Archif Newyddion
- Tachwedd 2021
- Awst 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Awst 2010
- Holl Archif Newyddion A–Y
Archif Newyddion: Mehefin 2013
Mwy o lwyddiant i'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
Enillodd y ffilm ‘Not’ y wobr am y ffilm Gymraeg orau ac enillodd 'Long I Stood There' y wobr am y ffilm naratif orau yng ngŵyl ffilmiau byr Caerdydd, ddydd Sul, 23 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2013
Darlithydd o Brifysgol Bangor i dderbyn Gwobr Addysgu y DU
Mae Dr Fay Short o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor wedi ennill teitl Cymrawd Dysgu Cenedlaethol. Hon yw’r wobr bwysicaf y gellir ei hennill am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2013
Cerddorion yn paratoi i losgi piano!
Bydd aelodau o Ysgol Cerdd Prifysgol Bangor yn ymuno gydag Annea Lockwood, artist sain o Seland Newydd / UDA mewn perfformiad o 'Piano Burning’ yn Hen Iard Nwyddau Treborth, Bangor. Cynhelir y digwyddiad ddydd Sadwrn 29 Mehefin am 6.15pm, a bydd yn rhan o lansiad tymor newydd Dinas Sain Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2013
‘Roboteg y Dyfodol’, Her Robot Lego Ysgolion
Bydd ysgolion ar draws Cymru yn cymryd rhan yn yr her "Roboteg y dyfodol" yn gydamserol. Mae Tîm Technocamps Prifysgol Bangor yn cynnal y rownd gogledd Cymru o'r gystadleuaeth newydd gyffrous hon.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2013
Merched gyda chanser yr arennau a'r bledren ddim yn cael diagnosis prydlon
Nid yw tua 700 o ferched yn Lloegr gyda symptomau canser yr arennau neu'r bledren yn cael diagnosis a thriniaeth brydlon bob blwyddyn. Dyna ddatgelir mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn ar-lein BMJ Open. Cyd-awdur y gwaith yw'r Athro Richard Neal o Ganolfan Gogledd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2013
Cystadleuaeth ‘Spelling Bee’ Llwybrau at Ieithoedd Cymru - Rownd Ranbarthol
Roedd cyffro yn rownd ranbarthol cystadleuaeth ‘Spelling Bee’ yn Venue Cymru, Llandudno yn ddiweddar. Trefnir y gystadleuaeth, lle gofynnir i gystadleuwyr sillafu geiriau mewn amrywiaeth o ieithoedd Ewropeaidd, gan Llwybrau at Ieithoedd Cymru a'r Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2013
Y sychder gwlypaf a welwyd - tywydd 2012
Dewch draw i Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun 24 Mehefin 2013 am 6.30pm i gael clywed am "Y sychder gwlypaf a welwyd - tywydd 2012". Mae hon yn ddarlith amserol dros ben o ystyried y cyfarfod diweddar o feteorolegwyr blaenllaw Prydain i drafod y patrymau tywydd anarferol yr ydym wedi profi’n ddiweddar . Bydd yr Athro Geraint Vaughan, un o arbenigwyr amlycaf y byd yn y maes yn rhoi darlith gyhoeddus- a gafodd ei ohurio yn ystod Gŵyl WyddoniaethPrifysgol Bangor oherwydd tywydd garw! Noddir yr achlysur gan y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol a Chonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru. Mae mynediad am ddim, yn cynnwys gwydraid o win, ac mae'n agored i holl aelodau'r cyhoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2013
Bangor a Pontio: Llwyddiant Byd-eang Bloomsday
Yn gynharach yr wythnos hon, fel rhan o ddigwyddiad rhyngwladol Global Bloomsday, cydweithiodd Pontio ag Ysgol Saesneg ac Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor i gynhyrchu perfformiad rhyfeddol o'r bennod 'Sirens' allan o'r nofel Ulysses gan yr awdur o Iwerddon, James Joyce.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2013
Ymweliad ag UDA i ymchwilio i Kubrick – un o gyfarwyddwyr ffilmiau gorau America ar ôl y Rhyfel
Mae Dr Nathan Abrams, Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Ffilm yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau Prifysgol Bangor, wedi ennill Cymrodoriaeth Sefydliad Dorot yng Nghanolfan Ymchwil Dyniaethau Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas, Austin – cymrodoriaeth bwysig ac enwog yn rhyngwladol, y mae cystadleuaeth ffyrnig amdani.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2013
Fe all llyfr newydd gyfranu at ddiogelu henebion Cymru
Mae Athro ym Mhrifysgol Bangor newydd gyhoeddi'r drydedd gyfrol a'r olaf mewn cyfres o lyfrau sy'n rhoi golwg gwerthfawr i ni ar henebion yr oesoedd canol cynnar yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2013
Deunyddiau o Archifdy Prifysgol Bangor yn ymddangos ar ITV1
Bydd deunyddiau o Archifau Prifysgol Bangor yn ymddangos ar gyfres newydd ar ITV1 yn ystod yr haf. Bydd cyfres ddogfen bum rhan newydd sbon yn datgelu 50 o straeon rhyfeddol sydd y tu ôl i gartrefi mwyaf dirgel, rhyfedd a diddorol gwledydd Prydain.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2013
Prifysgol Bangor yn cynnal Gweithdy Niwroddelweddu mewn Dementia
Wrth i bobl fyw'n hirach mae'r achosion o ddementia'n cynyddu ac mae hon yn broblem sylweddol iawn. Mae tua 12,000 o bobl yn dioddef o ddementia yng Ngogledd Cymru'n unig a bydd y nifer yn cynyddu gyda phoblogaeth sy'n heneiddio.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mehefin 2013
Gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn ymddangos ar raglen Countryfile
Wrth sôn am riffiau mae'n bosibl iawn y bydd eich meddwl yn crwydro i foroedd trofannol gleision a'r Barriff Mawr enwog yn Awstralia. Ond mae riffiau i'w cael mewn amrywiaeth o leoliadau - ac nid ydynt i gyd wedi'u gwneud o gwrel chwaith.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mehefin 2013
Menter drwy Ddylunio
Mewn project arbrofol a ddatblygwyd i Ganolfan Pontio, gwelwyd academyddion o wahanol adrannau ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda myfyrwyr, staff cefnogi menter a phartneriaid busnes lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2013
Gwobr Genedlaethol i Nesta
Yn ddiweddar bu i fyfyrwraig doethuriaeth o Brifysgol Bangor ennill gwobr genedlaethol yng Nghynhadledd Flynyddol Prif Swyddog Nyrsio Cymru yng Nghaerdydd. Bu i Nesta Roberts, 25 oed, o Gricieth, ennill ysgoloriaeth goffa nyrsio flynyddol Alun Islwyn Giles. Rhoddwyd y wobr tuag at ei hastudiaeth doethuriaeth, ac mae ar gyfer aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, i hyrwyddo datblygu celf a gwyddoniaeth mewn nyrsio.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2013
Mae pobl yn rhagweld gwên ddiffuant gan eraill, ond ddim gwên gwrtais
Gwenwch a bydd y byd yn gwenu gyda chi - ond mae ymchwil newydd yn awgrymu nad yw pob gwên yn gydradd. Dengys yr ymchwil fod pobl yn gallu rhagweld gwên ddiffuant ond nid felly gwên gwrtais. Mae’n bosibl fod hyn yn arwydd o werth unigryw cymdeithasol gwên ddiffuant.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2013
Bangor yn arwain Prifysgolion Cymru o ran bod yn ‘wyrdd’
Prifysgol Bangor yw’r Brifysgol fwyaf ‘gwyrdd’ yng Nghymru, yn ôl ’ People and Planet ’, sef y rhwydwaith myfyrwyr mwyaf ym Mhrydain sy’n ymgyrchu i ddod â thlodi byd-eang i ben, cefnogi hawliau dynol ac amddiffyn yr amgylchedd. Yng Nghynghrair 2013, a gyhoeddwyd ym mhapur newydd The Guardian , roedd Prifysgol Bangor ar y brig o blith prifysgolion Cymru, ac ymysg yr 20 prifysgol ar frig y Gynghrair Werdd o brifysgolion y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2013
Ymchwil newydd yn dangos fod y sector addysg uwch yn creu £3.6bn y flwyddyn yn economi Cymru
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw, dydd Mawrth 11 Mehefin, gan arbenigwyr addysg uwch blaenllaw wedi canfod fod gan brifysgolion Cymru effaith o bron i £2.6bn ar economi’r genedl, a bod y ffigwr hwn yn cyrraedd £3.6bn unwaith y cynhwysir gwariant oddi ar y campws gan fyfyrwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2013
Ffynonellau ynni a all gyfrannu at gynaliadwyedd ffermydd
Gallai rhannau o’r diwydiant amaeth Prydeinig gynhyrchu eu hynni eu hunain, o adnodd sydd yn llythrennol dan eu trwynau, a gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r gymdeithas ehangach yn y fargen. Dyna yw canlyniad ymchwil doethuriaeth gan John Walsh, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, ar y cyd â Fre-energy Ltd, cwmni sydd a’i bencadlys ger Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2013
Ysgol Haf i Fyfyrwyr ar Ddechrau Busnes
Gyda busnesau bychain a chanolig yn chwarae rhan mor sylfaenol yn economi Cymru, mae Prifysgol Bangor yn rhoi pwyslais ar annog myfyrwyr i ystyried entrepreneuriaeth fel llwybr cyflogaeth posib yn y dyfodol ac mae’n cefnogi hynny. Yn aml mae gan fyfyrwyr a graddedigion y syniadau busnes a’r egni i gyfrannu at y sector economaidd bwysig hon, sydd yn cwmpasu diwydiant a gwasanaethau.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2013
Dyfarnu Medalau Cwmni’r Brethynwyr i ddwy fyfyrwraig eithriadol
Mae dwy fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn Medalau’r Brethynwyr yn ddiweddar. Dyfarnwyd y medalau gan Gwmni’r Brethynwyr, un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol dinas Llundain, sydd bellach yn gweithredu fel mudiad dyngarol. Dyrniad o fedalau sy’n cael eu rhoi bob blwyddyn. Mae’r medalau’n cael eu dyfarnu i fyfyrwyr eithriadol, yn seiliedig ar gyrhaeddiad academaidd ac ymwneud â’r gymuned academaidd o fewn y brifysgol ac yn rhyngwladol, yn ogystal â chyfraniad diwylliannol a chymdeithasol trwy ysgolheictod, effaith ymchwil, cefnogaeth fugeiliol a mentora.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2013
Defnyddio cyfoeth natur i leihau tlodi
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn arwain project £2 filiwn i weld a all cynlluniau rhyngwladol, sy'n talu i bobl mewn gwledydd incwm isel warchod cynefinoedd o bwysigrwydd byd-eang, leihau tlodi.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2013
Siarter Bwyd Lleol i Wynedd a Môn
Mae Prifysgol Bangor yn cydweithredu â dau awdurdod lleol drwy gynnal gweithdy lefel uwch i Fwrdd Rheoli Gwasanaethau Lleol Gwynedd a Môn a chynrychiolwyr y sector bwyd lleol, gan gynnwys busnesau bwyd lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2013
Cymrodoriaeth er Anrhydedd i gyn-aelod nodedig yr adran
Yr Athro Mark Williams FBA - am wasanaeth i seicoleg glinigol . Athro Seicoleg Glinigol yn Rhydychen ers 2004. Yn flaenorol yn Athro Seicoleg Glinigol ym Mangor (1991-97) ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor (1997-2001). Mae wedi arloesi mewn ymchwil i therapi gwybyddol ar sail ymwybyddiaeth ofalgar ac wedi ysgrifennu'n eang ar drin iselder ac ymddygiad hunanladdol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2013
Enillydd medal Aur Olympaidd ac actor Monty Python ymysg y bobl sy'n derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi enwau'r unigolion nodedig a fydd yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2013