Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2014
Darlithydd yn lansio cyfnodolyn Dwyrain Asia newydd
Mae uwch ddarlithydd mewn diwylliant gweledol ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu cyhoeddi cyfnodolyn newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2014
Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson yn gweld ymchwil amgylcheddol arloesol yn ystod ei hymweliad â Bangor
Daeth Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Randerson i Fangor (ddydd Iau 27 Tachwedd) i glywed am y gwaith ymchwil amgylcheddol cyffrous ac arloesol sy'n digwydd yno. Bu’r Farwnes Randerson yn ymweld ag Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor a’r Ganolfan Ecoleg & Hydroleg, sydd hefyd ar gampws y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014
Geiriadur Bangor
Mae Geiriadur Cymraeg Saesneg y BBC nôl yn fyw ar ei newydd wedd! Pan dynnwyd Geiriadur y BBC o’u gwefan, yn sgil ymddeol eu hen feddalwedd, roedd llawer o bobl yn gweld ei golli. Er bod geiriaduron ar-lein eraill yn bodoli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg erbyn hyn, roedd nifer o ddefnyddwyr, gan gynnwys dysgwyr, yn hoffi ei ryngwyneb syml, hawdd ei ddefnyddio. Roedd ei gyfuniad o eirfa cyffredinol a’r termau technegol diweddaraf hefyd yn boblogaidd iawn. Gofynnwyd i lunwyr gwreiddiol y Geiriadur, sef Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr Prifysgol Bangor, a oedd modd iddyn nhw ei adfer, a’i gyhoeddi ar wefan y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014
Dathlu rhagoriaeth ymysg myfyrwyr y flwyddyn gyntaf
Mae rhai o fyfyrwyr disgleiriaf y flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn ysgoloriaeth am eu llwyddiant academaidd yn eu Lefel A. Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Prifysgol Bangor yn cael eu dyfarnu i'r myfyrwyr newydd sydd â'r cyrhaeddiad academaidd uchaf yn eu pynciau penodol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2014
Penodi Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredu yn Gyfarwyddwr newydd Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil yr NIHR
Penodwyd Yr Athro Jo Rycroft-Malone, o Brifysgol Bangor yn gyfarwyddwr Rhaglen Ymchwil Gwasanaethau a Chyflawni Iechyd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil i Iechyd. Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR) yw'r corff cyllido mwyaf ar gyfer ymchwil gymhwysol i iechyd yn y Deyrnas Unedig. Bydd yr Athro Rycroft Malone yn dilyn yr Athro Ray Fitzpatrick pan fydd yntau'n camu i lawr o'i swydd yn arwain y rhaglen HS&DR ddiwedd mis Hydref 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2014
Myfyrwraig prifysgol bangor yn lansio llyfr gyda cherddorfa llysiau
Bongos Melon, ysgydwyr pupur, ffidlau cennin a casŵau moron fydd ychydig o’r offerynnau cerddorol a grëwyd ac a fydd yn cael eu chwarae gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Nant y Coed yn eu Ffair Nadolig ar noson yr 2ail o Ragfyr. Bydd y perfformiad yn lansio e-lyfr newydd rhyngweithiol i blant o’r enw ‘ Arnie Williams yn siarad â Llysiau !’
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2014
Llwyfannau creigiog yn chwalu egni'r tonnau - dull newydd o amddiffyn arfordiroedd?
Mae cymunedau ar draws Cymru yn dod i delerau â'r peryg real iawn o lifogydd ar yr arfordiroedd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod cynifer â 48 o ardaloedd wedi eu nodi lle na fydd amddiffynfeydd arfordirol yn cael eu cynnal a'u cadw yn y tymor hir. Gan gadw'r ffaith galed honno mewn cof, mae gwyddonwyr yng Nghymru yn cyfrannu eu harbenigedd i gael darlun cliriach o'r tonnau a'r moroedd uchel sy'n taro ein harfordiroedd, fel y gallant ddeall yn well yr egni yn y tonnau a sut y gellir ysigo grym y tonnau.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2014
Ail enwebiad am wobr i Ysgol y Gyfraith Bangor
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor wedi ei rhoi ar y rhestr fer am Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn. Mae Dr Ama Eyo yn un o ddim ond chwech o athrawon y gyfraith mewn sefydliadau ledled y DU a roddwyd ar y rhestr fer am y wobr. Noddir y Wobr Athro'r Gyfraith y Flwyddyn gan Wasg Prifysgol Rhydychen, a dyma'r unig un o'i bath yn y DU a sefydlwyd yn benodol i wobrwyo dysgu da ym maes y gyfraith mewn addysg uwch ac addysg bellach.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Tachwedd 2014
Cynyddu ein partneriaethau dysgu
Creu a chynyddu ein partneriaethau dysgu ar gyfer darpariaeth fwy effeithiol a chynwys cyfoes!
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2014
Academydd o Fangor yn ennill Gwobr Ben Jonson
Mae'r Athro Andrew Hiscock o Brifysgol Bangor yn un o dri academydd rhyngwladol i dderbyn Gwobr Ben Jonson eleni. Enillodd Andrew, o Ysgol Llenyddiaeth Saesneg y Brifysgol, y Ben Jonson Discovery Award am ei erthygl ymchwil “‘O, Tom Thumb! Tom Thumb! Wherefore art thou Tom Thumb?’: Early Modern Drama and the Eighteenth-century Writer – Henry Fielding and Fanny Burney”.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2014
Cyllid yn cael ei ddyfarnu i gwblhau catalogio papurau Castell Penrhyn
Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor wedi llwyddo i gael grant i helpu i gatalogio gweddill papurau Castell Penrhyn. Dyfarnodd y Rhaglen Grantiau Catalogio Genedlaethol grant o £46,487 i gwblhau catalogio deunydd archifol sy’n mesur 47 metr ar ei hyd. Bydd y papurau sy’n ymwneud â'r planhigfeydd siwgr yn Jamaica ac yn eiddo i'r teulu Pennant ynghyd â deunyddiau sy'n ymwneud â Streic Chwarel y Penrhyn o 1900-1903 o bwysig arbennig i haneswyr cenedlaethol a rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014
Arddangosfa yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth trethi hanesyddol
Mae arddangosfa sy’n amlinellu hanes trethi yng Nghymru ac yn annog ymwelwyr i roi eu barn ar ddeddfwriaeth drethi gyntaf y wlad yn y cyfnod modern i’w gweld yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol Bangor tan 28 Tachwedd. Bu’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn lansio’r arddangosfa yn y Brifysgol cyn ymuno â’r cyfarfod Fforwm Trethi cyntaf yn y Gogledd. Grŵp o randdeiliaid yw’r Fforwm sy’n cynghori ar gyfraith trethi, gweinyddu a’r ffordd y caiff polisi a deddfwriaeth trethi Cymru eu datblygu. Mae’r Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol y Gyfraith hefyd yn aelod.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014
Pam fod Saesneg yn iaith addysg yng Nghymru yn draddodiadol?
Nid canlyniad gorthrwm oedd hyn. Cafodd addysg gyfrwng Saesneg ei gweld fel ffordd o helpu’r Cymry i ddysgu Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014
Prifysgol Bangor a Waitrose yn ymestyn allan i becynnu gwyrdd
Roedd project cydweithredol a arweiniwyd gan y Ganolfan Biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor, mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth a Waitrose, yn cael ei arddangos yn Waitrose Porthaethwy yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014
Rhwydwaith Bangor ar gyfer Cyfryngau, Perswâd a Chyfathrebu (MPC) wedi cynnal cynhadledd lwyddiannus
Ar 10-11 Tachwedd 2014, cynhaliodd Rhwydwaith Bangor ar gyfer Cyfryngau, Perswâd a Chyfathrebu gynhadledd flynyddol y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol ar gyfer y Grŵp Cyfryngau a Gwleidyddiaeth. Y Cyfryngau, Perswâd a Hawliau Dynol oedd y thema.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014
Teitl Nyrs y Frenhines i Ddarlithydd Prifysgol Bangor
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei gwobrwyo am ei nyrsio cymunedol rhagorol trwy ennill y teitl "Nyrs y Frenhines". Mae Jane Wright wedi ennill gwobr Nyrs y Frenhines, sy'n cynnwys y teitl "Nyrs y Frenhines" gan y " Queen’s Nursing Institute ". Elusen gofrestredig yw hon sydd â'r Frenhines yn noddwr arni, ac mae'r sefydliad wedi ymroi i wella gofal nyrsio i bobl yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014
Myfyrwraig yn cynorthwyo ar gyfres rhaglenni Dyma Fi ar S4C
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn ddiweddar i weithio ar gyfres teledu ar gyfer S4C gyda’r nod o lunio portread gonest o fywydau pobl ifanc Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae Shân Pritchard, sydd eisoes wedi graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn gweithio ar gyfres o raglenni mewn partneriaeth a chwmni cynhyrchu teledu, Cwmni Da fel rhan o’i gradd Meistr.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014
Myfyriwr Cyfrifiadureg wedi hacio’n fyw ar lwyfan mewn prif ddigwyddiad yn Llundain
Bu myfyriwr o Brifysgol Bangor sydd hefyd yn haciwr moesol ardystiedig yn cymryd rhan mewn digwyddiad mawr yn Llundain yn ddiweddar. Roedd siaradwyr adnabyddus fel Boris Johnson a'r Arglwydd Alex Carlile hefyd yn rhan o’r digwyddiad. Perfformiwyd ‘hac’ yn fyw ar lwyfan gan Jamie Woodruff, 21 oed, o Rishton , Swydd Gaerhirfryn sy’n fyfyriwr ail flwyddyn yn yr Ysgol Cyfrifiadureg, fel rhan o’r digwyddiad Legislating for LulzSec ' - trafodaeth ar breifatrwydd, data a pholisi ar gyfer yr economi ddigidol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2014
Full-time PhD Studentship
Tâl blynyddol: £14,000 y flwyddyn a ddarperir gan Drapers ; telir y ffioedd goruchwylio gan y Brifysgol PhD tair blynedd llawn-amser yn canolbwyntio ar: Ailddarganfod tosturi a chydymdeimlad yn y gweithlu nyrsio: integreiddio estheteg i addysg a hyfforddiant nyrsio er mwyn gwella arferion gofal dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2014
Hyfforddi i Addysgu - Seminar Wybodaeth
Ar y 3ydd o Ragfyr, dewch i ddysgu mwy am yrfa fel athro ysgol uwchradd yn ein seminar gwybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2014
Archif y mis
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cynhaliwyd arbrawf yng Nglan-llyn, ar lannau Llyn Tegid, Y Bala i ganfod a ellid hyfforddi morloi i ganfod llongau tanfor y gelyn yn y môr mawr.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2014
Ffair y Gyfraith ym Mangor yn amlygu cyfleoedd cyflogaeth i raddedigion
Fel rhan o’i dathliadau deng mlynedd mewn bodolaeth, fe fydd Ysgol y Gyfraith Bangor (Gwynedd) yn cynnal Ffair y Gyfraith ar ddydd Mercher, 19 Tachwedd 2014, rhwng 9.45am tan 3.30pm. Bwriad y Ffair yw i ddod â myfyrwyr y Gyfraith ym Mangor a chyflogwyr ynghyd mewn amgylchedd fydd yn creu canlyniadau cyd-fanteisiol. Mae’r Ffair y Gyfraith yn gyfle i unrhyw un, o fyfyrwyr Ysgol y Gyfraith, i ddisgyblion ysgolion uwchradd, i rai sy’n cynnig cyfleodd gyrfa, ac unrhyw un arall fyddai â diddordeb mewn gweld pa fath o yrfaoedd yn y Gyfraith sydd ar gael i’r rhai hynny sydd â gradd yn y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2014
Syr Dave Brailsford yn agor Canolfan Chwaraeon a enwyd i’w anrhydeddu
Bu Syr Dave Brailsford yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar (5 Tachwedd) i agor yn swyddogol Canolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon Prifysgol Bangor sydd newydd ei hadnewyddu ac a ailenwyd i anrhydeddu rheolwr y tîm seiclo llwyddiannus. Ail-agorwyd y Ganolfan Chwarae cyn y flwyddyn academaidd hon yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf yn ail-fodelu’r ganolfan, ac mae wedi cael croeso cynnes gan y myfyrwyr a’r cyhoedd hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2014
Mae bywyd allan yna: Manteision gweithgareddau awyr agored
The most recent figures from the Welsh Government show that outdoor activity tourism in Wales is worth £481 million. Outdoor activity providers such as Surf-Lines need to continue to attract visitors and locals. The number of people regularly involved in outdoor activities has grown in the last thirty years, and researchers have reported increases in self-esteem and other positive outcomes as benefits of taking part. In other words, taking part in outdoor activities provides significant psychological and long-lasting benefits. Surprisingly, researchers still do not understand why and how these benefits occur.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2014
Modd i atal gordewdra plant
Mae canfod ffyrdd o atal gordewdra plant wedi dod yn brif flaenoriaeth i iechyd y cyhoedd. Ond ceir newyddion da hefyd; mae tystiolaeth yn awgrymu y gall cynyddu’r swm o ffrwythau a llysiau a fwyteir gan blant fod yn gymorth i reoli’r cynnydd yn eu pwysau. Mae Food Dudes Health , Menter Gymdeithasol sy’n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, wedi datblygu Rhaglen Bwyta’n Iach Food Dudes, ymyriad newid ymddygiad yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n creu cynnydd mawr a pharhaol yn y swm o ffrwythau a llysiau a fwyteir gan blant.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2014
Dwy Ddarlith ar Hanes Cymru
Bydd dau gyfnod gwahanol iawn yn hanes Cymru o dan y chwyddwydr mewn dwy ddarlith ym Mhrifysgol Bangor ar 7 a 12 Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2014
Bwrsariaethau Ehangu Mynediad yn caniatáu myfyrwyr i barhau a’u hastudiaethau
Three new Bangor University Masters students have each been awarded a £5,000 bursary by the University’s Widening Access Centre as part of its commitment to postgraduate learning. All three recipients are from economically-deprived areas and have shown considerable fortitude in gaining their undergraduate degrees. The Widening Access bursaries will now allow these individuals to continue with their education
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2014
Ydych chi’n brwydro dros annog eich plentyn i ddarllen? Mae cymorth wrth law!
Gall anfodlonrwydd i ddarllen fod yn arwydd clasurol bod gan blentyn dyslecsia, ond gall fod yna arwyddion bach eraill hefyd i godi pryderon rhiant yn ôl Joanna Dunton o Ganolfan Dyslecsia Miles Prifysgol Bangor. Yn siarad o flaen Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia , (3- 9 Tachwedd) esboniodd therapydd iaith Jo Dunton y gall plant efo dyslecsia cael trafferth efo darllen, sillafu ac ysgrifennu, ond hefyd efo sgiliau cymdeithasol ac mewn meysydd eraill sydd ar yr wyneb yn amherthnasol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2014
Terminolegwyr Bangor yn Helpu Prifysgolion De Affrica
Mae terminolegwyr o Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor wedi bod yn cynghori staff ym Mhrifysgol De Affrica, un o’r sefydliadau addysg uwch mwyaf yn y byd, ynglŷn â sut i wella eu gwasanaeth termau amlieithog i staff a myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2014