Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Tachwedd 2016
Understanding the conditions that foster coral reefs' caretaker fishes
Dyma erthygl yn Saesneg gan Gareth J WEilliams, Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ynghŷd ag eraill, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2016
Prifysgol Bangor yn ennill Gwobr Cynnal Cymru
Mae Prifysgol Bangor wedi dod gyntaf yng Ngwobrau Cynnal Cymru yn y categori Sefydliad Addysg Bellach. Roedd y wobr yn cydnabod y sefydliad addysgol oedd yn dangos tystiolaeth gref o effaith neu arloesedd, ac wedi ei noddi gan Acuity Legal. Pleidleisiodd dros 11,000 o unigolion ar gyfer y naw categori, diolch yn fawr iawn i’r rhai bleidleisiodd dros Prifysgol Bangor! Llongyfarchiadau hefyd i’r wyth enillwyr a’r enwebeion eraill; roedd yn ysbrydoliaeth clywed am yr holl waith da sy’n digwydd ym maes cynaliadwyedd ar hyd a lled Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2016
Defnyddio'r gwyddorau cymdeithas i fynd i'r afael â thlodi
Daeth myfyrwyr chweched dosbarth o Ysgol David Hughes, Ysgol Tryfan ac Ysgol Friars i gynhadledd undydd ym Mhrifysgol Bangor ar 7 Tachwedd i drafod y Gwyddorau Cymdeithas a syniadau ar gyfer eu haseiniadau ar gyfer Bagloriaeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2016
School Swap: Korea Style
Mae Rory Farmer, sy’n astudio am MA mewn cynhyrchu ffilmiau yn yr Y sgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau , wedi dychwelyd yn ddiweddar o broject ffilmio yn Ne Korea. Mae cwmni teledu Darlun TV, o’r Felinheli, wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen mewn dwy ran i BBC Cymru Wales, School Swap Korea Style . Yn y rhaglen, mae tri disgybl yn eu harddegau o Sir Benfro yn cael blas ar gyfundrefn addysg sy’n cael ei hystyried yn un o’r rhai gorau yn y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2016
CALIN - Lansio rhwydwaith arloesi gwyddor bywyd newydd i fusnesau Cymru ac Iwerddon
Mae Ysgol Cemeg Prifysgol Bangor yn falch o gyfrannu at rwydwaith gwyddor bywyd sydd newydd ei lansio. Cymeradwywyd y rhwydwaith gwyddor bywyd Cymru-Iwerddon €11.96M a ariannwyd gan yr UE gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Tachwedd 2016
PwC yn cyflwyno dosbarthiadau meistr i fyfyrwyr
Beth mae'n rhaid ei wneud i gael lle yn un o'r pedwar prif gwmni cyfrifo? Dyna gafodd sylw mewn dau ddosbarth meistr gan PriceWaterhouseCoopers (PwC) a roddwyd i fyfyrwyr Ysgol Busnes Bangor yr wythnos ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2016
Dyfarnu Gwobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog
Mae project i roi labeli rhybudd Cymraeg ar feddyginiaethau wedi ennill y wobr am Wasanaethau i Ofal Iechyd Dwyieithog yng Ngwobrau Cyrhaeddiad cyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Y partneriaid yn y project oedd Uned Dechnolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr a Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol Bangor, ar y cyd gyda fferyllwyr Ysbyty Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2016
Cwrs Preswyl Cymraeg yn denu dros 160
Rhwng 14-18 Tachwedd, daeth dros 160 o ddisgyblion lefel ‘A’ Cymraeg – iaith gyntaf ac ail iaith – ynghyd i wersyll yr Urdd, Glan-llyn ar gyfer cwrs preswyl a drefnir ar y cyd gan yr Urdd ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol B
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2016
A yw menywod o'r diwedd wedi torri drwy'r nenfwd gwydr gwleidyddol?
Darlith gyhoeddus: From “What? A Woman?” to “What a Woman!” A yw menywod o'r diwedd wedi torri drwy'r nenfwd gwydr gwleidyddol? A yw Hillary Clinton, Theresa May, Angela Merkel, Nicola Sturgeon a Leanne Wood yn symptomau o newid sylfaenol neu'n ddim ond gwyriadau mewn maes lle mae dynion yn tra-arglwyddiaethu'n barhaus? A all merched hefyd godi i'r brig mewn meysydd eraill, neu a ydynt yn brwydro yn nannedd anfanteision?
Dyddiad cyhoeddi: 22 Tachwedd 2016
A 'sapphire rush' has sent at least 45,000 miners into Madagascar's protected rainforests
This article by Julia P G Jones , Professor of Conservation Science, Bangor University was originally published on The Conversation . Read the original article . The rainforests of Didy in eastern Madagascar usually ring with the calls of the indri, the island’s largest lemur. There is a different noise now : the chopping of trees, digging of gravel, and cheers of encouragement from the thousands of illegal miners who have flooded to these forests since sapphires were discovered in late September.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2016
Myfyrwraig o Fangor yn ennill Gwobr Nyrs y Flwyddyn
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi ennill Gwobr o bwys sydd yn dathlu ei llwyddiannau neilltuol a’i phroffesiynoldeb Stephanie Morris, myfyrwraig Nyrsio Oedolion yn ei thrydedd flwyddyn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yw Nyrs dan Hyfforddiant y Flwyddyn 2016, y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2016
Trump's victory shows that people don't always vote for what is best for their wallet
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Shanti P Chakravarty o’r Ysgol Busnes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2016
Sut mae pobl/plant yn datblygu sgiliau cymdeithasol: € 1.5M o nawdd ERC i archwilio'r Niwrowyddoniaeth Wybyddol y tu ôl i ddatblygiad “Ymennydd Cymdeithasol”
Mae pobl yn eu hanfod yn greaduriaid cymdeithasol ac mae ein dealltwriaeth o'r byd yn cael ei ffurfio o'r cychwyn cyntaf gan y rhyngweithio cymdeithasol yr ydym yn arsylwi arno ac yn cymryd rhan ynddo. O ganlyniad, rydym yn rhagori mewn tynnu gwybodaeth o olygfeydd cymdeithasol. Gallwn ganfod yn gyflym os yw dau unigolyn yn cydweithio neu'n cystadlu, yn fflyrtio neu’n cwffio, ac yn helpu neu’n rhwystro ei gilydd. Yn bwysicaf oll, rydym yn dysgu llawer, a hynny’n gyflym, am bobl o arsylwi ar eu rhyngweithio ag eraill – mae hyd yn oed ryngweithio byr yn rhoi cliwiau pwysig i ni am eu personoliaeth, eu galluoedd cymdeithasol a'u hwyliau ar y pryd. Sut mae’r sgìl hynod hwn yn datblygu? Lle mae wedi ei leoli yn yr ymennydd? Sut mae’r math hwn o "canfyddiad rhyngweithio cymdeithasol" yn gysylltiedig â gallu cymdeithasol yn y byd go iawn a dysgu cymdeithasol ar draws datblygiad?
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2016
Cymdeithas Drama Saesneg Prifysgol Bangor yn cyflwyno trasiedi hanesyddol ac eiconig Saunders Lewis, Siwan
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2016
“Cymru’n croesawu myfyrwyr tramor” meddai’r Prif Weinidog
Bydd Cymru’n parhau i groesawu myfyrwyr tramor ar ôl Brexit, ac fe fydd Llywodraeth Cymru’n pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad ydynt yn dioddef yn sgil cynlluniau i gyfyngu ar fewnfudo. Dyna oedd neges y Prif Weinidog, Carwyn Jones mewn anerchiad at fyfyrwyr ac academyddion ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2016
MACBETH - DIRECTOR’S CUT gan Volcano Theatre yn dychwelyd ar ffurf 21ain Ganrif
Bydd Volcano Theatre yn dod i Pontio, Bangor am y tro cyntaf nos Fercher, 16 o Dachwedd. Mae 18 mlynedd ers i Volcano Theatre o Abertawe gyflwyno ei fersiwn wreiddiol drawiadol o Macbeth, gyda’r is-deitl ‘Director’s Cut’. Gyda’r coreograffi ‘chwantus’ gan Nigel Charnock, ei ddisgyniad ‘strôb-a-chwalu-metel’ i anhrefn llwyr ar ôl llofruddiaeth Duncan, a’i gyfeiriadau gweledol at droseddau erchyll Fred a Rose West, fe’i cydnabuwyd yn gyffredinol fel perfformiad eithriadol ac fe ddenodd ymatebion cryf ar bob rhan o’r sbectrwm o ryfeddod i wylltineb.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2016
Housing – or Homes? An Introduction to Co Housing, as it could be applied to Gwynedd
Cyflwyniad i gyd- gartrefu a’r modd y gellid ei ddefnyddio yng Ngwynedd yw pwnc sgwrs a drefnir gan Brifysgol Bangor ar y cyd â Chymdeithas Daearyddiaeth y myfyrwyr. Cynhelir Housing or Homes? nos Lun, Tachwedd 21 am 6.00 yn Ystafell g23, Adeilad Thoday y Brifysgol ar Ffordd Deiniol. Mae’r sgwrs am ddim ac ar agor i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2016
Llwyddiant cyllido triphlyg i Dr Gillian Jein drwy Grwsibl Cymru
Trwy raglen Crwsibl Cymru 2016 mae Dr Gillian Jein wedi derbyn cyllid ar gyfer ymchwil ar dri phroject rhyngddisgyblaethol gwahanol. Bydd yn gweithio fel Prif Ymchwilydd ar The Portable Ocean , mewn cydweithrediad â Dr Stephanie Wilson, Gwyddorau Eigion. Project yw hwn lle defnyddir celf fel cyfrwng i ddysgu plant ysgol am bwysedd yn nyfnder y môr.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2016
Prifysgol Bangor yn dod â chyflogwyr a myfyrwyr ynghyd mewn ffair yrfaoedd unigryw ym maes y gyfraith
Cafodd myfyrwyr yn yr unig Ysgol y Gyfraith yng ngogledd Cymru gyfle unigryw i gyfarfod a rhwydweithio â rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw’r rhanbarth mewn digwyddiad arbennig ar gyfer gyrfaoedd ym maes y Gyfraith.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2016
Project Plant yn cyrraedd rhestr fer gwobr ymgysylltu cyhoeddus
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor wedi cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol am waith ymgysylltu cyhoeddus eu project Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out. Cyrhaeddodd y project restr fer y wobr Engaging with Young People yn y gystadleuaeth genedlaethol Engage a gynhelir gan y National Coordinating Centre for Public Engagement (NCCPE), sy'n dathlu ymchwilwyr prifysgol sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd mewn ffyrdd arloesol ac effeithiol. Mae Lleisiau Bach Yn Galw Allan/Little Voices Shouting Out yn broject Loteri Fawr sy'n cael ei gynnal gan Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2016
Tîm Gwasanaethau Eiddo a Champws Prifysgol Bangor yn ennill gwobr genedlaethol
Yn y National CDM Awards ddydd Iau 27 Hydref, a drefnwyd gan yr Association of Project Safety, enillodd tîm Gwasanaethau Eiddo a Champws Prifysgol Bangor deitl Prif Gontractor y Flwyddyn. Rhoddwyd y teitl am waith gosod a ffitio a wnaed gan y brifysgol yn adeilad Pontio ym Mangor. Rhoddwyd tîm y brifysgol ar y rhestr fer hefyd am wobr Cleient y Flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Tachwedd 2016
Project Seicoleg Bositif yn anelu at wella lles yn y gweithle a rhagolygon gwaith i unigolion yn Y Rhyl
Mewn byd lle mae'r rhan fwyaf ohonom yn treulio cyfran fawr o'n bywydau yn y gwaith, rydym angen creu awyrgylch sy'n meithrin cynhyrchiant, ysgogiad a chefnogaeth yno. Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael yr union dasg honno. Bydd Kate Isherwood, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Seicoleg , yn ymchwilio i ddefnyddio dulliau Seicoleg Bositif a Newid Ymddygiad yn y gweithle, a hynny dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016
Chango Spasiuk, enillydd Grammy o Dde America, yn dychwelyd i Pontio Bangor
Y perfformiwr nesaf yn rhaglen cabaret lwyddiannus Pontio o nosweithiau cerddorol hamddenol fydd Chango Spasiuk, chwaraewr acordion o'r Ariannin, a fydd yn perfformio yn Theatr Bryn Terfel nos Wener, 18 Tachwedd am 8 o'r gloch.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2016
Phoenix Piano Trio i berfformio yn Theatr Bryn Terfel
Bydd y Phoenix Piano Trio yn perfformio cyngerdd yn Theatr Bryn Terfel dydd Mercher yma 9 Tachwedd am 7.30pm.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2016
Teyrnged i Max yng Nghymru: Hebrides Ensemble, Psappha, Pedwarawd Benyounes ac Ensemble Cymru
Digwyddiad unigryw yn dod â rhai o brif ensemblau Prydain at ei gilydd i ddathlu Syr Peter Maxwell Davies.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2016
The men who impersonate military personnel for stolen glory
Dyma erthygl yn Saesneg gan Leanne K Simpson Sydd yn astudio ar gyfer Doethuriaeth gyda'r Ysgol Seicoleg a Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2016
Trafod effaith Brexit ar y Gymraeg
Fel rhan o ddathliadau #Bedwyr20 Canolfan Bedwyr, bydd Prifysgol Bangor yn cynnal symposiwm ar 8 Tachwedd i drafod sgil-effeithiau posib Brexit ar y Gymraeg. Prif siaradwr y symposiwm fydd Emyr Lewis , sy'n gyfreithiwr uchel ei barch ac yn arbenigwr ar hawliau ieithyddol. Bydd yn traddodi darlith ar y testun 'Dwi isio fy iaith nôl': sofraniaeth, xenophobia a'r Gymraeg yn dilyn refferendwm Ewrop '.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2016
Paris climate agreement enters into force: international experts respond
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Julia Jones o’r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth , ac eraill, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016
Prifysgol Bangor yn cael ei gwobrwyo am ei chydweithio â busnes ac am ymgyrch gynaliadwyedd
Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr Prifysgol y Flwyddyn a dwy wobr arall yng Ngwobrau Business Insider yng Nghaerdydd neithiwr (3 Tachwedd), a hynny am ei gwaith â’r sector busnes. Yr un noson, derbyniodd y Brifysgol wobr am ei hymgyrch gynaliadwyedd gan gorff y Chartered Institution of Wastes Management (CIWM) mewn digwyddiad yn Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016
Mae Bangor yn golygu busnes yn y Ffair Yrfaoedd flynyddol
Mewn marchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol, nid yw hi byth yn rhy gynnar i fyfyrwyr ddechrau meddwl am eu hopsiynau gyrfa. Mae mynd i'r brifysgol bellach ynghylch mwy na darlithoedd a thraethodau: mae hefyd ynglŷn â pharatoi at fyd cyflogaeth, ac mae rhwydweithio, profiad gwaith a CV cryf i gyd yn elfennau allweddol yn arfogaeth unrhyw fyfyriwr sy'n chwilio am swydd. Yn Ysgol Busnes Bangor, mae'r Ffair Yrfaoedd a Chyflogadwyedd flynyddol yn cynnig cyfle anhepgor i ddatblygu'r cymwyseddau hyn ac achub y blaen ar chwilio am swydd ar ôl graddio.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2016
Mannau gweithredu newydd a diogel i gynnal riffiau cwrel y byd
Mae arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth riffiau cwrel yn galw am gytuno ar fannau gweithredu diogel newydd i sicrhau y bydd riffiau cwrel gwerthfawr yn goroesi i'r dyfodol. Mewn erthygl adolygu a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn Frontiers in Ecology and the Environment, (Guiding coral Reef Futures in the Anthropocene doi 10.1002/fee.1427 ), sy'n dod â'r holl wybodaeth ddiweddaraf am riffiau cwrel at ei gilydd, dadl y gwyddonwyr yw y dylem gytuno'n fyd-eang ar fannau gweithredu diogel neu barthau clustogi i sicrhau goroesiad riffiau cwrel.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2016
Cydnabod polisïau Cyflogaeth Rhagorol
Mae polisïau cyflogaeth rhagorol Prifysgol Bangor yn ei chaniatáu i ddenu rhai o’r ymchwilwyr gorau ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, ac fe gaiff ei hyn ei gydnabod am bedair blynedd arall yn dilyn adolygiad llwyddiannus o Wobr Rhagoriaeth AD mewn Ymchwil Comisiwn Ewropeaidd y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2016
Cerddi Anghyhoeddedig gan R.S. Thomas yn Dod i’r Fei
Newydd ei gyhoeddi, dan olygyddiaeth Yr Athro Tony Brown ( Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ) a’r Athro Jason Walford Davies ( Ysgol y Gymraeg ), y mae casgliad o gerddi anghyhoeddedig gan un o feirdd mawr Cymru, R.S. Thomas. Y mae’r Athro Brown a’r Athro Davies yn Gyd-gyfarwyddwyr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor, y brif archif academaidd o waith y bardd.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2016
Dr Sophie Williams yn agoriad swyddogol mynedfa Porth y Lleuad i'r Ardd Tsieineaidd newydd yng Ngerddi Botaneg Treborth, Bangor.
Yn ystod gwyliau haf 2016 Prifysgol Bangor, gwahoddwyd Dr Sophie Williams a'i phartner Robert, ynghyd â staff o Uned Ddibyniaeth Uchel Ysbyty Gwynedd, i Erddi Botaneg Treborth. Mae Dr Williams (32) yn parhau i adfer ei hiechyd ar ôl dal haint feirol yr ymennydd, Enceffalitis Japaneaidd, tra oedd yn gweithio ar broject ymchwil yn ne Tsieina yn ystod 2015. Torrodd Sophie y rhuban wrth fynedfa 'Porth y Lleuad' i'r Ardd Tsieineaidd, rhan sydd newydd ei chynllunio a'i phlannu o Erddi Botaneg Treborth Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Tachwedd 2016