Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Gorffennaf 2019
Brexit uncertainty boosts support for Welsh independence from the UK
Dyma erthygl yn Saesneg gan Stephen Clear o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2019
Ymchwil i ailgyflwyno'r Lyncs yn ennill gwobr myfyriwr y Deyrnas Unedig
Dyfarnwyd Gwobr Myfyriwr Meistr y Flwyddyn gyntaf y Deyrnas Unedig i fyfyriwr y mae ei ymchwil wedi gwneud newyddion cenedlaethol a rhyngwladol gan wefan FindAPhD . Cynhaliodd Thomas Ovenden, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Stirling, ei MSc mewn Coedwigaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor. Roedd ei broject ymchwil meistr ar botensial ailgyflwyno'r lyncs Ewrasiaidd, rhywogaeth sydd wedi diflannu ym Mhrydain ers dros 1,000 o flynyddoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019
Bydd Ellie yn y ras!
Mae Ellie Frost, sy’n fyfyriwr peirianneg electronig wedi ei derbyn ar Ysgoloriaeth Peirianneg gwerthfawr o bwys. Derbyniodd Ellie’r newyddion ei bod yn llwyddiannus wrth cael ei derbyn ar Raglen Ysgoloriaeth Women in Engineering Prifysgolion Santander tra’n mynychu digwyddiad yn Silverstone yn ddiweddar. Cyhoeddwyd enwau’r myfyrwyr llwyddiannus gan Brif Weithredwr Santander UK, Nathan Bostock a'r llysgennad Jenson Button yng nghystadleuaeth fyd-eang 2019 Formula Student .
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019
Prifysgol gynaliadwy o'r radd flaenaf
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill 'Anrhydedd Dosbarth Cyntaf' am ei chryfderau o ran cynaliadwyedd gan People & Planet , y rhwydwaith mwyaf i fyfyrwyr yn y DU sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Dim ond 29 o'r 154 o brifysgolion yn y DU sy'n cael eu rhoi yn y categori hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2019
Cerddoriaeth i gysuro siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia
Erbyn hyn, gall siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia fwynhau caneuon o'u gorffennol yn Gymraeg diolch i fenter gan Brifysgol Bangor a Merched y Wawr cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu staff gofal Cymru i wella bywydau preswylwyr Cymraeg. Yn ôl pob sôn, mae hynny'n helpu i'w cysuro, eu hysgogi a dwyn i gof atgofion maen nhw wedi'u hanghofio. Fel rhan o’r fenter bydd CD a rhestr chwarae newydd o gerddoriaeth sydd wedi'i churadu'n arbennig yn cael ei dosbarthu i gartrefi gofal ar draws Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
A fydd Ellie yn y ras?
Mae Ellie Frost, sy’n fyfyriwr peirianneg electronig , yn mynd i Silverstone fory (20 Gorffennaf) am ddiwrnod bythgofiadwy. Bydd Ellie’n mynychu digwyddiad unigryw yn Silverstone gyda swyddogion gweithredol Santander a ffigurau amlwg o’r byd rasio ceir.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2019
Blas ar Iaith
Cynhaliwyd Gwledd Iaith 2019 Llwybrau Cymru gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar, gyda chefnogaeth nifer o fyfyrwyr sy'n hyrwyddwyr iaith yn y brifysgol a grŵp o Lysgenhadon Iaith sy'n ddisgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol Friars. Cymerodd pedair ysgol gynradd o ogledd Cymru ran yn y digwyddiad (Ysgol Sarn Bach, Ysgol y Santes Ffraid, Ysgol Abererch ac Ysgol Tudweiliog) a bu saith deg pedwar o ddisgyblion o flynyddoedd pump a chwech yn mwynhau'r gweithgareddau a oedd ar gael yn ystod y dydd.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2019
Enillydd Gwobr Ymddiriedolaeth Addysgol y CISI 2019
Llongyfarchiadau i Jesper Ipland ar dderbyn Gwobr Ymddiriedolaeth Addysgol y Chartered Institute for Securities & Investment (CISI).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019
Alumnus y Flwyddyn 2019
Mae gan Brifysgol Bangor bron i 80,000 o gyn-fyfyrwyr sy'n byw ledled y byd, yn gweithio ym mhob maes a diwydiant y gallwch ddychmygu. Mae’r Brifysgol yn falch o lwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr ac, i dynnu sylw at hyn, bob blwyddyn mae Bwrdd Ymgynghorol Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol yn dewis Alumnus y Flwyddyn, gan anrhydeddu myfyriwr sydd wedi graddio ym Mangor ac sydd wedi rhagori yn ei faes, ac wedi parhau i ymwneud â'u alma mater. Ymhlith y rhai a dderbyniodd Alumnus y Flwyddyn gynt mae Gwilym Rees-Jones (Mathemateg, 1963), Dr Ross Piper (Sŵoleg, 1998) a Ray Footman (Hanes ac Athroniaeth, 1961).
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2019
Cyflymder Sillafu Syfrdanol Disgyblion
Daeth dros 30 o ddisgyblion blwyddyn saith o un ar ddeg o ysgolion ledled Cymru i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Spelling Bee Genedlaethol Cymru - Llwybrau at Ieithoedd, project cydweithredol rhwng pum prifysgol yng Nghymru, y pedwar consortiwm rhanbarthol a'r Cyngor Prydeinig i hyrwyddo dysgu iaith a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019
Prifysgol Bangor yn Dathlu'r Wythnos Raddio
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn dathlu wythnos arall o seremonïau graddio'r brifysgol yr wythnos hon (15-19 Gorffennaf 2019). Bydd y brifysgol yn croesawu ffrindiau a theuluoedd myfyrwyr i ddeg seremoni dros bum niwrnod i gydnabod llwyddiannau graddedigion newydd y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2019
Tywydd poeth am gyfnod hir yn lladd mwy na dwy ran o dair o'r cwrel
Astudiaeth yn dangos y collwyd riffiau cwrel helaeth yng nghefnfor India rhwng 2015 a 2017 Drwy gymharu riffiau cyn ac ar ôl dau gyfnod o dywydd poeth eithafol dim ond 12 mis ar wahân, darganfu tîm cydweithredol o ymchwilwyr, gan gynnwys gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor bod cwrelau caled byw yng Nghefnfor yr India wedi lleihau 70%. Er gwaethaf hyn, mae eu canlyniadau'n awgrymu bod rhai rhywogaethau cwrel yn fwy gwydn i dymheredd sy'n codi, sy'n cynnig gobaith i'r cynefinoedd hanfodol hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019
How the brain prepares for movement and actions
Dyma erthygl yn Saesneg gan Myrto Mantziara myfyriwr PhD o'r Ysgol Seicoleg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2019
Sut gall eich dewis chi o ddiod bach yn y pnawn helpu i achub coedwigoedd law
Dyma'r adeg o'r flwyddyn i gael 'gin a tonic' oer gyda rhew yn y prynhawn. Efallai ein bod yn cwestiynu effaith gormod ohonynt ar ein hiechyd, ond beth yw ôl-troed amgylcheddol yr aperitif blasus a chlasurol hwn? Ymunodd tîm rhyngwladol o ymchwilwyr gyda rheolwr distyllfa arloesol i ateb y cwestiwn hwn mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn gwyddonol Environment International .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2019
Ydych chi'n defnyddio 'hunan-siarad' yn rhan o'ch hyfforddiant chwaraeon dygnwch? Dyma'r hyn y mae angen i chi ei wybod
Mae ymchwil newydd yn awgrymu sut y gallwch chi ennill y blaen ar y rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn mewn chwaraeon dygnwch Mae'n debyg eich bod wedi dal eich hun rywdro yn rhoi anogaeth i chi eich hun o dan eich gwynt, wrth wynebu her gorfforol arbennig o anodd efallai, neu pan oeddech chi dan ryw fath o straen; “Ty'd 'laen, fedri di 'neud hyn!” neu “Dwi'n gw'bod y medra i 'neud hyn!” Mae seicolegwyr chwaraeon wedi darganfod bod siarad â chi eich hun yn yr ail berson: “Ti angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”, mewn gwirionedd yn fwy effeithiol na siarad â chi eich hun yn y person cyntaf, “Dwi angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2019
Y Celtiaid ar eu ffordd! Prifysgol Bangor yn paratoi i groesawu Cyngres Ryngwladol
Rhwng 22 – 26 Gorffennaf, bydd Prifysgol Bangor yn croesawu’r XVIeg Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol, gyda siaradwyr gwadd o bob cwr o'r byd yn cyfrannu at raglen yn llawn trafodaethau, seminarau a theithiau maes. Mae'r Gyngres, a gynhelir unwaith bob pedair blynedd, yn brif fforwm rhyngwladol ar gyfer arbenigwyr ym maes Astudiaethau Celtaidd a bydd ymweliad cyntaf y Gyngres â Bangor yn ddigwyddiad nodedig i'r sefydliad. Hyd yn hyn, mae cynrychiolwyr o ddim llai na 25 o wledydd, yn cynrychioli dros 100 o gyrff a sefydliadau academaidd, wedi cofrestru i fynychu'r Gyngres ym Mangor. Mae’r Gyngres ym Mangor wedi derbyn nawdd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2019
Ymgais 2019
Gan adeiladu ar broject peilot llwyddiannus, lle bu disgyblion yn mwynhau llenyddiaeth Arthuraidd ac yn creu eu hymgais 'Arthuraidd' fodern eu hunain, heddiw mae'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor yn rhannu'r hyn y maent wedi'i ddysgu gydag athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd (5 Gorffennaf 2019).
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Trafod Gwir Llew-Frenin y Gwyllt
Gyda Disney yn paratoi i ryddhau fersiwn newydd o’r ffilm The Lion King y mis yma, mae Dr Graeme Shannon o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn edrych ar sut mae’r ffilm wreiddiol yn portreadu ymddygiad cymdeithasol yr anifeiliaid.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Arbenigwyr a disgyblion ysgolion lleol i gyd-drafod Argyfwng Hinsawdd
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu disgyblion o ysgolion lleol i Uwchgynhadledd yr Ifanc ar Newid Hinsawdd i'w chynnal yn y Brifysgol heddiw. Wedi i’r Brifysgol ymuno â'r nifer o sefydliadau ledled y byd drwy ddatgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar, mae'r Brifysgol yn awyddus i weithio ar ddatrusiad ac mae’n angenrheidiol gwneud hynny ar y cyd â phlant a phobl ifanc Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Myfyriwr o Brifysgol Bangor ar restr fer 'Myfyriwr PhD y Flwyddyn' mewn gwobrau newydd i ôl-raddedigion
Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Ashleigh Johnstone, o Douglas, Ynys Manaw, wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol newydd. Roedd Ashleigh ymhlith dros 140 o fyfyrwyr PhD a enwebwyd ac mae ar y rhestr fer yn y dosbarth Myfyriwr PhD y Flwyddyn yn y gwobrau gan FindAMasters.com a FindAPhD.com.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019
Taith Hanes Hudolus
Dewch am 'Daith Hanes Hudolus' yn Ynys Môn yng nghwmni haneswyr o Brifysgol Bangor ddydd Sul 7 Gorffennaf. Bydd staff a myfyrwyr o Brifysgol Bangor yn arwain taith wedi ei thywys trwy dirwedd hanesyddol yr Ynys. Dyma gyfle gwych i ddysgu am gyfoeth yr hanes sydd i'w gael dafliad carreg o'r brifysgol. Bydd y daith yn mynd â chi i amryw o safleoedd, o feddrodau Neolithig i dai crwn Brythonig-Rufeinig a myntiau canoloesol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2019
Professor unveils the hidden story of Kubrick’s erotic final film
Mae arbenigwr ar Stanley Kubrick ym Mhrifysgol Bangor wedi cyhoeddi llyfr newydd sy'n datgelu stori gudd ffilm olaf ddadleuol y cyfarwyddwr, Eyes Wide Shut . Y llyfr hwn Eyes Wide Shut: Stanley Kubrick and the Making of His Final Film , yw'r cyntaf i ymdrin yn fanwl â ffilm olaf Stanley Kubrick, a fu'n bur ddadleuol gyda'i golygfeydd rhywiol cynhyrfus.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2019
Prifysgol Bangor yn un o'r goreuon yn y DU o ran boddhad myfyrwyr
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Prifysgol Bangor wedi ei rhestru yn y 10 uchaf o Brifysgolion anarbenigol y DU, yn ôl yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) diweddaraf.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2019
Alys Conran Wedi’i Henwi’n Gymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Gŵyl Y Gelli 2019-2020
DATGANIAD GAN Gŵyl Y Gelli Mae’r nofelydd Alys Conran o ogledd Cymru wedi cael ei henwi’n dderbynnydd Cymrodoriaeth Ryngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli ar gyfer 2019-2020.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2019