Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Medi 2017
Dweud eich dweud, a helpu i ffurfio degawd nesaf iechyd a llesiant yng Nghymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eisiau clywed eich barn am yr hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru i helpu pobl i osgoi salwch corfforol a meddyliol. Gwneir y gwaith hyn ar y cyd efo Prifysgol Bangor. Mae pawb yng Nghymru’n cael eu hannog i ymweld â www.staywellinwales.com i ddweud beth sy’n bwysig iddyn nhw, eu ffrindiau a’u cymunedau, a’r hyn fydd, yn eu barn nhw, yn helpu pobl i fyw bywydau iachach, hapusach a hwy.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2017
Gallai ffermydd godro mwy a dwysach hefyd olygu ôl-troed llaeth mwy
Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn Global Change Biology yn herio'r syniad bod y duedd tuag at ffermydd godro mwy a dwysach yn lliniaru newid yn yr hinsawdd trwy leihau ôl-troed carbon cynhyrchu llaeth. Edrychodd tîm o arbenigwyr maeth anifeiliaid a modelwyr amgylcheddol o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth y tu hwnt i ffiniau astudiaethau ôl-troed carbon arferol systemau ffermio i chwilio am ganlyniadau allyriadau nwyon tŷ gwydr anuniongyrchol gan ystyried newidiadau i gynhyrchu porthiant gwartheg godro ac i ffermydd cig eidion a allai gystadlu am laswelltir gyda ffermydd godro.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2017
Cydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon ar broject BlueFish
Casglodd ymchwilwyr, cynrychiolwyr y diwydiant a chynhyrchwyr masnachol o naill ochr i Fôr Iwerddon ynghyd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mawrth i lansio Project BlueFish, cydweithrediad rhwng Cymru ac Iwerddon a fydd yn archwilio effaith newid yn yr hinsawdd ar gynaliadwyedd pysgod a physgod cregyn ym Môr Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2017
Hwyluso'r ffordd o wneud ewyllys
Ddydd Llun, 9 Hydref, bydd Comisiwn y Gyfraith Lloegr a Chymru yn ymweld â Phrifysgol Bangor i ymgynghori â'r cyhoedd yng Ngogledd Cymru sut orau y dylid mynd ati i ddiwygio'r gyfraith ar wneud ewyllys.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2017
Recognise & Respond; Safer Care & Detecting Deterioration
Ar 20 Medi 2017 cynhaliodd Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor gynhadledd ryngweithiol ar gyfer nyrsys plant o bob rhan o Ogledd Cymru a Lloegr.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2017
Cyfle gwych i fyfyrwyr Safon Uwch Cymraeg
Mae Ysgol y Gymraeg a mudiad yr Urdd unwaith eto eleni yn trefnu cwrs preswyl yng Nglan-llyn ar gyfer disgyblion Safon Uwch a hynny rhwng 13-17 Tachwedd 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2017
Gwyddonwyr yn galw am fwy o ymchwil i sut mae gweithgareddau dynol yn effeithio ar wely'r môr
Mae grŵp o wyddonwyr o'r Deyrnas Unedig, a gydlynir gan Brifysgol Southampton, wedi cyhoeddi ymchwil helaeth ar y ffordd mae diwydiant a newid amgylcheddol yn effeithio ar welyau ein moroedd. Fodd bynnag, dywedant bod angen gwneud mwy o waith i helpu i ddiogelu'r ecosystemau cymhleth hyn a'r manteision y maent yn eu rhoi i bobl at y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2017
North West Cancer Research yn neilltuo gwerth miliynau o bunnoedd o gyllid ymchwil canser ym Mhrifysgol Bangor
Mae'r elusen sy'n ariannu ymchwil canser yng ngogledd Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu £1.34 miliwn i hyrwyddo ymchwil i ganser ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2017
Why we taught psychology students how to run a marathon
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2017
Prifysgol Bangor yn uchel yng ngraddau’r Times Higher Education ym mhynciau’r celfyddydau a’r dyniaethau
Mae’r tabl celfyddydau a'r dyniaethau 2018 yn rhestru prifysgolion gorau’r byd ar draws eu cenhadaeth - addysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac agweddau rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2017
Traffig yn ystod yr Wythnos Groeso
Fis Medi, bydd Prifysgol Bangor unwaith eto yn croesawu myfyrwyr newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2017
Dydd barn i ymosodwyr morol
Gofynnir i wirfoddolwyr yng ngogledd Cymru helpu ymgyrch genedlaethol i dracio ymosodiad sy'n digwydd o gwmpas arfordir y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2017
Drysau’n agored i gasgliadau archifau ac amgueddfa Prifysgol Bangor
Bydd cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 16 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2017
Prifysgol Bangor yn cadw’i safle ymhlith Prifysgolion y Byd
Mae Prifysgol Bangor wedi cadw’i safle fel un o’r 350 o brifysgolion gorau’r byd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, yn ôl y Times Higher Education World University Rankings a gyhoeddir heddiw (dydd Mawrth, 5 Medi 2017).
Dyddiad cyhoeddi: 5 Medi 2017
Documenting three good things could improve your mental well-being in work
Dyma erthygl yn Saesneg gan Kate Isherwood , myfyrwraig PhD gyda'r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 4 Medi 2017
What language tells us about changing attitudes to extremism
Dyma erthygl yn Saesneg gan Josie Ryan, myfyrwraig PhD gyda'r Ysgol Ieithyddiaith ac Iaith Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2017
Cloriannu ymaddasu esblygiadol - ydi'n modelau'n gywir?
Un sialens sy'n wynebu gwyddonwyr yw amcangyfrif sut y bydd ein hamgylchedd, a'r we gymhleth o greaduriaid sydd ynddo, yn ymateb i newidiadau yn eu hamgylchedd o ganlyniad i newid hinsawdd neu ddylanwadau dynol eraill. Yn draddodiadol, er mwyn asesu sut y bydd rhywogaethau'n esblygu dros gannoedd o genedlaethau, mae gwyddonwyr wedi ystyried fesul un neu mewn parau elfennau ecolegol sy'n achosi newid yn yr amgylchedd. Mae'r elfennau hyn yn cynnwys pethau fel cynnydd mewn tymheredd, cynnydd mewn CO2 neu newidiadau mewn plaleiddiaid neu wrteithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2017