Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Ionawr 2017
DNA yn datgelu newidiadau tymhorol ym mhoblogaeth llyn eiconig yn Eryri
Mae llyn sydd wedi ymddangos ym miloedd o luniau twristiaid o’r Wyddfa hefyd wedi chwarae rhan hanfodol mewn gwella sut y gellir monitro llynnoedd ac afonydd yn y dyfodol. Llyn Padarn, sy’n gorwedd wrth droed yr Wyddfa, oedd man profi ymchwil a all arwain at fonitro amgylcheddau afonydd a llynnoedd yn fwy effeithiol a chyflym. Mae hyn yn dilyn ymchwil gan Brifysgol Bangor ac eraill, a gyhoeddwyd yn Nature Communications ( coi10.1038/ncomms14087 ).
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017
Wedi ei ganslo: Sgwrs yn rhagflaenu creu’r mynydd iâ mwyaf erioed
Mae'r sgwrs wedi ei ganslo oherwydd amgylchiadau na ellir eu rhagweld. Wrth i arbenigwyr ym meysydd rhewlifoedd, hinsawdd ac eigioneg ddisgwyl am y foment y rhagwelir y bydd silff iâ Antarctig yn torri ac yn creu un o'r mynyddoedd iâ mwyaf a gofnodwyd – tua chwarter maint Cymru – mae staff a myfyrwyr Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddarlith ar yr union bwnc hwn gan aelod o'r British Antarctic Survey (BAS). Bydd yr Athro Hilmar Gudmundsson o’r BAS yn trafod “Ocean-induced thinning of Antarctic Ice Shelves and the impact on the ice flow of the Antarctic Ice Sheet” am 6.00 ar Chwefror 2 ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau. Gall y ddarlith hon, sydd wedi ei hanelu at fyfyrwyr ac academyddion y Brifysgol, fod o ddiddordeb i'r cyhoedd hefyd, o ystyried tynged bresennol y silff iâ Larsen C, sydd o fewn 20 cilomedr o dorri’n rhydd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017
Ysgol St Gerard's ar Ben y Fainc!
Tîm o Ysgol St Gerard's ym Mangor a enillodd ornest Gogledd Cymru yn y gystadleuaeth Pen y Fainc eleni, a gynhelir gan yr Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Bangor. Caiff y Gystadleuaeth Genedlaethol i rai 14-16 oed ei rhedeg gan y Gymdeithas Frenhinol Cemeg, a chynhelir gornestau ar hyd a lled y wlad. Curodd tîm Ysgol St Gerrard’s naw Tîm arall i ennill y cyfle i ymweld â'r Adran Cemeg ym Mhrifysgol Loughborough i gymryd rhan yn y rownd derfynol, a gynhelir ar 29 Ebrill 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Ionawr 2017
Sawl gradd Meistr yn derbyn achrediad gan y CMI
Mae sawl rhaglen ôl-raddedig yn Ysgol Busnes Bangor wedi cael eu hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), yr unig gorff proffesiynol siartredig ym Mhrydain sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo'r safonau uchaf o ragoriaeth ym meysydd rheoli ac arwain.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2017
SCAC yn cynorthwyo’r Undeb Ewropeaidd i weithredu y Ddeddf Busnesau Bach yn dilyn llwyddiant grant enfawr
Mae Sefydliad Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael (SCAC) Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael gwybod yn ddiweddar ei bod wedi llwyddo i gael grant enfawr dan gronfa COSME yr Undeb Ewropeaidd. Cronfa yw hon i godi’r awydd i gystadlu ymysg mentrau busnes bach a chanolig yn yr Undeb Ewropeaidd, ac i gynorthwyo’r UE i weithredu anghenion y Ddeddf Busnesau Bach (mae hwn yn fframwaith ar gyfer polisi’r UE i fusnesau bach a chanolig).
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2017
Canfod ffyrdd newydd o fyw gyda dementia
As the Welsh Government seeks views on its recently launched dementia strategy, Bangor University is bringing together people living with dementia, and organisations who are also working on dementia related support and research projects to share best practice in north Wales. Living with dementia in North Wales – we’re in it together , a Conference at the University on 27 January, will hear the experiences of people living with dementia, as well as those of a number of organisations providing dementia supportive programmes and conducting dementia-related research.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2017
Technoleg Gymraeg yn Hwb i’r Economi
Gall technolegau arloesol Cymraeg fod yn hwb i economi gogledd Cymru – dyna oedd un o brif negeseuon Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg . Roedd y gynhadledd, a gynhaliwyd yn ddiweddar (20 Ionawr) yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2017
ICC expands definition of war crimes to cover combatants in the same armed forces
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermot o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017
Darlith gyhoeddus yn canolbwyntio ar Gymru'r oesoedd canol cynnar
Mae hunaniaeth yn destun dadleuol yn y gymdeithas sydd ohoni ac yr un modd mae'n destun dadlau brwd rhwng archeolegwyr yr oesoedd canol cynnar. Dyna fydd pwnc darlith gyhoeddus a roddir gan yr hanesydd blaenllaw, Yr Athro Nancy Edwards, ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mawrth, 31 Ionawr am 6.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Teitl y ddarlith yw ' Early medieval Wales: material evidence and identity', ac mae croeso i bawb ddod iddi.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017
Premiere Cymru o gampwaith corfforol, arloesol a ffraeth Barely Methodical Troupe
Yn dilyn gwerthu pob tocyn mewn perfformiadau yng ngŵyl Fringe Caeredin yn 2014 ac yn yr International Mime Festival a'r Udderbelly Festival yn y Southbank Centre yn Llundain yn 2015, mae dynion y Barely Methodical Troupe yn dod â'u sioe arobryn Bromance i Pontio , Bangor a hwn fydd eu perfformiad cyntaf yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2017
Iddewiaeth a'r Holocost yn Full Metal Jacket Stanley Kubrick
Mae’r Athro Nathan Abrams o’r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi derbyn gwahoddiad i draddodi darlith ar ffilm Stanley Kubrick, Full Metal Jacket , yn JW3: Jewish Community Centre London fory (Ionawr 18).
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017
Cydweithio i ddatblygu a gweithredu Rhaglen Nyrs Gyswllt newydd i Atal Heintiau
Sefydlwyd project newydd ar y cyd rhwng Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu rhaglen newydd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal heintiau.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ionawr 2017
Child victim or brutal warlord? ICC weighs the fate of Dominic Ongwen
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Yvonne McDermott o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2017
Arweiniad economeg iechyd newydd ar gyfer ymarferwyr iechyd cyhoeddus
Mae Dr Joanna Charles a'r Athro Rhiannon Tudor Edwards o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau yng Ngholeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y Brifysgol wedi llunio llawlyfr electronig newydd o'r enw “Arweiniad i economeg iechyd i bobl sy’n gweithio ym maes iechyd cyhoeddus: llawlyfr pen desg cryno”. Mae'r Ganolfan yn rhan o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd y brifysgol ac yn cyfrannu i Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor, sy'n dod ag ymchwil iechyd ar draws y brifysgol at ei gilydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2017
Lansio Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Bangor
Bydd Prifysgol Bangor yn dechrau'r flwyddyn newydd gyda lansiad Canolfan Astudiaethau Arthuraidd newydd ddydd Gwener, 20 Ionawr, wrth i Gymru ddechrau dathlu Blwyddyn Chwedloniaeth. Trwy gydol 2017 cynhelir digwyddiadau mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y wlad.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017
Dyblu cynhyrchu pysgod a chadw bioamrywiaeth - a ellir ei wneud?
Gall consortiwm newydd i sefydlu Canolfan Datblygu Dyframaeth Genedlaethol yn Tanzania, syd yn cynnwyd Profysgol Bangor, helpu i ymdrin â thlodi a diffyg maeth Mae gan Tanzania, sydd efallai yn fwyaf adnabyddus am y saffarïau ar hyd y gwastadeddau maith ac agored, gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bywyd gwyllt dŵr croyw bach iawn sydd â photensial enfawr heb ei gyffwrdd. Mae'r tilapia, sef y pysgodyn a ffermir fwyaf drwy'r byd ar wahân i'r carp, yn byw mewn niferoedd mawr yn y Llynnoedd Mawr (Victoria, Tanganyika, Malawi/Nyasa) sy'n gorchuddio chwech y cant o'r wlad. Ystyrir y llynnoedd yn fannau pwysig o ran bioamrywiaeth fyd-eang, maent yn un o ddim ond 25 drwy'r byd, oherwydd y cannoedd o rywogaethau'r pysgod ciclidiaid, yn cynnwys rhywfaint o'r 30 o isrywogaethau tilapia sydd yn Tanzania.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2017
Bangor yn y 4% uchaf o Brifysgolion Gwyrddaf y Byd
Mae ymrwymiad Prifysgol Bangor i gynaliadwyedd wedi ennill safle uchel i'r brifysgol unwaith eto mewn tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Yng nghynghrair diweddaraf UI Green Metric mae Prifysgol Bangor wedi symud ddeuddeg safle yn uwch i safle 16, sy’n ein gosod yn y 4% uchaf o’r prifysgolion sy’n cymryd rhan.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2017
Combining daycare for children and elders benefits all generations
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Catrin Hedd Jones o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddio l.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2017
Gall ymdrechion gan gwmnïau mawr i ddiogelu bioamrywiaeth helpu neu niweidio pobl leol?
Pan fydd datblygiad diwydiannol mawr, fel mwyngloddiau, yn mynd i gael effaith anochel ar fioamrywiaeth, gall y cwmni fuddsoddi mewn diogelu (neu hyd yn oed creu) cynefin yn rhywle arall i wneud iawn. Gelwir hyn yn gwrthbwyso bioamrywiaeth ac mae'n syniad sy'n ennill cefnogaeth gynyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ionawr 2017
Achrediad safon aur i archifau’r Brifysgol
An accreditation accepted as the ‘gold standard’ in archive management has been awarded to Bangor University’s Archives and Special Collections . The University Archive was among 11 new applicants to achieve The National Archives Archive Accreditation , to become one of the 62 accredited archives in the UK.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017
Prifysgol Bangor yn dyfarnu tair ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth"
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ysgoloriaeth "Merched mewn Gwyddoniaeth" i dair myfyrwraig ragorol. Emily Louise Dunn, Emily O’Regan a Kathryn Howard. Roedd y tair yn israddedigion ym Mangor ac enillodd y tair radd anrhydedd dosbarth cyntaf ym mis Gorffennaf 2016. Mae'r ysgoloriaethau, sy'n cynnwys cost lawn y cwrs, yn galluogi'r myfyrwyr dawnus a brwdfrydig hyn i barhau â'u hastudiaethau ac maent yn awr wedi cofrestru ar gyrsiau ymchwil ôl-radd ym Mangor.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2017