Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Medi 2018
Lansio 'cyfeirlyfr unigryw ar gerddoriaeth Cymru'
Ar nos Iau, Medi 27ain, yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, cynhaliwyd digwyddiad i nodi lansiad cyfrol newydd a hynod arwyddocaol ym maes cerddoriaeth yng Nghymru. Ffrwyth prosiect cydweithredol rhwng Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru , sef cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o’r 6ed Ganrif hyd at y presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2018
Golf: the neuroscience of the perfect putt
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Andrew Cooke o’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon Iechyd ac Ymarfer sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2018
Darlithydd yn dechrau blwyddyn academaidd newydd gyda dwy wobr
Mae Dr Teresa Crew, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithaso l, yn cychwyn ar flwyddyn newydd o ddarlithio ym Mhrifysgol Bangor yn ddeiliad dwy wobr arbennig. Gwobrwywyd Dr Crew gyda Gwobr Outstanding Teaching in Social Policy gan y Social Policy Association. Hefyd, yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol yn ddiweddar, fe ddyfarnwyd Cymrodoriaeth Dysgu’r Brifysgol i Teresa, sydd yn Gydlynydd y Flwyddyn Gyntaf ( Gwyddorau Cymdeithas ) yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas .
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2018
Baner y Brifysgol
Mae Baner y Brifysgol yn chwifio fel teyrnged i Dr Julie Davies, aelod o staff yn yr Ysgol Seicoleg. Cynhelir ei hangladd heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2018
Digwyddiad Dathlu Sgyrsiau Creadigol
Yn ddiweddar, bu Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint, a'r awdur enwog John Killick, yn dathlu eu project diweddaraf yn cefnogi pobl sydd â dementia - Sgyrsiau Creadigol. Arweiniwyd y project gan Dr Kat Algar-Skaife o'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ( DSDC ) Cymru, yng Ngholeg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor a chafodd ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2018
Prifysgol Bangor yn ennill tair gwobr yn y National Student Housing Awards
Adnoddau rhyngrwyd ac ailgylchu yn rhoi Prifysgol Bangor ar y blaen yn y National Student Housing Awards Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr am y rheolaeth amgylcheddol orau a'r rhyngrwyd gorau i fyfyrwyr yn y National Student Housing Awards . Mae'r gwobrau'n gyfan gwbl seiliedig ar adborth gan ddegau o filoedd o fyfyrwyr yn y DU i arolwg a luniwyd gan Red Brick Research .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2018
Digwyddiad LifeStartFest cyntaf yng Nghymru
Cyngor gyrfaoedd, rhwydweithio a pizza i fyfyrwyr yng Nghymru! Mae Jack Newton newydd raddio, wedi ennill Her LifeStart ac wedi derbyn swydd gyda JCDecaux , yr asiantaeth hysbysebu awyr agored rhyngwladol. Bydd Jack yn un o’r siaradwyr yng Ngŵyl LifeStart cyntaf Cymru ym Mhrifysgol Bangor ar 26 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2018
Mae ffermio 'cynnyrch uchel' yn gwneud llai o niwed i'r amgylchedd nag a dybid o'r blaen - a gallai helpu arbed cynefinoedd
Mae ymchwil newydd yn awgrymu o bosib mai amaethyddiaeth ddwys yw'r dewis "lleiaf drwg" lle mae bwydo'r byd yn y cwestiwn ac mi allai arbed rhywogaethau - mae systemau sy'n gwneud defnydd effeithlon o'r tir yn fodd i atal trawsnewid tir gwyllt yn dir ffermio. Mae'n bosib bod amaethyddiaeth sy'n fwy eco-gyfeillgar yr olwg ond sy'n defnyddio mwy o dir yn peri mwy o niwed amgylcheddol fesul pob uned fwyd na ffermio "cynnyrch uchel" sy'n defnyddio llai o dir, yn ôl canfyddiadau astudiaeth newydd. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos mai'r ffordd orau o ateb y galw cynyddol am fwyd a diogelu bioamrywiaeth yr un pryd yw sicrhau cymaint o fwyd ag sy'n bosib yn gynaliadwy o'r tir rydym yn ei ffermio ar hyn o bryd, ac "arbed y cynefinoedd naturiol rhag yr arad".
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2018
Sgwrs gan Iolo Williams
Bydd y naturiaethwr Cymraeg, Iolo Williams yn trafod ei yrfa mewn sgwrs yn Pontio , Prifysgol Bangor, nos Fercher 26 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2018
Bydd seren ‘No Offence’, Joanna Scanlan, yn dod adref i Pontio i hyrwyddo ei ffilm indie newydd, ‘Pin Cushion’
Mae’n bleser gan staff Pontio groesawu’r actores a’r sgriptwraig adnabyddus, Joanne Scanlan ( The Thick of It , Getting On , No Offence ) i’r Sinema ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb yn dilyn dangosiad o’i ffilm newydd, PIN CUSHION gan y cyfarwyddwr newydd, Deborah Haywood, ddydd Sadwrn 15 Medi am 8.15pm.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2018
Traffig yn ystod yr Wythnos Groeso
Fis Medi, bydd Prifysgol Bangor unwaith eto yn croesawu myfyrwyr newydd . Er mwyn derbyn preswylwyr newydd i safle Pentref Myfyrwyr y Santes Fair, gweithredir ar y cyd â’r cyngor lleol a’r heddlu system unffordd dros dro ar gyfer traffig sy’n cyrraedd Pentref Myfyrwyr y Santes Fair o gyfeiriad Lôn Bobty.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2018
MA Astudiaethau Addysg
Mae’r cwrs newydd yn dechrau yn fuan ond mae rhai mannau ar gael o hyd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2018
Llongddrylliadau hanesyddol i gyfrannu at ddyfodol ynni adnewyddadwy morol Cymru
Bydd llongddrylliadau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru, fel llongddrylliad y llong danfor Almaenig a suddodd 10 milltir oddi ar Ynys Enlli ar ddiwrnod Nadolig 1917, yn cyfrannu at dwf sector ynni adnewyddadwy morol Cymru. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor yn arolygu arfordir Cymru fel rhan o broject SEACAMS2 a gyllidir gan yr ERDF ac a arweinir gan y brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil cydweithredol, yn cynnwys arolygon morol, i gefnogi twf cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2018
Gwylwyr ledled Prydain i gael golwg ar fywyd o amgylch Y Fenai
Bydd gwylwyr teledu oriau brig ledled Prydain yn cael cyfle i ddod i wybod mwy am fywyd o amgylch Y Fenai gan fod cyfres boblogaidd ITV Cymru 'The Strait' i gael ei darlledu ar y sianel genedlaethol dan yr enw newydd 'The Island Strait' am 8.00pm ar ITV am bedair wythnos o 14 Medi. Mae'r gyfres yn edrych ar fywydau pobl sy'n byw a gweithio ar Y Fenai - y culfor rhyfeddol sy'n gwahanu Ynys Môn oddi wrth dir mawr Cymru. Ymysg yr unigolion a gaiff sylw yn y gyfres mae Dr Mike Roberts o Brifysgol Bangor. Trwy lygaid nifer o ddynion a merched sy'n gweithio ar y culfor dramatig ac unigryw hwn, ac ar ei lannau, caiff gwylwyr gyfle i ddeall pa mor bwysig yw'r Fenai fel ased amgylcheddol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018
Bydd cynllun y Brifysgol yn dechrau mynd i'r afael â phrinder meddygon teulu yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru
Wrth i’r Gymru wledig wynebu diffyg enbyd yn nifer y meddygon teulu i ymateb i’r galw cynyddol gan gleifion yn sgîl poblogaeth sy’n heneiddio ac ar gynnydd, mae tair prifysgol yng Nghymru yn cynnal cynllun peilot sy’n ceisio dod â meddygon ifanc yn ôl i Ogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd rhaglen CARER (Llwybr Addysg Cymunedol a Gwledig), sydd yng ngofal Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr meddygol o Gaerdydd gael blwyddyn o’u haddysg mewn practisau Meddygon Teulu yng ngogledd a chanolbarth Cymru, fel eu bod yn cael profiad amhrisiadwy o gydweithio’n agos â chlinigwyr a chleifion mewn lleoliadau cymunedol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018
Band Jazz Tryfan yn ymuno â Circa Tsuica ar gyfer eu sioe syrcas Now or Never
Daw’r cwmni Ffrengig Circa Tsuica â'u Pabell Fawr i Fangor gan ymuno â Band Jazz Tryfan ar gyfer eu sioe syrcas ddiweddaraf, Now or Never. Cyflwynir gan Crying Out Loud fel rhan o Circus250, dathliad cenedlaethol i nodi pen-blwydd y syrcas fodern yn 250 oed
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2018
Free school meal funds help pay for school trips too – but self-imposed stigma stops parents claiming
Dyma erthygl yn Saesneg gan Gwilym Siôn ap Gruffudd o’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2018
Gwasanaeth newydd arloesol i fyfyrwyr
Mae cydweithrediad arloesol rhwng Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Bangor a Rhaglen Doethuriaeth Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru wedi cael ei roi ar y rhestr fer am wobr genedlaethol bwysig. Yn wyneb y cynnydd mewn trallod, teimladau hunanladdol a hunan-niweidio ymysg myfyrwyr yn y DU, daeth Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Bangor, rhan o Wasanaethau Myfyrwyr Bangor, ynghyd ag arbenigwyr o Raglen Doethuriaeth Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru i gynnig triniaeth sy'n cynnwys cefnogaeth ymarferol ac sy'n anelu at leihau'r risg o ymddygiad o'r fath. Mae'r project wedi cael ei roi ar y rhestr fer am un o wobrau y Times Higher Education , yn y dosbarth ‘Outstanding Support for Students’.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2018
Life's purpose rests in our mind's spectacular drive to extract meaning from the world
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Guillaume Thierry, o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2018