Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Hydref 2019
Coroni Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn Junior British Hill Climb Champion 2019
Chris Mann, myfyriwr sydd newydd ddechrau ei flwyddyn gyntaf yn astudio gwyddorau chwaraeon, sydd wedi ennill y teitl Junior British Hill Climb Champion 2019 .
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Botswana is humanity's ancestral home, claims major study – well, actually …
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Ynni adnewyddadwy i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod 100% o’r trydan a ddefnyddir gan y Brifysgol bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
Prifysgol Bangor yn Ymweld â Chymdeithas Fancio Uzbekistan
Ar yr 17 eg o Hydref, ymwelodd Prifysgol Bangor â Chymdeithas Fancio Uzbekistan yn ei phrif swyddfa hynod yn Tashkent.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2019
Llongyfarchiadau i dros 300 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy'n graddio yn Tashkent
Hoffem longyfarch dros 300 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi graddio yn Tashkent yr wythnos ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2019
‘Climate change: hope from despair?’ – darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor gan wyddonydd amlwg
Newid hinsawdd fydd pwnc darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor nos Fercher, 20 Tachwedd. Y siaradwr yw Kevin Anderson, Athro Ynni a Newid Hinsawdd ym Mhrifysgol Manceinion. Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau. Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2019
Lab-grown mini brains: we can't dismiss the possibility that they could one day outsmart us
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaume Thierry o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2019
Gwella cynhyrchiant Hyrddod a mynd i'r afael â throseddau
Mae Parc Gwyddoniaeth ar Ynys Môn yn mynd i'r afael â throseddau gwledig, drwy ddefnyddio dyfais IoT (y Rhyngrwyd Pethau) sydd wedi cael ei datblygu’n arbennig. Gan ddod â thechnoleg IoT ac arloesedd ynghyd, mae dyfais sydd yr un maint â bocs matsis wedi cael ei chreu sy’n gallu helpu i fynd i'r afael â dwyn defaid, cŵn yn poeni defaid, ac mae hyd yn oed yn gallu tracio patrymau paru hyrddod.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2019
Gwibdaith Amser a Hwyl Hanesyddol – ar gael yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell
Os ydych chi'n chwilio am dipyn o deithio amser ac antur hanesyddol, mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ei ddarparu Hanner Tymor Hydref hwn, (26 Hydref a 3 Tachwedd) fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor ar agor Dydd Sadwrn, 2 o Dachwedd 11-1 fel rhan o’r Ŵyl.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2019
Gwyddonydd a darlithydd i arddangos ei gwaith mewn arddangosfa gelf genedlaethol o bwys ar fywyd gwyllt
Mae darlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor yn cadw cydbwysedd rhwng ei diddordeb gwyddonol mewn adar a chyfleu ei chariad tuag atynt mewn gwaith celf. Chough gan Rachel Taylor Mae gwaith celf Dr Rachel Taylor bellach wedi ei ddethol o blith 600 o geisiadau i ymddangos ynghyd â gwaith gan rai o artistiaid bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw Prydain. Mae’r arddangosfa i’w gweld yn y Mall Galleries rhwng 24 Hydref a 3 Tachwedd 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2019
M-SParc yn mynd ‘ar y lôn’
Sefydlwyd M-SParc , Parc Gwyddoniaeth sy’n eiddo i Brifysgol Bangor, er mwyn creu gyrfaoedd gyda chyflogau da yn y rhanbarth, yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg. Y math o yrfaoedd nad ydych yn disgwyl dod o hyd iddynt ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd a Chonwy, yn talu’n dda ac yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu. Flwyddyn a hanner ers agor ei ddrysau, mae’r cwmni wedi gwneud cymaint o gynnydd fel ei fod yn mynd ar y lôn!
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2019
Gŵyl yn arddangos ffilmiau byrion newydd
Bydd gŵyl ffilmiau mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor yn cynnal prynhawn yn arddangos ffilmiau byrion Ewropeaidd newydd gan wneuthurwyr ffilmiau ifanc. Bydd y dangosiadau gan Ŵyl Ffilm Wicked Wales a British Film Institute Future Shorts yn cael eu cynnal ym Mhontio ddydd Mercher nesaf 23ain, 1 pm-5pm. Bydd y dangosiadau yn cynnwys ffilmiau byrion rhyngwladol gan gynnwys rhaglenni dogfen, ffuglen ac animeiddio. Mae'r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr a'r cyhoedd ac mae tocynnau am ddim ar gael yma .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2019
Prifysgol Bangor yn agor cae 3G newydd ar safle Treborth
Gerbron staff Prifysgol Bangor, clybiau’r Undeb Athletau, cynrychiolwyr timau lleol a chyrff cenedlaethol, agorwyd cae chwarae newydd sy’n mabwysiadu’r dechnoleg 3G fodern yn ddiweddar (Hydref 16).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019
Cyllid gwerth £4 miliwn yn rhoi hwb ar gyfer ymchwil i 5G yng Nghymru
Mae Cymru ar fin dod yn un o arweinwyr y byd ym maes technoleg 5G, ar ôl i Ganolfan Rhagoriaeth Ddigidol gael ei chyhoeddi, a fydd yn derbyn cyllid gwerth £4 miliwn gan yr UE. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Prosesu Signalau Digido l yn gwneud ymchwil arbenigol iawn i systemau cyfathrebu digidol fel ffonau symudol, hybiau WiFi a llinellau gweithgynhyrchu modern. Mae gwella Prosesu Signalau Digidol yn ffordd gost-effeithiol o gyflymu rhwydweithiau, gan wella'r ffordd mae ffonau symudol, dyfeisiau a phensaernïaeth rhwydwaith yn gweithio'n sylweddol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019
Gallai Cymru arbed biliynau o bunnau'r flwyddyn trwy fuddsoddi mewn gweithlu iachach
Mae adroddiad newydd gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau ( CHEME ), Prifysgol Bangor wedi dwyn ynghyd dystiolaeth o'r dadleuon economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a lles y gweithlu yng Nghymru
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2019
Researchers invent device that generates light from the cold night sky – here's what it means for millions living off grid
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jeff Kettle o’r Ysgol Cyfrifiaduref a Pheirianneg Electronig sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2019
Mae'n bosib bod helyntion priodasol Harri VIII wedi dylanwadu ar gyplau eraill, yn ôl dogfennau sydd newydd ddod i'r fei
Darganfuwyd dogfennau sy'n dangos o bosib bod helyntion priodasol enwog Harri VIII wedi peri i gyplau eraill ledled y wlad wahanu fel y gwnaeth yntau. Mae stori ryfeddol hogyn yn ei arddegau a fu'n ymbalfalu rhwng dwy wraig mewn ffordd debyg - ac ar yr un pryd - i ymdrechion y brenin i geisio newid ei gymar yn awgrymu bod cyplau eraill yn gwylio a bod dylanwad achos y brenin yntau ar y gyfraith wedi dylanwadu arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019
Dathlu llwyddiannau staff a myfyrwyr ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae 2019
Gyda’r Diwrnod Shwmae Su’mae bellach wedi datblygu i fod yn ddathliad blynyddol mewn nifer o sefydliadau ar draws y wlad, derbyniodd nifer o staff y Brifysgol sydd wedi bod yn dilyn cyrsiau dysgu Cymraeg dystysgrifau am ei hymdrechion heddiw (Hydref 15). Nod Diwrnod Shwmae Su’mae yw hybu defnydd o’r Gymraeg drwy annog pawb i ddechrau sgwrs gyda chyfarchiad yn yr iaith. Mae hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiannau niferus ein staff a’n myfyrwyr sydd wedi mynd ati i ddysgu’r iaith neu gynyddu eu medrusrwydd o’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2019
Airbus, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn dechrau partneriaeth sgiliau newydd
Gwnaeth dri Phrentis Gradd yn Airbus ddechrau'r rhaglen Gwyddor Data Cymhwysol newydd gyda Phrifysgol Bangor a'i phartner cyflenwi, Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2019
Pryd daeth pobl Cymru'n Gymry?
Mae Cwpan Rygbi'r Byd ymlaen, a gwelwn ddarlledu hunaniaeth Gymreig ar y sgrin fawr ledled y byd. Ond, yng nghanol miri canu’r anthem, y dreigiau a’r cennin Pedr, a ydych chi erioed wedi pendroni pryd y dechreuodd pobl eu hystyried eu hunain yn Gymry, ac mai Cymru oedd eu gwlad? Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn cytuno bod ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn bodoli erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond nid ydym yn gwybod eto pryd yn union y datblygodd hynny a pham. Mae'r hanesydd canoloesol Dr Rebecca Thomas o'r farn bod modd dirnad awgrymiadau o hunaniaeth Gymreig mor gynnar â'r nawfed ganrif.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019
Myfyriwr Bangor yn cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cystadlu i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019. Bydd Cai Fôn Davies, 19, o Fangor sy’n fyfyriwr yn ei ail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Hanes, yn cystadlu Nos Wener, Hydref 11eg yn Neuadd Goffa’r Barri.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019
32 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn cyrraedd copa Kilimanjaro er budd elusen Mind
Ar ôl blwyddyn o ddod i adnabod ei gilydd ac ymarfer, fe wnaeth grŵp o 32 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor gyrraedd copa mynydd Kilimanjaro gyda'i gilydd ychydig ar ôl codiad haul ar y 9ed o Fedi. Roedd y daith lafurus hon i fyny mynydd uchaf Affrica, sydd 5,895 metr uwch lefel y môr, er budd yr elusen iechyd meddwl Mind ac mae'r tîm hyd yma wedi codi bron i £100,000.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019
Prifysgol Bangor yn ennill dwy wobr Athena SWAN - y tro cyntaf i Ysgol Busnes Bangor
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi bod dau gais diweddar i Athena SWAN gan Ysgol Busnes Bangor a'r Ysgol Seicoleg wedi bod yn llwyddiannus. Ysgol Busnes Bangor yw'r Ysgol gyntaf o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes i ennill gwobr. Mae gan yr Ysgol Seicoleg wobr Efydd ers 2016 ac fe lwyddodd i adennill y wobr honno.Mae'r gwobrau yma'n cydnabod ymrwymiad parhaus y Brifysgol a'r Ysgolion i gydraddoldeb rhywiol ymhlith y staff a'r myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019
Athro o Fangor yn cael ei benodi’n Ddarpar Lywydd Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion
Mae'r Athro Chris Collins, Pennaeth Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi'i ethol yn Ddarpar Lywydd C ymdeithas Gorfforedig y Cerddorion . Bydd yn gweithredu fel aelod o driawd arlywyddol y Gymdeithas tan fis Ebrill 2020, pan fydd yn camu i rôl yr Arlywydd. Mae'r Athro Collins yn dilyn yn ôl troed cerddor blaenllaw arall a Phennaeth Ysgol. Bu'r cyfansoddwr, yr Athro William Mathias yn yr un rôl ym 1989-90.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019
Myfyrwraig greadigol yn rhyddhau record elusennol
Mae Aly Shields, sy'n ofalwraig ac yn fyfyrwraig hŷn o Landudno, wedi rhyddhau record er budd PANS PANDAS UK , elusen sy'n codi ymwybyddiaeth am gyflyrau anghyffredin sy'n aml yn arwain at gamddiagnosis i'r bobl dan sylw, ac sy'n cefnogi'r bobl hynny a'u teuluoedd. Mae'r gân Warriors gan Aly ar gael ar iTunes a Google Play am $1.29 neu oddeutu £1 o dan label PANS PANDAS UK.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2019
Gallai adleoli diwydiant moch Tsieina arwain at ganlyniadau anfwriadol
Mewn erthygl yn y cyfnodolyn Nature Sustainability (30/9/19) mae grŵp rhyngwladol o wyddonwyr amaethyddiaeth ac amgylcheddol yn rhybuddio y gallai awydd Llywodraeth Tsiena i adleoli ei diwydiant moch o'r De, er mwyn amddiffyn ansawdd dŵr, arwain at ganlyniadau niweidiol anfwriadol. Yn 2015 gwaharddodd Llywodraeth Tsiena gynhyrchu da byw mewn rhai rhanbarthau i reoli llygredd dŵr wyneb yn agos at afonydd, llynnoedd neu gronfeydd dŵr. Mae hyn wedi lleihau'r porc sydd ar gael a hynny mewn cyfnod pan ragwelir y bydd ei fwyta'n cynyddu o 690 i 1,000 miliwn o bennau y flwyddyn rhwng 2018-50.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019
Grŵp TAR ODA yn cynnal gwerth 2 ddiwrnod o weithgareddau
Pob blwyddyn mae ein grŵp TAR ODA yn cynnal gwerth 2 ddiwrnod o weithgareddau ar gyfer y ddau ddosbarth hŷn o Pendalar – Dosbarth Foryd a Dosbarth Menai.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019
Hwb Ariannol i Ymchwil Canser Gogledd Cymru
Yr haf hwn, addawodd Ymchwil Canser Cymru bron i £500,000 i gyfres o brojectau canser newydd yn y gogledd, gan ddod â chyfanswm yr arian a wariwyd dros y 5 mlynedd diwethaf ar ymchwil canser yn yr ardal i oddeutu £3M.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019
Ymchwil U-boats y Brifysgol yn cael sylw ar raglen Drain the Oceans
Bydd ymchwil gan Brifysgol Bangor yn cael sylw mewn rhaglen sy’n rhan o gyfres Drain the Oceans ar sianel y National Geographic nos Lun 7 Hydref rhwng 8 a 9pm. Bydd rhaglen nos Lun yn sôn am ddatblygiad llongau tanfor yn yr Almaen, a sut y bu i hynny newid rhyfela ar y môr am byth. Cafodd y Cynghreiriaid eu gorfodi i newid eu tactegau. Mae gwaith y Prince Madog, llong ymchwil Ysgol Gwyddorau’r Eigion , Prifysgol Bangor yn cael sylw ar y rhaglen. Mae’r llong wedi bod yn mapio nifer o longddrylliadau o amgylch Môr Iwerddon fel rhan o broject ymchwil ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Noddir y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a’i fwriad yw coffau’r rhyfel yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru rhwng 1914 ac 1918.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019
EMPYRE: Project Gwaith Ieuenctid yn Ewrop
Mae'r Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas bellach yn un o bartneriaid project Erasmus EMPYRE sydd yn canolbwyntio ar waith ieuenctid yn Ewrop. Mae sefydliadau addysg uwch eraill o bob cwr o'r Undeb Ewropeaidd a sefydliadau elusennol mewn pedair gwlad yn bartneriaid yn y project, sy'n archwilio, yn casglu ac yn datblygu arferion gwaith ieuenctid llwyddiannus sy'n cael eu defnyddio i rymuso pobl ifanc yn Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019
Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor i rymuso'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr
Nod Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw dangos nad cenhedlaeth o liprod yw ein pobl ifanc trwy gyhoeddi galwad am fyfyrwyr sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth i broblemau'r byd. Datgelwyd mewn arolwg* diweddar nad lliprod gwangalon a gor-sensitif yw 85% o bobl ifanc, yn wahanol i'r darlun a gawn ar y cyfryngau, a'u bod yn teimlo bod y grym ganddynt i fynd i'r afael â materion fel y cynhesu byd-eang, lefelau'r môr yn codi a llygredd diddiwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019
Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd yn anrhydeddu tri ymchwilydd o Brifysgol Bangor
Mewn seremoni arbennig i gyflwyno Anrhydeddau’r RCSLT (Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd) yn Nottingham yn ystod eu cynhadledd flynyddol fis Medi, dyfarnwyd gwobr “Giving Voice” i Delyth Prys, Dewi Bryn Jones a Stefan Ghazzali o Uned Technolegau Iaith , Canolfan Bedwyr . Roedd y tri, drwy eu project Lleisiwr, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi datblygu meddalwedd i greu llais synthetig personol yn y Gymraeg a fyddai’n gymorth i gleifion oedd ar fin colli eu llais eu hun. Roedd y project yn caniatáu bancio llais y claf yn Gymraeg a Saesneg a’i ddefnyddio i adeiladu fersiwn digidol ohono.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2019