Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mawrth 2013
Entrepreneuriaid Santander ym Mangor
Enillwyd cystadleuaeth Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander ym Mhrifysgol Bangor gan fyfyriwr isradd o Flaenau Ffestiniog, Catrin Hicks, a thîm o fyfyrwyr ôl-radd. Byddant yn awr yn mynd ymlaen i gynrychioli’r brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013
Hyfforddi'r meddwl drwy fyfyrio ymwybyddiaeth ofalgar yn meithrin lles gydol oes
Gall ymwybyddiaeth ofalgar, sy'n helpu pobl newid y ffordd y maent yn meddwl a theimlo ynghylch eu profiadau, fod yn ddefnyddiol i bobl ar wahanol gyfnodau o'u bywydau. Wedi'i addasu fel Therapi Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) gall gynorthwyo pobl sy'n ymdopi ag amrywiaeth o anawsterau.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013
Cynhadledd bwysig ynghylch Cynaliadwyedd Môr Iwerddon
Mae cynhadledd bwysig wedi’i chynnal ynghylch rheoli pysgodfeydd ym Môr Iwerddon. Daeth arbenigwyr ac academyddion o Gymru, Iwerddon ac Ewrop ynghyd ar ei chyfer.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013
Cymdeithas Gomedi Bangor yn Cefnogi Seann Walsh
Bydd myfyrwyr y Gymdeithas Gomedi ym Mangor yn perfformio sioe gomedi byw gyda’r digrifwr enwog Seann Walsh, mewn cydweithrediad â Pontio ar y 6ed o Fai 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013
Sesiynau mentora gyda Ysgol Uwchradd Caergybi
Cafodd disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi brofiad unigryw yn ddiweddar gan i fyfyrwyr Bangor roi blas iddynt o fywyd prifysgol drwy gynnal sesiynau mentora. Derbyniodd myfyrwyr a disgyblion Blwyddyn 7 dystysgrif mewn seremoni arbennig yn yr ysgol wedi iddynt gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013
Grantiau Hyfforddiant Athrawon o hyd at £15,000 ar gael i fyfyrwyr Tystystrif Addysg i Raddedigon (TAR) Uwchradd
Gall graddedigion sy’n cofrestru ar y rhaglen Tystysgrif Addysg i Raddedigion (Addysg Uwchradd) bod yn gymwys am grant hyfforddiant o hyd at £15,000.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013
Mae myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei enwebu am wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin.
Mae Lester Hughes, o Bwllheli, sy'n fyfyriwr hŷn ac yn dad i ddau o blant, newydd ddechrau astudio am ddoethuriaeth mewn ffilm. Mae ei ffilm fer 12 munud, "Waves, Taid & Time", wedi cael ei henwebu am wobr yn y categori arbrofol. Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn ystod yr ŵyl yn Llanelli rhwng 8 a 9 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013
Tîm Bangor yw'r cyntaf erioed i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Telders
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi llwyddo i fod y tîm cyntaf erioed i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ffug lys sy'n adnabyddus ledled y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013
Gofalu am Rieni Maeth fel y gallant ofalu am y plant yn well
Mae cymysgfa o fwynhad a straen wrth fagu plant, ond wrth i wledydd Prydain wynebu argyfwng o ran nifer rhieni maeth sydd ar gael, mae un brifysgol yn canfod ffyrdd i wella lles personol a lleihau lefelau straen rhai sy’n cyflawni’r gwaith hwnnw ar hyn o bryd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013
Gwnaeth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor ddwyn bri ar enw Bangor yn Noson Wobrwyo Flynyddol UCM Cymru.
Nid yn unig gwnaeth Undeb Myfyrwyr Bangor ennill categorïau Cynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn ac Aelod Staff y Flwyddyn yn Noson Wobrwyo flynyddol UCM Cymru eleni ond cawsant gymeradwyaeth uchel hefyd yng nghategori Undeb y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013
Gala Myfyrwyr Rhyngwladol
Cynhaliodd Prifysgol Bangor ei Gala Ryngwladol flynyddol yn ddiweddar. Mae'r digwyddiad hwn wedi dod yn ddyddiad pwysig yng nghalendr y myfyrwyr rhyngwladol. Roedd y Gala eleni yn cynnwys rhaglen lawn o berfformiadau lliwgar a bywiog gan y myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2013
Dosbarth Meistr yn dod ag arbenigedd ynghyd i helpu Menter Gymdeithasol Leol
Mae wedi bod yn bleser mawr i'r tîm Byddwch Fentrus gynnig cyfres o 'Ddosbarthiadau Meistr' ar Ddechrau Busnes a Sgiliau Ymgynghori i fyfyrwyr a graddedigion Bangor. Arweiniwyd y rhain gan Chris Walker, Ymgynghorydd Busnes Rhyngwladol a Mentor a Hyfforddwr Dechrau Busnes i'r Rhaglen Cefnogi Menter, a gyllidir gan HEFCW. Yn ystod y rhaglen bum wythnos yn Chwefror a Mawrth mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan ynddi wedi bod yn gweithio ar broject mewn timau bychain i ddatblygu sgiliau ymgynghorol ac ystod lawn o offer a sgiliau dechrau busnes, yn cynnwys e-fasnach a datblygu gwefannau ar gyfer cleientiaid go iawn. Mae’r pwyslais ar ddysgu trwy brofiad wrth gyflawni tasgau ac mae'n cynnwys senario go iawn a ddarperir drwy'r client - Greenhouse Cyf.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2013
Seren teledu yn dychwelyd i ddarlithio yn ei hen ystafell ddosbarth
Dr Trevor Dines yw'r botanegydd selog sy'n ennyn brwdfrydedd y genedl am blanhigion gwyllt yn y gyfres newydd boblogaidd ar Sianel 4 'Wild Things'. Heddiw mae'n dod yn ol i'r brifysgol lle bu'n astudio i siarad â chenhedlaeth newydd o fyfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2013
Mae angen gweithredu ar frys er mwyn atal newidiadau genetig di-droi’n-ôl mewn stociau pysgod
Os ydym yn dymuno cynnal stociau pysgod fel ffynhonnell bwyd i’r byd i gyd, yna rhaid i bysgodfeydd a rheolwyr cadwraeth gymryd i ystyriaeth dystiolaeth newydd sy’n dangos sut mae gorbysgota'r pysgod mwy mewn poblogaeth yn newid y pwll genynnau o blaid pysgod llai, llai ffrwythlon. Mae papur yn Frontiers in Ecology and the Environment (ar gael ar-lein 18.3.13) dan arweiniad genetegyddion ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniadau gan Brifysgol East Anglia, Prifysgol y West Indies a Sefydliad Bioleg Ddatblygol Max-Planck, wedi profi am y tro cyntaf bod newid yn y DNA tuag at bysgod llai yn digwydd, ac o fewn cyfnod amser cymharol fyr sef ychydig genedlaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2013
Cofio un o'r cewri – R.S. Thomas
A hithau'r mis hwn yn ganmlwyddiant geni R.S. Thomas, bydd gwaith y bardd cenedlaetholgar a'r cymeriad dadleuol yn cael sylw ar raglen Pethe nos Lun, 25 Mawrth ar S4C. Bydd cyfle hefyd i weld cyfweliad hir olaf R.S. ar y teledu wrth i S4C ddangos rhaglen deyrnged o'r archif R.S. Thomas, y noson ganlynol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013
Myfyriwr o Fangor yn edrych ymlaen at wobrau RTS
Bydd gan fyfyriwr o Brifysgol Bangor ddiddordeb arbennig yn noson wobrwyo’r Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) a gynhelir ar 19 Fawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013
Myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn edrych ymlaen at lansio eu App cyntaf
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn brysur yn paratoi i lansio eu app atgoffa tymor hir ar gyfer teclynnau symudol. Mae Kalaivani, 32, a'i gŵr Karthikesan, y ddau o Singapore, yn israddedigion yn Ysgol Busnes Bangor a'r Coleg Gwyddorau Cymhwysol ym Mhrifysgol Bangor. Ers pedwar mis bellach maent wedi bod yn datblygu eu app eu hunain, Key It In, ac maent yn awr yn paratoi at y lansio ar 15 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013
Fe fydd Ombwdsman Caffael Canada ymysg y Siaradwyr o 16 o wahanol wledydd sy’n mynychu Cynhadledd Gaffael enfawr Ysgol y Gyfraith.
Rhwng 18-22 Mawrth, bydd Ysgol y Gyfraith Bangor yn croesawu dros 250 o fusnesau a chyrff cyhoeddus pan fydd nifer o arbenigwyr rhyngwladol ym maes caffael yn ymgynnull yn Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2013
Prifysgol Bangor i arwain project £1.2 miliwn ar Ddementia a'r Celfyddydau Gweledol
Bydd Prifysgol Bangor yn arwain un o nifer o brojectau a fydd yn gweld ymchwilwyr y brifysgol, grwpiau cymunedol ac elusennau ac ymddiriedolaethau cenedlaethol yn cydweithio i ymchwilio i iechyd a lles cymunedau, ymwneud â’r gymuned a’i chael i weithredu. Mae’r Brifysgol wedi derbyn Grant Mawr yn y thema Diwylliannau, Iechyd a Lles, un o bum thema'r Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig sy'n rhannu cyllid o fwy na £7 miliwn.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013
Seremoni Wobrwyo Gyntaf am Ragoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus yng Nghymru
Mae’r cadarnhad diweddar gan y Gweinidog Jane Hutt AC, fod gwerth contractau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a enillwyd gan fusnesau o Gymru wedi cynyddu ers ychydig flynyddoedd, o 37% i 51%, yn gefndir gwych i’r seremoni wobrwyo gyntaf erioed, sydd i’w chynnal yn Llandudno y mis nesaf, am Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013
Ymchwil yn chwilio am ofalwyr 'anweledig'
Credir bod dros 70,000 o bobl gydag anabledd dysgu yn byw yng Nghymru heddiw ond nid yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am fyw nag oddeutu 12,000 ohonynt. Felly mae hyn yn awgrymu bod degau o filoedd o bobl gydag anabledd dysgu yn byw gyda gofalwyr sy'n aelodau o'r teulu.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2013
Cymorth Canser Macmillan yn buddsoddi £300,000 i wella gofal canser y Brostad yng Ngogledd Cymru
Mae Cymorth Canser Macmillan wedi buddsoddi bron i £300,000 i ariannu prosiect a fydd yn helpu cleifion canser y Brostad yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gael eu gofal yn nes at eu cartref.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2013
Tad a llys-ferch yn ennill gwobrau yn ŵyl ffilmiau Cymru.
Enillodd y ffilm fer Not, a gyfarwyddwyd gan John Bryan Evans, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor a cyn disgybl yn Ysgol Friars, wobr ffuglen orau a'r ffilm iaith Gymraeg orau yn Ffresh, gŵyl ddelwedd symudol myfyrwyr Cymru, gyda’i lysferch hefyd yn ennill y wobr Actores Orau. Mae'n ffilm ddeuddeg munud am Nia, mam ifanc mewn perthynas dreisiol gyda’i dwy ferch ifanc yn tyfu i fyny yn gwylio eu mam yn cael ei churo a'i bwlio. Adroddir y stori drwy lygaid y plant ac fe’i disgrifiwyd fel 'golwg diflewyn ar dafod ar ormes yn y cartref.'
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013
Adnabod rôl yr amgylchedd wrth i'r gallu i wrthsefyll gwrthfiotigau ledaenu drwy'r byd
Mae gwrthsefyll gwrthfiotigau wedi cael ei adnabod yn y blynyddoedd diwethaf fel problem fawr ym maes gofal iechyd. Daw papur yn The Lancet Infectious Diseases (doi:10.1016/S1473-3099(12)70317-1), sy'n adolygu'r broblem ar raddfa fyd-eang, i'r casgliad nad oes digon o sylw yn cael ei roi i'r rôl bwysig y mae'r amgylchedd naturiol yn ei chwarae mewn cylchredeg gwrthfiotigau ac o ganlyniad bod bacteria yn datblygu'r gallu i'w gwrthsefyll.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013
Athro o SENRGy yn ennill gwobr bwysig gan Academi Gwyddorau China!
Yn Ionawr 2013 fe wnaeth yr Athro Davey Jones o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ennill gwobr bwysig 'Cadair Ymweld i Uwch Wyddonwyr Rhyngwladol' gan Academi Gwyddorau China .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2013
Pencampwriaethau Cenedlaethol Octopush Myfyrwyr yn dychwelyd i Ogledd Cymru.
Bydd Clwb Octopush Prifysgol Bangor yn cynnal Pencampwriaethau Cenedlaethol Octopush Myfyrwyr ym mhwll Llandudno ar ddydd Sadwrn 9 Mawrth rhwng 10am a 7pm. Mae Octopush, sydd hefyd yn cael ei alw’n hoci tanddwr, yn cael ei chwarae gan 6 chwaraewr a 4 eilydd i bob tîm, gyda phob un yn gwisgo snorcel, mwgwd ac esgyll ac yn cystadlu am gnap plwm, neu sgwid, ar waelod y pwll gan ddefnyddio ffyn bychain. Cafodd y gamp ei dyfeisio yn y DU ym 1954, ac ers hynny mae’r gêm wedi cael ei mabwysiadu’n rhyngwladol ac wedi arwain at fersiynau eraill ohoni, gan gynnwys fersiwn dan rew sydd yn cael ei chwarae ben i waered gyda chnap sydd yn arnofio yn erbyn yr ia.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2013
Bangor’s Students Union nominated for seven Awards
Mae Undeb y Myfyrwyr gweithgar Prifysgol Bangor wedi ei enwebu am ddim llai na saith Gwobr yng Ngwobrau Blynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru) Bu panel o feirniaid annibynnol yn cwtogi’r rhestr hir o dros 80 o enwebiadau i lawr i’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau eleni. Mae’r Undeb ei hun ym Mangor ar restr fer ‘Undeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn’ a Rhys Dart, Rheolwr yr Undeb, ar restr fer Gwobr Simpson-King i Aelod Staff y Flwyddyn mewn Undeb Myfyrwyr. Ac yntau’n Gadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddol, sydd wedi’i henwebu am Wobr Clwb neu Gymdeithas y Flwyddyn, mae Chris Bibby yntau wedi’i enwebu am wobr Myfyriwr y Flwyddyn Endersleigh. Mae dau o Fangor ymhlith pedwar enwebiad am Gynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn: Martyn Curzey, o Ysgol Gemeg y Brifysgol a Marta Napodano, sy’n cynrychioli ei chyd fyfyrwyr yn Ysgol y Saesneg . Mae Katherine Young, sydd yn ysgrifennu i bapur Cymraeg y Brifysgol, Y Llef, ar restr fer gwobr Myfyriwr Newyddiadurol y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2013
Scholarship student and local bookshop join forces to promote literature.
Ydych chi erioed wedi teimlo nad ydych chi'n gwybod llawer am lenyddiaeth o Gymru? Ydych chi ffansi ymuno â grŵp llyfrau? Wel, dyma'r cyfle euraidd i chi! Mae myfyriwr ôl-radd o Brifysgol Bangor, Alex Ross, a'r gwerthwr llyfrau annibynnol lleol, Eirian James, wedi ymuno i ddechrau grŵp llyfrau ym Mangor a fydd yn canolbwyntio ar ddarllen a thrafod llenyddiaeth o Gymru yn Saesneg.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2013
Myfyrwyr Seicoleg Bangor yn ennill yr ail wobr mewn cystadleuaeth cyflwyno syniadau yng Nghaerdydd
Teithiodd dau dîm o fyfyrwyr Meistr Seicoleg Defnyddwyr i Gaerdydd yn ddiweddar i gystadlu yng nghystadleuaeth "Brolio" Sefydliad Marchnata Siartredig. Y timau oedd: "The Three Marketeers" (Jamie Muir, Will Morgan, Manuel Calatrava Conesa) a "The National Thrust" (James Gudgeon, James Gillespie, Bryan Walls).
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2013
Her Ddiwylliannol 2013
Yn ddiweddar, cynhaliwyd Her Ddiwylliannol flynyddol Prifysgol Bangor ac roedd yn llawn amrywiaeth a chyffro fel arfer. Roedd yr achlysur, a drefnwyd gan y Tîm Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, mewn partneriaeth â'r CSSA (Cymdeithas Myfyrwyr ac Ysgolheigion Tsieineaidd), yn rhoi pwys ar amrywiaeth ddiwylliannol a gweithio mewn tîm.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2013
Myfyriwr o Fangor ar y brig ar gyfer gwobr Wythnos yr Hinsawdd
Mae Andy O’Callaghan, sydd yn ei ail flwyddyn yn astudio Gwyddorau Morol/ Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Wythnos yr Hinsawdd 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2013
Comisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad yn cefnogi 15 o Ysgoloriaethau MSc (dysgu o bell) mewn Coedwigaeth Drofannol
Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy) ym Mhrifysgol Bangor yn hynod falch o gyhoeddi bod Comisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad (CSC) wedi cytuno i dalu am hyd at 15 o leoedd i ysgolorion o wledydd sy'n datblygu yn y Gymanwlad i astudio’r cwrs MSc Coedwigaeth Drofannol (dysgu o bell) a sefydlwyd yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2013