Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mai 2017
Cyfres o deithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor
Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor rhwng Mehefin a Medi. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017
Happy 100th birthday, Mr President: how JFK's image and legacy have endured
Dyma erthygl yn Saesneg gan Gregory Frame o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017
Cyn-fyfyriwr entrepreneuraidd yn cyrraedd rownd cynderfynol rhanbarthol Santander
Mae cyn-fyfyriwr doethuriaeth ac entrepreneur o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd gynderfynol ranbarthol Gwobrau Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017
Darganfod micro-organebau eithafol newydd mewn llyn soda yn Siberia
Yr Athro Peter Golyshin o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol , ac arbenigwr mewn genomeg amgylcheddol micro-organebau yw'r unig awdur o'r DU a chyfranogwr ymchwil sydd wedi darganfod dosbarth newydd o ficro-organebau (archaea) sy'n byw mewn amgylchedd eithafol yn llyn soda alcalïaidd yn Siberia. Mae'r darganfyddiad hwn yn torri tir newydd oherwydd gall y micro-organebau hyn drawsnewid deunydd organig yn uniongyrchol i fethan o dan amodau eithafol o'r fath. Cyhoeddir y papur heddiw (26.5.17) yn Nature Microbiology .
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017
Pedwar yn cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn!
Testun llawenydd mawr oedd clywed fod Hugh, Emma, Richard a Daniela, a fynychodd gyrsiau Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor, wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni. Mae Emma hefyd yn gweithio yn y Brifysgol yn Y Ganolfan Rheolaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2017
Dylunwyr blaenllaw yn cymryd rhan yng Nghynhadledd Dylunio Cynnyrch Bangor
Bydd Cynhadledd Dylunio Cynnyrch arloesol ar 7 Mehefin, yn tynnu ynghyd ym Mhrifysgol Bangor rai o'r arweinwyr a'r meddylwyr gorau ym maes Dylunio a Chynhyrchu. Un o'r rhai a fydd yn siarad yn y Gynhadledd, sydd yn cael ei threfnu gan yr Ysgol Addysg , yw’r peiriannydd dylunio cynnyrch, Jude Pullen, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ac yn adnabyddus am fod yn rhan o gyfres y BBC 'The Big Life Fix'. Siaradwr arall fydd Fred Manson o gwmni rhyngwladol Thomas Hetherwicks. Yn rhannu eu profiadau yn y gynhadledd, y drydedd i’w chynnal yn y Brifysgol, fydd Ed Beardsley a Hugh Smith, sydd wedi graddio mewn dylunio o Brifysgol Bangor ac sy'n gweithio bellach yn y diwydiant. Daw'r gynhadledd i ben gydag agoriad swyddogol y Sioe Raddio, a fydd yn dangos gwaith myfyrwyr dylunio presennol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2017
Disgyblion yn cael eu difyrru mewn Gŵyl Cemeg ymarferol
Cemegwyr ifanc o ysgol uwchradd Bishop Heber yn swydd Gaer enillodd y wobr gyntaf yn y Salters' Festival of Chemistry , a gynhaliwyd yn Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2017
Teaching students to survive a zombie apocalypse with psychology
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro John Parkinson a Rebecca Sharp o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2017
Cynllun eithrio rhag talu ffioedd PhD Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau 2017/18
Mae Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cyflwyno cynllun eithrio rhag talu ffioedd PhD ar gyfer 2017/18.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2017
Eglwysi i sefydlu projectau dementia-gyfeillgar newydd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru
Mae pum grŵp o eglwysi ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru wedi derbyn cyllid i ddatblygu projectau cymunedol dementia-gyfeillgar ac i weithio tuag at ddod yn "ddementia-gyfeillgar".
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2017
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dod yn 'Ffrindiau Dementia' cyn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia
Ddydd Llun 8 Mai 2017 rhoddodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor wahoddiad i Theresa Davies i gyflwyno sesiwn Ffrindiau Dementia i ddosbarth o nyrsys yn Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2017
Bangor i gynnal noson wobrwyo cystadleuaeth ffuglen ddigidol 'boblogaidd' gyntaf y DU
Bydd y gystadleuaeth gyntaf yn y DU i ddarganfod yr enghreifftiau gorau o ffuglen ddigidol boblogaidd newydd yn gwobrwyo ei henillwyr nos Iau, 25 Mai ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2017
Taith wyddonol 'Urgency' i asesu marwolaeth riffiau cwrel a achoswyd gan yr hinsawdd
Mae tîm o wyddonwyr dan arweiniad athro ym Mhrifysgol Bangor newydd ddychwelyd o daith wyddonol i Chagos, yr archipelago anghysbell lle nad oes fawr neb yn byw, yn Nhiriogaeth Brydeinig Cefnfor India.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017
Myfyrwyr Bangor yn Cyhoeddi Llyfrau Newydd
Mae'n bleser gan Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor gyhoeddi dyddiad cyhoeddi dau ddetholiad, Blue Pencils a SCSM’s Media Medley. Mae pedwar myfyriwr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ers pedwar mis i gynhyrchu a chyhoeddi detholiad o weithiau ffuglen byr, gwreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017
Anrhydeddu cyn fyfyriwr Prifysgol Bangor gyda gwobr ddaearyddol
Mae’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol wedi dyfarnu Medal Frenhinol i gyn fyfyriwr Prifysgol Bangor am ei waith ym maes datblygu amaethyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2017
Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2017
Cynhaliwyd y chweched seremoni Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol yn ddiweddar. Roedd y noson i ddathlu’r safon uchel o addysgu a chymorth a geir ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017
BAFTA Cymru a Pontio yn cyflwyno rhagddangosiad arbennig o King Arthur: Legend of the Sword
Mae’n bleser gan BAFTA Cymru a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor gyhoeddi rhagddangosiad arbennig o’r ffilm hir-ddisgwyliedig KING ARTHUR: LEGEND ON THE SWORD yn Sinema Pontio Nos Sul, 14 Mai am 8pm .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017
Aelod Cyswllt o’r Canolfan Colclough wedi ei gwahodd i ddathlu gyrfa awdur poblogaidd
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2017
Swydd Athro newydd yn ymgorffori’r gweithio ar y cyd sydd rhwng Prifysgol a Bwrdd Iechyd
Mae Debbie Roberts yn teimlo ei bod mewn sefyllfa dda i gael effaith ar addysg nyrsio, ac i ddylanwadu ar ofal cleifion, wedi iddi dderbyn Cadair Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol (Foundation of Nursing Studies/ FoNS ) mewn Dysgu Practis (Practice Learning), yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Cefnogir apwyntiad Debbie Roberts i’r swydd unigryw, sydd yn pontio practis clinigol a dysgu, gan y Foundation of Nursing Studies (FoNS). Yn rhinwedd ei phenodiad, mae’r Athro Roberts yn gallu gweithio â myfyrwyr Prifysgol Bangor a chyda nyrsys cymwysedig a phobl broffesiynol eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei nod yw ehangu a datblygu awyrgylch ddysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor ac i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y GIG ar draws gogledd Cymru
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017
Mr Gwilym Owen yn cael ei benodi'r Is Siryf Gwynedd
Mae Mr Gwilym Owen, Darlithydd yn Y Gyfraith, wedi cael ei benodi'n Is Siryf nesaf Gwynedd - swydd lle bydd yn gweithredu fel cyswllt allweddol rhwng Uchel Siryf newydd y sir a chlercod y Barnwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017
'Hei Pync, Sortia dy Jync' – ymgyrch ddiwedd tymor i waredu gwastraff
Mae Prifysgol Bangor ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth dros wythnosau olaf y tymor â Chyngor Gwynedd er mwyn lleihau sbwriel ar y strydoedd yn y rhannau hynny o’r ddinas ble mae myfyrwyr yn byw gyda'r ymgyrch 'Hei Pync, Sortia dy Jync' .
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017
Catherine yn derbyn gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn
Mae Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor wedi cael eu llongyfarch a diolchwyd iddynt am y gwaith allweddol y maent wedi ei wneud yn cefnogi eu cyd-fyfyrwyr. Gan Brifysgol Bangor y mae un o’r Cynlluniau Arweinwyr Cyfoed hynaf a mwyaf ymysg prifysgolion Prydain. Mae'r 'Arweinwyr Cyfoed' hyfforddedig yn chwarae rhan allweddol mewn cynorthwyo myfyrwyr newydd i ddod i ddygymod â bywyd prifysgol. Maent yn eu helpu gyda materion ymarferol megis symud i mewn a chanfod eu ffordd o amgylch y brifysgol, yn ogystal â’u cynorthwyo i ymaddasu i fywyd prifysgol a'u cyfeirio at wybodaeth a chefnogaeth bellach pan fo'r angen.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2017
Can environmental documentaries make waves?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Michela Cortese o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2017
Polisi Cymdeithasol yn y 10 uchaf yn y DU
Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei gosod yn 8fed yn y DU - ac yn orau yng Nghymru - am Bolisi Cymdeithasol yn ôl y tablau cynghrair pwnc diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Complete University Guide .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2017
Mae gwledydd cyfoethog yn cyfrannu llai tuag at warchod bywyd gwyllt na gweddill y byd
Mae rhai gwledydd yn fwy ymrwymedig i gadwraeth nag eraill, yn ôl project ymchwil cydweithredol newydd gyda Phrifysgol Bangor Mewn partneriaeth â Panthera, yr unig sefydliad sy'n ymroddedig i warchod cathod gwyllt, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi asesu pa mor fawr neu fach yw cyfraniad gwledydd unigol at warchod bywyd gwyllt y byd. O’i gymharu â'r byd datblygedig, mwy cefnog mae bioamrywiaeth yn flaenoriaeth uwch mewn rhanbarthau tlotach megis Affrica, ac mae eu gwledydd yn cyfrannu mwy at gadwraeth nag unrhyw ranbarth arall.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2017
Anrhydeddu cyfraniadau oes
(Diweddarwyd 5/5 gweler y diwedd ) Bydd unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau oes i’r celfyddydau, y gwyddorau a byd busnes, mewn meysydd mor amrywiol â barddoniaeth, llongau rhyngwladol a sŵoleg, yn ymuno â myfyrwyr sy’n graddio o Brifysgol Bangor er mwyn derbyn anrhydedd am eu gwaith. Bydd deuddeg o bobl, a restrir isod, yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio ’r Brifysgol rhwng 17-21 Gorffennaf i gydnabod y cyfraniad nodedig yn eu meysydd gwaith penodol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mai 2017
Is talking to yourself a sign of mental illness? An expert delivers her verdict
Dyma erthygl yn Saesneg gan Paloma Mari-Beffa o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2017