Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mehefin 2017
Pencampwr Codi Pwysau Ewropeaidd yn ennill Gwobr Goffa Llew Rees
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei gwobr chwaraeon uchaf flynyddol, Gwobr Goffa Llew Rees, i Bencampwraig Codi Pwysau Ewropeaidd 2017. Dyfarnwyd y wobr i Chrystal Williams, 21, o Bolton gan ei bod wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i godi proffil chwaraeon Prifysgol Bangor drwy ei llwyddiant personol ar lefel ryngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2017
Lleisiau merched y Mabinogi: ymateb creadigol un o Gymry America
Mae chwedlau canoloesol y Mabinogi yn parhau i ennyn chwilfrydedd efrydwyr llenyddiaeth yng Nghymru a thrwy’r byd i gyd. Mae’r corff eang o ysgolheictod sy’n gysylltiedig â’r chwedlau yn parhau i dyfu a deil eu gallu i danio ymatebion creadigol ymhlith beirdd ac ysgrifenwyr i fod mor gryf ag erioed.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2017
Cymdeithas Alzheimer yn ymrwymo bron i £2filiwn i chwyldroi ymchwil i ofal dementia
Mae Cymdeithas Alzheimer wedi cyhoeddi ar 20fed Mehefin ei bod wedi ymrwymo bron i £2filiwn i grŵp o brifysgolion a sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Prifysgol Bangor, fel rhan o'i buddsoddiad unigol mwyaf erioed mewn ymchwil gofal dementia. Arweinir y cynllun gan Brifysgol Caerwysg.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2017
Pwy sy'n rholio'r dis gyda diogelwch bwyd?
Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan dîm o ymchwilwyr yn y Deyrnas Unedig o Brifysgol Manceinion, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Lerpwl, dan enw Project ENIGMA, wedi datgelu'r lefel o ymddygiad gwael mewn ceginau yn y Deyrnas Unedig sy'n cynyddu risg y cyhoedd o gael gwenwyn bwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2017
Mae arlunwyr a phenseiri'n meddwl yn wahanol o'u cymharu â phobl eraill
Mae astudiaeth newydd gan ymchwilwyr o UCL a Phrifysgol Bangor wedi canfod bod penseiri, arlunwyr a cherflunwyr yn ystyried gofodau mewn ffyrdd gwahanol i bobl eraill. Pan ofynnir iddynt siarad am ddelweddau lleoedd, mae arlunwyr yn fwy tebygol o ddisgrifio'r gofod dan sylw fel delwedd ddau-ddimensiwn, tra bod penseiri'n fwy tebygol o ganolbwyntio ar lwybrau a ffiniau'r gofod.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2017
Tech firms want to detect your emotions and expressions, but people don't like it
Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew Mc Stay, Darllenydd yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2017
The ATM at 50: how a hole in the wall changed the world
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Bernardo Batiz-Lazo o’r Ysgol Busnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mehefin 2017
Welsh schools teach pupils to be bilingual, not restrict their education
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Peredur Webb-Davies Uwch-Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth Cymraeg yn yr Ysgol Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017
How operational deployment affects soldiers' children
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson myfyrwraig Doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg a Sefydliad Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017
Confidence can be a bad thing – here's why
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stuart Beattie, darlithydd Seicoleg a’r Athro Tim Woodman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddio l.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2017
Ysgolion lleol yn rhannu ‘Straeon Coll’ Bangor mewn gorymdaith syrcas
Bydd pum ysgol leol yn dod at ei gilydd mewn gorymdaith liwgar drwy Stryd Fawr Bangor am 1pm, ddydd Iau 20 Gorffennaf wrth i Pontio agor eu Gwledd Syrcas 2017, sef pob math o weithgareddau syrcas gyfoes dros 9 diwrnod ar ddechrau gwyliau’r haf.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017
Emily yn ennill gwobr Womenspire
Mae Gweinyddwr Prosiect M-SParc , Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, wedi ennill gwobr Womenspire gan Chwarae Teg.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017
Dyfarnu Aur i Fangor
Mae safon Aur wedi ei dyfarnu i Brifysgol Bangor yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF) Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y safon hon. Mae’r fframwaith yn asesu prifysgolion yn erbyn amrediad o feini prawf ac mae’n rhan o gynlluniau Llywodraeth y DU i godi safonau mewn addysg uwch. Mae hefyd yn rhoi mwy o wybodaeth i fyfyrwyr sydd yn penderfynu pa brifysgol i fynd iddi, fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017
9bach a chyfeillion i berfformio yn Pontio yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Wrth i wythnos Eisteddfod Genedlaethol Môn agosau, mae Pontio wedi cyhoeddi y bydd 9bach a chyfeillion yn dychwelyd i Theatr Bryn Terfel i berfformio LLECHI, gwaith ar y cyd newydd sbon sy’n cynnwys agweddau gweledol, cerddorol ac awyrol ac wedi ei ysbrydoli gan thema’r chwarel a hanes Bethesda nos Lun 7fed a nos Fercher 9fed o Awst, 8pm .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mehefin 2017
£1.8m o gyllid i astu daeth newydd o bwys ar reoli gwaedu ar ôl genedigaeth
Mae £1.8m o gyllid gan Sefydliad Cenedlaethol y DU dros Ymchwil Iechyd (NIHR) wedi ei ddyfarnu i gynnal astudiaeth o bwys ar drin gwaedu gyda chyffuriau ar ôl genedigaeth (COPE).
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2017
Project gwyddoniaeth Bangor yn ennill gwobr yr UE
Mae BREAD4PLA, project gwyddoniaeth a thechnoleg gwyrdd y mae ymchwil Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan allweddol ohono, wedi ennill un o ddwy “wobr werdd” fel un o’r projectau Amgylchedd LIFE gorau a gyflwynwyd yn ystod y 25 mlynedd ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2017
Prifysgol Bangor yn lansio Ystafelloedd Dosbarth Confucius
Bu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu lansiad swyddogol pum ystafell ddosbarth Confucius newydd yr wythnos hon gyda chynrychiolwyr o Brifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru a'r Llysgenhadaeth Tsieineaidd yn bresennol ynghyd â phlant ysgol lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017
Emily ar restr fer gwobr Womenspire
Mae Gweinyddwr Prosiect M-SParc , Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, ar y rhestr fer i wobr Womenspire gan Chwarae Teg.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017
Cyfle i ddylunwyr ifanc arddangos eu gwaith
Mewn menter newydd, mae Prifysgol Bangor wedi rhoi cyfle i ysgolion lleol ddangos gwaith gan eu dylunwyr gorau mewn Arddangosfa Dylunio a Thechnoleg arbennig.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2017
E-goeden gyda dail solar yn teithio i ŵyl Glastonbury
Bydd y rhai sy’n mynd i ŵyl Glastonbury eleni yn cael cyfle i weld e-goeden yn y stondin ‘Rhyfeddodau Cudd y Goedwig’. Cynhyrchwyd yr ‘e-goeden’ gan Dr Andy Smith, Uwch Ddarlithydd mewn Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â Nigel Fisher, Ceidwad Coedydd Wytham, a’i dîm ym Mhrifysgol Rhydychen. Bydd yr e-goeden yn ffurfio rhan o’r sioe deithiol ‘Sex & Bugs & Rock 'n Roll’ a grëwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Lancaster, ac a hyrwyddir gan y British Ecological Society , fel ffordd o ddod â gwyddoniaeth i’r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2017
Dwy wobr RCBC glodwiw i Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor
Mae'n bleser gan Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor bod Robert Goldsmith, Ffisiotherapydd Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol wedi'i leoli yng Nghaerdydd, a Patricia Masterson-Algar, ymchwilydd ôl-radd ym maes adsefydlu yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor, ill dau wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu cyllid RCBC Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2017
'Facts are not truth': Hilary Mantel goes on the record about historical fiction
Dyma erthygl yn Saesneg gan Michael Durrant o’r Y sgol Llenyddiaeth Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2017
Dotio at Dot!
Mae fideo cerddoriaeth gan fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn prysur ddod i sylw’r byd; wrth ysgrifennu’r datganiad hwn mae dros 43,953 o bobl wedi gwylio ' Everybody Dances to Techno' gan Dot ar YouTube, ac mae'r sylwadau a'r negeseuon o gefnogaeth yn dod o bob cwr o'r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2017
Cipolwg ar y gorffennol i dwristiaid o Ewrop
Bydd cofnodion hanesyddol gan ymwelwyr o Ewrop i Gymru’r gorffennol ar gael i ymwelwyr Ewropeaidd y dyfodol, drwy wefan newydd sydd i’w chwblhau'r flwyddyn nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2017
Cefnogi'r cochion!
Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ac Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor yn gweithio efo partneriaid i gefnogi ail gyflwyno gwiwerod coch i Ddyffryn Ogwen, yng Ngwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2017
Bwyd a Diod Gogledd Cymru yn mynd yn wyrdd gyda Cynnal Cymru
Mae pobl o'r sector bwyd a diod yng ngogledd Cymru, sector sy’n ffynnu, yn ehangu ac yn bwysig i’r economi leol, yn dod ynghyd am y tro cyntaf ddydd Mercher 5 Gorffennaf, 2017 ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer ‘digwyddiad dysgu a rhwydweithio’ gan Cynnal Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2017
Llongyfarch Myfyrwyr ar Eisteddfod lwyddiannus
Llongyfarchwyd y myfyrwyr hynny o’r Brifysgol a fu’n weithgar ac yn hynod lwyddiannus wrth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017
Polisi Cymdeithasol yn cyrraedd 10 uchaf y Deyrnas Unedig yn nhablau cynghrair diweddaraf y Guardian
Mae Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei osod ymysg y 10 uchaf mewn dau faes yn y Guardian University Guide diweddaraf.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017
Ysgol y Gyfraith Bangor: uchaf yng Nghymru
Ysgol y Gyfraith, Bangor bellach yw ysgol orau'r gyfraith yng Nghymru, yn ôl y tablau cynghrair diweddaraf a gyhoeddwyd yn y Guardian University Guide ar gyfer 2018. Mae'r Ysgol wedi codi i safle 23 yn y DU, o blith 98 o sefydliadau a gynhwysir yn y tablau, ac yn ymddangos yn uwch nag ysgolion y gyfraith eraill yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2017
Dewch i ddarganfod y byd ffermio yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes
Ddydd Sul, 11 Mehefin 2017 bydd Canolfan Ymchwil Henfaes (Fferm Prifysgol Bangor) ger Abergwyngregyn (LL33 0LB) yn agor ei giatiau i ymwelwyr ar gyfer Fferm Agored LEAF i arddangos y byd ymchwil amaethyddol ochr yn ochr â'r byd ffermio defaid masnachol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2017
Rhwydwaith o wirfoddolwyr i weithio ar lannau o amgylch gwledydd Prydain yn yr haf eleni
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau arbennig y mis nesaf gydag aelodau o'r cyhoedd yn dod ynghyd i lunio darlun manylach o amrywiaeth bywyd môr o amgylch arfordir gwledydd Prydain. Bydd gwyddonwyr yn gweithio gyda byddin hyfforddedig o 'wyddonwyr lleyg' yn ystod penwythnos "CoCoast Unite" a gynhelir rhwng Diwrnod Cefnfor y Byd, ddydd Iau 8 Mehefin a dydd Sul 11 Mehefin mewn lleoliadau ledled gwledydd Prydain. Bydd yr alwad hon i'r gad yn casglu gwybodaeth hanfodol am amrywiaeth a helaethrwydd rhywogaethau rhynglanwol sy'n byw ar ein glannau môr creigiog. Traeth Moelfre yn un o'r lleoliadau ledled gogledd Cymru a gwledydd Prydain lle bydd aelodau o'r cyhoedd yn cymryd rhan mewn project "gwyddoniaeth leyg" er mwyn creu darlun manylach o amrywiaeth bywyd môr o amgylch arfordir gwledydd Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2017
Hwb ariannol i brosiect mentora iaith
Mae prosiect i godi proffil ieithoedd tramor modern wedi derbyn arian estynedig gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd disgyblion mewn mannau gwledig yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2017