Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Hydref 2011
Ymchwilwyr eisio holi barn pobol ifanc efo diabetes
Mae tîm ymchwil ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd yn awyddus i ddarganfod y ffordd orau o gyflwyno gwybodaeth am ddiabetes i bobl ifanc sydd â diabetes math 1, ac yn chwilio am bobl ifanc i'w helpu.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2011
Rob yn ennill Ras Eryri
Rob Samuel cyn-fyfyriwr ôl-radd o Brifysgol Bangor yw enillydd Marathon Eryri eleni . Daeth yn gyntaf allan oddeutu 2,000 o ymgeiswyr. Daeth Rob, sy'n rhedeg gyda Rhedwyr Eryri, gartref mewn dwy awr 36 munud 45 eiliad, er gwaethaf y tywydd erchyll.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2011
BTO Cymru yn nythu yn eu swyddfa newydd yn y Brifysgol
Torrwyd cacen ddathlu gan Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn nerbyniad agoriadol Ymddiriedolaeth Adareg Prydain – Cymru (BTO) yn ddiweddar. Mae’r BTO newydd ymgartrefu mewn swyddfeydd newydd Adeilad Thoday wrth ymyl yr Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy). Rhoddodd Dr Christine Cahalan, Pennaeth SENRGy araith fer i groesawu'r BTO i'r Brifysgol, ac eiliwyd hi gan yr Is-Ganghellor.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2011
Stori ryfeddol am gyfraniad Prifysgol Bangor i ddatblygiad hedfan awyrennau
Bydd stori ryfeddol am gyfraniad Prifysgol Bangor at ddatblygiad hedfan awyrennau’n cael ei ddatgelu heno (Dydd Mercher 2 Tachwedd) am 6.30 mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau’r Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2011
Premiere drama ar gyfer radio i Fyfyrwyr Bangor
Ar nos Sul 30 Hydref bydd Gorsaf Radio Myfyrwyr Bangor, Storm FM, yn darlledu perfformiad cyntaf o’r ddrama radio Pontypool . Addaswyd y ddrama gan aelodau o Gymdeithas Drama Saesneg Bangor (BEDS) o’r nofel Pontypool Changes Everything gan Tony Burgess, nofel arswyd wedi’i lleoli yn Ontario, Canada y gwnaed ffilm ohoni’n ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2011
Prifysgol Bangor ar eich ffôn symudol ...
Mae Prifysgol Bangor yn un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i lansio ‘gwefan symudol’ gyda’r bwriad o ddenu myfyrwyr newydd. Mae’r wefan yn manteisio ar y we symudol i roi mynediad at amrywiaeth o wasanaethau ar y we ar gyfer staff a myfyrwyr presennol hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2011
Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn cymryd rhan yng Ngwledd Conwy
Aeth cymdeithasau Undeb Myfyrwyr Bangor yn llu i gymryd rhan yng ngŵyl hynod boblogaidd Gwledd Conwy. Cafodd Cymdeithas Ail-greu’r Canol Oesoedd Prifysgol Bangor, Cymdeithas Drama Saesneg Bangor (BEDS) a Pharti Dawns Cadi Ha Morris i gyd eu gwahodd i’r ŵyl yn dilyn llwyddiant mawr Diwrnod Canoloesol Biwmares ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2011
Cyngherddau amser cinio - am ddim!
Mae Prifysgol Bangor wedi agor ei ddrysau i amrywiaeth o gyngherddau am bron i gan mlynedd. Mae'r gyfres gyngherddau Cerddoriaeth ym Mangor yn dod ag oddeutu deg ar hugain o gyngherddau i Fangor yn ystod y flwyddyn academaidd: cymysgedd amrywiol o gyngherddau ar gyfer ensembles siambr i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2011
Ysgol Busnes Bangor yn mynd i bartneriaeth newydd â Guru Nanak
Mae Prifysgol Bangor wedi llofnodi cytundeb â Guru Nanak Institute of Management and Information Technology yn India. Dan y cytundeb hwn bydd myfyrwyr Guru Nanak yn gallu trosglwyddo eu hastudiaethau i Ysgol Busnes Bangor, un o Ysgolion Busnes gorau Ewrop.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2011
Croesawu’r Ffagl Olympaidd i Brifysgol Bangor
Bydd pobl leol yn cael y cyfle i gael tynnu eu llun gyda’r Ffagl Olympaidd fel rhan o baratoadau Bangor i groesawu’r Fflam Olympaidd i’r ddinas gwanwyn nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2011
Sir Roger Casement- Yr Arwr Olaf
Ar ddydd Gwener y Groglith 1916 'roedd Roger Casement wedi glanio yn yr Iwerddon o long danfor Almaenig ac wedi ei arestio yn syth. Cyhuddwyd ef o deyrn fradwriaeth yn erbyn y goron ac fe'i crogwyd ym mis Awst 1916.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2011
Is-ganghellor i gynnal lansiad prosiect ‘Economi Werdd’ Ysgol Busnes Bangor
Ar Ddydd Llun, Hydref y 17eg 2011, cynhelir lansiad prosiect GIFT Ysgol Busnes Bangor. Prosiect yw GIFT sydd yn gyfrwng sefydlu fforwm draws ffiniol i helpu twf a chynhaliaeth “economi werdd” mewn rhyngbarthau penodol yng Nghymru ac Iwerddon. Partneriaeth yw GIFT rhwng Prifysgol Bangor, Sefydliad Technolegol Waterford yn Iwerddon, a Choleg Prifysgol Dulyn. Bwriad y prosiect yw i gyfoethogi sgiliau busnesau, mentrau cymdeithasol a’r sector gyhoeddus yng Nghymru ac Iwerddon. Ariannwyd Project GIFT gan y Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF) trwy raglen Iwerddon Cymru (INTERREG4A).
Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2011
Negeseuon y diwydiant alcohol am ‘yfed yn gyfrifol’ heb fynd at wreiddyn y mater
Nid yw ymgyrchoedd y diwydiant alcohol i hybu ‘yfed yn gyfrifol’ yn cael fawr ddim effaith, a gallant hyd yn oed annog mwy o yfed. Dyna un o brif gasgliadau adroddiad newydd gan Alcohol Concern a lawnsir Ddydd Mercher 12 Hydref, ac a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr o Brifysgolion Glyndŵr a Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2011
Gwobr o’r Unol Daleithiau i arbenigwr mewn Heneiddio
Yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor, arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei waith ar heneiddio a dementia, yw'r person cyntaf y tu allan i America i dderbyn Gwobr Americanaidd ddydd Iau 13 Hydref 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2011
Grant Ymchwil Gwyddorau Eigion i astudio crychdonnau ar fflatiau llaid a thraethau
Mae banciau tywod a phonciau llaid yn ffurfio rhwystrau pwysig o amgylch ein harfordir. Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain project ymchwil o bwys i asesu sut caiff y deunyddiau mân hyn eu symud gan gerrynt dŵr yn y parth arfordirol, a sut gallai’r symudiad hwn newid o ganlyniad i newid mewn hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2011
Y Gyntaf yng Ngwynedd
Bydd Canolfan Heneiddio’n Dda cyntaf Gwynedd yn cael ei hagor yn swyddogol dydd Mercher, 12 Hydref, gyda Diwrnod Agored arbennig sy’n cynnig sesiynau blasu a stondinau gwybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2011
Canolfan Bedwyr yn Agor ei Drysau i’r Byd
Bydd nifer o brojectau arloesol sy’n hyrwyddo a chefnogi defnydd o’r Gymraeg yn cael eu dathlu heddiw (12 Hydref 2011) wrth i Ganolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Bangor, agor drysau ei chartref newydd i’r cyhoedd
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2011
Pedwarawd Arobryn yn dychwelyd i Fangor
Mae Pedwarawd Llinynnol Benyounes, sydd â’i holl aelodau’n fenywod, yn dychwelyd i Brifysgol Bangor ar gyfer dwy gyngerdd yr wythnos hon, ar ôl ennill Gwobr fawreddog Daisy de Saugy am ddatganiad eithriadol o gerddoriaeth siambr yr wythnos ddiwethaf yng Ngenefa. Hwn fydd trydydd ymweliad y pedwarawd â Bangor, ac mae’n dilyn cyngherddau diweddar mewn gwyliau ar draws Ewrop sydd wedi denu cryn sylw – “catch one of their recitals if you can,” ysgrifennodd un adolygwr ar ôl perfformiad yn Abertawe – yn ogystal â pherfformiad gwadd arbennig o flaen y Prif Weinidog yn 10 Downing Street yng Ngorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2011
Darlith Cyhoeddus 07/10/11 – Paul Harris S.C.
Ddydd Gwener, 7 Hydref bydd Ysgol y Gyfraith ym Mangor yn croesawu Paul Harris S.C., arbenigwr ym maes hawliau dynol ac un o’r sidanwyr mwyaf blaenllaw yn Hong Kong. Bydd Mr Harris yn rhoi darlith am yrfaoedd yn y Bar, yn arbennig ym maes cyfraith ryngwladol a hawliau dynol. Bu Mr Harris yn fyfyriwr i’r Athro Suzannah Linton yn ystod ei chyfnod yn Hong Kong. Mae’n ymarfer yn y Bar yn y DU ac yn Hong Kong, ac mae ei siambrau yn Llundain ar Doughty Street, lle mae siambrau'r goreuon sy'n arbenigo yn y math hwn o waith.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2011
Croesawu’r Ffagl Olympaidd i Brifysgol Bangor
Bydd pobl leol yn cael y cyfle i gael tynnu eu llun gyda’r Ffagl Olympaidd fel rhan o baratoadau Bangor i groesawu’r Fflam Olympaidd i’r ddinas gwanwyn nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2011
‘The Future of Public Law in England and Wales’ – Darlith gan Ms. Sarah Nason
Mae'n bleser gan Ysgol y Gyfraith Bangor gyhoeddi y bydd Ms Sarah Nason, aelod o Grŵp Cyfraith Gyhoeddus yr Ysgol, yn rhoi sgwrs ar ei hymchwil i Adolygiadau Barnwrol yn y Deyrnas Unedig ddydd Mercher, 12 Hydref 2011. Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yw Ms Sarah Nason. Graddiodd o Brifysgol Caergrawnt gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith ac yn ddiweddarach dechreuodd hyfforddi fel twrnai gyda chwmni o gyfreithwyr yn Llundain, Slaughter and May. Penderfynodd Ms Nason ddychwelyd i academia i ddilyn ei diddordebau yn y gyfraith gyhoeddus a mynediad at faterion cyfiawnder. Ochr yn ochr â’r ymchwil a gyllidir ganddi i ddyfodol adolygiadau barnwrol yng Nghymru a Lloegr, mae Ms.Nason yn astudio ar gyfer doethuriaeth yn University College Llundain ac mae’n ysgrifennu ei thraethawd ymchwil ar hyn o bryd ar athroniaeth y gyfraith gyhoeddus a dulliau newydd o sicrhau rhesymoldeb cyfreithiol. Cliciwch ar y linc isod am ddisgrifiad cyffredinol o thema’r ddarlith sy’n dwyn y teitl ‘The Future of Public Law in England and Wales’. Cynhelir y ddarlith yn ystafell A1.01, Adeilad Alun, am 2.00pm ddydd Mercher 12 Hydref 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2011
Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn agor rhan newydd o Lwybr Arfordirol Cymru
Bu'r Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes, yn agor rhan ddiweddaraf Llwybr Arfordir Cymru ddydd Mawrth, 4 Hydref, yng Ngardd Fotaneg Treborth y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2011
Un o raddedigion Bangor yn ennill Pride of Britain
Llongyfarchiadau i Llew Davies, un o raddedigion Prifysgol Bangor, sydd newydd ennill Wobr Pride of Britain.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2011
Jamie & Louise yn ymweld â Phrifysgol Bangor
Mae’r rhaglen gylchgrawn poblogaidd Jamie & Louise ar Radio Wales, sy’n cael ei gyflwyno gan y newyddiadurwr-gyflwynwyr Jamie Owen a Louise Elliott, yn dod yn fyw o Brifysgol Bangor ddydd Gwener 7 Hydref.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2011
Un o raddedigion Bangor yn cipio gwobr Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Prydeinig
Mae cyn fyfyriwr Bioleg Forol Gymhwysol Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr fawreddog ffotograffiaeth bywyd gwyllt. Cipiodd Richard Shucksmith o Ynys Shetland wobr gyntaf y British Wildlife Photography Awards 2011 am ei lun gwefreiddiol o slefren fôr.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Hydref 2011
Gwobr o’r Unol Daleithiau i arbenigwr mewn Heneiddio
Yr Athro Bob Woods o Brifysgol Bangor, arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei waith ar heneiddio a dementia, fydd y person cyntaf y tu allan i America i dderbyn Gwobr Americanaidd ddydd Iau 13 Hydref 2011.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2011