Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2012
Artist Preswyl cyntaf Pontio yn darlledu ar S4C - "Corneli Cudd”
Bydd ffilm fer am broject artist preswyl cyntaf Pontio’n cael ei dangos y mis Rhagfyr hwn fel rhan o gyfres ‘Calon Cenedl’ S4C. Bydd ffilm a ffilmiwyd gan Osian Williams, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yng nghartref gofal Plas Hedd ym Maesgeirchen, Bangor, yn cael ei dangos am 7.55pm ddydd Llun, 3 Rhagfyr 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2012
Wardeniaid yn herio’r Wyddfa
Dringodd wyth o wardeniaid neuaddau'r Brifysgol i fyny’r Wyddfa yn ystod y nos yn ddiweddar, gyda’r nod o gyrraedd y copa erbyn toriad gwawr. Y criw dewr a ddechreuodd ar y daith am dri o’r gloch y bore oedd: Stephen Clear (Ysgol y Gyfraith), Alexander Aldred (Ysgol Busnes), Caoimhe Martin (Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer), Chin Wei Ong (Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer), Hayley French (Ysgol Ieithoedd Modern), Gwawr Parker (Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd), Lindsey Swift (Ysgol Ieithoedd Modern), a Max Davidson (Ysgol Seicoleg). Mae pob un ohonynt a wynebodd yr her yn wardeniaid y Brifysgol ar safle Ffriddoedd. Cawsant eu harwain ar hyd llwybr y mwynwyr o Lanberis gan eu harweinydd diogelwch Alexander, sydd hefyd yn gomisiynydd sgowtiaid chwilota ardal Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2012
Arddangos gwisgoedd o Tsieina
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae’r Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd. Bydd gwisgoedd cenedlaethol Tsieineaidd yn cael eu harddangos yn Ystafell Ddysgu 5 Rathbone, Adeilad Rathbone, Ffordd y Coleg ddydd Iau 29 Tachwedd am 6.00.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2012
Partneriaeth Ysgol y Gymraeg a’r Urdd yn mynd o nerth i nerth
Chwaraeodd Ysgol y Gymraeg , Prifysgol Bangor, ran flaenllaw yn y gwaith o gynnal dau gwrs preswyl llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr Cymraeg blynyddoedd 12 a 13 yng Ngwersyll yr Urdd yng Nglan-llyn yn ddiweddar. Mewn partneriaeth â’r Urdd dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i gyrsiau o’r fath gael eu trefnu gan yr Ysgol. Ar Dachwedd 19-21 mynychodd myfyrwyr ail iaith gwrs a oedd yn canolbwyntio ar agweddau lu a oedd yn ymwneud â’u hastudiaethau ar gyfer arholiadau Safon U/UG. Cynhaliwyd cwrs cyffelyb ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf ar Dachwedd 21-3. Mynychwyd y ddau gwrs gan 180 o fyfyrwyr U/UG o bob rhan o Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2012
'Academi Rhagoriaeth' i Entrepreneuriaid Cymdeithasol yng Nghymru - Prifysgol Bangor yn lansio rhwydwaith dysgu ar gyfer busnesau gyda chydwybod gymdeithasol.
Mae’r “gorau o’r gorau” ym maes menter gymdeithasol ar fin dod yn well byth – caiff entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru ac Iwerddon fudd o gefnogaeth broffesiynol ehangach i’w helpu i ddatblygu’r sector fusnes bwysig hon sy’n aeddfedu.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2012
Myfyrwyr PhD ADNODD yn ennill gwobrau gan yr Agricultural Economics Society of Ireland.
Cynhaliwyd seminar yr Agricultural Economics Society of Ireland i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yng Ngholeg Prifysgol Dulyn yn ddiweddar. Y myfyrwyr John Walsh a John Hyland o ADNODD oedd yn cynrychioli Prifysgol Bangor yno, ac mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod y ddau ohonynt wedi ennill yn eu categorïau.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2012
Vicky Chondrogianni yn Boston
Bydd Dr. Vicky Chondrogianni (Prifysgol Bangor) a Theo Marinis (Prifysgol Reading) yn cyflwyno poster o’r enw “Production of definite articles in English-speaking L2 children and children with SLI” yn y gynhadledd ar ddatblygiad iaith (BUCLD 37) ym Mhrifysgol Boston ar 3 Tachwedd 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2012
Argraffiad arbennig o'r Cylchgrawn Rhyngwladol Dwyieithrwydd (gol. Chondrogianni, Cornips, Vasić)
Bydd Vicky Chondrogianni (Prifysgol Bangor) ynghyd â Leonie Cornips (Meertens Institute) a Nada Vasić (Prifysgol Amsterdam) yn olygyddion gwadd i rifyn arbennig o’r International Journal of Bilingualism o’r enw “Cross-linguistic aspects in child L2 acquisition” a gyhoeddir ym mis Mawrth 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2012
Myfyrwyr y Brifysgol yn cael sylw ar sioe deledu boblogaidd
Bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor yn ymddangos fel 'Myfyriwr y mis' ar y rhaglen materion gwledig poblogaidd, 'Ffermio' nos Lun 19 Tachwedd (S4C 8.25).
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2012
Bangor University student features on popular television show
Bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor yn ymddangos fel 'Myfyriwr y mis' ar y rhaglen materion gwledig poblogaidd, 'Ffermio' nos Lun 19 Tachwedd (S4C 8.25). Mae Huw Davies yn ei 3ydd blwyddyn yn astudio ar gyfer BSc mewn Amaethyddiaeth, Cadwraeth a'r Amgylchedd (ACE) yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth , a bydd yn trafod sut y mae'n cyfuno ei radd gyda'i ddyletswyddau ar y fferm deuluol ger Llangefni, Ynys Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2012
Myfyrwyr o Brifysgol Bangor i gymryd rhan mewn gweithgaredd plannu coed ar gyfer The One Show gan y BBC
Bydd myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn torchi eu llewys o flaen camerâu The One Show y BBC, er mwyn helpu cymuned Maes y Pant yn Gresffordd (ger Wrecsam) i drawsnewid hen chwarel yn adnodd bioamrywiol i’r gymuned. Gofynnwyd i Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Bangor dros Dreborth (STAG) a’r Gymdeithas Garddwriaeth Organaidd (HOG Soc) roi help llaw.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2012
Barddoniaeth yn rhoi llais i ddioddefwyr dementia
Rhagamcanir y gall cymaint ag un o bob tri ohonom ddioddef o ddementia yn y dyfodol felly mae’n sicr yn gyflwr sydd am gyffwrdd â bywydau pob un ohonom mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2012
Taith weledol arloesol a diddorol drwy batrymau’r meddwl wrth i ni symud…
Beth sy’n dal eich sylw pan fyddwch yn gwylio dawnsiwr ar lwyfan? Gwisg, coreograffi, sgiliau technegol y dawnsiwr? Mae’r dawnsiwr cyfoes adnabyddus Riley Watts a Dr.Emily Cross, sy’n niwro-wyddonydd ym Mhrifysgol Bangor, yn dangos bod yna ffactorau llai amlwg yn dylanwadu ar ein canfyddiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2012
Gall mannau anodd eu pysgota ar wely’r môr fod yn llochesau ar gyfer y gath fôr sydd mewn perygl
Mae gwyddonwyr môr sy’n gweithio yn y Môr Celtaidd wedi darganfod lloches naturiol ar gyfer y forgath drwynfain, sydd mewn perygl enbyd. Mae llawer o elasmobranciaid (siarcod a chathod môr) yn agored iawn i niwed gan orbysgota, ond dengys papur newydd yn y cylchgrawn mynediad agored PLOS ONE y gall ardaloedd bach ar wely’r môr lle ceir llai o bysgota na’r cyffredin gynnal poblogaethau mwy o’r rhywogaethau hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2012
Trwy ddulliau chwyldro…? Cynhadledd yn cloriannu pum degawd o ymgyrchu iaith.
Ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yr wythnos hon (16-17 Tachwedd) bydd cynhadledd academaidd bwysig yn cael ei chynnal ym Mangor. Bwriad y gynhadledd 'Trwy ddulliau chwyldro...?' fydd taro golwg feirniadol ar ddylanwad yr ymgyrchu a welwyd mewn perthynas â’r iaith Gymraeg dros yr hanner canrif diwethaf ar fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru. Fe'i trefnir ar y cyd rhwng Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor a Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru, Prifysgol Aberystwyth ac fe’i cefnogir yn ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2012
Rhaglen Menter yr Ifanc
Mae’r tîm Byddwch Fentrus Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn gyffrous iawn o fod yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan yn y Rhaglen Menter yr Ifanc - cyfle i brofi sut mae creu a rhedeg busnes go iawn a datblygu’r holl sgiliau ac arbenigedd sy’n gysylltiedig â hynny. Bydd Prifysgol Bangor yn sefydlu 4 busnes newydd y gall myfyrwyr gymryd rhan i’w siapio. Bangor yw’r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan eleni, a bydd yn cystadlu yn erbyn prifysgolion ar draws Brydain.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2012
Prifysgol Bangor yn cyfrannu at dechnoleg ‘Adeiladau fel Pwerdai’
Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn cyfrannu at broject ymchwil a allai sicrhau bod Cymru’n rhoi arweiniad byd-eang ym maes technoleg ynni adnewyddadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2012
Myfyriwr PhD yn ennill y prif wobr yng Nghynhadledd ‘Legal Wales’
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi curo myfyrwyr y Gyfraith ledled Cymru i ennill prif wobr yng Nghynhadledd ‘Legal Wales 2012’.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2012
Dathlu buddsoddiad o £2M wrth agor Labordy Dysgu Peirianneg Electronig i Israddedigion
Labordy newydd gydag Offer Agilent yn cefnogi dysgu israddedigion yng Nghymru. Yn ddiweddar fe wnaeth Agilent Technologies Inc . a Phrifysgol Bangor agor labordy newydd Brand Agilent yn cynnwys offer Agilent. Bydd y labordy, sydd yn yr Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor, yn cefnogi dysgu cyrsiau gradd israddedig ac ôl-radd mewn Peirianneg Electronig.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2012
Pwysigrwydd profion clinigol
Fel yr adroddwyd yn y Western Mail ar 5 Tachwedd mae Rhiannon Whitaker o Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hapbrofion mewn Iechyd (NWORTH) ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn tynnu sylw at y ffaith nad yw rhagor o ddata yn golygu o anghenraid bod y data’n well.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2012
Myfyrwraig Prifysgol Bangor i berfformio gyda mab Frank Zappa
Mae myfyrwraig o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen at berfformio darn o waith Frank Zappa ar daith o amgylch y DU yn hwyrach y mis hwn. Bydd Sioned Eleri Jones, 30, o Fangor, yn perfformio un o ganeuon y gitarydd chwedlonol ar y clarinét gyda'i fab, Dweezil, sydd yn teithio gyda'i fand Zappa Plays Zappa.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2012
Cynyddu gallu Band eang dwy fil o weithiau – am yr un pris
Allech chi ddefnyddio gwasanaeth band eang sydd dwy fil o weithiau yn gyflymach, ond yn costio’r un faint? Mae technoleg chwyldroadol gadarn ar gyfer y dyfodol, a gynigiwyd gyntaf gan Brifysgol Bangor, yn arwain o ran cwrdd â’r galw am gynyddu cyflymder a gallu’r rhyngrwyd yn sylweddol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012
Ysgolhaig o Brifysgol Bangor yn dathlu 100 mlynedd o Ysgoloriaethau i ferched â gradd
Bu ysgolhaig o Brifysgol Bangor, Dr Raluca Radulescu yn annerch Seremoni Wobrwyo yn Llundain yn ddiweddar. Mae Ffederasiwn Prydain y Merched â Gradd (BFWG) yn dathlu can mlynedd o ddyfarnu Ysgoloriaethau i ferched sy’n academyddion, ac wedi gwahodd academyddion blaenllaw â derbyniodd ysgoloriaethau yn gynharach yn eu gyrfaoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012
Mwyafrif o blaid marw â chymorth
Mae ymchwil rhyngwladol newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl a atebodd gwestiynau am hunanladdiad â chymorth o blaid hynny. Mae hyn i’r gwrthwyneb i’r adolygiad ymchwil diweddar sy’n awgrymu bod meddygon y DU yn gyson yn gwrthwynebu ewthanasia. Casglwyd y canlyniadau o farn dros 62,000 o bobl a oedd yn ymateb i nifer fawr o bapurau ymchwil ar y pwnc o wahanol wledydd. Mae’r canlyniadau’n dangos am y tro cyntaf bod gan bobl o wahanol gefndiroedd a phrofiadau safbwynt tebyg iawn am y pwnc.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Tachwedd 2012
Ymgeiswyr ar gyfer mynediad mis Medi 2013
Datganiad UCAS i Ddarparwyr Addysg Neges UCAS i fyfyrwyr Myfyrwyr sy’n ymgeisio am le ar gyrsiau nyrsio a ariannir yng Nghymru (pob maes nyrsio, h.y. oedolion, anableddau iechyd, iechyd meddwl ac iechyd plant) a chyrsiau therapi galwedigaethol yng Ngogledd Cymru a chyrsiau ODP ledled Cymru fydd yn dechrau ym mis Medi 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2012