Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Gorffennaf 2016
Buddsoddiad newydd o £7 miliwn sy’n cael ei gefnogi gan yr Undeb Ewropeaidd yn helpu graddedigion
Mae staff ym Mhrifysgol Bangor wedi croesawu cyhoeddiad cynllun er mwyn helpu myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig ddatblygu eu gyrfaoedd gyhoeddi gan Julie James, y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2016
Llwyfan Dysgu Cymdeithasol un o raddedigion Bangor yn cyflogi un o raddedigion Bangor
Polina Cowley, MBA Information Management graduate has set up LearnerNet, an Innovative social learning platform aimed at students in Higher Education.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2016
Bwrlwm a Llechi: Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016
Bydd presenoldeb Prifysgol Bangor i’w weld a’i glywed ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau yn llenwi wythnos y brifwyl yn Sir Fynwy.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Gorffennaf 2016
Rip currents are a natural hazard along our coasts – here's how to spot them
Dyma erthygl yn Saesneg gan Martin Austin o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2016
New research points to the crash site of missing plane MH370
Dyma erthygl yn Saesneg gan Tom Rippeth o’r Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2016
Y Chwyldro Digidol a’r Gymraeg - Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni
Bydd Yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, yn cynnal sesiynau ar ‘Y Chwyldro Digidol a’r Gymraeg’ yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2016
Prifysgol Bangor yn cydweithio â'r Ellen MacArthur Foundation
Mae Prifysgol Bangor, drwy law ei Chanolfan BioGyfansoddion, wedi cael ei derbyn yn ‘brifysgol rhwydwaith’ gan yr Ellen MacArthur Foundation, elusen sy’n hyrwyddo cysyniad yr ‘economi gylchog’.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Gorffennaf 2016
Tanio Uchelgais ledled Gogledd Orllewin Cymru - Parc Gwyddoniaeth Menai yn derbyn caniatâd cynllunio llawn
Ar ôl i’r cais cynllunio amlinellol gael ei gymeradwyo’n unfrydol ym mis Mai 2015, mae Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf bellach wedi sicrhau caniatâd cynllunio llawn ar gyfer Parc Gwyddoniaeth arbennig cyntaf Cymru, a hynny ar Ynys Môn. Drwy weithio gyda’r Penseiri, FaulknerBrowns Architects a’r prif gontractwyr sydd wedi’u penodi’n ddiweddar, bydd modd cwblhau'r prosiect cyffrous hwn gan Brifysgol Bangor. Mae M-SParc yn bwriadu gorffen y gwaith adeiladu yn 2017/18.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2016
Cronfa Goffa Gwyn Thomas
Pan fu farw Gwyn Thomas ym mis Ebrill 2016, collodd Cymru drysor cenedlaethol. Am bron deugain mlynedd, dylanwadodd ar genedlaethau o fyfyrwyr fel darlithydd, athro a phennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2016
Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod o hwyl canoloesol yng Nghastell Caernarfon
Bu bron i 500 o ddisgyblion ac athrawon o ysgolion lleol yn mwynhau rhaglen â’i llond o hanes, addysg, creadigrwydd a hwyl mewn Diwrnod Hwyl Canoloesol yng Nghastell Caernarfon, a drefnwyd gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2016
Pontio a Chwmni Theatr Invertigo yn sefydlu perthynas tair mlynedd newydd a chyffrous
Mae Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi newydd Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi Invertigo ( ‘cwmni ifanc cyffrous’ - The Stage) yn Gwmni Cysylltiol am y tair blynedd nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Gorffennaf 2016
Myfyriwr Ôl-radd yn ennill gwobr o fri ar ôl graddio ddwywaith
“Rhyfeddol” ac “ysbrydoledig” yw’r rhai o’r geiriau sydd wedi’u defnyddio i ddisgrifio dyn o Gonwy ar ôl iddo droi gofalu am ei fam yn waith llawn amser; gan ailhyfforddi a graddio am yr eildro.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2016
Ydych chi'n gwybod beth sydd yn eich bodiau pysgod? Mae yn y genynnau
Mae offer datgelu DNA yn chwyldroi'r ffordd y caiff stociau pysgod byd-eang eu diogelu a'u hadnabod. Mae’n awr yn bosibl adnabod rhywogaeth pysgodyn ar unrhyw adeg o'r rhwyd at gynnyrch briwsion bara yn y rhewgell, ac mae'r offer yma'n ddigon grymus i ddatgelu lle y daliwyd y pysgodyn, neu i ba grŵp o bysgod yr oedd yn perthyn.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2016
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn un o’r rhai ieuengaf erioed i ennill gwregys du ail radd Jiu Jitsu Japaneaidd
Myfyriwr o Brifysgol Bangor yw'r bedwaredd ferch yn y byd, ac un o’r rhai ieuengaf erioed i gael gwregys du ail radd mewn Jiu Jitsu Japaneaidd
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2016
Ethol Athro o Fangor yn Gymrawd o’r Academi Brydeinig
Mae hanesydd ac archeolegydd blaenllaw o Brifysgol Bangor wedi ei hethol yn Gymrawd o’r Academi Brydeinig ( FBA ). Mae Nancy Edwards, Athro Archaeoleg Ganoloesol yn Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg y Brifysgol wedi derbyn y Gymrodoriaeth, sef yr anrhydedd uchaf y gall ysgolhaig yn y celfyddydau a'r dyniaethau ei gael ym Mhrydain, mewn cydnabyddiaeth o’i chyfraniad nodedig i ymchwil mewn archeoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2016
Sut mae iaith yn gysylltiedig â meddwl?
Sut mae iaith yn gysylltiedig â meddwl? Beth allwn ni ei ddysgu am y meddwl dynol o strwythur iaith? Sut mae hyn yn wahanol rhwng ieithoedd y byd? Sut mae iaith wedi datblygu i'n gwneud yn glyfar? Bydd dros 200 o ymchwilwyr o 35 gwlad yn bresennol mewn cynhadledd ryngwladol bwysig a gynhelir ym Mangor rhwng 18 a 22 Gorffennaf i drafod y materion hyn yng Nghynhadledd Ieithyddiaeth Wybyddol y DU a gynhelir gan yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2016
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill grant wnaiff newid ei fywyd i ddatblygu ei syniad technoleg addysg
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol i feddwl am syniadau am offer ac apps digidol newydd ar gyfer dysgu.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Gorffennaf 2016
Medalau Hanesyddol yn mynd i ocsiwn
Bydd medalau a fu’n perthyn i wyddonydd o Fangor yn mynd i ocsiwn yr wythnos yma (Iau 21 Gorffennaf). Y medalau a ddyfarnwyd i Dr Harold King yw Lot 167 a 168 yng ngwerthiant ‘Orders, Decorations, Campaign Medals and Militaria’ Spink.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016
Pedwar allan o bedwar i Brifysgol Bangor yn Rownd Derfynol y Gwobrau Green Gown
Mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Green Gown 2016 gyda phob un o'i phedwar cynnig. Hon yw'r flwyddyn gyntaf i'r brifysgol ymgeisio am y gwobrau pwysig hyn, a gynhelir gan The Environmental Association for Universities and Colleges (EAUC). Mae'r Brifysgol yn ymuno â dros 100 o sefydliadau eraill yn y rownd derfynol, yn cynrychioli oddeutu 1.5 miliwn o fyfyrwyr a bron chwarter miliwn o aelodau staff, sy'n manteisio ar gynlluniau cynaliadwyedd arloesol mewn addysgu, arweinyddiaeth, ymchwil a bywyd myfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016
Prifysgol Bangor yn dyfarnu Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn ystod Wythnos Graddio 2016
Bydd rhai graddedigion ffodus yn clywed y gantores opera enwog yn canu yn ystod un o’r 10 Seremoni Graddio sydd i’w gynnal ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos nesaf, wrth i’r seren opera enwog, Elin Manahan-Thomas dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod eu seremoni. Mae’r ddynes sydd yn y swydd uchaf yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, cerflunydd o fri, cyflwynwraig teledu ac actor hefyd ymysg yr unigolion eraill a fydd yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol (11-15 Gorffennaf 2016). Byddant yn ymuno â dros 3,000 o fyfyrwyr yn Neuadd Prichard-Jones ysblennydd y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
British women will soon be able to serve on the military frontline – but are they ready to fight?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson myfyrwraig Doethuriaeth yn yr Ysgol Seicoleg a Sefydliad Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016
Ennil tair Gwobr Cynaliadwyedd
Mae Undeb Bangor ( Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor ) wedi ennill nid un na dwy, ond tair gwobr am eu gwaith cynaliadwyedd. Gwobrwywyd yr Undeb efo Gwobr Aur yng Ngwobrwyon ‘ Green Impact ’ yr UCM (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr), wedi iddynt ennill Gwobr Aur ddwywaith yn 2011 a 2013 a’r wobr Rhagoriaeth Effaith Gwyrdd ddwywaith yn 2012-13 am eu cynllun peilot 'Beics Bangor' a 2014-14 am Bartneriaeth Cymunedol Caru Bangor. Gwobrwywyd nhw hefyd yn Undeb y Flwyddyn (anfasnachol) yn y Gwobrau Effeithiau Gwyrdd ym Lerpwl.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2016
Gwobrau Caffael Cenedlaethol 2016: Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ennill gwobr am gaffael electroneg
Yng Ngwobrau Caffael Cenedlaethol 2016, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar gan Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael Ysgol y Gyfraith Bangor, fe dderbyniodd RCT Homes y wobr am Gaffael Electroneg.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2016
Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn agor Canolfan Môr Cymru ym Mhrifysgol Bangor
Ymweldodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ag Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar (5 Gorffennaf) i agor Canolfan Môr Cymru. Achubodd y Tywysog ar y cyfle i ymweld â'r Prince Madog, y llong ymchwil fwyaf sy’n eiddo i brifysgol yng ngwledydd Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2016
Llwyddo yn y diwydiant niwclear
Yn ddiweddar mae dau fyfyriwr Prifysgol Bangor o Ogledd Cymru wedi cymryd camau breision at wireddu eu huchelgais o ddilyn gyrfa yn y diwydiant niwclear. Mae Lara Pritchard o Ddinbych, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau blwyddyn olaf ei gradd Daearyddiaeth , wedi cael cynnig swydd ddisglair i raddedigion gyda Horizon Nuclear Power a bydd yn dechrau yno ym mis Medi. Bydd Ilan Davies o'r Bala, a fydd yn dechrau ar flwyddyn olaf ei gwrs Meistr Peiriannu Electronig pedair blynedd ym mis Medi, yn un o bump intern o'r Deyrnas Unedig a gaiff gyfle i weithio yn ninas Hitachi yn Japan am dri mis gyda Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2016
Chargé d’Affaires Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn ymweld â Phrifysgol Bangor
Bu dirprwyaeth o llysgenhadaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn ymweld â Phrifysgol Bangor yn ddiweddar. Yn eu plith oedd Chargé d’Affaires y Llysgenhadaeth, Madame Marie-Louise Kafenge Nanga, a oedd yn awyddus i archwilio Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol a’u dogfennau yn ymwneud â’r Parchedig William Hughes a’r Congo Training Institute ym Mae Colwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Gorffennaf 2016
Adar ffrigad yn hedfan ymhell uwchlaw anawsterau dyfroedd meirwon trofannol Cefnfor yr India
Bu tîm rhyngwladol o wyddonwyr, dan arweiniad yr Athro Henri Weimerskirch o Ganolfan Gwyddorau Biolegol Chize, Canolfan Genedlaethol Ymchwil Wyddonol Ffrainc, mewn cydweithrediad â Dr Charles Bishop o Brifysgol Bangor yn astudio ecoleg symudedd adar ffrigad (Fregata minor). Yn dilyn yr ymchwil fe gyhoeddwyd erthygl: Frigate birds track atmospheric conditions over months-long trans-oceanic flights , gan Henri Weimerskirch et al. yn y cylchgrawn Science , 1 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2016
Chwilio am wyddonwyr o blith y cyhoedd i ymchwilio i'n morfeydd heli
Er ein bod yn byw ar ynys, eto rydym yn gwybod ychydig ryfeddol am rannau o'n harfordir.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2016
Canolfan Bedwyr yn y Gymuned
Wedi iddynt gwblhau cwrs gloywi iaith wedi ei deilwra’n benodol ar eu cyfer gan diwtoriaid iaith Canolfan Bedwyr, cyflwynwyd tystysgrifau i aelodau staff Cylch Meithrin Seiont a Pheblig, Caernarfon yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2016