Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Chwefror 2015
Gorsaf Ymchwil Prifysgol yn cael ymweliad brenhinol
Daeth y Dywysoges Frenhinol i ymweld â gorsaf ymchwil Henfaes Prifysgol Bangor yn Abergwyngregyn heddiw (Gwener, 27 Chwefror 2015). Yn cadw cwmni i'r Dywysoges Anne, y Dywysoges Frenhinol, ar yr ymweliad oedd Arglwydd Raglaw Gwynedd, Mr Edmund Seymour Bailey, a gwelodd nhw beth o'r gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud yn y ganolfan ymchwil.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2015
Mae bio-nwy gwastraff o leiaf ddeng gwaith yn fwy effeithiol na bio-nwy cnydau am leihau allyriannau nwyon tŷ gwydr
Mewn papur sydd newydd ei ryddhau yn y cyfnodolyn bio-ynni blaenllaw, Global Change Biology Bioenergy, mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a'r Thünen Institute yn Yr Almaen, yn dod i'r casgliad bod bio-nwy cnydau a bio-danwyddau hylif yn ddewisiadau aneffeithlon ar y gorau i leihau nwyon tŷ gwydr (GHG), fesul hectar o dir a ddefnyddir, ac am bob £ o gymhorthdal cyhoeddus sydd ei angen. Ar eu gwaethaf, gallai'r dewisiadau hyn arwain at allyriadau nwyon tŷ gwydr uwch yn fyd-eang oherwydd y newid anuniongyrchol yn nefnydd y tir drwy gael gwared ar gynhyrchu bwyd. Mewn cymhariaeth, mae bio-nwy gwastraff a pheledi gwresogi Miscanthws (gwair prennaidd) yn lleihau nwyon tŷ gwydr o leiaf ddeng gwaith yn fwy am bob tunnell o bio-màs deunydd sych ac am bob hectar o dir a ddefnyddir, gan arwain at leihau nwyon tŷ gwydr yn gost-effeithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2015
Y Cenhedloedd Unedig a chadw'r heddwch yn rhyngwladol - grym sydd wedi pallu?
Ddydd Mercher 25 Chwefror am 18.00 bydd Prifysgol Bangor yn cynnal darlith gyhoeddus yn Narlithfa Eric Sunderland (Prif Adeilad y Celfyddydau). Caiff y ddarlith “The United Nations in a Changing World: Transformation and Reform in the 21st Century ”, ei chyflwyno ar y cyd â Changen Menai o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig ac mae croeso i bawb ddod i'r digwyddiad hwn, sydd am ddim.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2015
Wythnos Hinsawdd: Cynllun teithio am ddim ar fysiau
Unwaith eto mae Bysiau Arriva Cymru wedi ymuno â Phrifysgol Bangor i gynnig teithio AM DDIM i fyfyrwyr a staff sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i'r brifysgol yn ystod Wythnos Hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Chwefror 2015
Galwch heibio’r siop dros dro
Bydd siop wag yng Nghanolfan Siopa Deiniol yn cael bywyd newydd cyn bo hir lle caiff siopwyr ym Mangor gyfle i brynu anrhegion hyfryd a wnaed â llaw gan bobl ifanc Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2015
Prifysgol Bangor yn dathlu Awr Ddaear
Mae’r Brifysgol yn helpu i adeiladu dyfodol disgleiriach trwy gefnogi Awr Ddaear WWF. Mae hwn yn ddigwyddiad trawiadol a symbolaidd lle diffoddir y goleuadau ac mae’n tynnu sylw’r byd at ein planed a’r angen i’w gwarchod.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2015
Cyflwyno Pennaeth newydd yr Ysgol
Cyhoeddir yr Athro Enlli Môn Thomas fel Pennaeth newydd Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015
Prifysgol yn cefnogi Pythefnos Masnach Deg 2015
Mae Prifysgol Bangor yn gwahodd staff, myfyrwyr a’r gymuned leol i ddathlu Pythefnos Masnach Deg 2015 ac i ddewis cynhyrchion sy'n newid bywydau. Eleni, mae'r Brifysgol a Grŵp Masnach Deg Cymunedol Bangor wedi dod at ei gilydd i roi cyfres o ddigwyddiadau ymlaen yn ystod y pythefnos i atgoffa pawb o'r gwahaniaeth dramatig mae Masnach Deg yn gwneud o gwmpas y byd a'r effaith gadarnhaol mae’n ei gael.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015
Gwella gofal canser trwy ofal sylfaenol
Mae'r ddau ohonom yn hynod o ffodus i weithio fel meddygon teulu yng ngogledd Cymru ac fel ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor , lle'r ydym yn arwain projectau ymchwil i wella gofal canser yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cydweithio'n agos â meddygon a nyrsys mewn meddygfeydd teulu ac yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar raglen waith o'r enw "Diagnose Quickly, Follow Up Safely". Cawn ein hysbrydoli'n barhaol yn ein gwaith gan ein cysylltiad â chleifion yn ein meddygfeydd. Mae ein holl waith yn canolbwyntio ar ddylanwadu ar ymarfer clinigol neu bolisïau sy'n ymwneud â chanser.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cefnogi Disgyblion Chweched Dosbarth Môn
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn cymryd rhan yn rhaglen ddysgu a mentora PROFI dros yr ychydig fisoedd diwethaf a daeth y rhaglen i ben gyda digwyddiad ar batrwm 'Dragon's Den' yn Neuadd Reichel ddydd Mawrth, 10 Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Chwefror 2015
Premiere o waith newydd gan un o gyfansoddwyr ffilm a theledu mwyaf talentog Cymru
Bydd gwaith newydd gan gyfansoddwr talentog a drefnodd y gerddoriaeth ar gyfer rhaglun newydd yr Hobbit yn cael ei berfformio yn un o brif ŵyliau cerddoriaeth Cymru. Mae Owain Llwyd, 30, sydd hefyd wedi cyfansoddi ar gyfer yr X-Factor, Top Gear a Big Brother, yn edrych ymlaen yn arw at y premiere fel rhan o Ŵyl Gerdd Bangor, sy’n dechrau ar Fawrth 4.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2015
Pryd a Mwy….
Tecawês, archfarchnadoedd, prydau bwyd parod, ffâ o Kenya a pizza yn y rhewgell. Does dim modd byw hebddynt heddiw? Pwy all ddychmygu byd heb ddewis eang o fwydydd parod? Ond felna oedd hi slawer dydd a bydd dwy (neu dair) genhedlaeth yn dod ynghyd i rannu Pryd a Mwy ac i drafod bwyd ddoe a heddiw ym mwyty y Gwenyn Prysur, Penrhyndeudraeth rhwng 12-2 o’r gloch ar ddydd Iau 26ain Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2015
Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn rhoi meddalwedd allweddol i ddatblygu technoleg yn yr iaith Gymraeg
Bydd adnoddau meddalwedd allweddol a ddisgrifir fel y blocau adeiladu ar gyfer llunio technoleg cyfrifiadurol yn y Gymraeg yn cael ei ryddhau am ddim i gwmnïau, codwyr a haciwyr iaith yn dilyn eu datblygiad gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2015
Dreigiau ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi
Bydd dreigiau o Gymru a Tsieina yn wynebu ei gilydd ar benwythnos Gŵyl Ddewi eleni, wrth i Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor gynnal dau ddigwyddiad lliwgar i’r teulu.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2015
Agor y Llen ar Drysor Cudd
Bydd trysor o adnoddau hanesyddol lleol yn cael eu harddangos i’r cyhoedd wrth i Adran Archifau Prifysgol Bangor gynnal Diwrnod Agored ar Chwefror 26 rhwng 1.00 a 4.30.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Chwefror 2015
Cytundeb prifysgolion dros ddatblygu cynaliadwy cyfandiroedd
Mae arbenigwyr o Brifysgol Bangor ar eu ffordd i Brifysgol Makerere , Kampala, Uganda (MUK) yr wythnos hon (Chwefror 14-19) i lofnodi cytundeb pum mlynedd i gydweithio ar ddatblygu cynaliadwy. Bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu arbenigedd rhoi datblygu cynaliadwy ar waith.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2015
Ni ddylai newid hinsawdd effeithio ar ddileu malaria i bob pwrpas
Mae economegwyr iechyd wedi cael peth newyddion da wrth wynebu newid hinsawdd. Mae astudiaeth i economeg iechyd yn ymwneud â threchu malaria mewn gwledydd lle mae'r haint bron wedi'i ddileu yn dangos na fydd newid hinsawdd yn cael cymaint o effaith â hynny ar y broses ac na ddylai atal sefydliadau iechyd rhag parhau i gryfhau eu dulliau dileu presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015
Y llanw'n corddi'r gwres Atlantig dwfn yng Nghefnfor yr Arctig
Mae ymchwilwyr wedi canfod sut mae dŵr cynnes yr Atlantig sy'n llifo'n ddwfn i mewn i Gefnfor yr Arctig yn cymysgu gyda dyfroedd oerach uwchben a chyfrannu at doddi’r rhew môr yn yr Arctig. Mae'r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Geoscience yr wythnos hon (dyddiad), yn dangos bod llif y llanw yn yr Arctig yn gwneud i ddŵr cynnes, dwfn (sy'n deillio o Lif y Gwlff) gymysgu gyda dŵr oer, ffres sy'n gorwedd uwchben. Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at doddi’r rhew môr sy'n arnofio.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015
ADNODD yn ennill ysgoloriaethau pwysig y Gymanwlad ar gyfer MSc Coedwigaeth Drofannol
Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD) yn falch iawn o gyhoeddi y cafwyd cyllid ar gyfer 10 ysgoloriaeth i'r cwrs MSc Coedwigaeth Drofannol (dysgu o bell) fydd yn dechrau ym mis Medi 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2015
Y Gweinidog Cyllid yn cael gweld sut mae prosiect ymchwil sy’n cael cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd yn hybu twf busnesau
Yn ddiweddar (Iau 12 Chwefror), bu Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, ar ymweliad â’r Gogledd i weld sut mae prosiect sy’n cael cymorth gan yr UE yn helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol drwy gydweithio â phrifysgolion Cymru. Prifysgol Bangor sy’n arwain y prosiect Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS). Mae’r prosiect gwerth £31 miliwn hwn yn cael cymorth o fwy na £20 miliwn gan yr UE. Nod y prosiect, sy’n helpu busnesau yng Nghymru i gydweithio ag academyddion a myfyrwyr o brifysgolion Cymru, yw datblygu cynnyrch sy’n torri tir newydd ar gyfer llwyddo yn y byd masnachol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2015
Bangor yn y 10% uchaf o brifysgolion gwyrddaf y byd
Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd wedi ennill safle uchel i'r brifysgol unwaith eto mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Lansiwyd UI Green Metric , tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd, gan Universitas Indonesia yn 2010 i dynnu sylw at gynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol mewn prifysgolion ledled y byd. Bob blwyddyn mae nifer y prifysgolion sy'n cymryd rhan yn cynyddu; yn y gynghrair bresennol gwnaeth 360 o brifysgolion o 62 o wledydd gystadlu a rhoddwyd Bangor yn safle 28.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2015
Athletwyr Prifysgol Bangor ar frig y gynghrair traws gwlad
Llongyfarchiadau i Dîm Athletau Prifysgol Bangor a enillodd deitl Is-adran 1 am y tro cyntaf yn Grand Prix Traws Gwlad Cynghrair Gogledd Cymru yng Nghroesoswallt yn ddiweddar. Daeth y fuddugoliaeth 12 mis ar ôl cael eu dyrchafu i'r Adran Gyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015
Prifysgol Bangor ymysg y 30 uchaf yn y byd yn y World GreenMetric Ranking
Mae Prifysgol Bangor wedi caei ei rhoi ymysg y 30 prifysgol 'wyrddaf' yn y byd. Roedd yr UI GreenMetric World University Ranking diweddaraf yn cymharu 360 o brifysgolion mewn 62 o wledydd ar eu hymdrechion i sicrhau cynaliadwyedd y campws a rheoli prifysgolion mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2015
Dull newydd a mwy effeithlon o samplu bioamrywiaeth yn cael ei ddefnyddio yn rhai o brif aberoedd Prydain
Mae dwy o brif aberoedd Prydain wedi bod yn fannau profi llwyddiannus i ddull newydd ac effeithiol o 'wirio iechyd' bioamrywiaeth dŵr, a gall arwain at samplu cyflymach a mwy effeithlon mewn safleoedd eraill. Cyflawnir "bio-fonitro", neu asesu effeithiau gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd naturiol, yn aml drwy fonitro amrywiaeth biolegol. Mae dulliau presennol yn dibynnu ar adnabod rhywogaethau trwy ddulliau maniwal ond mae hynny'n cymryd amser ac yn aml yn canolbwyntio ar greaduriaid mwy. Felly, ni allant weithiau adlewyrchu iechyd cynefinoedd neilltuol yn gywir.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2015
Llwyddiant i fyfyrwyr Bangor mewn cystadleuaeth ryngwladol y Gyfraith
Mae pedwar myfyriwr o Brifysgol Bangor yn dathlu perfformiad syfrdanol mewn cystadleuaeth ryngwladol y Gyfraith. Roedd Ayaz Saboor, Bianca Rowson, Miriam Mbah a Catherine-Anne Higham yn un o 90 tîm o brifysgolion o bob cwr o’r byd i gystadlu yng nghystadleuaeth Llys Barn Ffug Coffa KK Luthra a gynhaliwyd yn Delhi, India, fis diwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2015
Gall organebau bychain iawn newid wyneb gwyddor arfordirol
Mae ymchwil wyddonol newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, Nature Communications , dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad â gwyddonwyr o'r National Oceanography Centre yn Lerpwl a Phrifysgolion St. Andrews, Hull, Leeds a Plymouth, wedi darganfod bod siwgrau 'gludiog' a gynhyrchir gan ficro-organebau yn cael effaith eithriadol fawr ar symudiad tywod a mwd mewn amgylcheddau dŵr.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2015
Efallai fod mwy o ffactorau nag a dybiech yn dylanwadu ar eich dygnwch wrth ymarfer
Yn awr fod mis Chwefror wedi cyrraedd, a ydych yn cael anhawster i gadw at gynllun ymarfer eich adduned Flwyddyn Newydd? Gall fod mwy i’ch llwyddiant neu’ch methiant nag sy’n amlwg. Yn ôl canfyddiadau ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caint, roedd gweld delweddau cadarnhaol neu negyddol yn isganfyddol, neu am gyn lleied o amser fel na wyddoch eich bod wedi’u gweld, yn cael effaith ar yr adeg yr oedd unigolion yn gorflino wrth ymarfer.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Chwefror 2015
Cylchgrawn y Times Higher yn holi
Cylchgrawn y Times Higher yn ei holi'r Athro Jo Rycroft-Malone, pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, ac athro gweithredu a chyfarwyddwr ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Ym mis Hydref bydd yn dod yn gyfarwyddwr y rhaglen gwasanaethau iechyd ac ymchwil a gynhelir gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR) - y corff cyllido mwyaf ym maes ymchwil gymhwysol i iechyd yn y Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2015
Mae gwerthoedd cysegredig yn allweddol i sicrhau cadwraeth coedwigoedd sydd ar ôl yn Ethiopia
Mae coedwigoedd sy'n gysegredig i bobl leol yn llai tebygol o ddioddef datgoedwigo yn ôl canlyniadau ymchwil gan Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Chwefror 2015
Archif y mis
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2015