Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ebrill 2012
Jamie’n rhedeg efo’r Fflam Olympaidd a hefyd angen eich cymorth
Mae Jamie Turley, myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Bangor efo wythnosau prysur o’i flaen. Nid yn unig mae wedi’i dewis i redeg efo’r Fflam Olympaidd heibio’i dref enedigol, Ffynnongroyw ar Fail 29, hefyd mae wedi’i ddewis yn Gydlynydd gwirfoddolwyr ar gyfer dathliadau pan ddaw’r Ffagl a’r Fflam Olympaidd i Fangor ar 28 Fai 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2012
4ydd Cynhadledd Ryngwladol IFABS ar Ail-feddwl Bancio a Chyllid: Arian, Marchnadoedd a Modelau
Trefnwyd sesiynau arbennig gan yr Athro Shahid Ebrahim a Dr Thanos Verousis yn 4ydd Cynhadledd Ryngwladol IFABS (International Finance and Banking Society) ar Ail-feddwl Bancio a Chyllid, sydd yn cael ei chynnal yn Valencia ym Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2012
Gwyl Ffilm Myfyrwyr Prydain
Mae project ar y cyd rhwng israddedigion ac ol-raddedigion yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau wedi ei ddewis ar gyfer yr Ŵyl Ffilm Myfyrwyr Prydain ac yn cael ei darlledu yn Llundain, Bryste, Newcastle a Lerpwl yn ystod mis Ebrill. Llongyfarchiadau i'r tîm cynhyrchu ar y ffilm "31st May"
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2012
Darlith gyhoeddus na ddylid ei cholli: “Research for Business and the Business of Research”
Mae George Buckley, Prif Economegydd Prydain y Deutsche Bank, a raddiodd ym Mangor, i’w weld, fel rheol, yn rhoi cyfweliadau ar y radio, y teledu a’r wasg genedlaethol. Ac yntau ei hun wedi graddio yn Ysgol Busnes Bangor, daw George yn awr â’i brofiad personol a’i syniadau ynghylch swyddogaeth ymchwil ar gyfer busnes, gwerth addysg prifysgol a chyflogadwyedd, i Adeilad y George ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2012
Gwobr Rhydychen i Athro o Fangor
Mae Tony Bushell, Athro Almaeneg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mangor, wedi ennill ysgoloriaeth o fri ar gyfer ymwelydd, gan Goleg Sant Ioan, Rhydychen, i gwblhau astudiaeth yn ymwneud â rhethreg hunaniaeth Awstriaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ebrill 2012
Prifysgol Bangor yn sefydlu Sefydliad Confucius
Ar 17 Ebrill 2012 yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn Llundain llofnodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Hanban (Pencadlys Sefydliad Confucius) i sefydlu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Phrifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith China, Beijing.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012
Darlithydd ‘ysbrydoledig’ ym Mangor i gario’r Fflam Olympaidd
Mae darlithydd yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gario’r Fflam Olympaidd ar ôl cael ei henwebu ar gyfer yr anrhydedd gan ei myfyrwyr. Enwebwyd Sarah Nason, darlithydd yn y gyfraith, i’r categori ‘Ysbrydoli Eraill trwy Addysg’ a bydd yn cario’r fflam pan fydd yn teithio drwy Gonwy – 15 milltir o Fangor – ddydd Mawrth, 29 Mai 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012
Project Newydd yn Gwneud y Dyfodol yn Wyrdd
Mewn digwyddiad arbennig ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 2 Mai, caiff project newydd ei lansio gyda’r nod o ddod â busnesau at ei gilydd i adeiladu dyfodol cadarnach ac economi newydd. Bydd brecwast busnes i’w gael am ddim. Menter ar y cyd yw’r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd/ The Green Innovation Network, rhwng Prifysgol Bangor, University College Dublin a'r Waterford Institute of Technology, Iwerddon. Mae’r rhwydwaith wedi deillio o’r angen i sicrhau bod gan fusnesau gefnogaeth ac anogaeth i ddod dros sialensiau yn y dyfodol trwy ffyrdd newydd ac arloesol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Ebrill 2012
Cenhadaeth Cynghori i India i Ganolfan Ymchwil ar Amgylchedd Cymru
Mae Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cymru (WERH) , sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor, wedi dychwelyd yn ddiweddar (Ebrill 2012) o genhadaeth gynghori wythnos o hyd ar faterion amgylcheddol i Lywodraeth Talaith Maharashtra yn Yr India. Gyda phoblogaeth o 100 miliwn, Maharashtra yw un o’r taleithiau sy'n datblygu gyflymaf yn Yr India, a’i phrifddinas Mumbai (poblogaeth 20,000,000) yw prif ganolfan ariannol y wlad. Mae’r datblygu cyflym wedi arwain at amrywiaeth o broblemau amgylcheddol dwys yn Maharashtra, ac mae Llywodraeth y Dalaith felly wedi bod yn chwilio am ffyrdd "glanach a gwyrddach" o reoli datblygu at y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2012
Shakespeare yn Gymraeg yn Theatr y Globe
On Sunday 22 April, Shakespeare’s Globe in London launched its Globe to Globe Festival with Sonnet Sunday, a six-hour literary marathon which saw all 154 of Shakespeare’s sonnets performed in more than 25 different languages. Sonnet 104 was adapted into Welsh by Professor Peredur Lynch of Bangor’s School of Welsh and recited by the actor Owain Arthur who is currently starring in One Man, Two Guvnors in the West End. Other languages appearing included Somali, Cree, Romanian, Swedish, Flemish, Hungarian, Gaelic, Farsi, Icelandic, Bulgarian, Arabic, and Latvian.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2012
Hollaback! Gwynedd yn ymuno â’r mudiad rhyngwladol yn erbyn aflonyddu ar y stryd! Yn lledu i gymru, yr iseldiroedd ac ar draws Ewrop
23 April, 2012 (Bangor, Gwynedd) – Students in Bangor, north Wales have joined the international fight against street harassment! The Bangor Women's Society have recruited a bilingual team of students from the University to coodinate and launch a brand new anti-street harassment project for the region. Hollaback! Gwynedd is the first of its kind in Wales and one of a new group launching this week across the United Kingdom.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2012
Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor
Ar 17 Ebrill 2012 yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad yn Llundain llofnodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Hanban (Pencadlys Sefydliad Confucius) i sefydlu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor mewn cydweithrediad â Phrifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith China, Beijing.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2012
Prif Economegydd Prydain y Deutsche Bank yn trafod “Research for Business and the Business of Research”
Bydd George Buckley, Prif Economegydd Prydain y Deutsche Bank, a raddiodd ym Mangor, yn rhannu ei brofiad personol a’i syniadau ynghylch swyddogaeth ymchwil ar gyfer busnes, gwerth addysg prifysgol a chyflogadwyedd mewn ddarlith Gyhoeddus am 6.00 nos Lun 30 Ebrill yn Ystafell Stephenson, Adeilad y George, Ffordd Caergybi, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2012
Myfyrwyr yn esbonio’u hymchwil i’r cyhoedd ar Uned Symudol Cymorth Canser Tenovus
Bydd myfyrwyr ymchwil o Brifysgol Bangor, sy’n cael eu noddi gan yr elusen ymchwil canser Tenovus, ar uned arddangos symudol yn archfarchnad Morrison, Bangor ddydd Llun 23 Ebrill, yn trafod eu gwaith ymchwil gydag aelodau o'r cyhoedd. Bydd Tenovus, elusen canser blaenllaw yng Nghymru, yn arddangos eu gwasanaethau cymorth yn y gogledd, ynghyd â'r ymchwil arloesol y maent yn eu hariannu ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2012
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ennill gwobr Amgylcheddol Genedlaethol
Gwobrwywyd Undeb Myfyrwyr Bangor yn ddiweddar yn Undeb y Flwyddyn (anfasnachol) yng Ngwobrau Effeithiau Gwyrdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) ym Manceinion. Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith amgylcheddol undebau myfyrwyr ar hyd a lled y wlad ac eleni cafwyd y nifer fwyaf erioed, sef 105 o undebau, yn cystadlu. Mae’r gwobrau yn rhan o fenter Effaith Gwyrdd UCM sy’n cynnig achrediad amgylcheddol i undebau myfyrwyr, ac yn helpu undebau i ddwyn sylw at eu harferion amgylcheddol rhagorol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2012
Arbenigwyr a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn ymddangos yng nghyfres newydd Channel 4 "Hidden Talent"
Mae Dr Jamie Macdonald a Dr Tim Woodman o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor wedi bod yn cynghori ar gyfres Channel 4 a byddant yn ymddangos yn y sioe gyntaf y gyfres newydd: "Hidden Talent" am 21.00 ddydd Mawrth 24.4.12, ynghyd â rhai myfyrwyr o'r Brifysgol. Cyfres newydd chwe rhan yw "Hidden Talent". Mae’n darganfod doniau cudd hynod nad oedd pobol byth yn breuddwydio hyd yn oed bod ganddynt. Yn y rhaglen, mae cannoedd o bobl, a ddewiswyd ar hap, yn cael eu rhoi drwy gyfres o brofion i adnabod rhai sydd â galluoedd cudd. Mae naw cyfranogwr yn darganfod os gallant fynd o fod yn ddechreuwyr llwyr i berfformiwr o'r radd flaenaf mewn ychydig o amser.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2012
Dringo i Gopa’r Denali
Bydd Will Hardy, myfyriwr flwyddyn gyntaf sy’n astudio Daearyddiaeth ym Mangor, yn mynd a’i ddiddordeb mewn dringo i’r lefel eithaf dros yr haf wrth iddo dreulio mis ar daith ddringo yng ngogledd America.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2012
Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Bangor wedi bod yn destun sylw eto
Mae dau o’n huwch Arweinwyr Cyfoed, Ben Pattle o ADNODD a Rhiannon Edwards o’r Ysgol Seicoleg, wedi cynrychioli Bangor yn ddiweddar mewn seminar ym Mhrifysgol Aston o’r enw Peer Mentoring Works! Fe gawsant fodd i fyw ar y diwrnod a buont yn cymryd rhan mewn gwahanol grwpiau trafod ac yn rhwydweithio â staff a myfyrwyr o sefydliadau eraill. Ar ddiwedd y diwrnod buont yn rhan o banel o arbenigwyr yn ateb ychydig o gwestiynau. Meddai Ben ‘Roedd llawer iawn o ddiddordeb yn y Cynllun Arweinwyr Cyfoed a llawer o adborth cadarnhaol. Buon ni’n brysur iawn yn ateb cwestiynau.’ Ychwanegodd Rhiannon ‘ Beth wnaeth argraff arbennig ar bobl oedd ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed oedd mor barod i roi o'u hamser. Roedd llawer o ddiddordeb hefyd yn y cynllun optio allan sydd gennym sy’n sicrhau bod ein Harweinwyr Cyfoed ar gael i bawb.’
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ebrill 2012
UM Bangor yn Ennill Gwobr Cysylltiadau Cymunedol
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi ennill ‘Gwobr Cysylltiadau Cymunedol UCM Cymru’ yng Nghynhadledd UCM Cymru yng Ngregynog, gan guro pob cymdeithas arall yng Nghymru sy’n cynrychioli myfyrwyr wrth ennill y wobr, a hynny oherwydd y myrdd o weithgareddau a gynhelir gan UM Bangor ynghyd â’r gymuned leol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae UM Bangor wedi cynnal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau fel Gwasanaeth Diwrnod AIDS y Byd yng Nghadeirlan Bangor, gorymdaith Adennill y Nos o gwmpas y ddinas ac wedi cefnogi Gŵyl Bwyd Conwy drwy annog ein cymdeithasau myfyrwyr i gymryd rhan mewn diwrnod thema canoloesol. Roedd Cymdeithas Ail-greu’r Canol Oesoedd yn hynod o boblogaidd yno ac maent wedi derbyn gwahoddiad i ddychwelyd yno flwyddyn nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2012
Ysgoloriaeth ar gyfer barddoni
Mae uwch-ddarlithydd o Fangor wedi derbyn Ysgoloriaeth i gael cwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth. Cyhoeddwyd bod Dr Jason Walford Davies, o Ysgol y Gymraeg, yn un o’r awduron newydd fydd yn derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru eleni. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd gwerth £4,000 yn caniatáu i Jason Walford Davies gymryd peth amser i ffwrdd o'i waith academaidd er mwyn canolbwyntio ar ei farddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2012
Myfyriwr yn llunio syniad buddugol yng Nghystadleuaeth Syniad Busnes Byddwch Fentrus 2012 Prifysgol Bangor
Mae Dale Spridgeon, myfyriwr ôl-radd yn Ysgol y Saesneg , wedi ennill gwobr o £200 ar ôl dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth flynyddol Syniadau Busnes a drefnir gan y Project Byddwch Fentrus , rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2012
Prosbectws newydd 2013 ar gael
Mae “wynebau newydd” Prifysgol Bangor bellach i’w gweld yn y Prosbectws diweddaraf ar gyfer 2013. Mae’r cyhoeddiad eisoes wedi cael ei rannu mewn Ffeiriau Addysg Uwch ar hyd y DU ac yn cynnwys manylion am gyrsiau i is-raddedigion . Yn ogystal â manylion cyrsiau mae gwybodaeth ar gael am lety, bywyd myfyriwr, adnoddau chwaraeon a’r gefnogaeth i fyfyrwyr sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2012
Myfyriwr israddedig yn ennill ysgoloriaeth o £15,000 i gael hyfforddiant bargyfreithiwr
Mae'r myfyriwr y gyfraith, trydedd flwyddyn o Brifysgol Bangor, Kate Longson wedi ennill ysgoloriaeth o fri gwerth £15,000 i ddilyn ei huchelgais i fod yn fargyfreithiwr. Yn gyn-ddisgybl o St Joseph's College, Trentvale, Stoke-on-Trent, bydd Kate, o Rough Close, Swydd Stafford, yn dechrau ar y cwrs Bar Professional Training Course (BPTC) ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ym mis Medi. Enillodd Ysgoloriaeth Lord Denning o £15,000 gan Ysbyty Lincoln ar ôl cael cyfweliad llwyddiannus yn gynharach y mis hwn. Cyn hynny enillodd yr Hardwicke Entrance Award i dalu am y gost o ymuno ag Ysbyty Lincoln (un o bedair neuadd brawdlys yn y DU, sydd rhaid i fyfyrwyr ymuno er mwyn bod yn fargyfreithiwr) a’r ffioedd Galw ar ôl cwblhau’r BPTC.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2012
Myfyriwr o Ysgol yr Amgylchedd, Gwyddorau Naturiol a Daearyddiaeth wedi’i ddewis yn wirfoddolwr ar gyfer y Gêmau Olympaidd!
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2012
O ble ddaeth y syniad o gymdeithas nad yw’n defnyddio arian parod?
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2012
Cyngerdd yn cyfrannu tuag at Gronfa’r Urdd
O ganlyniad i Gyngerdd Mawreddog a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor yn Neuadd Prichard-Jones, cyflwynodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol, siec am £2242 i Bryn Tomos, Cadeirydd Pwyllgor Apêl Bangor ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nglynllifon.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2012
Mynd i'r afael â’r trawsnewid mewn Seicoleg
Caiff athrawon ysgol, tiwtoriaid coleg ac academyddion prifysgol gyfle i ddod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad adeiladol i drafod sut y gallant helpu myfyrwyr i ymdopi â'r naid o'r ysgol neu goleg i brifysgol, sydd weithiau’n anodd.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2012
Estyn yn dweud bod dysgwyr Cymraeg y gogledd yn “rhagorol'
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru wedi derbyn y clod uchaf posibl gan yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant, Estyn, am ansawdd ei darpariaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2012
Peris yn ymddangos mewn cyfres S4C newydd
Yn ystod y dydd, mae Peris Tecwyn o Rosgadfan yn astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ond gyda'r nos mae'n hyfforddi'n galed wrth baratoi ar gyfer ei ffeit nesaf. Ond nid unrhyw ffeit, mae Peris yn ymladdwr cawell - cage fighter . Bydd Peris yn ymddangos mewn cyfres S4C newydd, Cwffio Cawell , sy'n dechrau nos Iau, 5 Ebrill.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2012