Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Hydref 2010
Gwyddonydd o Fangor i helpu i warchod Bioamrywiaeth ym Môr y Caribî
Gan gydweithredu â Llywodraeth Ynysoedd y Cayman a’i phartner yn UDA, y Nature Conservancy , mae’r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi lansio project gwerth £817,000 i warchod bioamrywiaeth môr Ynysoedd y Cayman, Tiriogaeth Dramor o eiddo’r DU yng nghanol y Caribî.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2010
Trosglwyddo gwybodaeth am Seicoleg i’r gweithle
Pobl sydd wrth wraidd busnesau llwyddiannus – ac mae Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn gwahodd pobl i ddarganfod sut y gellir defnyddio seicoleg yn y gweithle i ryddhau potensial a chyflawni dyheadau unigolion.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2010
Esgoblyfr Bangor ar y We: Cam Un wedi’i orffen
The Bangor Pontifical Project, launched exactly one year ago as a partnership between the University and the Cathedral to ensure the long-term preservation of Bangor’s most precious medieval manuscript, has just reached its first significant milestone. Completion of phase one, funded by a Welsh Assembly grant, has enabled conservation and rebinding of the Pontifical and digitization of its 340 pages. The manuscript was photographed by the cutting-edge Digital Image Archive of Medieval Music (DIAMM) last spring, and viewers may now zoom in on the excellent high-quality images via the open access Bangor Pontifical Project website .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2010
Dilyniannu DNA newydd yn datgelu cymunedau cuddiedig
Mae hanner bwced o dywod o draeth di-nod yn yr Alban wedi datgelu gwe o anifeiliaid meicrosgopic mwy cyfoethog a chymhleth yn byw o fewn yr "ecosystem" fechan, nag a dybiwyd erioed.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2010
Sweet William Portread o Shakespeare a’i gelfyddyd
Sioe un dyn dwy-awr o hyd sy’n cyfuno sgiliau perfformio gydag ymchwil dwfn i’r testun a gwybodaeth ymarferol i greu darlun crwn o’r dramodydd ei hun. Drwy ail-greu amryfal gymeriadau’r dramau mae’r actor yn cyfleu amrywiaeth di-ddiwedd byd Shakespeare. Mae Pennington yn rhannu ei wybodaeth ddwfn mewn ffordd mor gartrefol â dyn yn sgwrsio a chi mewn tafarn… Gem hudol o sioe.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2010
Ein Dinas: Y ffordd mae pobol ifanc yn ei gweld hi
Mae Cynllun Pontio Prifysgol Bangor/Fforwm Celfyddydau Gwynedd yn falch o gyhoeddi penodiad yr artist lleol poblogaidd Catrin Williams i arwain prosiect celf go arbennig- sef cydweithio gyda phobol ifanc ardal Bangor i greu murlun mawr ar y muriau pren sy’n amgylchynu safle adeiladu’r Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi newydd ar Ffordd Deiniol ynghanol y ddinas.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2010
Grant Ewropeaidd sylweddol i Ysgol y Gyfraith
Mae'r Athro Dermot Cahill o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor a Ceri Evans newydd sicrhau grant ymchwil gwerth 4 miliwn ewro (project WIT) ar y cyd gydag Uned Caffael Strategol Prifysgol Dinas Dulyn. Sicrhawyd y grant yn wyneb cystadleuaeth lem ryngwladol. Ac fe gaiff ei ariannu tan ddiwedd 2013 gan raglen Arloesedd a Chystadlu INTERREG Iwerddon/Cymru yr Undeb Ewropeaidd. Ysgol y Gyfraith Bangor fydd yn arwain y bartneriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2010
Coffau hanesydd modern cyntaf Cymru
Caiff hanesydd a newidiodd y modd yr astudir hanes Cymru ei goffau gyda darlith gyhoeddus a gynhelir pob yn ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Bydd y ddarlith J.E. Lloyd gyntaf yn trafod ei ddehongliad ef o hanes Cymru. Cynhelir y ddarlith nos Wener 22 Hydref ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor ac mae'n agored i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2010
Agoriad yr Arddangosfa ar Fywyd yr Iddewon – Gyda Derbyniad Cosher
Mae Goleufa Cymru wedi dyfarnu £19,000 i Dr Nathan Abrams o Ysgol Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor a Dr Sally Baker o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gan gydweithredu ag Esther Roberts o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, i gynnal arddangosfa deithiol ar fywyd yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Trwy’r arddangosfa hon, caiff pobl leol gyfle i ddysgu am hanes yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Mae Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru ers o leiaf ganrif a hanner, ac wedi chwarae rhan bwysig yn ei hanes. Er enghraifft, roedd Isidore Wartski yn faer ar Fangor, ac ef oedd y maer Iddewig cyntaf yng Nghymru. Cynhelir yr arddangosfa mewn cyfuniad o leoliadau o fewn Prifysgolion ac adeiladau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Cynhelir hefyd gyfres o weithdai yn y Brifysgol, ac mewn lleoliadau ac ysgolion yn y cylch. Mae Sally and Nathan wedi derbyn gwahoddiad gan Yr Adran Astudaiethau Crefyddol, Coleg Menai Bangor, i gyflwno eu hymchwil yn benodol i fyfyrwyr Lefel ‘A’ sydd ar hyn o bryd yn astudio Iddewiaeth ac hefyd i aelodau staff y Coleg.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2010
I Affrica ‐ Datblygu Cynaliadwy Cymreig
Mae arbenigwyr Cymreig ar dechnolegau ynni adnewyddadwy wedi bod yn rhannu eu profiadau i bobl fusnes fu ar gwrs ar ynni adnewyddadwy. Y gobaith yw y byddant yn gallu mynd â’u profiadau o Gymru yn ôl i Affrica i ddatrys yr her sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd fyd‐eang. Cafodd y pymtheg oedd yn rhan o’r cwrs eu hannog i ddatblygu syniadau busnes eu hunain fydd yn datrys problemau’n ymwneud â datblygu’n gynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2010
Gwobr Nobel i gynfyfyriwr Prifysgol Bangor
Mae’r Athro Robert Edwards FRS, a raddiodd o Brifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Nobel mewn Meddygaeth 2010.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2010
‘Blynyddoedd Rhyfeddol’ i agor Cyfres Darlithoedd Iechyd a Lles
‘Blynyddoedd Rhyfeddol’ rhaglen sydd yn cefnogi plant ifanc a theuluoedd, ac sydd wedi ennill gwobrau, ac ymchwil i’w heffeithiolrwydd yw’r pwnc ar gyfer darlith gyhoeddus. Cynhelir ‘Children & Families/Incredible Years’ am 6.00 ddydd Mawrth, 5 Hydref, yn Venue Cymru, Llandudno.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2010