Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Awst 2011
Archeoleg fodern yn datgelu cyfrinachau Eliseg
Bydd archeolegwyr o brifysgolion Bangor a Chaer yn cychwyn ail dymor o waith cloddio o gwmpas Colofn Eliseg, heneb garreg o’r nawfed ganrif OC a saif ar dwmpath ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen, rhwng 4-16 Medi 2011. Bydd prynhawn agored ar y safle cloddio archeolegol ddydd Gwener 16 Hydref, rhwng 3- 6 y.p.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Awst 2011
Seiclo 180 milltir i Gaerdydd i godi arian i ward Alaw, Ysbyty Gwynedd
Bydd darlithydd newyddiaudraeth yn taclo taith i Gaerdydd fis Medi – ar gefn beic i godi arian i ward trin canser.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Awst 2011
Myfyrwraig yn cael cyfle i roi iaith ar waith gyda Canolfan Bedwyr
Mae Katharine Young o Flaenau Ffestiniog wedi cael cyfle i wneud deg wythnos o brofiad gwaith gyda uned gyfieithu’r Brifysgol, Canolfan Bedwyr, cyn iddi symud i Ffrainc i astudio yn ei thrydedd blwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Awst 2011
Cwmnïau Bach a Chanolig yng Ngogledd Cymru yn hybu eu medrau rheoli ac arwain diolch i raglen Ysgol Busnes Bangor
Tri ar hugain o berchnogion busnesau yw’r cynrychiolwyr cyntaf i raddio â marciau uchel yn rhaglen gyntaf LEAD ym Mhrifysgol Bangor. Cynhaliwyd y seremoni raddio gyntaf ar gyfer Cwmnïau Bach a Chanolig ar Raglen LEAD Cymru ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener 15 Gorffennaf 2011. Amcan y rhaglen yw rhoi’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar berchnogion-reolwyr er mwyn harneisio medrau ac egni eu staff yn llwyr, adnabod cyfleoedd ar gyfer mwy o effeithlonrwydd a manteisio ar y cyfleoedd hynny, a chreu sylfaen gadarn ar gyfer twf.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2011
Graddedigion Bangor - yn fwy bodlon na'r myfyriwr cyfartalog
Wrth i'r ymgiprys blynyddol am leoedd prifysgol ddechrau, bydd y myfyrwyr hynny sy'n troi eu golygon at Brifysgol Bangor yn falch o wybod y byddant yn ymuno â rhai o fyfyrwyr mwyaf bodlon Cymru. Mae canlyniadau’r arolwg cenedlaethol diweddaraf ar foddhad myfyrwyr yn rhoi darlun cadarnhaol iawn o’r addysg a'r gofal a roddir i fyfyrwyr prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Awst 2011
Darllenwch rifyn diweddaraf cylchlythyr Ysgol Busnes Bangor
Cliciwch yma i ddarllen y newyddion a digwyddiadau diweddaraf yng nghylchlythyr Ysgol Busnes Bangor, 'Busnes ym Mangor'.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2011
Darllenwch rifyn diweddaraf cylchlythyr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor
Cliciwch yma i ddarllen y newyddion a digwyddiadau diweddaraf yng nghylchlythyr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2011
Darllenwch rifyn diweddaraf cylchlythyr Ysgol y Gyfraith, Bangor
Daliwch i fyny ar y newyddion a datblygiadau yn Ysgol y Gyfraith, Bangor, yn rhifyn diweddaraf ein cylchlythyr . Am fewnwelediad mwy trylwyr i mewn i staff academaidd newydd ac ein cyfres newydd o raglenni LLM ar gyfer 2011, darllenwch y rhifyn gyntaf o Siwrnal Ysgol y Gyfraith Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2011
Cydnabyddiaeth ryngwladol i Food Dudes
Bydd yr academyddion o Brifysgol Bangor sydd y tu ôl i raglen dra llwyddiannus y Food Dudes , sy’n annog plant ifainc a’u teuluoedd i ddewis bwydydd iach, i dderbyn gwobr am y modd y maent wedi addasu eu gwybodaeth wyddonol at ddiben ymarferol iawn.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2011
Y BBC yn comisiynu dwy raglen ddogfen wedi’u seilio ar ymchwil ym Mhrifysgol Bangor
Caiff ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Bangor i fywyd Iddewig yng Nghymru ei darlledu gan y BBC. Darlledir dwy raglen ddogfen ar y radio, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg, gan ddefnyddio gwaith ymchwil tri academydd yng Ngholeg y Celfyddydau, Addysg a’r Dyniaethau - Awst 11 am 13.15 ar Radio Cymru (Terfysg Tredegar) a Sul 14 ar Radio Wales am 17.30 (The Tredegar Riots http://www.bbc.co.uk/programmes/b013bzm0 ).
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011
Penodiad Polisi Iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Fe fydd modd astudio Polisi Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gwyddor Cymdeithas, Prifysgol Bangor o fis Hydref eleni yn dilyn penodi’r Dr. Myfanwy Davies yn ddarlithydd yno. Bydd hyn yn gyfrwng i ymestyn y ddarpariaeth bresennol ac yn sail i gynlluniau ymchwil mewn meysydd gwirioneddol arloesol a pherthnasol i’n cyfnod ni.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011
Tîm Codi Pwysau Olympaidd China yn mwynhau ymlacio ym mynyddoedd Gogledd Cymru
Yn ddiweddar bu Tîm Codi Pwysau Olympaidd China yn aros ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer eu gwersyll hyfforddi i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012. Cyn gadael fe wnaethant fwynhau bore prin o ymlacio gan gael taith i weld rhai o ogoniannau cefn gwlad Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011
Mwy o ddarpariaeth yn Gymraeg i bobl hŷn
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i sicrhau bod pobl hŷn mewn ysbytai neu gartrefi gofal yn cael cyfathrebu yn Gymraeg os mai dyma eu dymuniad.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Awst 2011
Gwyddonwyr Bangor yn ymchwilio sut orau i ofyn cwestiynau anodd
Mae gofyn i bobl a ydynt yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd anghyfreithlon yn anodd, oherwydd mae’n bosib iawn na fydd rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau felly eisiau taflu bai arnynt eu hunain. Mae rheoli adnoddau naturiol yn dibynnu’n aml ar ddylanwadu ar ymddygiad pobl, gan gynnwys ceisio atal gweithgareddau anghyfreithlon megis lladd rhywogaethau sydd dan warchodaeth. Fodd bynnag, mae meddwl am ffyrdd o gyflawni hynny’n anodd gan nad yw rhai sy’n torri’r gyfraith fel rheol eisiau datgelu pwy ydynt. Fe wnaeth gwyddonwyr yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth y Brifysgol lunio dull sensitif o ymchwilio er mwyn amcangyfrif faint o ffermwyr yn Ne Affrica oedd yn lladd anifeiliaid rheibus ar eu tir. Fe wnaethant ddarganfod bod bron 20% o ffermwyr wedi lladd llewpardiaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy’n ffigwr eithriadol uchel o ystyried bod y rhywogaeth hon yn lleihau mewn rhan helaeth o’i thiriogaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2011
Myfyriwr yn rasio yn erbyn y cloc i achub un o’r gwyfynod mwyaf prin yng Nghymru
Mae myfyriwr yn byw mewn ambiwlans wedi ei addasu mewn coetir yn Sir Fynwy wrth iddo rasio yn erbyn y cloc i achub un o’r gwyfynod mwyaf prin yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2011
Myfyriwr o Fangor yn ennill Gwobr Myfyriwr sy’n Gwirfoddoli’r Flwyddyn
Dyfarnwyd Steve Barnard yn Fyfyriwr sy’n Gwirfoddoli’r Flwyddyn gan fudiad Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau (BUCS) yn eu cinio blynyddol yn Leeds eleni
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2011
Genod yn cael cyfle i ddarganfod gwyddoniaeth
Nid yw dod o hyd i DNA rhinoseros, creu dillad clybio yn electronig na mynd drwy archwiliad diogelwch mewn Gorsaf Bŵer niwclear yn weithgareddau arferol bore Sadwrn i ferched 14 oed. Ond yn sgil project ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Gyrfa Cymru, bu criw o ferched ifanc yn treulio eu Sadyrnau yn cael blas ar wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg a hynny mewn awyrgylch hwyliog ac anffurfiol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2011