Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Chwefror 2011
Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith - Myfyrwyr yn dysgu ieithoedd lleiafrifol am ddiwrnod
Daeth yr Ysgolion Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern ynghyd i gynnal digwyddiad i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith UNESCO ddydd Mercher, 23 Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2011
Efallai ei fod yn ‘sbwriel’ – ond mae yn y 5 uchaf
Mae ymgyrch ‘Cynllun Goroesi Llawn Sbwriel’ Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi llwyddo i gyrraedd y pump uchaf mewn cystadleuaeth genedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2011
Mwynhau llwyddiant yn yr Eisteddfod Ryng-golegol
Wedi cystadlu brwd a hynod lwyddiannus, daeth cystadleuwyr selog ymysg myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor yn ail yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn ddiweddar. Y tîm cartref, sef Prifysgol Caerdydd, a enillodd, o ychydig.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2011
Gwyddonwyr Carbon yn mynd dan ddaear i chwilio am atebion
Bydd labordy tanddaearol anarferol, sydd am fod yr unig un o’i fath ym Mhrydain, yn cychwyn gwaith ym Mhrifysgol Bangor nes ymlaen eleni, gan alluogi gwyddonwyr i ganfod mwy am garbon sydd yn y pridd.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011
Diabetes UK yn ariannu gwaith ymchwil i’r gennyn sy’n cynhyrchu inswlin ym Mhrifysgol Bangor
Mae Diabetes UK yn ariannu project ymchwil i ennyn arbennig ym Mhrifysgol Bangor. Gallai’r gwaith arwain at ffyrdd newydd pwysig o drin diabetes.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011
Myfyrwyr Bangor yn dathlu Gŵyl Dewi
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor ac UM Cymraeg Bangor (UMCB) yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu Gŵyl Dewi - Wythnos y Ddraig! Am yr ail flwyddyn bydd yr Undebau’n cynnal digwyddiadau i gynnwys myfyrwyr, staff y Brifysgol a phobl Bangor a’r cylch gan ddechrau ar yr 28ain o Chwefror a pharhau drwy’r wythnos tan ddydd Sul y 6ed o Fawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011
Mae aelod o staff Prifysgol Bangor yn y “the toughest foot race on earth”ym mis Ebrill
Mae aelod o staff Prifysgol Bangor yn paratoi i redeg dros 150 o filltiroedd yn y Sahara mewn ras sydd yn cael ei disgrifio fel “the toughest foot race on earth”.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011
Myfyrwyr yn mentro yn yr Her £10
Yn ddiweddar cymerodd myfyrwyr ran mewn Her £10 a drefnwyd gan Broject Byddwch yn Fentrus yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor. Benthycodd myfyrwyr £10 yn unigol neu mewn timau bach, a cheisio gwneud cymaint o arian ag y gallent mewn pythefnos mewn ffordd fentrus, er mwyn ennill y wobr gyntaf o £200.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011
‘Food Dudes’ i achub plant rhag ‘General Junk’
Yng Ngwledd Lifrai Flynyddol Cwmni Anrhydeddus y Ffrwythwyr, a gynhaliwyd yn y Mansion House yn Llundain ar 17 Chwefror 2011, bu’r Athro Fergus Lowe, cyd-gyfarwyddwr rhaglen Food Dudes lwyddiannus Prifysgol Bangor, yn rhoi araith i westeion adnabyddus. Yn eu mysg roedd Arglwydd Faer Dinas Llundain a’r Siryddion, Uchel Gomisiynydd Seland Newydd, Deon Cadeirlan Caergaint, pedwar o benaethiaid y Lluoedd Arfog, Comisiynydd Heddlu Dinas Llundain, cynrychiolwyr uwch o’r gyfraith, Meistri pedwar urdd lifrai arall, yn ogystal ag arweinwyr y diwydiant cynhyrchu ffrwythau.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2011
Anrhydeddau i ysgolheigion Eidaleg Bangor
Bu’n chwe mis rhagorol i ysgolheigion Eidaleg ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2011
Diddordeb mewn astudio ar lefel ôl-radd?
Eisiau dysgu mwy am astudiaethau ôl-radd? Yna cadwch lygaid am y pengwins ôl-radd dros y dyddiau nesaf oherwydd fe fyddan i’w gweld o gwmpas Bangor yn rhannu gwybodaeth am y Ffair Gyrsiau Ôl-radd fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener, Chwefror 18 rhwng 12.30 a 2.30y.p. yn Neuadd PJ.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2011
Llwybr rhan-amser at gymhwyster ôl-radd
Yn yr amseroedd anodd hyn, mae astudio am gymhwyster ôl-radd yn rhan amser, gan ddal ati i weithio, yn ddewis ym Mhrifysgol Bangor. Cynhelir Ffair Cyrsiau Ôl-radd nesaf Prifysgol Bangor ddydd Gwener, 18 Chwefror 2011 rhwng 12.30 a 2.30. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio’n ôl-radd ym Mangor i ddod a manteisio ar y cyfle i gael gwybod mwy am y nifer fawr o wahanol raglenni ôl-radd sydd ar gael ar hyn o bryd. Gellwch gofrestru ymlaen llaw ar-lein ar gyfer yr achlysur drwy wefan y Brifysgol yn: http://www.bangor.ac.uk/pgfair/contactus.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2011
Technoleg newydd yn obaith newydd i’r economi werdd
Mae Prifysgol Bangor yn bartner mewn rhaglen gwerth £20 miliwn fydd yn rhoi hwb i’r economi werdd trwy helpu busnesau yn y Gorllewin a’r Cymoedd i ddatblygu technolegau newydd i droi cnydau lleol yn gynnyrch masnachol. Cyhoeddwyd y newyddion heddiw yn y Senedd (Dydd Mawrth, 15 Chwefror), gan y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2011
Addysg gwyddoniaeth yng Nghymru a’r goblygiadau ar gyfer economi Cymru
Mae Prifysgol Bangor yn dod a’r ŵyl wyddoniaeth bwysig hon, a fydd yn para am wythnos gyfan, i’r ddinas. Cynhelir digwyddiadau a fydd yn apelio at bobol o bob oedran a diddordeb. Bydd yr ŵyl, a gynhelir rhwng 11-20 Mawrth 2011, yn agor gyda Thrafodaeth Banel ar addysg gwyddoniaeth yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011
Beth ydi’r ffordd orau o helpu plant gyda chlefyd siwgr i edrych ar ôl eu hunain?
Mae astudiaeth newydd sy’n cael ei harwain ar y cyd gan Brifysgolion Bangor a Chaerdydd, gyda thîm o arbenigwyr o bob rhan o wledydd Prydain, yn ceisio gweld beth yw’r ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth i helpu plant a phobl ifanc gyda chlefyd siwgr math 1 i edrych ar ôl eu hunain.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011
Cynhyrchu eigionegwyr blaenllaw ers mwy na 45 mlynedd
Mae’r MSc mewn Cefnforeg Ffisegol Gymhwysol yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn llenwi bwlch sgiliau cydnabyddedig yn sector amgylchedd y DU, gan gynhyrchu eigionegwyr sydd, ymysg sgiliau eraill, yn fedrus o ran modelu cyfrifiadurol ac sy’n hollol rifog. (Yn ôl adolygiad gan y Cyngor Ymchwil ar y 15 sgil sydd eu hangen fwyaf yn y sector amgylcheddol, mae gallu i ymwneud â modelu cyfrifiadurol ar ben y rhestr, a rhifedd yn bedwerydd).
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011
Cymhwyster Ôl-radd yn arwain at waith sy’n rhoi boddhad i Pam
Meddai Pam Martin am ei gwaith : “Tydi o ddim yn teimlo fel gweithio- dyna faint dwi’n ei fwynhau!” Ers ennill cymhwyster ôl-radd o Brifysgol Bangor, mae Pam yn gweithio fel Swyddog Ymchwil a Chydlynydd Treialon yn y Brifysgol. Mae hi ar hyn o bryd yn recriwtio ac yn ymweld â phobol ledled gogledd Cymru, sydd wedi derbyn diagnosis o Glefyd Parkinson neu Alzheimer yn ddiweddar. Mae hi hefyd yn ymweld â phobol nad ydynt wedi cael diagnosis, ac yn ymweld â bron pawb yn eu cartrefi, er bod rhai yn dewis ymweld â’r Brifysgol. Mae gofyn i’r cyfranogwyr ymgymryd â thasgau meddwl syml. Mae’r rhain yn sylfaen i’r canlyniadau ymchwil, ac yn aml mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn mwynhau eu gwneud!
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011
Mynd ag Arbenigedd Busnes Bangor i Ddinas Llundain
Prifysgol Bangor yw’r unig sefydliad addysg uwch yng Nghymru i ‘allforio’ ei haddysg i Lundain . Mae’r Ysgol Busnes, sydd ar y brig o ran ansawdd yr ymchwil mewn Cyfrifeg a Chyllid ymhlith sefydliadau yn y DU, yn lansio lleoliad dysgu newydd yn y Ddinas.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011
Cregyn y Frenhines (Queenie) yn ennill Gwobr gyda chymorth Prifysgol Bangor
Roedd cefnogaeth a chyngor Ysgol Gwyddorau Eigion enwog Prifysgol Bangor yn allweddol i bysgodfa Ynys Manaw ennill Gwobr nodedig Pysgodfa Gynaliadwy Billingsgate. A ben hynny, mae’r rhagolygon yn edrych yn ffafriol ar gyfer diwydiant pysgota’r ynys. Ar ôl dirywiad, mae’r bysgodfa gynaliadwy am ‘queenies’, fel y gelwir y cregyn fylchog yn lleol, bellach yn cynhyrchu bwyd o safon uchel y mae galw amdano ym mwytai goreuon Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2011
Hoffter o ddeifio’n arwain at yrfa newydd
Cymhwyster ôl-radd o Brifysgol Bangor oedd yr allwedd i Mandy Knott gael ei phenodi i swydd bwysig a diddorol - a’i chyntaf mewn gyrfa newydd. Mae gan Mandy’r dasg bwysig o weithio ar fesur deddfwriaethol a fydd yn sicrhau rheolaeth a chadwraeth pysgodfa cocos a chregyn gleision Bae Morecambe.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2011
Mesur llwyddiant adferiad gweundir
Mae Prifysgol Bangor yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn project uchelgeisiol i adfer yr ail fawnog i’r mwyaf yng Nghymru sydd hefyd yn ardal cadwraeth arbennig a ddynodwyd gan Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2011
Gwobr yn Bar Uno yn ystod Serendipity!
Roedd y digwyddiad Serendipitiy 2 diweddar yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas yn llwyddiant mawr, a bu i un myfyriwr adael gyda gwobr gwerth chweil!
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2011
Denu arbenigwyr gwyddor gymdeithasol y dyfodol i Gymru
Dyfarnwyd miliynau o bunnau i brifysgolion blaenllaw Cymru er mwyn hyfforddi gwyddonwyr cymdeithasol o’r radd flaenaf mewn amrediad o faterion sy’n effeithio ar gymdeithas y dyddiau hyn. Bydd sefydlu Canolfan Hyfforddi Ddoethurol yn golygu y bydd modd cynnig 33 o ysgoloriaethau ymchwil i fyfyriwr ôl-raddedig yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2011
Mae pawb efo’u hochr dywyll…
Edrychwch allan am Brif Adeilad y Celfyddydau Neo Gothig, yn ‘chwarae rhan’ seilam Fictoraidd sydd wedi’i drosi’n fflatiau yn ‘Bedlam’, cyfres ddrama iasol newydd Sky Living. Mae’n cychwyn am 10.00 nos Lun 7 Chwefror. Gwelwch http://skyliving.sky.com/top-shows/bedlam Bu i’r criw ‘Bedlam’ fwynhau eu ffilmio yn y Brifysgol, gan droi ambell i ben Gorffennaf diwethaf. Buont yn aros yn adnoddau llety’r Ganolfan Rheolaeth .
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2011
Ennill drwy fynegi’ch barn am wyddoniaeth a’r amgylchedd
Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfle i bobol ifanc fynegi’u barn drwy gân, fideo, neu ffotograff! Ac mae’r dyddiad cau ar gyfer dwy gystadleuaeth sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth ac ar themâu amgylcheddol wedi’i ymestyn tan 22 Chwefror. Mae’r cystadlaethau sydd efo sawl categori’n cynnig camerâu digidol a gwobrau ariannol o £450 a £150 yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth y Brifysgol. Mae’r Ŵyl Wyddoniaeth yn rhedeg rhwng Gwener 11 Mawrth a Sadwrn 19 Mawrth 2011. Bydd gweithgareddau sy’n apelio at bob oedran a diddordeb.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2011
£6 miliwn i Dechnolegwyr ifanc
Mae Lesley Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Sgiliau, wedi cyhoeddi project gwerth £6 miliwn i annog pobl ifanc i ddilyn esiampl Bill Gates, Steve Jobs a thechnolegwyr ac entrepreneuriaid llwyddiannus eraill. Bydd Prifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn Technocamps, a fydd o dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac ar y cyd â Phrifysgolion Aberystwyth a Morgannwg. Bydd y prifysgolion yn cynnal sesiynau dyddiol ac wythnosol i ddisgyblion 11-19 oed ar ystod o bynciau cyffrous gan gynnwys roboteg, datblygu gemau, animeiddio, gwaith fforensig digidol, datblygu meddalwedd a llawer mwy.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2011
Ysgol Cerddoriaeth yn enill dwy wobr Cronfa Goffa Thomas Ellis
Ar ôl edrych drwy ugeiniau o geisiadau oddi wrth nifer hynod o dalentog o ymgeiswyr, mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi enillwyr Cronfa Goffa Thomas Ellis eleni. Bydd y darlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor, Dr Guto Pryderi Puw, yn derbyn £1500, a bydd y myfyriwr PhD, Gwawr Ifan, hefyd o Brifysgol Bangor yn derbyn £1000.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011
Dewch i fwynhau cymuned amlddiwylliannol y Brifysgol
Bydd cymysgedd eclectig o ddiwylliannau a thraddodiadau i’w weld yn Neuadd Prichard Jones yn y Brifysgol am 6.00 nos Wener 11 Chwefror 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011
Yr Esgob a’i Lyfr
Cynhelir gwasanaeth cysegru a bendithio arbennig yng Nghadeirlan Bangor brynhawn Sul 6 Chwefror am 3.15 o’r gloch i ddathlu dychweliad Llyfr Esgobol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2011