Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Awst 2020
Cyfraith a Threfn a Frasier
Ar ochr ysgafnach ysgolheictod, cyhoeddodd yr Athro Stefan Machura, Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, erthygl eleni gyda’i gyfoed, Olga Litvinova, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, am wrthdaro a chyfraith yn y gyfres gomedi Frasier .
Dyddiad cyhoeddi: 28 Awst 2020
Dosbarthiadau ar-lein arloesol yn achubiaeth addysgol i blant gweithwyr allweddol
Mae rhaglen ddysgu ar-lein arloesol, a grëwyd gan academyddion fel rhan o ymchwil i effaith Covid-19 ar addysg, wedi bod yn achubiaeth addysgol i deulu o weithwyr allweddol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Awst 2020
Athro ym Mhrifysgol Bangor yn ennill gwobr Cyflawniad Oes mewn Seicoleg gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
Mae'r Athro Judy Hutchings ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn y wobr Cyflawniad Oes mewn Seicoleg gan Fwrdd Ymarfer Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Awst 2020
Mauritius oil spill: how coral reefs, mangroves and seagrass could be affected
Dyma erthygl yn Saesneg gan Sivajyodee Sannassy Pilly , ymgeisydd PhD gyda'r Athro John Turner a Dr Ronan Roche, i gyd o'r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 25 Awst 2020
Anadl sylffwr poeth: archaea eithafoffil yn taflu goleuni newydd ar esblygiad metaboledd sylffwr
Mae cynhyrchu egni trwy ddefnyddio cyfansoddion sylffwr yn un o'r mathau mwyaf hynafol o fetaboleddau a ddefnyddiwyd gan ficro-organebau cyntefig i ffynnu ar y Ddaear anocsig gynnar.Mae esblygiad y math hwn o fywyd microbaidd yn parhau i fod yn aneglur. Mewn erthygl a gyhoeddir yn Nature Microbiology, mae tîm rhyngwladol o ymchwilwyr gan gynnwys Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol (CEB) Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn datgelu bod y gostyngiad mewn sylffad yn y darddell boeth i'w briodoli i 'Candidatus Vulcanisaeta moutnovskia'.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2020
Mae gwres cefnforol yn drech na gwres yr atmosffêr o ran toddi rhew'r môr yn nwyrain Cefnfor yr Arctig
Mae ymchwil newydd yn dangos bod Cefnfor dwyrain yr Arctig wedi gweld lleihad deublyg a mwy yn nhwf rhew'r môr yn y gaeaf dros y degawd diwethaf a hynny oherwydd dylanwad cynyddol gwres o'r tu mewn i'r cefnfor. Daeth hynny i'r amlwg mewn astudiaeth ryngwladol, o dan arweiniad Prifysgol Alaska Fairbanks a Sefydliad Meteorolegol y Ffindir ynghyd â Phrifysgol Bangor ac eraill, a ddefnyddiai ddata a gasglwyd gan angorfeydd cefnforol ym Masn Ewrasiaidd Cefnfor yr Arctig o 2003-2018.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Awst 2020
Y Sefydliad Dyfodol Niwclear wedi'i enwi fel rhan o broject Dichonoldeb a Datblygu Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR)
Mae Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor yn rhan o broject Dichonoldeb a Datblygu Adweithydd Modiwlaidd Uwch (AMR) gwerth £10M dan arweiniad Westinghouse. Wrth i'r wlad ymdrechu i gynhyrchu Sero CO2, mae ynni niwclear yn cael ei ddefnyddio fel un o'r adnoddau mwyaf blaenllaw sy'n darparu trydan cyson dibynadwy, cynaliadwy, CO2 isel.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Awst 2020
Ymchwil i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd yn cychwyn cyfnod newydd
Penodwyd yr Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor yn Gyfarwyddwr newydd Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd Sêr Cymru Llywodraeth Cymru (NRN-LCEE). Bydd yr Athro Jones yn parhau i adeiladu ar yr ymchwil o ansawdd uchel yng ngwyddorau'r amgylchedd a'r gwyddorau naturiol yng Nghymru wrth iddi gymryd yr awenau y mis hwn. Bydd yr Athro Jones yn cymryd rôl yr Athro David N. Thomas , hefyd o Brifysgol Bangor, a arweiniodd y rhwydwaith cenedlaethol yn ystod ei gyfnod hynod lwyddiannus cyntaf rhwng 2013-19.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Awst 2020
Datganiad: Canlyniadau safon Uwch ar sail Graddau Canolfannau Asesu bosib
Yn dilyn y newidiadau i ganlyniadau Safon Uwch, hoffem sicrhau ein holl ymgeiswyr, os ydych wedi derbyn lle gennym, yna nid oes genych ddim i’w boeni amdano. Rydym yn falch bod y rhai hynny sydd wedi derbyn gwellhad i’w Graddau Canolfan Asesiad wedi derbyn cydnabyddiaeth o’u gwaith caled, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu ym Mangor fis Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2020
Ymchwil yn canfod ein bod yn 'drych-ddelweddu' cyffwrdd yn ystod cysylltiadau rhywiol ac yn trin corff ein partner fel ein corff ein hunain
Mae astudiaeth newydd ar swyddogaeth cyffwrdd a syllu wrth gael pleser rhywiol, a gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor a Royal Holloway, Prifysgol Llundain, wedi dangos ein bod yn ysgogi drych-symudiad yn ystod cysylltiadau rhywiol trwy gyffwrdd â'n partneriaid yn y mannau lle rydym ni eisiau cael ein cyffwrdd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Awst 2020
Anelka: Netflix documentary on 'misunderstood' French footballer fails to persuade
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Jonathan Ervine o'r Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, Ieithtddiaeth a'r C yfryngau sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2020
The Moon and stars are a compass for nocturnal animals – but light pollution is leading them astray
Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Stuart Jenkins o'r Ysgol Gwyddorau Eigion ac eraill, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2020
Newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ledaeniad rhywogaethau ymledol
Mae ymchwil gan dîm o arbenigwyr o Brifysgol Bangor, a'r Alfred Wegener Institute yn yr Almaen, yr Helmholtz Centre for Polar and Marine Research (AWI) a Zoological Institute and Museum Prifysgol Greifswald wedi datgelu sut gall newid yn yr hinsawdd gynorthwyo i ledaenu rhywogaethau ymledol. Mae canlyniadau eu hastudiaeth , sydd newydd gael eu rhyddhau yn y cyfnodolyn “Ecography”, yn dangos cryn botensial i'r cranc glas Asiaidd ledu ymhellach i'r gogledd, ar hyd arfordiroedd gogledd Lloegr a Norwy.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2020
Astudiaeth yn datgelu effaith prif weithredwyr pwerus a gwyngalchu arian ar berfformiad banciau
Mae banciau sydd â phrif weithredwyr pwerus a byrddau llai, llai annibynnol, yn fwy tebygol o fentro ac yn fwy tueddol o wyngalchu arian, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol East Anglia (UEA) ac Ysgol Busnes Prifysgol Bangor lle cafwyd y syniad am yr ymchwil yn wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Awst 2020
Dirgelion y dwfn - arolwg y brifysgol o wely'r môr yn tynnu sylw at longddrylliad hanesyddol
Mae gorffwysfa olaf cwch ymosod cyflym a adeiladwyd yn Ynys Môn ac a welwyd mewn ffilm o Brydain ym 1951 wedi ei chanfod yn defnyddio sonar fel rhan o arolwg newydd gan arbenigwyr o Brifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Awst 2020
Gwobrau lu yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn
O'r tri o Brifysgol Bangor ar restr fer categorïau Saesneg a Chymraeg Gwobrau Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru, llwyddodd dau i ennill gwobrau, ac Ifan Morgan Jones yn llwyddo i gipio Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Barn y Bobl trwy bleidlais ar Golwg 360. Cyhoeddwyd amser cinio ddydd Gwener 31 Gorffennaf fod Babel, nofel Ifan Morgan Jones, darlithydd newyddiaduraeth, wedi ennill categori nofel Gymraeg Llyfr y Flwyddyn .
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2020