrwraig Prifysgol Bangor yn derbyn Medal Ebola
Yn dilyn Sierra Leone yn cael ei ddatgan yn glir o’r feirws Ebola, mae myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor wedi derbyn medal mewn cydnabyddiaeth o'i dewrder ac ymroddiad wrth fynd i'r afael a’r argyfwng yng Ngorllewin Affrica.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2015
CERQual: Dull newydd o gefnogi defnyddio tystiolaeth ansoddol wrth wneud penderfyniadau
Mae papur newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn PLOS Medicine yn disgrifio dull gweithredu arloesol ac eglur i asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn darganfyddiadau o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol. Bwriad y dull gweithredu newydd, a elwir yn CERQual (‘Confidence in the Evidence from Reviews of Qualitative research’), yw helpu rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol ar gyfer penderfyniadau a pholisiau’n ymwneud â gofal iechyd a lles cymdeithasol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2015
Partneriaethau Iechyd i ddysgu, hyfforddi a darparu cefnogaeth ymarferol i weithwyr iechyd yn Lesotho
Bydd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd yn anfon staff allweddol gydag arbenigedd mewn trefnu, rheoli ac arwain ym maes gofal iechyd i Lesotho. Mae’r Brifysgol yn cydweithio efo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru ar broject a gyllidir gan yr Adran Datblygiad Rhyngwladol (DiFD) drwy Gynllun Partneriaethau Iechyd yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2015
Y cyfarwyddwr ffilmiau byd enwog Danny Boyle wedi mwynhau ei amser yn astudio ym Mhrifysgol Bangor
Soniodd y cyfarwyddwr ffilmiau Danny Boyle, a enillodd radd mewn Drama a Saesneg o Brifysgol Bangor yn 1978, fod ganddo atgofion melys iawn o’i amser ym Mangor, yn ystod cyfweliad gyda’r rhaglen Good Evening Wales ar Radio Wales yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2015
Troseddau'n erbyn yr unigolyn - moderneiddio'r gyfraith sy'n ymwneud â thrais
Yn ôl Comisiwn y Gyfraith mae angen rheolau newydd i fynd i'r afael â throseddau treisgar a gwneud gwell defnydd o amser y llysoedd. Ddydd Mawrth, 3 Tachwedd, cafodd adroddiad newydd gan Gomisiwn y Gyfraith ei lansio mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Bangor, gyda'r Athro Ormerod, Comisiynydd y Gyfraith dros gyfraith droseddol, yn traddodi darlith ar 'Reforming Offences Against the Person', i fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith Bangor a gwahoddedigion.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2015
Allwn ni ddefnyddio eDNA fel 'chwyddwydr amgylcheddol'?
Mae syniad arloesol a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor wedi cael ei ddewis fel un o wyth project a ddewiswyd o fewn pedwar maes 'syniad' a gyllidir drwy ffrwd cyllid ymchwil newydd "Highlight Topic" Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC). Ar sail eu hymchwil, gwahoddwyd y gymuned wyddonol i gyflwyno meysydd project a fyddai'n rhoi lle canolog i wyddor amgylcheddol yn y gwaith o reoli'r blaned yn gynaliadwy. Ymysg tua 150 o gyflwyniadau roedd "DNA amgylcheddol: cyfrwng ar gyfer ecoleg yr unfed ganrif ar hugain", sef y syniad newydd a awgrymwyd gan Brifysgol Bangor, mewn cydweithrediad ag academyddion a budd-ddeiliaid eraill. Bydd y project llwyddiannus yn asesu sut y gallwn ddefnyddio technegau genetig newydd i fesur bioamrywiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2015
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2015