Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Chwefror 2019
Dadorchuddio gwreiddiau Celtaidd Arthur
Er i bortreadau diweddar o Arthur rhoi iddo acenion Saesneg, Ffrangeg neu hyd yn oed Cocni Llundain, mae llyfr academaidd newydd sydd yn cael ei lansio heddiw (Chwefror 28) ym Mhrifysgol Bangor yn ei leoli’n gryf yng ngwledydd Celtaidd ac yn yr ieithoedd Celtaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019
Prifysgol Bangor yn cynnig danteithion Masnach Deg
Mae Prifysgol Bangor yn dathlu Pythefnos Masnach Deg eto eleni. Yn wythfed ymysg prifysgolion y byd yn y Gynghrair Prifysgolion Gwyrdd oherwydd ei hymrwymiad i gynaliadwyedd, mae’r brifysgol yn awyddus bob amser i annog staff a myfyrwyr i feddwl am sut i wella’n barhaus ymrwymiad y sefydliad i gynaliadwyedd. Dyna pam fod amrywiaeth o weithgareddau’n cael eu hybu i annog staff a myfyrwyr i gymryd rhan mewn Pythefnos Masnach Deg o heddiw tan 10 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019
Athro Prifysgol Bangor yn curadu Mis Hanes Iddewig 2019
Mae'r Athro Nathan Abrams, academydd yn Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi chwarae rhan fawr yn curadu'r rhaglen ar gyfer y Mis Hanes Iddewig, Mawrth 2019. Thema'r Mis Hanes Iddewig eleni yw Sgrin Fawr Sgrin Fach, Iddewon yn Sinema a Theledu Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019
Cynrychioli'r Brifysgol ar Côr Cymru
Bydd cyfle i wylwyr S4C fwynhau perfformiad gan Gôr Aelwyd JMJ , Prifysgol Bangor nos Sul, 3 Mawrth am 8.00 y.h, wrth iddynt roi o’u gorau yn cystadlu mewn rownd gynderfynol yn y rhaglen boblogaidd, Côr Cymru .
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2019
The power of language: we translate our thoughts into words, but words also affect the way we think
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Guillaume Thierry o’r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2019
Cyfansoddwr Bangor yn nodweddu ar raglen Hear and Now BBC Radio 3
Bydd gwrandawyr rhaglen Hear and Now BBC Radio 3 yn mwynhau arlwy o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr o blith staff a myfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor nos Sadwrn 23 Chwefror am 10.00pm. I’w gynnwys yn y darllediad ceir Étude aux objets gan yr Athro Andrew Lewis, Uwchsonig gan Dr Guto Pryderi Puw a darnau acwsmatig gan Huw McGregor ac Alex Bailey.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2019
Why Paris is the perfect city to introduce break dancing to the Olympics
Dyma erthygl yn Saesneg gan Jonathan Ervine, o'r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2019
Fe synnech chi ond mae economeg gymdeithasol yn effeithio ar Riffiau Cwrel
Dywed y biolegwyr morol sy'n gweithio i achub riffiau cwrel y byd fod gweithgareddau dynol yn effeithio'n gynyddol ar riffiau cwrel y byd. O ganlyniad, mae angen i fiolegwyr morol gynnwys asesiad o effeithiau'r gweithgareddau hynny, efallai o farchnadoedd neu ddinasoedd pell, ar oroesiad y riffiau cwrel. Mewn rhifyn arbennig o Functional Ecology ; “ C oral reef functional ecology in the Anthropocene ”, a defnyddio riffiau cwrel fel enghraifft, mae'r gwyddonwyr yn galw am gynnwys gweithgareddau economaidd-gymdeithasol wrth ddarogan adwaith ecosystemau riffiau cwrel at y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2019
DYDDIAD NEWYDD: Dathlu dawn Dilys Elwyn Edwards yn Pontio ar Ddydd Gwyl Dewi
DIWEDDARIAD: Yn anffodus, mae’n rhaid i ni eich hysbysu o newid yn nyddiad y cyngerdd uchod oherwydd salwch. Yn anffodus, mae’n amhosib i Elin Manahan Thomas ganu oherwydd haint ddifrifol ar y frest. Serch hynny, rydym wedi medru ail-drefnu’r gyngerdd a’r dyddiad newydd fydd Nos Sadwrn 27 Ebrill am 7.30pm. Rydym wrthi’n cysylltu â chwsmeriaid i gyfathrebu’r wybodaeth uchod. Bydd tocynnau yn cael eu trosglwyddo i’r dyddiad newydd. Os nad yw’r dyddiad newydd yn gyfleus, bydd gan gwsmeriaid hawl i ad-daliad a dylech ffonio ein Swyddfa Docynnau ar 01248 38 28 28.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2019
12 Mis o greu argraff yn M-SParc
Mae busnesau sydd wedi'u lleoli yn M-SParc yn arwain y ffordd mewn arloesedd a datblygu economaidd. Edrychwn yn ôl dros y flwyddyn a'r effaith a gawsant. Ers i’r Parc agor ym mis Mawrth 2018, mae’r 24 busnes wedi creu 24 swydd newydd, rhoi profiad gwaith i 6 myfyriwr, rhoi cyfleoedd cyflogaeth i 4 o raddedigion ac wedi cynyddu trosiant eu cwmni er budd y rhanbarth. Newyddion da a chychwyn da ar gyfer gwneud 2019 yn flwyddyn llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2019
Why the pine marten is not every red squirrel's best friend
Dyma erthygl yn Saesneg gan Craig Shuttleworth Cymrawd Ymchwil Arhydeddus o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Matt Hayward o Brifysgol Newcastle, Awstralia, cyn aelod o staff yn yr un ysgol. Mae'n cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019
UK Human Rights Act is at risk of repeal – here's why it should be protected
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019
Cymrodyr ymchwil newydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Prifysgol Bangor yn darparu tri allan o’r saith cymrawd ymchwil newydd a fydd yn ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru fel rhan o raglen sy’n rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau addysg uwch a senedd Cymru. Bydd yr academyddion o Ysgolion y Gyfraith, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Naturiol yn rhannu eu harbenigedd ar faterion o bwys mawr a fydd yn bwydo’n uniongyrchol i waith y Cynulliad a’i bwyllgorau. Mae hyn yn arwain o gyfraniad Prifysgol Bangor i’r peilot llwyddiannus .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2019
Datblygu dulliau economeg iechyd i werthuso ymyriadau iechyd deintyddol fel rhan o fesurau ataliol iechyd y cyhoedd
Cynhaliwyd seminar: " Datblygu amrywiaeth o ddulliau i werthuso gwasanaethau deintyddol yn economaidd: ehangu'r persbectif " a drefnwyd gan y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae deall y gellir atal y rhan fwyaf o bydredd yn y dannedd, yn arbennig mewn plant ifanc, yn golygu y gellir atal y costau hefyd i raddau helaeth. Yn y flwyddyn ariannol 2015-2016, adroddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr bod cost tynnu dannedd wedi costio dros £50.5 miliwn mewn plant rhwng 0 a 19 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019
Draig wedi ei gweld ar Stryd Fawr Bangor!
Fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, cynhaliwyd Gorymdaith y Ddraig flynyddol ym Mangor ddydd Sadwrn. Wedi ei wneud â llaw yn Tseina, gorymdeithiodd y ddraig 14 metr o hyd, ynghyd â dawnswyr, drymwyr a disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes Bangor o Eglwys Gadeiriol Bangor ar hyd y Stryd Fawr i Gloc y Dref cyn dychwelyd i'r Eglwys Gadeiriol. Dilynwyd yr orymdaith gan Berfformiad Gala Tsieineaidd yn yr Eglwys Gadeiriol lle clywyd perfformiadau cerddorol lleisiol ac offerynnol Tseineaidd amrywiol, yn ogystal â gweld dawnsfeydd traddodiadol Tseineaidd a pherfformiad gan grŵp Taekwondo Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019
Ymchwil newydd i seibiannau byr ystyrlon i ofalwyr
Yn ddiweddar cafodd Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor ei chomisiynu gan Shared Care Scotland i gynnal Adolygiad Rhychwantu er mwyn deall yn well y dystiolaeth ymchwil am seibiannau byr i ofalwyr (a elwir weithiau yn ofal seibiant) a'r hyn y mae'r ymchwil yn ei ddweud wrthym am effaith seibiannau byr ar ofalwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2019
Disgyblion Ysgol Bro Lleu i gymryd rhan yng Ngŵyl Gerdd Bangor
Bydd disgyblion yn defnyddion eu cyrff fel offerynnau i greu cyfansoddiadau eu hunain yn mewn gŵyl lwyddiannus yng Ngogledd Cymru. Gwahoddwyd disgyblion 9 a 10 oed o Ysgol Bro Lleu, Penygroes i gymryd rhan bwysgig yng Ngŵyl Gerdd Bango r fydd yn cymryd lle ar yr 8fed a 9fed o Chwefror 2019.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2019
Adnabod am y tro cyntaf proses yr ymennydd o baratoi i weithredu
Mae Niwrowyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Prifysgol Llundain (UCL) wedi adnabod am y tro cyntaf y prosesau sy'n digwydd yn ein hymennydd milieiliadau cyn i ni wneud cyfres o symudiadau, sy'n hanfodol ar gyfer lleferydd, llawysgrifen, chwaraeon neu chwarae offeryn cerddorol. Gwnaethant hyn trwy fesur meysydd magnetig bychan iawn y tu allan i bennau'r cyfranwyr ac adnabod patrymau unigryw sy'n ffurfio pob dilyniant cyn iddo gael ei weithredu. Gwelsant y gwahaniaethau rhwng patrymau nerfol sy'n arwain at weithredu rhywbeth yn fwy medrus o gymharu â bod yn fwy tueddol o wneud camgymeriadau.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019
Sicrhau mynediad at Gerddoriaeth Cymraeg ar gyfer pobl sydd yn byw gyda dementia
Mae gwrando ar eich hoff fiwsig yn codi’ch calon, waeth be fo’ch oed. Dyna pam mae Prifysgol Bangor a Mudiad Merched y Wawr yn lansio apêl ar Ddiwrnod Miwsig Cymru, i bobl gysylltu gyda’u hawgrymiadau o’u hoff ganeuon o bob cyfnod. Bydd yr awgrymiadau mwyaf poblogaidd yn cael eu coladu er mwyn creu CD ac adnodd digidol a fydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei rannu â chartrefi henoed a chartrefi gofal dementia er mwyn sicrhau bod cerddoriaeth Cymraeg ar gael i’r preswylwyr ei fwynhau.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2019
Teithiau o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor
Guided tours of Bangor University’s Art and Ceramic Collections will be held February to April. The aim is to raise awareness of these important collections, with highlights including a mural by Edward Povey in Powis Hall, art and ceramics in the University’s Council Chamber Corridor and a chance to see and learn about works of arts by other renowned artists such as Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast and Frederick William Hayes.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2019
Mark yn ennill Gwobr y British Education Awards
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi derbyn un o Wobrau y British Education Awards. Enillodd Mark Barrow, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn gynharach eleni, wobr y British Education Award (BEA) ar gyfer myfyriwr Graddedig o Gymru. Mae’r Gwobrau hyn yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn y system addysg yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019
Sylw brenhinol i waith ymchwil Ephraim
Dangosodd Meghan, Duges Sussex, diddordeb neilltuol yng ngwaith myfyriwr Meistr o Brifysgol Bangor, Dr Ephraim Kisangala, sydd yn fyfyriwr Ysgoloriaeth y Gymanwlad o Uganda, pan gyfarfu’r ddau mewn derbyniad yn Llundain yn ddiweddar. Ac yntau’n feddyg teulu yn Uganda, derbyniodd Ephraim, sy’n astudio Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, wahoddiad i gyfarfod â’r Ddugess ar achlysur cyhoeddi Ddugess yn noddwr Brenhinol yr Association of Commonwealth Universities.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2019