Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2019
Gwerthiant a defnydd o Brydlesau yng Nghymru
Er mwyn cefnogi polisïau Llywodraeth Cymru ar brydles yng Nghymru, mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl sydd â phrydles preswyl hir, fel rhan o'u perchentyaeth neu forgais, i gwblhau holiadur ar-lein ynglŷn â’u profiadau a'u dealltwriaeth o brydlesi.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2019
Baner y Brifysgol
Codwyd baner y Brifysgol er cof am Robert Morris Owen, Cymrawd Anrhydeddus y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2019
Accessing health care is challenging for Deaf people – but the best solution isn’t ‘one-size-fits-all’
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Christopher Shank, Darlithydd mewn Ieithyddiaeth a Anouschka Foltz, Prifysgol Graz sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2019
Did human hunting activities alone drive great auks’ extinction?
Datganiad i'r Wasg gan eLife. Nid yw ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019
Scientists complete largest global assessment of ocean warming impacts
Datganiad i'r wasg gan y Scottish Association for Marine Science. Nid yw ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019
Astudio/Gweithio Dramor yn 2020/21
Os hoffech chi ymgeisio i fynd dramor yn y flwyddyn academaidd 2020/21, hoffir eich atgoffa mai’r dyddiad cau yw 10 Rhagfyr 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2019
Cynllun trydan dŵr bach yn amddiffyn y Beibl Cymraeg hynaf
Bydd Beibl Cymraeg 431 oed yn cadw’n gynnes dros y gaeaf ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol osod tyrbin trydan dŵr bychan yn Nhŷ Mawr Wybrnant yn Eryri, gan helpu i reoli lefelau lleithder yn y ffermdy o’r 16egganrif. Trwy gydweithio â Phrifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn, mae’r cynllun ynni adnewyddadwy yn helpu’r elusen i sicrhau bod un o’r llyfrau pwysicaf i ddiwylliant Cymru’n cael ei amddiffyn mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2019
60 minutes a'r project sy'n ymwneud ag ymyraethau a ddatblygwyd ar y cyd gan Seicoleg Bangor
Yn ddiweddar, darlledodd rhaglen newyddion adnabyddus 60 Minutes eitem sy'n tynnu sylw at broject Ahlan Simsim IRC a Gweithdy Sesame, y fenter ddyngarol fwyaf erioed sy'n ymwneud â datblygiad plentyndod cynnar.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2019
Cefnogi myfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr
Mae Prifysgol Bangor wedi dewis Diwrnod cenedlaethol Hawliau Gofalwyr (21 Tachwedd) i lansio’r unig Bolisi Myfyrwyr sy’n Ofalwyr mewn unrhyw brifysgol yng Nghymru a thrwy hynn bwysleisio eu cefnogaeth i fyfyrwyr sydd hefyd yn ofalwyr. Bydd gofalwyr ifanc ac eraill yn siarad am eu profiadau, a’r cymorth sydd ar gael iddynt, mewn digwyddiad ar hawliau gofalwyr yn y brifysgol. Cynhelir hwn mewn partneriaeth ag Action for Children, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr a Chyngor Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019
Un llaw a dau hemisffer: Sut mae dwy ochr yr ymennydd yn ymaddasu ar ôl colli rhan o'r corff
Mae seicolegwyr wedi dangos, am y tro cyntaf erioed , sut mae plastigrwydd a gallu'r ymennydd i addasu, yn ymestyn dros ddwy ochr yr ymennydd. Mae'n hysbys ers tro os collir rhan o'r corff neu ryw swyddogaeth o'r corff, y gall rhan gyfagos o'r ymennydd, sy'n rheoli swyddogaeth arall, ymestyn i'r rhan o'r ymennydd sy'n gyfrifol am y swyddogaeth goll a dod yn gyfrifol dros ei reoli. Bellach mae sganiau MRI swyddogaethol wedi dangos mewn pobl sydd wedi colli llaw, bod y swyddogaethau sy'n rheoli'r llaw arall yn ymestyn dros ddau hemisffer yr ymennydd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019
Prifysgol Bangor yn helpu diogelu adneuwyr a sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn Nigeria ac ar draws Affrica
Y Nigerian Deposit Insurance Corporation yn ymweld â Phrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019
Ail-broffesiynoli Bancio a Chyllid yn Trinidad a Tobago
Ym mis Tachwedd bu Prifysgol Bangor yn ymweld â Trinidad a Tobago i ddatblygu perthynas newydd ar gyfer darparu addysg ôl-radd Bancio a Chyllid, trwy'r rhaglen MBA Banciwr Siartredig.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2019
Darlithydd Nyrs Anableddau Dysgu yn ennill Gwobr RCN Cymru 2019
Enillodd Dr Ruth Williams, darlithydd Nyrsio Anableddau Dysgu ym Mhrifysgol Bangor Wobr Addysg Nyrsio RCN Cymru 2019. Mae'r wobr yn cydnabod dwy elfen o waith Ruth yn benodol; ei harweinyddiaeth a'i hymrwymiad i addysg, a'i ffocws ar bobl ag anableddau dysgu a'r Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2019
Pontio yn agor drysau i bobl ifanc leol trwy grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Mae project arloesol sy'n rhoi rhywbeth i bobl ifanc leol yn eu harddegau ei wneud ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol ym Mhontio , canolfan gelfyddydau ac arloesi Bangor, wedi derbyn tair blynedd o gyllid gan y Loteri Genedlaethol fel rhan o'i Chronfa Gymunedol. Gan weithio mewn ffordd ddeinamig sy’n ymateb i anghenion, mae'r project, o'r enw 'Yn y Foment' yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n dod i mewn i adeilad Pontio gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol o'u dewis, gan gynnwys cerddoriaeth ac ysgrifennu, dawns, sgiliau syrcas a chyfleoedd i weithio gyda'r nifer fawr o berfformwyr proffesiynol ac ymarferwyr lleol sy'n ymweld â Pontio.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2019
Gleiderau tanddwr yn helpu gwella rhagolygon y tywydd
Bydd dulliau newydd o fesur y modd mae dyfroedd yn cymysgu o dan wyneb Cefnfor yr Iwerydd yn cael eu defnyddio i wella rhagolygon y tywydd. Mesurwyd tyrfedd y dŵr gan 'gleider' tanddwr a chyhoeddir canlyniadau'r ymchwil, dan arweiniad Natasha Lucas, ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor, mewn erthygl cyfnodolyn .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Tachwedd 2019
Effaith Newid Hinsawdd ar Fwncïod
Mae grŵp o ymchwilwyr Prifysgol Bangor newydd ddarfod astudiaeth yn ymchwilio effaith newid hinsawdd ar fwncïod.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2019
Pecynnu ein bwydydd heb blastig
Mae pobl ledled y byd yn poeni fwyfwy am faint o blastig untro a ddefnyddir i becynnu'r pethau rydym yn eu prynu, yn enwedig bwyd. Er bod deunydd lapio o'r fath yn ymddangos yn ddiangen, byddai llawer o gynhyrchwyr ffrwythau a llysiau yn dadlau bod pecynnu nwyddau darfodus yn sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cario eu bwyd yn hawdd. Hefyd, mae mwy o fwyd yn cyrraedd y farchnad heb ei ddifrodi, gan gynyddu'r cyflenwad bwyd a lleihau gwastraff bwyd. Yr ateb yw datblygu dulliau eraill cynaliadwy o becynnu bwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019
Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru - Rhaglenni Gradd yr Heddlu
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi eu cydweithrediad ar Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF) a ddatblygwyd gan y College of Policing. Ymunodd Prifysgol Bangor â phroses gomisiynu gystadleuol a llwyddodd i wneud cais am y contract gyda Heddlu Gogledd Cymru ar sail ei hymrwymiad i addysgu rhagorol a'i enw da mewn perthynas ag addysgu ac ymchwil mewn plismona. Mae Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru yn cydweithio i ddatblygu Prentisiaethau Gradd newydd Cwnstabl yr Heddlu a'r Rhaglen Mynediad Deiliaid Gradd ar gyfer Gogledd Cymru, a fydd ar gael i Gwnstabliaid sydd newydd eu recriwtio o 2020.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2019
Magwrfeydd larfau pysgod yn llawn plastigau yr un maint â'u bwyd
Mae ymchwil newydd wedi dangos am y tro cyntaf, bod larfau pysgod o amryw o rywogaethau pysgod o wahanol gynefinoedd yn y môr yn cael eu hamgylchynu gan blastigau yn eu hoff gynefinoedd magu ac yn llyncu'r plastigau. Mae llawer o bysgod môr y byd yn treulio eu dyddiau neu wythnosau cyntaf yn bwydo ac yn datblygu ar wyneb y môr, ond nid ydym yn gwybod llawer am brosesau'r môr sy'n effeithio ar oroesiad larfau pysgod. Larfau pysgod yw'r genhedlaeth nesaf o bysgod aeddfed a fydd yn cyflenwi protein a maetholion hanfodol i bobl ledled y byd. Cynhaliodd Canolfan Gwyddoniaeth Pysgodfeydd Ynysoedd y Môr Tawel NOAA a thîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys Prifysgol Bangor, un o'r astudiaethau mwyaf uchelgeisiol hyd yma, i daflu goleuni ar y bwlch hanfodol bwysig hwn yn ein gwybodaeth. Cyhoeddwyd yr astudiaeth heddiw yn y cyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences . Roedd yr astudiaeth wedi cyfuno arolygon towio plancton yn y maes ac uwch dechnegau synhwyro o bell i nodi cynefin magwrfeydd larfau pysgod yn y môr ar arfordir Hawai'i.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2019
Innovate UK yn dyfarnu rhagoriaeth i Brifysgol Bangor am Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth mewn Cyfieithu Peirianyddol
Dyfarnwyd gradd A (Rhagoriaeth) i Brifysgol Bangor a Cymen Cyf am eu Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a gwblhawyd yn ddiweddar. Mae Cymen yn gwmni cyfieithu a leolir yng Nghaernarfon, ac mae’n un o brif gyflogwyr graddedigion yng Ngwynedd yn y sector breifat. Prif ffocws y KTP oedd datblygu cyfieithu peirianyddol parth-benodol rhwng Saesneg a Chymraeg, gan ddefnyddio archif fawr Cymen o ddogfennau wedi’u cyfieithu fel data hyfforddi.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2019
Trafod y gyfres The Crown
Wrth i’r gyfres The Crown dychwelyd i Netflix ar gyfer ei thrydedd gyfres fis yma, bydd dilynwyr yn cael gweld un o drefi gogledd Cymru yn cael ei thrawsnewid yn ôl i’r chwe degau. Bydd y drydedd gyfres yn cynnwys digwyddiadau enwog y teulu brenhinol rhwng 1964 ac 1977 yn cynnwys arwisgiad y Tywysog Charles fel Tywysog Cymru yng Ngahaernarfon. Digwyddiad a oedd wedi creu rhwyg mewn cymdeithas yn ô l Dr Euryn Roberts, Darlithydd mewn Hanes Oesoedd Canol a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2019
Arddangosfa o hanes Iddewig Bangor yn mynd i Gaerdydd
Mae arddangosfa sy'n cyflwyno hanes yr Iddewon ym Mangor yn teithio i Gaerdydd. Mae'r arddangosfa, Hanes yr Iddewon ym Mangor , yn dathlu presenoldeb Iddewon ym Mangor o'r canol oesoedd i'r Ail Ryfel Byd (a thu hwnt).
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2019
Helpu Huw â Her y Copaon
Mae sawl aelod o staff yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer (Dr Ross Roberts, Dr Stuart Beattie, Dr James Hardy, Dr Eleri Jones, Dr Anthony Blanchfield, Dr Andy Cooke a Kevin Williams) wedi bod yn cynorthwyo anturiaethwr lleol i gyflawni her eithriadol ar hyd copaon Eryri.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2019