Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mawrth 2017
Myfyriwr nyrsio anabledd dysgu am wirfoddoli yn Ghana
Ar 28 ain o Awst, 2017 bydd Iola Mair Morris myfyriwr nyrsio Anableddau Dysgu yn ei ail flwyddyn yn mynd i Ghana i wirfoddoli am bythefnos. Mae’r prosiect yn gofalu am bobl a phlant ag anabledd dysgu gyda chyfle i wirfoddoli mewn cartref i blant amddifad, ysgolion ac ysbytai.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017
Gala Un Byd yn dathlu doniau
Cafodd dros 400 o fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r gymuned leol gyfle i flasu traddodiadau diwylliannol y byd yn nathliad blynyddol Prifysgol Bangor o amrywiaeth a doniau. Yn y Gala Un Byd cafwyd ugain o eitemau’n cynrychioli sawl cwr o’r byd, a berfformiwyd gan fyfyrwyr unigol a chlybiau a chymdeithasau myfyrwyr, ynghyd â grwpiau gwadd lleol. Cafwyd eitemau’n amrywio o ganeuon o Tonga, drymiau o Ghana, canu gwerin Cymreig a chrefft ymladd Siapaneaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017
How football’s richest clubs fail to pay staff a real living wage
Dyma erthygl yn Saesneg gan Tony Dobbins o’r Ysgol Fusnes a Peter Prowse , Sheffield Hallam University , sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017
Jack Rooke: Good Grief yn Pontio
Good Grief, sioe gyntaf Jack Rooke a sioe sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel, sy'n dechrau rhaglen deithiol Soho Theatre yn 2017 wrth iddynt barhau i ddod â gweithiau gorau lleoliad bywiocaf Llundain o ran theatr, comedi a chabare newydd i lwyfannau ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y daith yn galw yn Stiwdio Pontio Bangor ar nos Sadwrn 29 Ebrill am 7.30pm
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017
Ysgoloriaeth Awdur Newydd i Fyfyriwr Ysgol y Gymraeg
Llongyfarchiadau i Gareth Evans-Jones, un o fyfyrwyr PhD Ysgol y Gymraeg, ar ennill Ysgoloriaeth Awdur Newydd a ddyfernir gan Llenyddiaeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017
Tri i gystadlu ar ran y Brifysgol mewn cystadleuaeth entrepreneuriaeth
Mae tri myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cael eu dewis i gynrychioli’r Brifysgol ar gyfer rownd ranbarthol cystadleuaeth Entrepreneuriaeth Prifysgolion Santander . Yn dilyn cystadlu yn erbyn dros 30 o geisiadau eraill i gyrraedd y rhestr fer o chwe phroject entrepreneuraidd, gwobrwywyd Ned Hartfiel, sydd newydd dderbyn gradd PhD, a myfyrwyr gradd Meistr mewn Seicoleg, Alex Bailey a Daniel Pascoe gyda siec gwerth £200 at eu ceisiadau. Byddant hefyd yn gymwys i dderbyn cefnogaeth busnes trwy raglen B-Fentrus Adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017
Cydweithrediad a sut i'w feithrin yw thema allweddol sgwrs Bocs Sebon Gwyddoniaeth
Bydd Pippa Beston, sydd yn fyfyrwraig PhD yn Ysgol Seicoleg Bangor, yn teithio i Abertawe i gymryd rhan mewn digwyddiad Bocs Sebon Gwyddoniaeth ar 8 Gorffennaf. Mae hi’n rhan o draddodiad hir yn Ysgol Seicoleg Bangor o gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, gan ddilyn yn ôl troed yr Athro Emily Cross a Dr Kami Koldewyn.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cynllun peilot Cymrodoriaethau Academaidd gyda Phrifysgol Bangor
Mae dau academydd o Brifysgol Bangor i rannu eu harbenigedd i alluogi Aelodau'r Cynulliad i ddatblygu polisi ac ymarfer er budd pobl Cymru. Bydd Dr Alexandra Plows o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, a Dr Catrin Hedd Jones o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd , yn treulio amser yn gweithio ar brojectau penodol gyda Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, dan Gymrodoriaethau Academaidd newydd sy'n cael eu peilotio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017
Academydd o Fangor yn cefnogi rhieni ifanc
O ystyried y penawdau a welir am dadau eithriadol ifanc a daliadau cyffredinol am geisiadau am fudd-daliadau a thai, mae magu plant gan rieni ifanc iawn wedi dod i gael ei weld fel perygl i gymdeithas. Fodd bynnag, mae astudiaeth ymchwil ddiweddar o Fangor ar y project 'Rhieni Ifanc Ni' a gynhelir gan GISDA ar draws Gogledd Orllewin Cymru, yn herio'r safbwyntiau hynny. Rhoddodd y project Rhieni Ifanc Ni gefnogaeth unigol i dros 100 o rieni dan 25 oed, y rhan fwyaf ohonynt yn famau. Ei brif nod oedd datblygu gallu rhieni i ymdopi. Roedd agweddau ar hyn yn cynnwys hyrwyddo cynhwysiad economaidd drwy gefnogi rhieni i ennill cymwysterau perthnasol, cefnogi cysylltiadau teuluol a galluogi rhieni i ffurfio rhwydweithiau â rhieni eraill. Cyflawnodd Prifysgol Bangor astudiaeth flwyddyn o hyd yn ymwneud â phrofiadau rhieni o 'fagu gwytnwch'. Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Myfanwy Davies ac fe'i gwnaed gan Karen Wyn Jones ac Elin Williams yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2017
Britons see volunteering as a hobby or a way to network rather than a chore
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephanie Jones myfyrwraig PhD o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2017
Yr Athro Emily Cross a Dathliadau 10 Mlynedd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd
Gwahoddwyd Yr Athro Emily Cross o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor i siarad yn Nghynhadledd Dathliadau 10 Mlynedd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd yn ddiweddar, lle bu’n rhannu llwyfan gyda rhai o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2017
Mae myfyrwyr bodlon i’w cael ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn parhau i gynyddu ei phoblogrwydd ymysg myfyrwyr. Mae'r Brifysgol wedi codi i’r 12fed safle ym Mhrydain, a’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y 15 uchaf mewn arolwg newydd ar brofiad myfyrwyr ( Times Higher Education Student Experience Survey 2017).
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2017
Bangor yn arloesi dull newydd o hyfforddi Cwnselwyr
Amcangyfrifir y bydd un mewn pedwar oedolyn yn cael trafferthion iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol, a materion yn ymwneud ag iechyd meddwl yw achos unigol mwyaf anabledd yn y Deyrnas Unedig. Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi gwneud addewid i fuddsoddi dros un biliwn i drawsnewid gofal iechyd meddwl ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n bleser mawr gan Brifysgol Bangor ymateb i'r cynnydd mewn angen am gwnselwyr trwy gyflwyno gradd Meistr mewn Cwnsela. Mae'r cwrs cyffrous hwn yn cynnig cyfle newydd ar gyfer hyfforddiant therapiwtig yng Ngogledd Cymru ac yn bwriadu creu cenhedlaeth newydd o gwnselwyr i gefnogi’r rheiny sydd mewn angen.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2017
Myfyriwr nyrsio ym Mangor yn cyrraedd rhestr fer gwobr ryngwladol
Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn falch o gyhoeddi bod Robson Sengwe (myfyriwr nyrsio 3ydd blwyddyn yng Nghampws Wrecsam Prifysgol Bangor) wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Student Nursing Times 2017 am gyfraniad eithriadol i faterion myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017
Canfod Cregyn Gleision cynaliadwy ym Môr Iwerddon
Pan fydd llynges fwyaf Prydain o gychod pysgota cregyn gleision yn mynd allan i'r môr yn ddiweddarach y mis hwn, eu nod fydd chwilio am had gwerthfawr cregyn gleision. Byddant yn dod â'r rhain yn ôl i'r Fenai i dyfu cyn eu casglu i'w hallforio. Os bydd y project ymchwil newydd hwn ym Môr Iwerddon yn llwyddiannus, efallai mai hwn fydd un o'r troeon olaf y bydd angen i'r llynges fynd allan o Borth Penrhyn ym Mangor i chwilio am had cregyn gleision.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017
Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld arloesi ar waith ym Mhrifysgol Bangor
Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, â Phrifysgol Bangor ddydd Iau (16 Mawrth), gan fynychu Cynhadledd Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag ymweld ag Undeb y Myfyrwyr ac Arloesi Pontio Innovation (API) yn adeilad Pontio.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017
Cenynau a Chynffonnau
I gydfynd â Gŵyl Wyddoniaeth Bangor poblogaidd y Brifysgol, mae Storiel wedi dadorchuddio’i harddangosfa newydd sydd i’w gweld yng nghyntedd Storiel ar y thema o ymlusgiaid. Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Melissa Green, myfyrwraig sŵoleg wirfoddol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mawrth 2017
A all 'gofalwyr lleyg' roi mwy o gymorth ar ddiwedd oes?
Byddai'n well gan y rhan fwyaf o bobl sy'n marw gael gofal yn y cartref. Mae gweithwyr gofal iechyd yn ceisio galluogi i hynny ddigwydd. Mae project ymchwil newydd a arweinir gan Brifysgol Bangor yn archwilio un ffordd o droi hynny'n ffaith i fwy o bobl. Mae gofal yn y cartref fel arfer yn cael ei ddarparu gan Nyrsys Ardal, yn gweithio gyda nifer o aelodau tîm eraill yn cynnwys ymarferwyr, doctoriaid hosbis a nyrsys, a gwasanaethau Macmillan neu Marie Curie. Caiff aelodau'r teulu eu dysgu sut i ofalu am y sawl sy'n annwyl iddynt, ac fel arfer i alw am Nyrs Ardal os oes symptomau anodd. Wrth i bobl wanhau yn ystod wythnosau neu ddyddiau olaf eu bywyd, nid yw'n bosib iddynt lyncu. Bryd hynny, caiff gyrrwr chwistrell ei osod i roi meddyginiaethau o dan y croen dros 24 awr. Bydd hyn yn lliniaru'r rhan fwyaf o symptomau, ond gall rai symptomau amlygu a fydd angen meddyginiaeth bellach ('trech symptomau'). Yr adeg hynny bydd y teulu fel arfer yn galw'r nyrs ardal a all roi dosiau ychwanegol o feddyginiaeth drwy chwistrelliad. Serch hynny, gall hynny gymryd amser maith, yn aml dros awr. Gall yr aros achosi trallod i'r claf a'r gofalwyr, a fydd yn teimlo'n analluog i helpu. Fel arfer, ni fyddai gofal teuluol yn cynnwys rhoi chwistrelliadau ar gyfer y trech symptomau hyn, er bod hynny'n gyfreithlon ac yn ymarferol. Mae Prifysgol Bangor yn gweithio gyda phartneriaid ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Caerloyw i ymchwilio i p'un ai y dylid mabwysiadu’n ehangach yn y Dey...
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2017
Phosphorus is vital for life on Earth – and we're running low
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Vera Thoss o’r Ysgol Gemeg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mawrth 2017
Un Noson, Un Byd!
Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal Gala Un Byd, dathliad o amrywiaeth diwylliannol, nos Iau 16 Mawrth. Yn cymryd rhan yn y cyngerdd fydd myfyrwyr o bob cwr o’r byd yn ogystal â chynrychiolaeth o’r gymuned leol, yn arddangos eu diwylliannau trwy gyfrwng dawns a cherddoriaeth. Gellir disgwyl perfformiadau o India, Tsieina, Affrica, Siapan, ac wrth gwrs Prydain a Chymru!
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2017
Prifysgol Bangor yn agor Labordai Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Iechyd a Lles
Mae Prifysgol Bangor wedi buddsoddi £1m mewn darpariaeth newydd sy'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf. Dyma'r Ganolfan Gweithgarwch Corfforol ar gyfer Iechyd a Lles (Canolfan PAWB Centre), sydd yn rhan o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer , sydd wedi ennill bri'n rhyngwladol. Bydd dau labordy ffisioleg ymarfer newydd, lle'r ymchwilir i'r ffordd mae'r corff dynol yn gweithredu, yn ogystal â labordy dysgu mawr newydd, yn ymestyn a chyfnerthu adnoddau dysgu ac ymchwil presennol yr Ysgol. Mae'r rhain yn ymdrin â'r amrywiaeth o fuddion iechyd a geir drwy ymarfer a gweithgarwch corfforol a hefyd yn ymchwilio i berfformiad, chwaraeon ac amgylcheddau eithafol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2017
Ffair Swyddi Cymraeg
Mae’r Ffair Swyddi Cymraeg yn gyfle i gyfarfod cyflogwyr o amryw o sectorau sy’n ystyried sgiliau Cymraeg yn bwysig yn y gweithle.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2017
Myfyriwr o Harvard ar ymweliad ag Ysgol y Gymraeg
Mae Liam Anton Brannelly yn treulio’r semester cyfredol yn astudio ym Mangor fel rhan o’r cynllun cyfnewid PhD rhwng Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2017
Does a new era of bleaching beckon for Indian Ocean coral reefs?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Ronan Roche a'r Athro JohnTurner o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2017
Baner 13 Mawrth 2017
Fel nifer o sefydliadau ar draws Prydain, mae'r Brifysgol wedi codi baner y Gymanwlad i nodi Gwyl y Gymanwlad.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2017
Law School staff sweep Student Led Teaching Awards nominations
Mae Ysgol y Gyfraith Bangor wedi derbyn 14 enwebiad yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, sy'n adlewyrchiad o ymrwymiad yr ysgol i ofal bugeiliol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2017
Prynu nwyddau gofal iechyd mewn modd moesegol
Cyfrannodd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd at y Pythefnos Masnach Deg drwy gynnal seminar a arweiniwyd gan Lucy Bryning sy’n ymchwilydd yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) a Jude Field sy’n ddarlithydd mewn bydwreigiaeth ac yn aelod o Grŵp Llywio Masnach Deg y brifysgol. Roedd y seminar yn canolbwyntio ar ystyriaethau moesegol cynhyrchu a chaffael deunyddiau meddygol, megis offer llawfeddygol, tecstiliau a menig archwilio ar gyfer y GIG.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017
Dr Prysor Williams yn derbyn Gwobr am ei gyfraniad i wyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
Derbyniodd Dr Prysor Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Ysgol Gwyddorau'r Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth , Wobr Goffa Eilir Hedd Morgan yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yn Abertawe neithiwr (Mercher 08 Mawrth 2017).
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017
Drink a Glass of Water for World Kidney Day
Mae Diwrnod Arennau'r Byd (9 Mawrth 2017) yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gynnal ledled y byd i addysgu a chodi ymwybyddiaeth a chaiff ei gynnal ar yr ail ddydd Iau ym mis Mawrth. Bob blwyddyn, cynhelir digwyddiadau dirifedi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan elusennau arennol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, grwpiau cleifion ac unigolion sydd eisiau gwneud gwahaniaeth. Yfwch wydraid o ddŵr a dangoswch eich cefnogaeth ar twitter # @kidneydayUK -
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017
CYDNABYDDIAETH I AMAETH A CHOEDWIGAETH YM MHRIFYSGOL BANGOR YNG NGHYNGHRAIR DDIWEDDARAF PRIFYSGOLION Y BYD
Mae'r QS World University Rankings diweddaraf wedi rhoi Prifysgol Bangor ymysg y 100 prifysgol uchaf yn y byd ym maes Amaethyddiaeth a Choedwigaeth, ac yn safle 61 yn y byd am Enw Da Cyflogwr.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017
Pynciau Prifysgol Bangor ymhlith y gorau yn y byd
Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair diweddaraf QS World University Rankings bellach yn darparu gwybodaeth am safleoedd gwahanol bynciau ym mhrifysgolion gorau’r byd. Mae Prifysgol Bangor wedi llamu 60 safle yn uwch i safle 411 yn fyd-eang yn y tablau dylanwadol hyn. Mae chwe phwnc ac un maes pynciol ym Mhrifysgol Bangor i’w gweld ymhlith prifysgolion gorau’r byd yn nhabl cynghrair yn ôl pynciau QS World University Rankings. Mae Amaethyddiaeth a Choedwigaeth i’w gweld ymhlith y 100 sefydliad gorau ledled y byd sy’n dysgu’r pwnc gan godi o fod ymhlith y 200 gorau'r llynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2017
Cymhwyso gwyddoniaeth!
Cynhelir Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor eto am y seithfed flwyddyn yn olynol ac mae croeso i bawb archwilio a thrafod gwyddoniaeth trwy sgyrsiau, gweithgareddau ymarferol, arddangosfeydd, dangosiadau - ac ni fydd raid talu i fynd i'r un ohonynt.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2017
Uganda’n cael trafferth i lenwi’i phot mêl
Er bod potensial mawr i gynhyrchu mêl yn Uganda, nid yw nifer o bobl sy’n cadw gwenyn yno’n llwyddo i gynhyrchu a gwerthu digon o fêl i wneud bywoliaeth ohono. Mae ymchwilwyr a fu’n cymharu economïau cartref ffermwyr ymylol yn Uganda wedi canfod bod mêl yn cyfrannu at incwm y cartref yn achos llawer sy’n cadw gwenyn, ond mae’r effaith yn gyfyngedig. Rhoddwyd cychod gwenyn i gartrefi tlawd o fewn cymunedau, er mwyn iddynt wella eu bywoliaeth, o ystyried y diffyg gweithgareddau eraill sydd ar gael iddynt greu incwm, ac effeithiau andwyol newid hinsawdd ar eu cynnyrch amaethu traddodiadol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mawrth 2017
Arloesi Pontio yn cefnogi cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor i ddatblygu braich brosthetig ar gyfer ei fab
A Bangor University alumnus has set up his own company to develop prosthetics for young children with support from Pontio Innovation . Two years ago, Sol Ryan, son of psychology alumnus Ben Ryan, needed emergency surgery at just 10 days old. Surgeons made the devastating decision to amputate Sol's left arm just below the elbow because of a blood clot.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2017
From Geoffrey Chaucer to Jeff Sessions, misspeaking is when you lie about lying
Dyma erthygl yn Saesneg gan John Olsson o’r Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2017
Prifysgol Bangor ar 10 rhestr fer am wobrau Whatuni Student Choice 2017
Bydd staff a myfyrwyr yn canfod heno os ydynt am ennill un o'r deg Gwobr y maent ar y rhest fer ar eu cyfer yn noson Wobrwyo WhatUni Student Choice 2017. Mae'r enwebiadau wedi eu seilio ar yr adolygiadau rhagorol a barn myfyrwyr y Brifysgol eu hunain.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2017
Shiromini'n diolch i bawb am eu cefnogaeth
Yn dilyn dychwelyd yn ôl i Fangor, mae Shiromini Satkunarajah wedi diolch i bawb am eu cefnogaeth. Dywedodd: "Hoffwn ddiolch yn arbennig i Hywel Williams AS am bopeth mae wedi ei wneud, ac i Brifysgol Bangor, fy nghyd-fyfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, eglwysi o amgylch y byd, y bargyfreithiwr a’r cyfreithwyr, fy nheulu a'm ffrindiau, y cyhoedd, y cyfryngau, grwpiau pwyso a sefydliadau eraill sydd wedi fy nghefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mawrth 2017