Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Medi 2015
Archif y mis
Dyma dudalen o lyfr nodiadau, di-nod yr olwg, a ddarganfyddwyd yn ddiweddar gan Sarah Vaughan, Archifydd, tra’n catalogio casgliad Castell Penrhyn.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2015
Gwyddonwyr gwlypdir Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn sioe BBC
Mae gwyddonwyr gwlypdir o Brifysgol Bangor wedi bod yn cymryd rhan mewn sioe BBC am un o gynefinoedd pwysicaf Cymru. Ymddangosodd dau aelod o Grŵp Gwlypdiroedd Bangor y brifysgol ar gyfres boblogaidd Radio Wales, Science Café .
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2015
Ad industry may gripe about adblockers, but they broke the contract – not us
Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew McStay o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015
Project Datblygiad Plant i rannu adnoddau dros y byd
Mae arbenigwr mewn datblygiad plant ym Mhrifysgol Bangor yn rhan o lansiad rhyngwladol adnoddau project a fydd o gymorth i lywodraethau dros y byd i gefnogi datblygiad plant iach a llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015
Academyddion Bangor yn gwneud argraff gyda phapurau BMJ
Mae papur y mae academydd o Fangor yn gydawdur iddo wedi cael ei gyhoeddi ar glawr blaen y British Medical Journal dylanwadol, tra cafodd papur arall a gyhoeddwyd gan y BMJ yr un mis, ac a oedd yn ail-werthuso gwaith ymchwil blaenorol, sylw rhyngwladol ar y cyfryngau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015
Project gan Brifysgol Bangor yn anelu at wella gwasanaethau’r GIG
Mae project newydd, gwerth £300,000, yn ymgais i sicrhau y bydd adborth mwy manwl gan gleifion yn dylanwadu ar benderfyniadau gan y GIG ynglŷn â gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf. Bydd y project dwy flynedd yn gwella’r modd y mae ymchwilwyr yn defnyddio ymchwil ansoddol bresennol i wasanaethau iechyd, fel y bydd yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio gan y rheiny sy’n cymryd penderfyniadau o fewn y GIG.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015
Y cwrs Radiograffeg gorau yn y DU ar frig tabl cynghrair y Prifysgolion
Yn ôl y Times & Sunday Times University Guide 2016 , Prifysgol Bangor yw’r lle gorau i astudio radiograffeg . Ar ben hynny, myfyrwyr radiograffeg Bangor oedd â’r rhagolygon gyrfaol gorau o blith holl raddedigion radiograffeg y DU, a gosodwyd y cwrs ar y trydydd safle o ran safonau mynediad. Mae Prifysgol Bangor hefyd ymysg 10 uchaf o blith Prifysgolion y DU mewn pum pwnc arall. Yn ogystal â radiograffeg, daw Astudiaethau Celtaidd ( Cymraeg ) yn ail, Polisi Cymdeithasol yn ail, Amaeth a Choedwigaeth yn seithfed, Ysgrifennu Creadigol yn wythfed ac Addysg yn ddegfed.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2015
How to take the pressure off the cost of our water supply
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr John Gallagher, ymchwilydd ôl-ddoethurol o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2015
Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru
Mae Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol Gogledd Cymru'n dychwelyd am y pedwerydd tro yn 2015, gyda chyfres o ddarlleniadau a pherfformiadau yn Aberystwyth a Bangor Hydref 7-10. Cynhelir digwyddiadau yn y ddwy brifysgol ac mewn mannau lleol. Bydd beirdd rhyngwladol yn darllen eu gwaith wrth ochr llenorion o Gymru, gyda chyfieithiadau i’r Saesneg a’r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2015
Darlithydd o Fangor yn cyfrannu i gyfres deledu newydd Bear Grylls
Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi bod yn rhannu ei harbenigedd ar gyfer cyfres deledu newydd yr anturiaethwr Bear Grylls.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2015
Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru yn annog ailystyried polisïau yn radical i hybu swyddi yng ngogledd Cymru
Trefnwyd Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru ar Sgiliau a Chyflogaeth ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener, Medi 18 gan Dr Tony Dobbins ( Ysgol Busnes Bangor ) a Dr Alexandra Plows ( Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ). Roedd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i wahanol fudd-ddeiliaid y farchnad lafur ddod ynghyd i drafod ymyriadau polisi sydd eu hangen i wella'r ffordd y defnyddir sgiliau ac i hybu nifer y swyddi o ansawdd da yng Nghymru. Mae'n amlwg bod cytundeb cyffredinol yn datblygu ymhlith gwahanol fudd-ddeiliaid nad yw'r polisïau marchnad lafur presennol ar gyfer Cymru yn gweithio a bod angen ailystyried polisïau i raddau helaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2015
Prifysgol Bangor yn helpu disgyblion lleol i ddysgu codio
Bu disgyblion pump o ysgolion cynradd Llŷn yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar yn dilyn cydweithio rhwng Canolfan Ehangu Mynediad y Brifysgol a champws Pwllheli Grŵp Llandrillo Menai.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2015
Drysau’n agored i gasgliadau archifau ac amgueddfa Prifysgol Bangor
Bydd cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 26 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2015
Prifysgol Bangor yn llamu ymlaen o ran ei safle byd-eang
Mewn tabl cynghrair sydd newydd ei gyhoeddi mae Prifysgol Bangor wedi codi 60 safle'n uwch na'r hyn yr oedd o'r blaen. Yn y ‘QS World University Rankings’ (www.topuniversities.com) am eleni mae'r Brifysgol yn awr yn cael ei gosod yn safle 411 yn y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2015
Darlithydd o Fangor yn gweithio gyda Bear Grylls
Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi bod yn cydweithio â’r anturiaethwr Bear Grylls drwy rannu ei arbenigedd ar gyfer y bennod agoriadol o’r gyfres deledu dair-rhan newydd, Britain’s Biggest Adventures with Bear Grylls.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2015
Llwybrau teithio i Brifysgol Bangor i fyfyrwyr newydd
Fis Medi eleni bydd Prifysgol Bangor yn croesawu myfyrwyr i Bentref y Santes Fair, sydd newydd gael ei ailwampio’n llwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Medi 2015
Croesawu Darlithwyr Newydd i Brifysgol Bangor
Unwaith eto eleni, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido rhagor o ddarlithwyr newydd i addysgu mewn gwahanol feysydd ar draws prifysgolion Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2015
Myfyriwr ym Mangor yn ennill gwobr gêm fideo
Mae'r gêm yn bos antur isometrig 3D i ddyfeisiau symudol/llaw ac mae'n ymwneud â merch fach yn y system gofal maeth sy'n ceisio canfod ei ffordd adref.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2015
Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn croesawu Llywodraethwr y Central Bank of Bahrain, H.E Rasheed Mohammed Al Maraj, i aduniad arbennig ym Mahrain
Yn ddiweddar, croesawyd H.E. Rasheed Mohammed Al Maraj, Llywodraethwyr y Central Bank of Bahrain a Chadeirydd Cyngor ar gyfer Hyfforddiant Galwedigaethol (Sector Bancio) y Bahrain Institute of Banking and Finance (BIBF), i aduniad ym Mahrain gan Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G Hughes.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Medi 2015
The African snakebite 'crisis' is nothing new: we’ve been worried about antivenom for decades
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Anita Malhotra o’r Ysgol Gwyddorau Biolegol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2015
Grŵp i Gefnogi SEAFISH i wella dealltwriaeth o wyddor Bwyd Môr ym Mhrydain
Mae Michel Kaiser, Athro Ecoleg Cadwraeth y Môr ym Mhrifysgol Bangor, i gadeirio Grŵp Cynghori Gwyddonol (Science Advisory Group neu SAG). Wedi ei sefydlu gan Seafish , bydd SAG yn rhoi her a chefnogaeth wyddonol annibynnol o ansawdd uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2015
Cerddoriaeth ffermydd gwynt
Bydd y ffermydd gwynt ar y môr ger Llandudno yn ysbrydoli ac yn darparu’r sain i gyfansoddiad cerddorol ar gyfer Gŵyl LLAWN Llandudno gan Ed Wright , sy’n ddarlithydd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyfansoddwr ac artist sonig. Bydd yn perfformio fel y ‘ Labordy Tonnau Sonig ’ gyda Charles Gersholm.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2015
Prifysgol Bangor yn croesawu project newydd gwerth £17m i ddatblygu ymchwil gwyddonol yng Nghymru
Heddiw (dydd Mercher, 9 Medi) cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart, ei bod wedi sicrhau dros £17m ar gyfer denu 90 cymrawd ymchwil newydd o bob cwr o Ewrop i ddatblygu ymchwil gwyddonol o safon fyd-eang yng Nghymru. Ar ôl curo cystadleuwyr o bob rhan o Ewrop mae Llywodraeth Cymru wedi cael £7m drwy gynllun COFUND Marie Skłodowska-Curie Actions, sy’n rhan o raglen Horizon 2020 yr UE. Bydd Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Cymru’n darparu £10m o gyllid cyfatebol. Bydd y cymrodorion ymchwil yn gweithio gydag ymchwilwyr gorau Cymru ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor ac ym Mhrifysgol De Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2015
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2015
Cyfiawnder Gweinyddol yng Nghymru a Safbwyntiau Cymharol
O gyfraith cynllunio i ofal cymdeithasol a thu hwnt mae’r gyfraith yn effeithio ar ein bywydau ni pob dydd. Gyda newid pellach i ddatganoli ac i’r gyfraith yn y meysydd hyn yng Nghymru mae’n bleser gan Ysgol y Gyfraith Bangor gyhoeddi cynhadledd ar ‘ Gyfiawnder Gweinyddol yng Nghymru a Safbwyntiau Cymharol ’ ym Mhrifysgol Bangor ar 10fed Medi 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2015
Creu Canolfan Syrffio o Ragoriaeth yn Eryri
Mae Prifysgol Bangor a Surf Snowdonia wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth a fydd yn paratoi’r ffordd i gydweithio ar amrywiaeth o gyfleoedd a chynlluniau newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2015
Prifysgol Bangor yn dyfarnu bwrsariaeth 'Merched mewn Gwyddoniaeth' cyntaf
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei bwrsariaeth arloesol 'Menywod mewn Gwyddoniaeth' gyntaf, gwerth £8,000 i Elizabeth McManus, 21, o Bolton, a raddiodd o Ysgol Seicoleg y Brifysgol ym mis Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2015
Ocsid nitraidd o fannau troeth – ni ddylai neb chwerthin am hyn!
Adwaenir ocsid nitraidd (N 2 O) yn arferol fel ‘nwy chwerthin’ a defnyddir ef mewn anesthetigion a hefyd fel ‘cyffur penfeddwol cyfreithlon’, ac mae’n nwy tŷ gwydr pwerus a gynhyrchir yn y pridd gan ficro-organebau, yn enwedig ar dir a borir gan anifeiliaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015
Buddsoddiad gwerth dros 3 miliwn mewn unedau ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Caiff gwerth dros £3 miliwn ei fuddsoddi mewn ymchwil i ofal iechyd integredig ym Mhrifysgol Bangor dros y tair blynedd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o gyllid gwerth £2.3 miliwn i ariannu dau grant i'r brifysgol, a bydd y brifysgol ei hun yn buddsoddi arian cyfatebol yn un ohonynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015
Gwobr bwysig i ysgolhaig o Fangor
Mae’r Ysgol Llenyddiaeth Saesneg yn falch iawn o gyhoeddi bod yr Athro Emeritws Tom Corns wedi derbyn Cymrodoriaeth yr Academi Brydeinig (FBA). Bob blwyddyn mae'r Academi Brydeinig yn ethol yn Gymrodyr hyd at 42 o ysgolheigion nodedig o'r DU sydd ennill amlygrwydd yn unrhyw gangen o'r dyniaethau a gwyddorau cymdeithas. Yng ngeiriau'r Academi Brydeinig, mae cymrodyr yn ysgolheigion sydd 'wedi rhagori yn unrhyw un o'r canghennau astudio y mae'r Academi yn eu hyrwyddo.' Y teitl hwn yw'r anrhydedd uchaf y gall ysgolhaig yn y celfyddydau a'r dyniaethau ei gael ym Mhrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015