Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Medi 2016
WISERD yn cael ei nodi fel 'adnodd pwysig' yn Adolygiad Diamond
Cafodd yr Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru , o dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond, ei gyhoeddi yr wythnos hon. Mae'r adolygiad, a gafodd ei gomisiynu yn 2014, yn canolbwyntio ar ehangu mynediad; cefnogi anghenion sgiliau Cymru; cryfhau darpariaeth ran-amser ac ôl-radd yng Nghymru; a chynaliadwyedd ariannol hirdymor. Cafodd cyllid ymchwil sy'n ymwneud ag ansawdd a throsglwyddo gwybodaeth eu hasesu hefyd fel rhan o'r adolygiad. Mae'r adolygiad yn gwneud sylw am y cyfraniad mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn ei wneud yn y mae
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016
Gwobrwyo cyfraniad at wyddorau chwaraeon ac ymarfer
Mae Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain (British Association of Sport and Exercise Sciences, neu BASES ) yn falch o gael anrhydeddu Stuart Beattie, Darlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor ac aelod o’r Sefydliad Ymarfer Elît, gyda Chymrodoriaeth BASES i gydnabod ei gyraeddiadau proffesiynol gwerthfawr, ei sgiliau, ei wybodaeth a’i wasanaeth i BASES a’r gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016
Prifysgol Bangor yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Cynnal Cymru
Mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau Cynnal Cymru 2016. Bydd gwobrau 2016 yn dod â dros 150 o arweinwyr busnes, arloeswyr, arloeswyr cymunedol, addysgwyr a’u timau at ei gilydd, ac maent yn agored i unrhyw fusnes, sefydliad neu unigolyn a all ddangos effaith ac ymagwedd gadarnhaol at ddatblygu cynaliadwy yn eu busnes neu gymuned.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016
Rhwydwaith gwybodaeth newydd i gefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy o’r môr
Rydym i gyd yn ymhyfrydu yn y golygfeydd godidog a’r cyfleoedd chwaraeon awyr agored sydd ar gael ar hyd arfordir ysblennydd Cymru. Ond mae’r arfordir sy’n ein hamgylchynu ar dair ochr hefyd yn cynnig cyfleoedd eraill. Yn bwysig iawn gellir ei ddefnyddio i greu ynni adnewyddadwy a chyfleoedd cyflogaeth o ganlyniad i hynny. Mae SEACAMS 2 , project £17M tair blynedd ym Mhrifysgolion Bangor ac Abertawe, a ariennir yn rhannol drwy Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewropeaidd, yn fuddsoddiad ym mhotensial economi’r môr ac ynni adnewyddadwy. Trwy SEACAMS, gall cwmnïau sydd eisiau defnyddio pŵer y môr i greu diwydiant ynni cynaliadwy yng Nghymru gael gafael ar y gefnogaeth ymchwil hanfodol y byddant eu hangen i’w galluogi i symud ymlaen â’u datblygiadau a fydd yn costio rhai miliynau o bunnau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2016
A Good Clean Heart yn dod i Fangor Wedi'i Pherfformiad Cyntaf yng Ngwyl Fringe Caeredin
Yn dilyn eu perfformiad cyntaf yng Ngŵyl Fringe Caeredin, daw Neontopia a Chanolfan Mileniwm Cymru â drama ddoniol ac emosiynol Alun Saunders, enillydd Gwobr Theatr Cymru 2016 am Ddramodydd Gorau yn yr Iaith Saesneg, A Good Clean Heart, i Stiwdio Pontio, Bangor ar ddydd Mercher 5ed a dydd Iau 6ed o Hydref. Cynhyrchwyd a pherfformiwyd A Good Clean Heart yn wreiddiol yn theatr-dafarn The Other Room yng Nghaerdydd, enillwyr gwobr The Stage am Theatr Fringe Orau, 2015. Mae hi’n stori deimladwy am ddau frawd a fagwyd gan wahanol deuluoedd, mewn ieithoedd gwahanol.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2016
Bywyd dirgel yr abwydyn du – mae galw am 'wyddonwyr amatur' i helpu i daflu goleuni ar fywyd rhywiol y rhywogaeth arfordirol bwysig hon.
Mae cariad yn yr aer ar hyd ein harfordiroedd yr hydref hwn ac mae Prifysgol Bangor yn gofyn i bobl yng ngogledd Cymru gadw llygad allan am arwyddion o angerdd yn y boblogaeth abwyd du. Mae'r abwydyn du - Arenicola marina - yn ffynhonnell hanfodol o fwyd i adar hirgoes a physgod, ac mae'r rhywogaeth yn chwarae rhan bwysig mewn pysgodfeydd fel ffynhonnell abwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2016
Twf yn nifer y dysgwyr yn y Gogledd-Orllewin
Mae nifer yr oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn y gogledd-orllewin ar ei fyny gyda Phrifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn cofnodi eu niferoedd uchaf erioed yn 2015/16 – cyfanswm o 3043 o ddysgwyr, sy’n gynnydd o 8% ar y flwyddyn flaenorol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2016
Llysgennad yr Unol Daleithiau'n ymweld â Phrifysgol Bangor
Mewn achlysur arbennig heddiw yng nghanolfan Pontio cafodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor ac ysgolion lleol gyfle i glywed Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig, Matthew Barzun, yn siarad am y 'berthynas arbennig' rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Medi 2016
Cydweithio rhwng Prifysgol Bangor ac Undeb Rygbi Cymru i helpu i ddatblygu gweithlu hyfforddi Gogledd Cymru
Bydd myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cael cynnig cyfle i fod yn rhan o weithlu hyfforddi rygbi yng Ngogledd Cymru, diolch i gydweithio rhwng Prifysgol Bangor ac Undeb Rygbi Cymru (URC).
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2016
Ffair Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd – 12 Hydref
Bydd Ysgol Busnes Bangor yn cynnal ei Ffair Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd cyntaf erioed ar Ddydd Mercher, 12 Hydref. Bydd y digwyddiad yn gyfle rhagorol i gwrdd â chyflogwyr, dysgu mwy am ddewisiadau gwaith ar ôl graddio a chael syniad o'r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn graddedigion sy'n chwilio am waith.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016
Croesawu myfyrwyr rhyngwladol i Fangor
Casglodd y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y nifer fwyaf erioed o fyfyrwyr rhyngwladol o Faes Awyr Manceinion fel rhan o’r gwasanaeth cludo myfyrwyr eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016
Why the International Criminal Court is right to focus on the environment
Dyma erthygl yn Saesneg gan Tara Smith o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016
Fframwaith gwyddonol newydd i gynllunio cadwraeth coedwigoedd sych yn America drofannol
Mae coedwigoedd sych yn Ne America ymysg y coedwigoedd trofannol sydd dan fygythiad fwyaf yn y byd. Mewn llawer o wledydd dim ond tua 10% o'r coedwigoedd hyn sydd ar ôl, sy'n llawer llai na llawer o goedwigoedd glaw, megis Amazonia, lle mae oddeutu 80% yn sefyll. Coedwigoedd sych oedd crud y diwylliant brodorol cyn-Ewropeaidd yn Ne America, ac maent yn ffynhonnell cnydau sydd o bwys byd-eang, megis india-corn, ffa, cnau daear a thomatos. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn a'r dinistr enbyd a wnaed iddynt, maent wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth gan wyddonwyr a chadwraethwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2016
System newydd ar gyfer llyfrgelloedd ledled Cymru i feithrin rhagor o gydweithio rhwng prifysgolion
Cynhaliwyd digwyddiad yn y Cynulliad yn ddiweddar (dydd Iau, 22 Medi 2016) i ddathlu system newydd ar gyfer rheoli llyfrgelloedd fydd yn hyrwyddo cydweithio rhwng llyfrgelloedd ar draws gwahanol sectorau yng Nghymru. Bydd y system newydd, a gaiff ei rhannu gan lyfrgelloedd prifysgolion yng Nghymru (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam), llyfrgelloedd y GIG, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn arbed arian, yn annog cydweithio ac yn cynnig y posibilrwydd o rannu casgliadau ledled Cymru. Cwblhaodd Prifysgolion Bangor a Glyndŵr gam cyflwyno'r system yn ddiweddar, yn ogystal â chau pen y mwdwl ar yr amserlen ar gyfer ei rhoi ar waith ledled Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016
Cyllido myfyrwyr i ddatblygu ymchwil mewn seicoleg
Ers degawd a mwy mae myfyrwyr wedi manteisio ar gyllid gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddilyn doethuriaeth mewn prifysgolion ledled Cymru ac eleni bydd deg arall yn dechrau ar y daith honno am gyfnod o dair blynedd. Bydd dau o’r myfyrwyr ymchwil newydd yn astudio yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016
Prifysgol Bangor yn cadw’i safle ymhlith Prifysgolion y Byd
Mae Prifysgol Bangor wedi cadw’i safle fel un o’r 350 o brifysgolion gorau’r byd am y drydedd flwyddyn yn olynol yn ôl y Times Higher Education World University Rankings a gyhoeddir heddiw (dydd Mercher, 21 Medi 2016). Daw’r llwyddiant yma er gwaethaf y ffaith bod mwy o brifysgolion yn gymwys bellach i’w hystyried ar gyfer y rhestr. Mae’r tabl diweddaraf yn gosod 980 sefydliad o 79 gwlad yn eu trefn, gan ei wneud y tabl mwyaf swmpus i’r THE ei gyhoeddi hyd yn hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016
Codi tua’r entrychion! Catrin yn llwyddo ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop
Mae athletwraig leol sy’n ddeiliad bwrsariaeth chwaraeon gan Brifysgol Bangor wedi dychwelyd o’r European Youth Weightlifting Championships yng Ngwlad Pwyl â medal arian yn y ‘snatch lift’ a medal efydd am ei holl ymdrechion yn y categori 48kg.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016
Edrych yn ôl ar 50 mlynedd o wyddorau cymdeithas
Roedd yn gyfnod euraid i Brifysgol Bangor yr wythnos ddiwethaf wrth i'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ddathlu ei hanner canmlwyddiant. Ymunodd staff a myfyrwyr o’r gorffennol a'r presennol ar y campws i ddathlu twf a chyflawniad yr ysgol ers ei sefydlu yn 1966.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016
Ail Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru 2016
Dylan Williams, Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn oedd un o'r siaradwyr yn ail Uwchgynhadledd Marchnad Lafur Cymru - digwyddiad cyfnewid gwybodaeth a gynhaliwyd yn rhad ac am ddim ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Cyflwynodd Mr Williams broffil y prif brosiectau trawsnewidiol sydd ar y gorwel yng ngogledd Cymru ac yn Ynys Môn, a chynnig ei sylwadau ynglŷn â sut y gall gogledd Cymru fanteisio ar y cyfleoedd y mae'r fath ddatblygiadau’n eu cynnig i'r gadwyn gyflenwi.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Medi 2016
Ysgol Cerddoriaeth yn ail-agor ar ôl gwerth £2M o waith ail-ddatblygu
Bu Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor yn dathlu ei hagoriad ar ôl gwaith ail-ddatblygu gyda seremoni ar gyfer staff a myfyrwyr. Roedd y seremoni yn dathlu cwblhau gwaith adnewyddu gwerth £2filiwn ar yr adeilad, gan greu cyfleusterau haeddiannol i un o'r pum adran cerddoriaeth gorau yn y DU fel y pleidleisiwyd gan fyfyrwyr yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2016 .
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2016
Wrth i rew y môr gilio, a fydd gwynt yn creu gwres yn nyfroedd yr Iwerydd yn y cefnfor Arctig?
Mae rhanbarth yr Arctig yn cynhesu ddwywaith mor gyflym â gweddill y blaned, a’r arwydd mwyaf amlwg o hyn yw bod y rhew môr sy’n gorchuddio Cefnfor yr Arctig yn cilio. Straeon perthnasol Y llanw'n corddi'r gwres Atlantig dwfn yng Nghefnfor yr Arctig
Dyddiad cyhoeddi: 19 Medi 2016
Polymerau a'r papur £5 newydd
Bydd Dr Hongyun Tai o Ysgol Gemeg y Brifysgol yn trafod polymerau yng nghyd-destun y papur £5 newydd ar y rhaglen wyddoniaeth boblogaidd Science Café ar Radio Wales am 18.30 nos Fawrth 20 Medi
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2016
Prifysgol Bangor yn sicrhau cyllid ar gyfer pum Ystafell Dosbarth Confucius
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill grant ar gyfer pum Ystafell Ddosbarth Confucius mewn ysgolion yng ngogledd Cymru. Dim ond cyllid ar gyfer cyfanswm o 60 ystafell ddosbarth a ddyfarnwyd ledled y byd eleni. Menter gan Hanban, asiantaeth ddiwylliannol Tsieina, yw Ystafelloedd Dosbarth Confucius ac maent wedi eu lleoli mewn ysgolion a cholegau ar draws y byd. Eu bwriad yw bod yn ganolfannau lleol i ysgogi a chefnogi addysgu a dysgu arloesol ym maes iaith a diwylliant Tsieina ar draws cymunedau.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2016
Traffig yn ystod yr Wythnos Groeso
Gwybodaeth ynghylch llwybrau teithio ar gyger myfyrwyr newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2016
Drysau’n agored i gasgliadau archifau ac amgueddfa Prifysgol Bangor
Bydd cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar gasgliadau arbennig Prifysgol Bangor fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored ar Ddydd Sadwrn 24 Medi. Mae digwyddiad Drysau Agored, yn rhoi cyfle i’r cyhoedd gael golwg ar adeiladau hanesyddol, gerddi a lleoliadau diddorol ac anarferol ledled Gwynedd a Chonwy yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2016
#bedwyr20: Canolfan Bedwyr yn dathlu 20
Yn y cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau i gofnodi ei phen-blwydd yn 20, bydd Canolfan Bedwyr yn agor ei drysau ar gyfer prynhawn agored ddydd Mawrth nesaf 13 Medi.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2016
NOSON AGORED Iau, Medi 8fed 2016
Noson Agored olaf cyn i'r cyrsiau cychwyn ar ddiwedd y mis...
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2016
Archif Menywod Cymru: 19eg Gynhadledd Flynyddol, 8-9fed Hydref 2016
Ymunwch gyda ni i glywed rhagor am hanes menywod yng Nghymru...
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2016
Myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan mewn cyfres newydd ar BBC Radio Wales
Mae myfyriwr PhD o Brifysgol Bangor wedi cael cyfle gwych yn gweithio fel hanesydd preswyl ar gyfres cerddoriaeth newydd mewn dwy ran ar BBC Radio Wales.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2016
Ydy ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi helpu datrys yr argyfwng siocled?
Mae carwyr siocled o gwmpas y byd yn ymwybodol ers ychydig o flynyddoedd bod eu hoff ddanteithfwyd melys o dan fygythiad. Mae’n bosib bod ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi dod o hyd i ateb gallai helpu ddatrys y’r argyfwng siocled drwy ddefnyddio mango gwyllt fel dewis newydd yn lle menyn coco.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2016
Llwyddiant nodedig arall gyda'r amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor!
Prifysgol Bangor yw'r sefydliad cyntaf yng Nghymru (ac yn wir yn y Deyrnas Unedig) i gyflawni Lefel 5 fersiwn newydd 2016 o Safon y Ddraig Werdd i Reolaeth Amgylcheddol.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2016
Defaid Model 'Electrig' yn Helpu Ymchwilwyr i Gadw Preiddiau Mewn Cyflwr Coeth
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae dafad yn teimlo pan mae'n rhewi oer neu'n pobi poeth? Ac a yw ymateb anifail i'r tywydd yn effeithio ar gynhyrchiant y fferm? Mae dau o famogiaid yng nghaeau yn y Gogledd yn helpu dod o hyd i'r atebion. O bellter maent yn edrych yn debyg iawn i ddefaid eraill; ond mae eu cnuoedd trwchus, tagiau clust a chynffonau gwlanog yn cuddio cyfrinach uwch-dechnoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2016