Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mai 2012
Darlithydd yn cario’r Ffagl Olympaidd ar Ddydd 11 y Ras Gyfnewid
Bu Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith, yn cario’r Ffagl Olympaidd heibio Castell Conwy ar Ddydd Mawrth, 29ain o Fai – Dydd 11 Ras Gyfnewid y Ffagl – wrth i’r fflam teithio o Fiwmares i Gaer.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2012
Gwahodd academydd o Fangor i banel rhyngwladol ar gael gwared ag is-gynhyrchion anifeiliaid
Efallai nad yw is-gynhyrchion anifeiliaid yn bwnc y mae llawer yn meddwl amdano, ond mae cael gwared â hwy’n ddiogel ac yn effeithiol yn hynod o bwysig o ran afiechydon, diogelwch bwyd a hyd yn oed newid hinsawdd. Crëir miliynau o dunelli o is-gynhyrchion o anifeiliaid bob blwyddyn yn sgil i diwydiant bwyd ac amaeth, ac mae’r mater yn dod yn fwyfwy pwysig ar lefel fyd-eang.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2012
‘Coron Driphlyg’ amgylcheddol i Brifysgol Bangor
Prifysgol Bangor yw’r Brifysgol fwyaf ‘gwyrdd’ yng Nghymru, yn ôl ’People and Planet’ , sef y rhwydwaith myfyrwyr mwyaf ym Mhrydain sy’n ymgyrchu i ddod a thlodi byd-eang i ben, i gefnogi hawliau dynol ac amddiffyn yr amgylchedd. Yng Nghynghrair 2012, a gyhoeddwyd ym Mhapur newydd y Guardian , roedd Prifysgol Bangor ar y brig o blith prifysgolion Cymru, a hefyd wedi codi yn y Gynghrair o safle 28 i safle 19 o fewn y DU. Ar yr un pryd â’r cyhoeddiad, deallodd y Brifysgol ei bod wedi ennill Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, am ei hymroddiad i gyflawni gwellhad amgylcheddol parhaus.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2012
Gwobrau dysgu dan arweiniad myfyrwyr 2012
Daeth dros ddau gant o fyfyrwyr, cynrychiolwyr cyrsiau a staff y Brifysgol at ei gilydd yn ddiweddar i ddathlu Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr, y cyntaf i’w gynnal ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2012
Prifysgol Bangor yn dal i fuddsoddi yn y profiad a gaiff myfyrwyr
Mae Prifysgol Bangor yn cyhoeddi ei bod yn creu 11 o swyddi newydd ar draws ei hystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Darperir staff ychwanegol mewn meysydd fel lles myfyrwyr a chefnogaeth llyfrgell, a gyllidir fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i fyfyrwyr dan nawdd ei chynllun ffioedd newydd. Rhoddwyd ystyriaeth i roi’r manteision gorau posibl i fyfyrwyr ar draws pob disgyblaeth ac o bob cefndir.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2012
Bangor yn ennill grant o bwys gan yr Academi Addysg Uwch
Mae tri academydd o Brifysgol Bangor wedi ennill grant sylweddol gan yr Academi Addysg Uwch (AAU) a fydd yn cefnogi datblygiad dysgu ac addysgu ar draws addysg uwch y DU. Bydd Dr Nicola Callow, Dr James Hardy a Dr Calum Arthur o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor yn arwain rhaglen a fydd yn ymchwilio i "Effaith goruchwyliaeth drawsnewidiol ar ennill myfyrwyr, eu cadw a sicrhau eu llwyddiant."
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2012
Y rhwydwaith uwchgyfrifiadura gwasgaredig cyntaf yn y DU yn rhoi hwb i fusnesau Cymru
Mae’r cyhoeddiad hwn yn tynnu sylw at y garreg filltir ddiweddaraf i’w chyrraedd gan gwmni Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru , a ffurfiwyd er mwyn rheoli cydweithrediad a rhannu gwasanaethau rhwng Prifysgolion yng Nghymru. Mae ein menter unigryw’n galluogi cwmnïau ac ymchwilwyr prifysgol yng Nghymru i gyflymu prosesau arloesi drwy ddefnyddio’r dechnoleg uwchgyfrifiadura ddiweddaraf. Mae Prifysgol Bangor yn hynod falch o fod yn aelod o’r fenter hon. Gall technoleg cyfrifiadura perfformiad uchel ymdrin â symiau aruthrol o ddata a’u dadansoddi’n gyflym iawn, gan ddod â chynnyrch a gwasanaethau newydd i’r farchnad yn gynt. Mae HPC Cymru o bwysigrwydd strategol mawr i economi Cymru a’i nod yw troi Cymru’n ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer cymwysiadau ymchwil uwchgyfrifiadura arbenigol, gan sicrhau bod Cymru’n tyfu ei heconomi wybodaeth a bod ganddi fantais gystadleuol ryngwladol gref.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2012
Staff ICPS yn mynychu derbyniad yn Nhŷ’r Arglwyddi
Ar 16 Mai, gwahoddwyd Gary Clifford a Stephen Clear o Sefydliad Astudiaethau Cystadlu a Chaffael yn Ysgol y Gyfraith, Bangor i fynd i dderbyniad partneriaid blynyddol Tŷ’r Arglwyddi gan yr Arglwydd Evans o Watford a'r Arglwydd Tony Berkeley.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2012
Prifysgol Bangor yn helpu llywodraeth Madagascar i ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â hela anifeiliaid gwylltion
Mae hela anifeiliaid gwylltion fel bwyd yn un o'r prif faterion cadwraeth sy'n cael sylw ar draws llawer o'r trofannau. Fodd bynnag, tan yn weddol ddiweddar, nid oedd llawer yn sylweddoli bygythiad yr hela hwn i fywyd gwyllt Madagascar, yn cynnwys ei lemyriaid enwog. Ond, yn dilyn tair blynedd o ymchwil gan Brifysgol Bangor gyda’r Malagasy NGO Madagasikara Voakajy (a gyllidir gan Darwin Initiative llywodraeth Prydain), mae yna lawer mwy o wybodaeth yn awr ar faint y broblem hon a sut y gellir mynd i’r afael â hi.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2012
Cartref yn y Brifysgol i Fenter Cydweithredol sy’n gwerthu llysiau lleol
Mae menter gydweithredol leol sy’n galluogi pobl i brynu llysiau sydd wedi’u tyfu’n lleol wedi ei hail-lansio’n llwyddiannus yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2012
Dyddiad cyflwyno papurau wedi ei ymestyn hyd Mai 31ain
Mae'r dyddiad cyflwyno papurau wedi ei ymestyn hyd Mai 31ain ar gyfer Cyfieithu Diwylliannol a Dwyrain Asia: Ffilm, Llenyddiaeth a Chelf. Mwy o wybodaeth yma: https://sites.google.com/site/culturaltranslationbangorwales/
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2012
Blwyddyn 7 yn profi eu gallu i sillafu mewn gwahanol ieithoedd
Mae Llysgenhadon Iaith o fewn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor wedi helpu i sicrhau bod cystadleuaeth ddiweddar ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 o bob rhan o ogledd Cymru wedi bod yn llawn hwyl a chofiadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2012
Cyffro croesawu'r Fflam Olympaidd i Fangor
Mae amrediad o ddigwyddiadau wedi'u trefnu gan y Brifysgol i groesawu'r fflam Olympaidd i'r ddinas.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2012
Prifysgol Bangor a Chamre Cymru yn cyd-weithio i wneud gwahaniaeth
Mae myfyrwraig PhD o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda Chamre Cymru i wneud yn siŵr fod pobl ifanc yn cael y gorau allan o'u teithiau. Mae Samantha McElligott, sydd ar hyn o bryd yn byw yn Llandegfan, Ynys Môn, yn gweithio gyda Chamre Cymru o dan raglen tair blynedd KESS ym Mhrifysgol Bangor i fesur manteision alldeithiau tramor fel profiad datblygiadol cadarnhaol i bobl ifanc.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2012
Gwaith hyfforddi ym maes dementia yn cael sylw mewn rhaglen ddogfen
Mae'r gwaith a wnaed i gefnogi a hyfforddi gofalwyr pobl â dementia, a gynhaliwyd gan Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor yn cael sylw ar raglen Dementia: Making a Difference ar BBC 2 Wales heno (24.5.12) am 22.00
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2012
Cynhadledd Sefydliad Ffiseg 2012
Cynhelir y gynhadledd flynyddol y Sefydliad Ffiseg ar y 19 o Fehefin 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2012
Staff Ieithoedd Modern yn llwyddo yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Cafwyd perfformiad hynod lwyddiannus gan yr Ysgol Ieithoedd Modern yn y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2012 yn ddiweddar. Llwyddodd pedwar aelod o staff i gyrraedd y rhestr fer ymysg nifer uchel o enwebiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012
Profi dull newydd o ddiogelu stociau pysgod y byd
Mae Nature Communications (DOI 10.1038/ncomms1845 22/05/12) yn adrodd ar offer genetig newydd pwerus a hyblyg a fydd yn gymorth i ddiogelu stociau pysgod yn Ewrop a hefyd ddefnyddwyr o Ewrop. Mae’r papur yn adrodd ar y system gyntaf y profwyd ei bod yn gallu adnabod poblogaethau rhywogaethau pysgod i safon fforensig o ddilysu.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012
ADNODD a Phrifysgol Bangor yn saethu i fyny’r siartiau
Mae Prifysgol Bangor ac Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wedi cael llwyddiant yn y Guardian University Guide diweddaraf. Fel sefydliad, mae Prifysgol Bangor yn ail yng Nghymru erbyn hyn, ar ôl codi 16 lle yn nhabl cynghrair diweddaraf y Guardian.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012
Astudiaeth fyd-eang gyntaf: Gall morwellt ar wely’r môr storio dwywaith gymaint o garbon â choedwigoedd
Mae ardaloedd o wely’r môr sydd dan fygythiad byd-eang yn llefydd arbennig i storio carbon yn ôl papur a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Nature Geoscience yr wythnos hon (20.5.11: doi:10.1038/ngeo1477). Yr astudiaeth “Seagrass Ecosystems as a Globally Significant Carbon Stock” yw’r dadansoddiad byd-eang cyntaf o garbon wedi ei storio mewn caeau o forwellt.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012
Fflam Olympaidd yn dod i Fangor
Bydd Prifysgol Bangor yn ymuno â'r dathliadau pan fydd y Fflam Olympaidd yn dod i’r ddinas wythnos nesaf. Mae nifer o staff, myfyrwyr a graddedigion o’r Brifysgol ymhlith y rhai sydd wedi cael yr anrhydedd o gludo’r Ffagl Olympaidd ar ei thaith drwy ogledd Cymru ar Ddydd Llun, Mai 28 ac i ddathlu’r digwyddiad bydd y Brifysgol yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau o amgylch Bangor ar y diwrnod.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mai 2012
Myfyrwraig PhD o Fangor yn cael gwobr yn 6ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd
Ar ôl cwblhau ei gradd PhD yn ddiweddar yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion , Prifysgol Bangor, mae Gwladys Lambert wedi dod yn gydradd am ei chyflwyniad llafar yn 6 ed Cyngres Pysgodfeydd y Byd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ar 7-11 Mai.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2012
Cyfle i weld llyfr prin gan Charles Dickens
Mae rhifyn prin o Oliver Twist gan Charles Dickens i'w weld ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd. Mae’r arddangosfa 'Charles Dickens - Bywyd mewn Print' i'w gweld yn Ddarllenfa Shankland ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor i ddathlu daucanmlwyddiant genedigaeth yr awdur enwog.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2012
Prifysgol Bangor yn Gwobrwyo Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012
Mae Rebecca Earnshaw wedi’i henwi’n enillydd gwobr Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn 2012 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych mae wedi’i rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2012
Academydd o Fangor i deithio i Wlad Pwyl
Yr wythnos hon, bydd Dr Aled Llion Jones o Ysgol y Gymraeg, yn teithio i brifysgolion yng Ngwlad Pwyl, yn dilyn gwahoddiadau i ddarlithio ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Hefyd, bydd yn cyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud â chyfieithu llenyddiaeth gyfoes rhwng y ddwy iaith.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2012
Cyhoeddwyd bod cyfrol ddiweddaraf yr Athro Gerwyn Wiliams ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2012
Cyhoeddodd Gerwyn Wiliams, aelod o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, Rhwng Gwibdaith a Coldplay (Gwasg y Bwthyn) haf diwethaf, ac y mae'n cyfleu ei argraffiadau o fywyd teuluol a chyhoeddus gan symud o ran lleoliad o Fae Caerdydd i Ground Zero.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012
Penodi aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg
Mae Dr Lowri Angharad Ahronson o Ganolfan Bedwyr wedi’i phenodi’n aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, yw Cadeirydd y Cyngor a swyddogaeth y grŵp yw cynghori a chyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â strategaeth newydd y Gymraeg a chynlluniau gweithredu blynyddol Gweinidogion Cymru o dan y strategaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012
Gall grwpiau lleol elwa ar broject Traws(ffurfiannau) y Brifysgol
Mae Prifysgol Bangor yn gobeithio rhyddhau grym creadigol ei myfyrwyr er budd elusennau a grwpiau datblygu cymunedol yn y rhanbarth. Mewn project newydd a chyffrous, bydd myfyrwyr Prifysgol Bangor, ac yn benodol myfyrwyr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau, yn cael eu hannog i weithio gyda sefydliadau’r trydydd sector ar brojectau creadigol, bywiog a heriol a fydd yn hyrwyddo materion penodol neu’n denu cynulleidfaoedd newydd i grwpiau cymunedol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012
Ymchwilwyr yn cyfarfod yn Iwerddon i drafod effaith newid yn yr hinsawdd ar bysgodfeydd pysgod cregyn
Yn ddiweddar cyfarfu ymchwilwyr SUSFISH o Gymru ac Iwerddon yng Ngholeg y Brifysgol Cork i drafod effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynnyrch pysgodfeydd pysgod cregyn masnachol ym Môr Iwerddon. Mae Prifysgol Bangor yn arwain y project cydweithredol hwn, dan nawdd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop sy'n cynnull ynghyd arbenigwyr o Brifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe a Choleg y Brifysgol Cork yn Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2012
Adroddiad gan staff SENRGy yn tynnu sylw at effaith economaidd y clafr yng Nghymru
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2012
Mae seicolegwyr wedi dadlennu sut y gall emosiwn atal prosesau ymenyddol lefel-uchel yn ddiarwybod inni
Mae Seicolegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn credu eu bod wedi canfod, am y tro cyntaf, broses sy’n digwydd yn ddwfn o fewn ein hymennydd anymwybodol, lle mae adweithiau cysefin yn rhyngweithio â phrosesau meddyliol uwch. Gan ysgrifennu yn y Journal of Neuroscience (9 Mai, 2012 • 32(19):6485– 6489 • 6485 ), maent yn nodi adwaith i fewnbynnau ieithyddol negyddol sy’n diffodd prosesu anymwybodol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2012
Prifysgol Bangor yn cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd 2012
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau unigolion nodedig a fydd yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn 2012. Cyflwynir yr holl Gymrodoriaethau yn ystod y Seremonïau Graddio rhwng 14 a 20 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2012
Entrepreneuriaid Santander Bangor
Mae Tom Purnell, myfyriwr Dylunio Cynnyrch, a Will Osborn, myfyriwr ôl-radd Seicoleg Defnyddwyr, wedi ennill cystadleuaeth Prifysgol Bangor o’r Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander a byddant yn cynrychioli'r Brifysgol yng nghystadleuaeth y DU yn ddiweddarach eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2012
Enwi Cymdeithas Ddaearyddiaeth yn Gymdeithas y Flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2012
Gwyddonwyr Morol Bangor yn cyfrannu at Gyngres Pysgodfeydd y Byd
Cafodd faner swyddogol Cyngres Pysgodfeydd Byd ei drosglwyddo i Brifysgol Bangor bedair blynedd yn ôl ar ddiwedd y Gyngres ddiwethaf yn Yokohama, pan gymerodd yr Athro Michel Kaiser o Ysgol Gwyddorau Eigion yr awenau ar gyfer y 6ed Gyngres Pysgodfeydd Byd a fydd yn agor nesaf Dydd Mawrth 8 Mai yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin, Caeredin, Yr Alban.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2012
Peidiwch â gwneud camgymeriad!
Bydd athletwyr yn y Gemau Olympaidd yn ceisio perfformio i’w llawn botensial o dan lawer o bwysau yr haf yma. Bydd pob un yn ceisio ennill medal aur ac yn canolbwyntio ar beidio â gwneud camgymeriadau. Ond mae ymchwilwyr yn Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ym Mhrifysgol Bangor wedi dangos y bydd rhai perfformwyr yn debygol o wneud y camgymeriad maent yn ei ofni fwyaf.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012
Myfyrwyr yn cael eu dewis ar gyfer Ras Gyfnewid y Ffagl Olympaidd
Mae Allys Allsop, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn un o ddeg o fyfyrwyr o bob cwr o'r DU a ddewiswyd gan Coca-Cola, Partner Cyflwyno’r Ras Gyfnewid Ffagl Olympaidd Llundain 2012, i gydnabod a gwobrwyo cyfraniadau cadarnhaol a wnaed gan lawer o fyfyrwyr bob dydd. Hefyd yn cario’r fflam fydd Caitlen Moon. Bydd Caitlen, sy’n 21 ac sy’n enedigol o Stafford, yn cario’r Fflam drwy Great Wyrley ar 30 Mehefin 2012.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012
Adroddiad newydd yn tynnu sylw at ddylanwad ymchwil Prifysgol Bangor ar Gemau Olympaidd Llundain 2012
Mae ymchwil o Brifysgol Bangor wedi’i chynnwys mewn adroddiad newydd sy’n dangos effaith ymchwil a datblygiad chwaraeon mewn prifysgolion ar y Gemau Olympaidd a Pharaolymaidd, ac ar chwaraeon ym Mhrydain yn gyffredinol. Cyhoeddwyd yr adroddiad fel rhan o Wythnos Prifysgolion (30 Ebrill – 7 Mai) sy’n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus o swyddogaeth eang ac amrywiol prifysgolion Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012
Sut mae personoliaeth yn effeithio ar gyrhaeddiad athletaidd?
Wrth berfformio ar y lefel uchaf mewn chwaraeon, mae’n bosib fod a wnelo’r gwahaniaeth rhwng ennill a cholli’n fwy â phersonoliaeth na gallu athletaidd. Er mwyn ennill 'Aur', mae’n rhaid i athletwyr fedru perfformio ar lefel uchel o dan bwysau aruthrol. Mae llwyddiant felly’n ddibynnol ar gyfuniad o'r lefel uchaf o berfformiad athletaidd a'r gallu i berfformio tra bod rhywun hefyd o dan straen personol mawr. Er bod rhai unigolion yn ffynnu o dan bwysau, mae eraill yn 'tagu' ac yn methu â pherfformio cystal ag wrth hyfforddi - pan fo’r straen yn llai.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2012