Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Hydref 2012
Cadw proffil isel wrth hedfan dros gopaon y byd.
Mae Gwyddau’r India ( Anser indicus ) ymysg hedwyr gorau’r byd adar. Yn ogystal â bod yn hardd yr olwg, maent wedi dod i amlygrwydd fel adar sy’n hedfan yn ddidrafferth dros gopaon uchaf y byd yn yr Himalaya wrth iddynt ymfudo o un cynefin i’r llall. Byddai rhywun yn tybio bod yr ymfudo hwn yn galetach fyth wrth ystyried bod lefelau ocsigen ar yr uchder hwn lai na hanner yr hyn a geir ar lefel y môr. Mae’n rhaid i bobl sy’n dringo i’r fath uchder gymryd egwyl bob cam neu ddau i ddod dros yr ymdrech mewn aer mor denau, ond gall Gwyddau’r India hedfan am filltiroedd maith uwchlaw’r copaon, gan glochdar wrth fynd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2012
Pysgodyn Anferth yn Dilyn Kate
A 70 pound grouper, fondly named Darth Vader, took a shine to a Bangor University student over the summer. Kate Cooper, 18, from Pembroke, Bermuda, volunteered at the Bermuda Aquarium during her summer vacation. The massive fish seemed to be very fond of Kate, following her around like a puppy as she cleaned the inside of the glass in the fish tanks
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2012
Rhaglen LEAD Cymru'n cefnogi twf busnesau Cymru
Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth, 30 Hydref), mae LEAD Cymru, Project a leolir yn rhannol yn Ysgol Busnes Prifygsol Bangor mewn sefyllfa dda i chwarae rôl arweiniol wrth gefnogi twf busnesau Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2012
Digwyddiad pwrcasu yn llwyddiant
Mae digwyddiad gafodd ei gynnal er mwyn darganfod sut y gall cynghorau wella eu hymarfer da o ran pwrcasu wedi derbyn adborth bositif gan fusnesau lleol, llywodraeth leol ac academyddion.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2012
Myfyrwraig Archaeoleg yn ennill Gwobr Astudiaethau Celtaidd Ewropeaidd
Mae Greta Anthoons, myfyrwraig hŷn o Wlad Belg sy’n astudio am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Johann Kaspar Zeuss yng Nghymdeithas Astudiaethau Celtaidd Ewropeaidd (Societas Celtologica Europaea). Rhoddir y wobr o €750 i’r traethawd hir gorau ar lefel MA a PhD ym maes Astudiaethau Celtaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2012
Lansio Rhwydwaith €1.8 miliwn i ddatblygu’r Sector Ynni Solar yn Iwerddon a Chymru
Mae menter €1.8 miliwn newydd i helpu i ddatblygu a chynnal swyddi yn y sector Ynni Solar (ffotofoltaig) newydd ei lansio gan gonsortiwm o Sefydliadau Addysg Uwch, o Gymru ac Iwerddon. Mae'r sector hwn yn un o bwys economaidd mawr. Mae ‘Rhwydwaith Cymru Iwerddon ar gyfer Technolegau Ffotofoltaig Arloesol’ (WIN-IPT) wedi ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Raglen Iwerddon Cymru 2007-13.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2012
Tîm Dr Peter Holliman o Ysgol Cemeg Bangor yn bartneriaid technoleg gyda'r peilot teledu "Buildings as power stations".
Tîm Dr Peter Holliman o Ysgol Cemeg Bangor yn bartneriaid technoleg gyda'r peilot teledu "Buildings as power stations".
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2012
Rhaglen deledu’n edrych ar ein hymchwil i ddiogelu brithyll môr
Bydd Dr Carys Ann Davies o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn ymddangos yng nghyfres newydd Great British Food Revival sydd wedi ail-gychwyn ar nos Fercher, 8.00 pm, 10 Hydref ar BBC 2.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012
Sensoriaeth dan unbennaeth Franco yn parhau i daflu cysgod dros lenyddiaeth yn Sbaen
Bydd Skyfall, trydedd ffilm ar hugain James Bond, yn cael ei rhyddhau ar 26 Hydref, i gyd-fynd â hanner canmlwyddiant rhyddhau’r ffilm James Bond gyntaf, Dr No yn 1962. Ond bydd ffans brwd yr asiant cudd yn synnu o ddeall bod cyfieithiad Sbaeneg presennol Dr No , un o nofelau mwyaf poblogaidd Ian Fleming, yn dal i gynnwys toriadau a wnaed gan sensoriaid dan Unbennaeth Franco (1939-1975). Bydd darllenwyr yn Sbaen hwythau’n synnu wrth ddarganfod bod y llyfr hwn, a nifer o gyfieithiadau o glasuron llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd sydd yn dal ar gael ar hyn o bryd, yn parhau i gynnwys golygiadau a gymeradwywyd gan sensoriaid yr Unben - a hyd nes yn ddiweddar iawn, fod nifer o nofelau eraill dal ddim ar gael yn Sbaen yn sgil sensoriaeth cyfnod Franco.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012
Ysgol Athroniaeth a Chrefydd wedi lansio
Daeth llawer o staff academaidd a gweinyddol o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau i lansio Ysgol newydd Athroniaeth a Chrefydd yn Ystafell y Cyngor ddydd Gwener, 12 Hydref.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012
Geiriadur Cymraeg ym mhobman! Lansio ap geiriaduron newydd a bysellfwrdd ffôn Cymraeg ar ben yr Wyddfa, 23 Hydref, 2012
Diolch i'r cynnydd mewn technoleg y blynyddoedd diwethaf, o heddiw ymlaen mi fydd hi'n bosib cario a defnyddio geiriadur Cymraeg i bobman. Bydd Ap Geiriaduron – sydd ar gael i’r iPhone, iPad ac Android – yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar ben yr Wyddfa er mwyn dangos pa mor gryno a defnyddiol y mae fel geiriadur i ddysgwyr, rheini, plant ac athrawon ym mhobman.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012
Sut mae pengwiniaid yn defnyddio swigod i nofio at wyneb y môr
Mae awgrym gan yr Athro Roger Hughes o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor am lwybr swigod pengwiniaid wedi ei gyhoeddi yn rhifyn Tachwedd 2012 o’r cylchgrawn National Geographic . Mae’n awgrymu bod y llwybr swigod a welir mewn lluniau tanddwr o bengwiniaid ymerodrol yn nofio at wyneb y môr yn cael ei gynhyrchu i leihau llusgiad.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012
Arglwydd Raglaw Gwynedd yn cyflwyno Gwobr bwysig gan y Frenhines i grŵp gwirfoddol lleol
Heddiw (17 Hydref 2012) cynhaliodd Arglwydd Raglaw Gwynedd seremoni arbennig i gyflwyno Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol 2012 i Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor ym Mhrifysgol Bango
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2012
Cynllun cyfeillion ieithoedd yn ennill gwobr
Mae cynllun sy’n cysylltu disgyblion ysgol a myfyrwyr israddedig ar eu blwyddyn dramor wedi derbyn gwobr fawreddog Label Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2012
Addysgwr sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn addysg uwch yn derbyn gwobr bwysig
Mae Dr Charles Buckley o Brifysgol Bangor wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol. Hon yw’r wobr bwysicaf am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch. Dyma’r tro cyntaf i aelod staff o Brifysgol Bangor dderbyn gwobr o’r fath.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2012
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel
Mae myfyriwr Cerddoriaeth o Brifysgol Bangor i’w longyfarch ar ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni. Mewn cystadleuaeth o safon ardderchog a gynhaliwyd ac a ddarlledwyd yn fyw ar S4C nos Sul 14 Hydref 2012, bu Huw Ynyr, canwr yn cystadlu yn erbyn Lois Eifion, sy’n astudio gradd uwch MA mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a phedair arall. Prif enillwyr cystadlaethau perfformio Eisteddfod yr Urdd sy’n cael gwahoddiad i gystadlu ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth, sef medal a’r Ysgoloriaeth o £4,000, i Huw gan Bryn Terfel.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2012
Lansio cymhwysiad ar gyfer cerdded Eryri
Yn ddiweddar, mae myfyriwr graddedig o Fangor wedi datblygu ei gymhwysiad symudol cyntaf, sef Walking in Snowdonia .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2012
Academyddion ym Mangor yn denu grantiau o’r Academi Brydeinig
Bydd canlyniadau anfwriadol y camau gorfodi i reoleiddio banciau yn cael eu craffu mewn astudiaeth newydd gan Ysgol Busnes Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012
Prifysgol Bangor yn lansio Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB) yn cael ei lansio i israddedigion ym mhob ysgol academaidd ar hyn o bryd. Bwriad y cynllun yw gwella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor drwy ddarparu rhaglen o ddatblygiad personol ac ymarferion rheoli gyrfa, yn ogystal â chydnabod llawer o weithgareddau all-gwricwlaidd a chyd-gwricwlaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2012
Cyfalafiaeth ar ymyl y dibyn? - Arglwydd Davies o Abersoch yn trafod
Bydd yr Arglwydd Davies o Abersoch yn cynnig digon i gnoi cil drosto mewn darlith gyhoeddus ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor am 6.30 o’r gloch, nos Iau 11 Hydref. Mae’r ddarlith, a drefnir gan Brifysgol Bangor ar y cyd â Changen Menai, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig, am ddim ac yn agored i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2012
Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad hyffordd i fusnesau lleol
Fe wnaeth cwmnïau lleol sy’n gweithio ar draws cemeg, gwyddorau bywyd a gwyddorau deunyddiau, i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i ddod i ddigwyddiad hyfforddi cyntaf Rhwydwaith Cymru Iwerddon ar gyfer Sgiliau Gwyddonol (WINSS) a gynhaliwyd ar gyfer Mentrau Bychain a Chanolig lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2012
Ailgyfodi Cymdeithas y Ddrama Gymraeg
Y mae’n fwriad gan rai o fyfyrwyr ôl-radd Ysgol y Gymraeg atgyfodi hen gymdeithas a sefydlwyd yma ym Mangor yn 1923 dan lywyddiaeth neb llai na’r bardd R. Williams Parry sef CYMDEITHAS Y DDRAMA GYMRAEG.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2012
Thomas Parry a Choleg Bangor
I ddathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi’r Oxford Book of Welsh Verse , a olygwyd gan Syr Thomas Parry, bydd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn traddodi darlith, ‘Thomas Parry a Choleg Bangor’, nos Fercher, 17 Hydref am 5.30 ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2012
Canfod cysylltiad rhwng Clefyd Llygaid Sych a dadhydradiad
Mae gwyddonwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor wedi profi, a hynny am y tro cyntaf, bod cysylltiad rhwng clefyd llygaid sych a dadhydradiad. Mae Clefyd llygaid sych ( Dry eye disease neu DED) yn gyflwr sy’n gallu bod yn eithriadol o anghysurus, a gall achosi niwed i’r llygaid yn y pen draw. Er ei bod yn anodd amcangyfrifo cost lawn y cyflwr i’r system gofal iechyd ac i gymdeithas yn gyffredinol yn y DU, amcangyfrifir fod cost presgripsiwn ar gyfer triniaethau fel diferion llygad yn costio £2 miliwn y flwyddyn i’r GIG (yn Lloegr yn unig). Oherwydd bod nifer o unigolion sy’n dioddef o’r cyflwr yn trin y cyflwr eu hunain neu’n prynu triniaethau fel dagrau gwneud dros y cownter, gallai’r gost fod cryn dipyn yn uwch. Mae’r cysylltiad newydd yma yn awgrymu os gellir sicrhau bod cleifion gyda DED wedi’u hydradu’n llawn, y gallai hynny liniaru symptomau DED.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2012
Penodi Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol
Mae Prifysgol Bangor wedi penodi'r Athro Robert Rogers fel Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn yr Ysgol Seicoleg. Bydd yr Athro Rogers yn ymuno â'r gyfadran o Brifysgol Rhydychen, yn ystod 2013. Mae’r Athro Rogers yn arbenigwr blaenllaw y byd ym meysydd rheolaeth wybyddol a gwneud penderfyniadau, a bydd yn arwain sefydlu ym Mangor, labordy newydd yn Seicoffarmacoleg (Psychopharmacology).
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2012
Myfyrwyr Seicoleg yn cystadlu yn rownd derfynol 'The Pitch'
Cafodd tîm o dri myfyriwr ôl-radd o’r Ysgol Seicoleg gamoliaeth uchel yn rownd derfynol The Pitch, sef her cynllun busnes a marchnata drwy’r DU a gynhelir yn Llundain ar 3 Hydref.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2012
Undeb Amaethwyr Cymru – Bwrsariaethau addysg uwch i fyfyrwyr
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnig bwrsariaethau addysg uwch i fyfyrwyr a ddechreuodd ar eu cwrs yn 2012. Mae’r bwrsariaethau wedi eu hanelu at fyfyrwyr sy’n astudio cwrs amaethyddiaeth neu bwnc seiliedig ar dir yn llawn-amser mewn prifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2012