Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Hydref 2017
Allwn ni stopio newyddion ffug yn y 10 mlynedd nesaf?
Mae Vian Bakir (Athro Cyfathrebu Gwleidyddol a Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor) yn besimistaidd, ond mae'n ein hannog i beidio â rhoi'r ffidil yn y to. Ar y llaw arall mae Andrew McStay (Athro mewn Bywyd Digidol ym Mhrifysgol Bangor) yn fwy gobeithiol. Wrth siarad yn ddiweddar yn y gynhadledd CommsCymru ar ymddiriedaeth, rhoddodd Bakir olwg ar y gwahanol atebion i ddatrys newyddion ffug a gafwyd yn y 79 cyflwyniad a wnaed i ymchwiliad presennol llywodraeth y Deyrnas Unedig i newyddion ffug. (Ysgrifennwyd yr arolwg hwn o atebion a gynigiwyd ar y cyd gydag Andrew McStay.)
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017
Rhoi tlodi o dan y chwyddwydr
Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas P rifysgol Bangor yn cyfuno trafodaethau a drama er mwyn rhoi sylw i dlodi mewn digwyddiad cyhoeddus ddydd Mercher 8 Tachwedd. Bydd ‘Poverty: Local, National and International’ yn rhoi sylw i waith arloesol gan academyddion a myfyrwyr yn yr Ysgol, sydd yn dangos sut mae tlodi yn effeithio ar hunaniaeth pobol ac yn llywio eu bywydau. Mae’r digwyddiad yn rhan o wythnos o weithgareddau Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas sy’n digwydd ar draws Prydain dan nawdd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2017
Beth sydd yn achosi i redwyr marathon a chwaraeon eithafol eraill ddal annwyd?
Bydd rhai o’r rhedwyr ym Marathon Eryri eleni (28 Hydref), sy’n cael ei ddisgrifio fel un o marathonau caletaf yn Ewrop, yn helpu ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor gyda’u hymchwil. Mae ffisiolegwyr ymarfer corff yn yr Ysgol yn awyddus i ddysgu pam fod rhai rhedwyr i’w gweld yn fwy tebygol o fynd yn sâl neu deimlo’n wael ar ôl rhedeg marathon neu ar ôl cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarfer corff eithafol, tra bo rhedwyr eraill yn aros yn iach.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2017
Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC
Mae Gŵyl Gwyddorau Cymdeithas yr ESRC yn ôl ym Mangor am ei hail flwyddyn. Mae’r wythnos o ddathlu gwyddoniaeth gymdeithasol yn digwydd yn flynyddol ar draws y DU. Yn dilyn nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus y llynedd, mae Prifysgol Bangor eto eleni yn cynnal dau ddigwyddiad er mwyn ymuno â’r dathliadau.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017
Y Gymraeg ar Daith
Mae Ysgol y Gymraeg yn rhan o gynllun cenedlaethol uchelgeisiol i godi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion ysgol o astudio Cymraeg ar gyfer lefel ‘A’ ac yn y brifysgol. Yn ystod mis Tachwedd bydd bron i 2000 o ddisgyblion mewn 40 ysgol uwchradd yn elwa ar y cynllun drwy gyfres o ymweliadau.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017
Entrepreneur ifanc o Fangor yn credu bod digon o bysgod yn y môr
Mae myfyriwr 20 oed o Brifysgol Bangor yn defnyddio ei angerdd dros fioleg y môr i wireddu ei uchelgais o ddod y cyflenwyr ar lein mwyaf o rywiogaethau o bysgod byw yng ngwledydd Prydain. Bydd Sam Hamill, sydd ar ei drydedd flwyddyn o astudio Bioleg y Môr , yn lansio ei Big on Fish fis Tachwedd, siop ar lein ac ar y stryd yn gwerthu offer acwariwm ac yn cadw mwy na 1100 o rywogaethau o bysgod egsotig a chwrel.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2017
Ymchwil i gynyddu gwytnwch a chynaliadwyedd system fwyd y Deyrnas Unedig ymhellach
Mae Prifysgol Bangor i dderbyn a rheoli cyfran o raglen Diogelwch Bwyd Byd-eang y Deyrnas Unedig - cyllid o £4.9 miliwn at ymchwil ryngddisgyblaethol i gynyddu gwytnwch a chynaliadwyedd system fwyd y DU. Dyfarnwyd dros £1.5 miliwn i Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor. Dan arweiniad Yr Athro Paul Withers, bydd tîm rhyngddisgyblaethol blaenllaw o wyddonwyr bioffisegol ac economaidd-gymdeithasol, ynghyd ag ystod eang o fudd-ddeiliaid o'r DU, yn ymchwilio sut i wneud y defnydd cynaliadwy gorau o ffosfforws yn system fwyd y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2017
Dr Yue o Brifysgol Bangor ar restr fer am y Wobr Newton bwysig
Mae Dr Liyan Yue o Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Bangor wedi cael ei roi ar y rhestr fer am Wobr Newton 2017 am ei broject yn adeiladu system argraffu metaddeunydd cydraniad uwch 3D. Mae'r wobr yn gronfa flynyddol o £1 filiwm a ddyfernir i'r ymchwil neu waith arloesol gorau sy'n cefnogi datblygiad economaidd a lles cymdeithasol gwledydd sy'n datblygu. Fe all Dr Yue ennill hyd at £200,000 o'r wobr i'w ddefnyddio i hyrwyddo neu ddatblygu'r gwaith ymhellach.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017
Datrys sut mae clefyd cymhleth yn bygwth ein coed derw eiconig
Y dulliau gwyddonol diweddaraf yn datgelu achos aml-facteriol gwaedu boncyff mewn dirywiad aciwt coed derw a dulliau newydd o ddadansoddi achosion clefydau cymhleth planhigion Mae gwaith tîm rhwng Forest Research, Prifysgol Bangor ac eraill wedi llwyddo i olrhain achosion symptomau gwaedu boncyff o'r bygythiad newydd hwn i goed derw brodorol.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2017
Cyfansoddiad o bwys yn ymddangos ar CD
Mae darn cerddorfaol o bwys a gyfansoddwyd gan Guto Pryderi Puw wedi'i gynnwys ar CD diweddaraf y fiolinydd enwog Madeleine Mitchell. Caiff Guto ei gydnabod yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru ac mae'n Bennaeth Cyfansoddi ac yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor. Cafodd ei gomisiynu gan Madeleine Mitchell i ysgrifennu concerto i'w berfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gerddoriaeth Bangor yn 2014. Ysbrydolwyd y gwaith, Violin Concerto - Soft Stillness , gan ddyfyniadau o ddrama Shakespeare The Merchant of Venice i nodi 450 mlynedd ers geni'r dramodydd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2017
Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth y DU yn ymweld â’r Brifysgol
Croesawodd Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor Dr Thérèse Coffey AS yn ddiweddar, a gymerodd ran mewn paneli trafod gyda staff a myfyrwyr sy’n ymwneud â rhaglenni coedwigaeth yr Ysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017
Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis Prifysgol Bangor i arwain Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi y North West Nuclear Arc Consortium, ac i gymryd rhan fel partneriaid mewn dau archwiliad arall. Bydd deuddeg Archwiliad Gwyddoniaeth ac Arloesi yn mapio cryfderau ymchwil, arloesi ac isadeiledd lleol. Bydd Prifysgol Bangor yn arwain archwiliad i'r North West Nuclear Arc Consortium, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, North West England LEPs, Dalton Institute Prifysgol Manceinion, a'r National Nuclear Laboratory.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017
A all seicoleg helpu chwaraewyr academi pêl-droed i hybu eu potensial i'r eithaf?
Mae seicolegwyr chwaraeon o Brifysgol Bangor wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Manchester City i adnabod a deall y nodweddion seicolegol sy'n helpu chwaraewyr ifanc academi i gyflawni eu potensial. Dros y pedair blynedd nesaf dilynir hynt chwaraewyr academi Manchester City fel rhan o'r project ymchwil unigryw hwn. Mae hyfforddwyr City eisoes wedi nodi'r nodweddion seicolegol y maent hwy'n credu sy'n allweddol i ddatblygu doniau, a chaiff y rhain eu monitro a'u hasesu'n rheolaidd. Caiff y graddau y maent yn darogan gwelliannau yn lefelau perfformiad yn ystod yr amser hwn ei gloriannu.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017
Cyn-fyfyrwyr yn ymweld â Safle’r Santes Fair 60 mlynedd ers dechrau yno
Bu 13 o gyn-fyfyrwyr yn ymweld â phentref llety Santes Mair ar ei newydd wedd yn ddiweddar. Yn ogystal â mwynhau hel atgofion am yr hen ddyddiau, roeddent hefyd wrth eu bodd yn gweld sut mae'r safle wedi cael ei ddatblygu'n ddiweddar gan y brifysgol. Roedd y grŵp o ffrindiau i gyd yn gyn-fyfyrwyr yng Ngholeg Santes Fair, Coleg Hyfforddi Athrawon, a ddaeth yn rhan o Brifysgol Bangor yn ddiweddarach.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2017
Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’
Bydd syniadau arloesol ar sut i hybu defnydd o’r Gymraeg yn y Gymuned yn cael eu rhannu mewn Panel Trafod ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’ nos Fercher 25ain o Hydref, 6.30-8yh, yng Nghanolfan Popdy Menter Iaith Bangor, Lôn Bopty, Bangor. Yn ystod y drafodaeth bydd arbenigwyr sydd yn ymwneud â hybu’r Gymraeg yn gymunedol, ar lefel lleol a chenedlaethol, yn rhannu syniadau newydd sy’n cael eu defnyddio gan grwpiau cymunedol a busnesau.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2017
Dadansoddi digwyddiadau diweddar yng Nghatalunya yng nghyd-destun hanes Sbaen yn y 21 Ganrif
Efallai fod y terfysg a welwyd yn sgil refferendwm annibyniaeth Catalunya ar gychwyn y mis, a’r streic gyffredinol a ddilynodd hynny, wedi peri syndod i rai ond nid i’r rhai hynny sy’n fwy cyfarwydd â hanes gwleidyddiaeth Sbaen. Yn ôl Dr Helena Miguélez-Carballeira o Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern Prifysgol Bangor, dylid edrych ar ddigwyddiadau cyfoes a’u hystyried oddi mewn i gyd-destun mwy hanesyddol ei naws. Mae Dr Miguélez-Carballeira wedi trefnu digwyddiad ar gyfer myfyrwyr a’r cyhoedd er mwyn gosod y digwyddiadau hyn yn eu cyd-destun gwleidyddol a hanesyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017
Hanesion Cudd
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes lleol archebu lle mewn ysgol undydd Hanesion Cudd ym Mhrifysgol Bangor ddydd Sadwrn, 4 Tachwedd. Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed am hanes, archaeoleg a phensaernïaeth Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017
Gwirfoddoli yn ffordd o fyw i Elan
Mae Elan Môn Gilford, myfyrwraig o Lanfairpwll sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, yn un o blith ond 20 o bobl ledled y byd sydd wedi derbyn Gwobr Etifeddiaeth Diana (Diana Legacy Award) am waith gwirfoddol. Rhoddir y Wobr yn enw’r Dywysoges Diana i bobl ifanc sydd yn gosod esiampl wrth roi o’u gwirfodd er mwyn trawsnewid bywydau eraill. Mae’r wobr yn cydnabod pobl ifanc sydd yn mynd y tu hwnt i’w bywydau dyddiol hwy er mwyn creu a chynnal newid positif.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2017
Cydnabod Cyfraniad Oes
Derbyniodd Gwerfyl Roberts, Uwch-Ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd , Wobr Cyfraniad Oes yn ystod Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau 2017 Llywodraeth Cymru yn ddiweddar. Mae Digwyddiad Dathlu Mwy na Geiriau yn cydnabod ac yn dathlu pwysigrwydd darparu
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2017
Project celfyddydau enfawr yn newid canfyddiadau mewn cartrefi gofal yng Nghymru
Mae project celf cyfranogol sy'n cynnwys 122 o gartrefi gofal ar draws Cymru (bron 20% o'r cyfanswm) wedi dod â newidiadau sylfaenol iawn i'r ffordd mae staff yn edrych ar rai o'u preswylwyr mwyaf bregus. Dyna oedd un o ddarganfyddiadau allweddol gwerthusiad o broject cARTrefu Age Cymru a gyflwynwyd i weinidogion ac Aelodau Cynulliad mewn dathliad arbennig yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 10 Hydref 2017).
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2017
WAW! Wythnos Am Wastraff
Mae myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor ynghyd â sefydliadau lleol a chenedlaethol, wedi bod allan yn glanhau'r strydoedd a'r campysau ar draws Bangor, gan godi ymwybyddiaeth a rhannu syniadau am ailddefnyddio ac ailgylchu yn ystod Wythnos Am Wastraff
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2017
Investing in warmer housing could save the NHS billions
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Nathan Bray , Swyddog Ymchwil Mewn Economeg Iechyd, Eira Winrow , Myfyrwraig ymchwil PhD a Swyddog Cefnogi Project Ymchwil, a Rhiannon Tudor Edwards , Athro Economeg Iechyd, i gyd o Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2017
Ymchwil yn dangos sut gall gwelliannau i dai arwain at fanteision iechyd
Yn ôl economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor gall tai cynhesach wella iechyd tenantiaid tai cymdeithasol a lleihau defnydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Gan weithio gyda chymdeithas dai Gentoo a Nottingham City Homes, fe wnaeth economegwyr iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau'r Brifysgol werthuso'r costau a'r canlyniadau'n gysylltiedig â gwelliannau i dai cymdeithasol. Daeth i'r amlwg bod cyswllt rhwng tai cynhesach a gwell iechyd i denantiaid tai cymdeithasol a llai o ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2017
Darlithydd o Brifysgol Bangor yn cael ei ddewis fel Microsoft Innovative Educator (MIE) Expert
Mae Owen Davies o Ysgol Addysg Prifysgol Bangor wedi ei gydnabod yn arweinydd byd-eang mewn defnyddio technoleg i drawsnewid addysg trwy gael ei enwi'n Microsoft Innovative Educator (MIE) Expert, gan ymuno â dros 6,700 o addysgwyr yn y rhaglen MIE ledled y byd. Bob blwyddyn mae Microsoft yn dewis addysgwyr arloesol i rannu syniadau, rhoi cynnig ar dulliau gweithredu newydd, a dysgu oddi wrth ei gilydd fel cymuned fyd-eang sydd wedi ymroi i wella canlyniadau myfyrwyr trwy dechnoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2017
Five-country survey of carers highlights continuing delays in dementia diagnosis across countries
Nid yw'r datganiad yma, a gyhoeddwyd heddiw gan Alzheimer Europe ar gael yn y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2017